Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Lizzie Ellen

Oddi ar Wicidestun
Ellen Gwen Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Er Cof am David

Lizzie Ellen.
merch fach Robert ac Elizabeth Jones, Tynant, Celyn.

I WYN haf, hoen nefol,—Iesu alwodd,
Lizzie Ellen siriol;
I fyw'n iach, heb fai na'i ol,
Ar ei gwedd yn dragwyddol.

Aeth Lizzie Ellen cyn naw oed,
O fyd o boen,
I fythol hoen;
Un dyner oedd, garuaidd hardd,
A dedwydd megis breuddwyd bardd;
'Roedd pawb yn hoffi cwmni hon,
A'i chwmni a wnai bawb yn llon;
Dan ganu o hyd,
Hi aeth trwy'r byd,
Hi ganodd fel rhyw eos fwyn,
Hyd nes daeth angau i dori'r swyn.

'Roedd yn ei llais gyfriniol swyn,
Tynerwch llon,
Dihalog fron,
A throai'n llon alawon lleddf—
Ni chlywodd swn taranau deddf,
Yn deffro nodau dyfnion cur,
Erioed o fewn ei mynwes bur;
Bu fyw mewn hedd,
Ac aeth i'r bedd,
Fel tyner, wylaidd, lili wen,
A choron harddwch ar ei phen.


Aeth plant yr ysgol, dyrfa hardd,
Ond prudd eu gwedd,
I gychwyn Lizzie fach i'r bedd;
A threiglodd gloewon ddagrau prudd
Dros ruddiau gloewon fel y dydd,
Wrth gychwyn yr enethig gain,
I dawel fedd ei thaid a'i nhain;
Ei hargel fan,
Yn llwch y Llan,
Enyna gofion serch yn fflam
Yn nghalon gynes tad a mam.

Hi ganodd lawer yn y byd,
O fawl i Dduw,
Yn odlau byw,
Canu i "roddwr pob daioni,"
Brenin nef, a thad goleuni,"
Aeth yn ddiofn,
Trwy'r afon ddofn,
Ac ar y lan yr ochr draw
Rhoed telyn bywyd yn ei llaw;
'Roedd swn cyfriniol gwynfyd iach
Yn llais melodaidd Lizzie fach:
Pan yma'n canu gyda'r plant,
Tarawai nodau telyn sant,
Dan ganu o hyd,
Hi aeth trwy'r byd,
Ond mwyach, cana uwchlaw poen,
Gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen.

Nodiadau

[golygu]