Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Hyfryd Haf

Oddi ar Wicidestun
Y Fronfraith Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Hywel ac Olwen

Hyfryd haf.

FE ddaeth yr hafddydd llon,
Mae'r awel yn adfywiol,
Blagura rhos, mae anian dlôs
Mewn gwisgoedd priodasol:
Mae prudd-der wedi ffoi,
Llawenydd yn teyrnasu,
Mae'r goedwig werdd yn fwy o gerdd,
A'r blodeu glan yn gwenu.

Yr henwr sydd yn llon,
A theimla'n ieuanc eto;
Dan wenau haf, fe deimla'r claf
Ei galon yn adfywio.
Mae'r plant yn chwareu'n llon
Wrth gasglu blodau gwylltion;
A'r feinir lan yn canu cân
Wrth odro'r gwartheg blithion.

Y bechgyn ieuainc sydd
Yn taflu eu gwasgodau,
Yn foreu iawn eu gweled gawn
Yn hogi eu pladuriau;
Ac yna'n myn'd yn rhes—
Yr hwsmon yn blaenori—
Os poeth yr hin, rhaid chwysu'n flin
Os na bydd min i dori.


I droi a thrin y gwair,
Fe ddaw 'r inorwynion siriol,
Yn lanwedd braf, mewn hetiau haf,
Ac am y fwyaf doniol;
A'r plant ar hyd y ddol
Yn rhedeg ac ymdreiglo,
Gloynod byw, bob llun a lliw,
O gylch eu penau'n gwibio.

Ac os daw gwlaw i roi
Atalfa ar y gweithio,
Gall pawb fwynhau rhyw ddydd neu ddau
O hamdden i orphwyso.
Ar ol y gawod wlaw,
Adfywia gwrid y blodau;
A natur chwardd, fel gwyryf hardd,
Wrth edrych ar ei thlysau.

Daw'r haul ar ol y gwlaw
I loewi gwrid y blodau;
Daw heulwen gu, 'rol tywydd du,
I loewi'n bywyd ninau.
Pe byddai'n haul o hyd,
Fe wywai'r blodau tlysion;
A phe ca'i dyn ei ffordd ei hun,
Fe wywai ei brydferthion.

Nodiadau

[golygu]