Murmuron Awen/Hywel ac Olwen
| ← Hyfryd Haf | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Rhosynau Mai → |
Hywel ac Olwen.
ROEDD hen elyniaeth oesau'n ol
Rhwng teulu'r Bryn a'r Hafod,
A'r ddau hen deulu ddaliai'n ffol
I chwythu tan anghydfod:
Ac aer y Bryn, sef Hwyel Wyn,
Ac Olwen, merch yr Hafod,
Dyfasant yn elynion tyn
Fel mater o gydwybod.
Bugeiliai Hywel braidd ei dad
Ar lethrau mynydd Berwyn;
Mewn llon fwynhad, äi Olwen fad
I gasglu blodau gwanwyn:
Rhag iddi gwrdd a Hywel Wyn
Ymguddiai'r eneth lawen,
A dringodd Hywel lawer bryn
Rhag iddo gwrdd ag Olwen.
Oud rywsut, drwy ddamweiniol drefn,
Cyfarfu 'r ddau yn sydyn,
Edrychodd Hywel wysg ei gefn,
Edrychodd Olwen wed'yn;
A sefyll wnaeth y bachgen iach
Fel un yn methu symud,
Ac wedi cychwyn tipyn bach
Fe safodd Olwen hefyd.
Nos dranoeth ddaeth, a Hywel aeth
Am dro i'r llanerch dawel,
Ac yn ddamweiniol (?) Olwen ddaeth
I edrych welai Hywel;
Fe wridodd Olwen fel y rhos,
A gwridodd Hywel wed'yn,
Wrth edrych ar yr eneth dlos
A'i gruddiau fel y rhosyn.
'Roedd Hywel. Wyn yn ngwydd y ferch
A'i ddawn yn bur aniben,
Ond medrodd cariad siarad serch
Trwy gyfrwng llygaid Olwen;
Hi welodd dân edmygedd gwir
Yn gloewi gwrid y bachgen,
A gwelodd Hywel gariad pur
Yn gloewi llygaid Olwen.
Bugeiliai Hywel braidd ei dad
Ar lethrau mynydd Berwyn,
Mewn llon fwynhad äi Olwen fad
I gasglu blodau gwanwyn;
Mewn dirgel fan yn nghwr y rhos
'Roedd eu paradwys newydd,
Ac Olwen dlos ar fin y nos
Ddiangai yno beunydd.
Wrth weini ar y mab a'r ferch
Gelyniaeth a fu farw,
Yn aberth ar hen allor serch
Y llosgwyd ef yn lludw;
A rhoed ei lwch oddiar y tan
Yn meddrod annghof bythol,
Y dydd y gwisgodd Olwen lan
Y fodrwy briodasol.