Murmuron Awen/Er cof am Robert Evan
Gwedd
| ← Er Cof am Edw Jones, Garneddlwyd, Bala | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Ymson awen uwch bedd Havesp → |
Er Cof am Robert Evan,
anwyl blentyn Mr. a Mrs.Joseph Jones, Bryntegid, Bala.
YN ei wyn febyd yn faban,—tiriodd
Cyn teiroed yn Nghanaan;
Tyfu gaiff Robert Evan,
Yn nefol lys Gwynfa lân.
I wlad dyner heb wel'd henoed—hedodd
Yn mlodau baban—oed:
I nef saint mewn nwyfus oed,
Yn angel mewn ieuengoed.
O hyn allan mae'n holliach,—ymunodd
A chwmni amgenach;
Uwch cur yn awyr burach,
Bywyd a hedd mewn byd iach.