Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Hiraeth am Feirionydd

Oddi ar Wicidestun
Cymru Anwyl Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Cenwch im' yr hen Ganiadau

Hiraeth am Feirionydd.
Alaw"—Difyrwch Gwyr Harlech."

HIRAETH sydd yn tori'm calon,
Hiraeth am hen fryniau Meirion,
Hiraeth am ei glynoedd tlysion
A'i haberoedd glân;
Meirion anwyl, iach, fynyddig,
Fy hen gartref bendigedig,
A hen gartref cysegredig,
Awen bur a chân;
Nid oes wlad trwy'r gwledydd
Mor anwyl a Meirionydd,
Mwyn yw byw yn nghwmni beirdd
Rhwng bryniau heirdd a bronydd,
O dan nodded creig daneddog,
Rhodio meusydd dolydd deiliog,
Yn hudolus swn dihalog,
Cerddi'r adar mân.

Gwell nac aur, a gwell nac arian,
A holl gyfoeth byd yn gyfan,
Ydyw gwenau mwyndeg anian,
Yn fy anwyl wlad;
Rhodio llwybrau 'r gelltydd gwylltion,
A rhoi mawl ar eu hymylon,
Canu hwyliog hen alawon
Melus Cymru fâd;
Hudol wlad fy nhadau,
Mwyn yw hon i minau,
Wylo 'r wyf am awel rydd
Ei bronydd teg a'i bryniau:
Chwardda'r blodau ar ei meusydd,
Blodau'r grug ar fron y mynydd,
Fel rhianod glân Meirionydd,
Wenant yn ddi-frad.


Nodiadau

[golygu]