Murmuron Awen/Ond yr oedd ganddo arian
| ← Breuddwyd Mammon ap Gwyddon | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Yfed Iechyd Da → |
Ond yr oedd ganddo arian.
"Yn mhob cell, gwell yw y gwir,
Na gweniaeth ffol ac anwir."
YDYDD o'r blaen 'roedd yn ein tref
Ryw ddarn o wr bonheddig,
Yn siarad mewn cyfarfod mawr
O weithwyr goleuedig;
Gwerthfawredd addysg oedd ei bwnc,
Ond gwelodd pawb yn fuan
Na fedrai Saesneg na Chymraeg,—
Ond—yr oedd ganddo arian.
Mewn cwrdd dirwestol clywais ddyn
Yn diystyru'r meddwyn,
Ond 'roedd y dyn bob dydd ei hun,
Yn arfer cym'ryd gwydryn;
A gwyddai pawb nad oedd ei druth
Ond twyll a rhagrith aflan.
Ac mai rhagrithiwr oedd y dyn,—
Ond—yr oedd ganddo arian.
Dewiswyd Mr. Jones i fod
Yn flaenor yn yr eglwys,
Ond gwyddai pawb mai nid efe
Oedd yr un mwyaf cymwys;
'Roedd ei gymeriad fel a'r fel,
Ac 'r oedd mor ddwl a phentan,
'Roedd pawb yn gwybod hyny'n iawn,—
Ond yr oedd ganddo arian.
Fe urddwyd coeg foneddwr balch
Yn Ofydd mewn Eisteddfod,
Gofynwyd beth 'roes iddo'r hawl?
Ond nid oedd neb yn gwybod;
A dweyd y gwir yn glir a phlaen.
Ni wyddai'r dyn ei hunan,
A chwarddai 'n braf am ben y lol,—
Ond—yr oedd ganddo arian.
Yn Llywydd yr Eisteddfod aed
Am Sais i foddio'r Saeson,
A chym'rodd ddwyawr iddo ei hun
I ddiolch am y sebon;
Ni wyddai ddim am lên ein gwlad,
Ddim mwy nag wyddai baban,
Ei hoffaf waith oedd gwawdio 'n hiaith,—
Ond—yr oedd ganddo arian.
Gwr pur lwyddianus yn y byd
Yw Mr. Brass, y bragwr,
Bob wythnos ein gweinidog â
I edrych dros ei gyflwr!
Ond gwyr yn dda fod Brass yn un
O hen ffyddloniaid Satan,
Mae nod y bwystfil arno'n blaen,—
Ond y mae ganddo arian.
Priododd Catrin, Tanyfron,
Ryw hen greadur atgas,
Ac yn ei fraich hi chwarddai'n llon
Ar ddiwrnod y briodas;
Mae'n ddigon hen i fod yn dad
I fam yr eneth chwiban,
Ac'fe fu gynt yn caru ei nhain,—
Ond y mae ganddo arian.