Murmuron Awen/Gwnawn ein dyledswydd
| ← Dalen o Adgofion Mebyd | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Mor Marw → |
Gwnawn ein dyledswydd bydd pob peth yn iawn.
Alaw, "Breuddwyd y Bardd.[1]
EISTEDDAIS i lawr mewn unigedd,
Myfyriais ar helynt fy oes,
Meddyliais fod bywyd yn wagedd—
Cynlluniau rhagluniaeth yn groes:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.
Gelyniaeth, a chariad, a chynen,
A ddaw yn feunyddiol i'n rhan,
Cymylau, ystormydd, a heulwen,
Mae blodau a drain yn mhob man:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd bydd pobpeth yn iawn.
Mae pawb yn y byd ar eu gyrfa,
Beth bynag a ddigwydd eu cwrdd,
Yn chwareu eu rhan yn y ddrama—
Ac wed'yn yn cilio i ffwrdd :
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.
Di-ystyr yw tlodi a chyfoeth,
Anrhydedd, a dirmyg, a hedd,
Tywyna yr haul foreu dranoeth
Ar ol i ni ddisgyn i'r bedd:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Dywed Ceiriog na wyddai ef am neb ond ei gyfaill Idris Fychan yn medru yr hen Alaw odidog hon; pa nifer sydd yn ei medru heddyw, tybed?