Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Siencyn yr hen lanc

Oddi ar Wicidestun
Ein Henwad ni Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Y Bardd-Sebonwr

Siencyn yr hen lanc.

Hen lanc ydyw Siencyn, digyffro, diserch,
Rhy gyfrwys i'w dwyllo gan ystryw 'run ferch,
A chreda'n ei galon, mai gwell i bob dyn
Yw byw yn hen lanc na byw hefo mun;
Mai gwell ar ei les
Yw cadw ei bres,
A byw yn ddilun gyda chalon ddiwres;
Bu llawer merch ifanc, a llawer merch hen,
A llawer merch arall yn ceisio ei ddeall,
Gan geisio ei ddenu drwy ystryw a gwen";
Ond ni roddai Siencyn
Ei ben yn y cortyn,

Ac oddiwrth y merched y cilia mewn dychryn,
A dywed a'i galon gan oered a'r graig,
Mai bendith anhwylus a chostus yw gwraig.

Mae'r genethod medd Siencyn, yn dd'reidus ddi-rol,
Y gweddwon rhy gyfrwys, hen ferched rhy ffol
Ac fe fydd bob amser wrth wrando eu scwrs.
A'i lygaid yn gauad, a'i law ar ei bwrs,
Gan edrych yn gall,
Yn sobr a diwall,
A'i lygaid a'i galon i'w swynion yn ddall;
Wrth weled priodas bydd Siencyn yn dweyd,
"Peth hawdd ydyw addaw,peth arall yw gwneyd."

Bu agos i Siencyn unwaith gael ei wneyd,
Yn rhybudd i eraill ca'r hanes ei ddweyd:
Edrychodd i lygaid Gwendolen y Ddol,
Symudodd ei galon, siaradodd yn ffol,
Ryw dro wedi hyny addefodd y gwir,
Ei fod wedi edrych i'w llygaid rhy hir;
Fe deimlodd ei swynion
Yn gwanu ei ddwyfron,
A dwylaw cyfriniol dieithriol ysbrydion,
Yn newid ei natur, yn newid ei galon:
Bu Siencyn am fis o dan effaith cyfaredd,
A'i wyneb a'i wisg wedi newid yn rhyfedd;
Ond fel llawer un,
Fe ddaeth ato'i hun,
Agorodd ei lygaid, agorodd ei ddeall,
Pan wybu fod Gweno yn caru un arall.


Byth wed'yn mae dal fod y merched i gyd,
Yn rhai wedi eu geni i boeni y byd;
A thaera yn gadarn y byddai ei grogi
Yn llai cospedigaeth ar ddyn na phriodi;
Am fod llawer gwraig,
Yn debyg i ddraig,
A'i thymer mor ffyrnig a thonau yr aig;
Waeth tewi na siarad ar fater fel hyn,
Fydd pawb ddim yn unfarn a Siencyn o'r Glyn,
Pob dyn drosto'i hun,
Ond gwell i bob un
Sydd wedi priodi, yw peidio dweyd gormod,-
Mwy diogel i minau yw atal fy nhafod.
Ond dyma gân Siencyn a wnaeth wedi sobri,
A gweled Gwendolen yn myn'd i'w phriodi.

"'Rwy'n cofio fod Sali merch Begws y Graig,
Yn llances fwyn dirion cyn myned yn wraig,
Ond wedi priodi newidiodd ei helfen,
A chafodd ei phriod ei wneyd yn y fargen,
Newidiodd ei hanes, newidiodd ei phroffes,
Hi drodd yn hen gnawes
Aflawen anghynes,
A thafod fel melin, a gwinedd fel llewes;
Gan hyny, mi dreuliaf fy nyddiau i ben,
Yn hen lanc di sen,
Heb Sali na Gwen,
I wario fy arian a moedro fy mhen,
Tawelwch i mi, a heddwch, Amen."


Nodiadau

[golygu]