Murmuron Awen/Llyn Tegid
| ← Roger Hughes, Ysw, YH, Bala | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Cybydd → |
Llyn Tegid.
I LYN Tegid, drych Ceridwen,
Yn nghol hardd fy Ngwalia hen,
Gyda chribog fryniog fro,
Yn ymdonawg am dano;
Llyn hynod medd traddodiad,
A'i ddwr yn glo ar ddarn gwlad,—
A chladdfa un Bala'n bod
Yn rhywle ar ei waelod.
Hen gerwyn fawr ar glawr glyn,
A ddeil bur ddyli Berwyn;
Llen o ddwr, gloew—ddwr glan,
Yn llain hir fel llen arian;
Lluniau ser yn y Llyn sydd,
A bryniau fel wybrenydd;
O ogoniant digynwr!
Rhyw wlad deg ar waelod dwr.
Ha! Lyn cu, ar dy lan caf
Hen Lanycil enwocaf—
Machpelah'r Bala, a bedd
Enwogion mewn unigedd;
A dy donau byw glywir
Yn suo cân eu cwsg hir.
Ein glân enwog Lyn anwyl!
Dyma le i deimlo hwyl:
Cariad amlwg cry' deimlaf,
A gwenau pur gwyneb haf;
Mor hardd ydyw, a ddaw rhywun
A'i bwyntel hoff i baentio'i lun?
Tremiaf i wyll henafol
Hanesion hen oesau'n ol,-
I'w hwyluso, "Taliesin
Yn rhodio fu ger dy fin,
Bu derwyddon gwychion gynt,
Yma'n hwylio mewn helynt,
I gadw tân llosgedig
Aberthau eu duwiau dig;
Ond i ni wedi newid
Y mae y lle, 'does dim llid,
Gwaeau, duwiau'n ymdywallt,
Yn ein gwydd ar fron na gallt.
Y mae yr oes yn mawrhau
Y Duw luniodd dy lanau.
Llawer bardd, ar dyner dant,
A ganodd dy ogoniant,
Daw eto feirdd, mawr-feirdd, mwy
Nerthol i roi cynorthwy
Unol, er anfarwoli
Prydferthwch dy degwch di;
I'r hudol wyllt ardal lân,
Y cenir hyd dranc anian.