Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Gwaith Wisci Frongoch

Oddi ar Wicidestun
Etifedd Wynnstay Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Anerchiad i ddiwygiad dirwestol fu yn Nghwmtirmynach

Gwaith Wisci Frongoch

AF i'r Frongoch, froch ei fri,-am wirod,
Dyma Royal Wisci;
Llys d——l, i arllwys dyli
O anghlod ar fy ngwlad i.

Hen feddwon Sir Feirionydd,
Ymgesglwch at eich gilydd,
I Frongoch;
Pwy fyddai yn sychedig
Pan ellir am ychydig
Gael wisci bendigedig,
Yn Frongoch?
Mae meddwon yn barchedig,
Yn Frongoch.


Pa ddrwg sydd yn y gwirod
Ac yfed tipyn gormod,
Yn Frongoch?
Rhown bellach daw ar Sandy,
Ag uchel dwrw Paddy,
Byth mwyach fe fydd Taffy
Yn Frongoch,
Yn d'wysog byd y wisci,
Yn Frongoch.

Paham nad all y Cymro
Gael meddwi pan y myno,
Yn Frongoch?
Bod heb anghenion buddiol
Oedd bechod anfaddeuol-
Caed hyn cedd angenrheidiol
Yn Frongoch;
Fe lifa bendith oesol
O Frongoch.

Dim llaeth na glasdwr mwyach,
Fe gafwyd diod iachach
Yn Frongoch;
Pob meddyg yn y Bala
All fyn'd i Patagonia,
Cawn wisci cryf i'n gwella
Yn Frongoch;
Rhoed angau yn y ddalfa
Yn Frongoch.


Ac fe ddaw'r diafol bellach
Am dro i Gymru'n amlach,
I Frongoch;
A thyrfa o ellyllon
Yn dilyn wrth ei gynffon,
I fyny efo'r afon
I Frongoch;
Derbyniant eu gwobrwyon
Yn Frongoch.

Daw hen ysbrydion hynod
Yn lluoedd i'w cyfarfod,
I Frongoch;
Ysbrydion gwasanaethgar
Hen gadfridogion beiddgar,
Bob un yn galw ei gymhar
I Frongoch;
I gadw gwyl ddiolchgar
Yn Frongoch.

Ddaw mwyach 'run pysgodyn
I fyny y Tryweryn,
I Frongoch;
Brithylliaid a ymfudant,
Llysywod a'u dilynant,
A'r holl eogiaid nofiant
O Frongoch,
I fyny at Aberhirnant,
O Frongoch.


Wel, bellach rhaid i minau
Yn sydyn droi fy sodlau
Ar Frongoch;
Rhag ofn daw "Nic" o'i loches,
I'm taflu am ddweyd ei hanes
I le sydd yn fwy cynes
Na Frongoch;
Efe yw Boss y busnes
Yn Frongoch.


Nodiadau

[golygu]