Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Seindorf Arian Llan Ffestiniog yn y Bala

Oddi ar Wicidestun
Blodeuglwm ar fedd Dewi Havhesp Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Y Llenleidr

Seindorf Arian Llan Ffestiniog yn y Bala.

I DREF y Bala fwyna fan,
Daeth Band y Llan i'n lloni,
O'u hofferynau 'n donau daeth
Cerddoriaeth bur yn ddyli';
Yr oedd eu nodau eneiniedig
Yn llawn nwyf ysol—môr o fiwsig,
Nodau auraidd gwir beroriaeth,
A swyn addas awenyddiaeth,
I'n lloni oll, a'n llawenhau
A diliau ysbrydoliaeth.

Sirioli'r llesg wna Band y Llan,
A llifa trydan hyfryd,
Ffrwd o gerddoriaeth trwy eu gwaed
Nes gyru 'r traed i symud;
Eu poen a'u gofid a anghofiant,
Yn swn eu nodau'n hoew neidiant;
Er eu mynych frwydrau miniog,
Pwy arafa'r Band llawryfog?
Mae ffawd o'i lloches gynes gu
Yn t'wnu ar Ffestiniog.

Seiniau hudol synadwy—a ddyry'r
Cerddorion profadwy;
A melodedd teimladwy,
A'i swynion têr seiniant hwy.


Nodiadau

[golygu]