Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/May

Oddi ar Wicidestun
Er Cof am Elin Davies Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Ellen Gwen

May,
Geneth fechan Mr. a Mrs. Evans, 'Seren' Office, Bala.

YN gynar iawn gadawodd May
Deganau plentyn bach,
A thelyn aur ga'dd yn eu lle,
Mewn bythol fywyd iach:
Cyn teimlo min gofidiau cudd,
Ca'dd fyn'd yn more'i hoes,
A blodau gwanwyn ar ei grudd
I ganu am waed y groes.

Gofalodd "Iesu tyner" am
Y fechau yn y lli,
Ac aeth a chalon tad a mam
I'r Nefoedd gyda hi;
Ni chuddiodd bedd mo dlysach hon,
Ac ni cha'dd Cor y Nef
Yr un gantores fach fwy llon
I chwyddo'r anthem gref.

Rhyw brudd fwynhad i'w mham a'i thad
Fydd myned gyda'r plant,
I weled bedd eu geneth fad
I fynwent "Elltyd Sant;"
Cant dywallt dagrau serch yn syn
I ysgafnhau eu cur,
A rhoddi blodau hafddydd gwyn
Ar fedd prydferthwch pur.


Cyn i ofidiau marwol fyd
Lychwino 'i grudd erioed,
Gadawodd ei flinderau 'i gyd,
Cyn cyrhaedd pum' mlwydd oed;
Gorweddodd, hunodd yn ddifraw
Yn mreichiau angau trist,
Deffrodd, a thelyn yn ei llaw,
Yn mreichiau Iesu Grist.


Nodiadau

[golygu]