Murmuron Awen/Y Bardd-Sebonwr
| ← Siencyn yr hen lanc | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Byd ar Werth → |
Y Bardd-sebonwr.
MAE'R bardd wedi 'i eni i ganu a seboni,
Ac er cael ei boeni mae'n ufudd fel oen,
Yn gwneyd marwnadau, yn anerch priodasau,
A chuddio pechodau heb ddim am ei boen;
Mae'n edrych yn wirion, yn brudd a digalon,
A'i ddillad yn llymion-a gwag yw ei god,
Yn wobr am ei lafur, yn dal am ei bapur,
A stamps ar ei lythyr, caiff dipyn o glod.
Er mwyn cael cyhoeddi ei waith yn seboni,
Rhaid myned i weddi ger bron gwyr y wasg,
A gŵyr y cyfarwydd, fod 'stwytho cyndynrwydd
Cydwybod golygydd yn dipyn o dasg;
Ond wedi'r holl gwyno, bendithio a wylo,
Mae pawb yn ei basio fel pe baent yn ddall,
A hwy wnant yn burion, mi dd'wedaf o galon,
Mai'r bardd sydd yn wirion, a'r bobl yn gall.
Wrth fyw i rigymu a cholli ei gysgu,
Mae'r gwirion yn methu cael digon o bres
I brynu tybaco i'w gadw yn effro,
Canwylle i oleuo, a thân i gael gwres;
I loni ei galon, yn dâl am ei sebon,
Caiff wag addewidion teneuon a thlawd,
A dyna y cwbwl a gaiff am ei drwbwl,
Nid oes neb yn meddwl am dalu'r hen frawd.
Mae llunio yn addas, anerchiad priodas,
I fardd yn gymwynas pur hawdd medda nhw,
Ond dyna yr aflwydd, mae'n rhaid i'r rhigymydd
Ddweyd tipyn o gelwydd mi gym'raf fy llw;
Er hated yw sebon, mae'r oriau yn brinion,
I rwbio y trochion hyd ddynion yn ddel,
Mae'r prydydd dirwgnach yn myned yn gallach,
A'i galon yn gletach na sebon—ffarwel.