Murmuron Awen/Y Byd ar Werth
| ← Y Bardd-Sebonwr | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
D—l y Wasg → |
Y Byd ar Werth,
Efelychiad o "The World for sale," by the Rev. Ralph Hoyton.
BYD ar werth! dyrchefwch yr hysbyslen―
A galwch bob trafaeliwr i'r arwerthiant;
Y byd i gyd ar werth—wel dynia fargen!
Pwy ddaw yn mlaen i brynu—gwag ogoniant;
Mae'n myn'd! caiff fyn'd yn rhad,
Mae f'enaid am ei daflu
I ffwrdd am unrhyw bris
I rywun all ei garu.
Mae'n ogoneddus iawn i edrych arno,—
Edrychwch drosto—byddwch yn ofalus,
Rhag i chwi gamgymeryd wrth ei brisio,
Ces i fy siomi ynddo yn druenus;
Mae'n myn'd! pwy ddaw ymlaen
I brynu bydol fwyniant,
A swyn pleserau gau
A drydd yn—ddagrau siomiant!
Caiff cyfoeth fyn'd yn gyntaf—gem ysblenydd,
Mor brydferth ydyw'r pentwr aur melynion
A anrhydeddodd lawer coeg ymhonydd,
A ddamniodd hefyd lawer enaid gwirion;
A dyma diroedd braf
A llwyni o'u cylch yn gysgod,
I gyd yn myn'd yn rhad—
Pwy ddaw—i brynu beddrod?
A dyma gariad, gyda'i swyn cyfriniol,
A wêa llon brydferthwch am y galon;
Yspeilydd dystaw, llednais, lledrith hudol,
A phawb o dan ei swyn yn myn'd yn wirion;
Mae cariad heddyw'n myn'd,—
Pwy bryna'r g'lomen dyner?
Rhyw awr o hudol swyn,
Ac wed'yn oes—o bryder.
A chyfeillgarwch—dyma berl dymunol!
Ond pwy a'i cafodd mewn cyfyngder chwerw?
Twyllodrus, oer, sigledig, cyfnewidiol,
Yw'r hyn a geir yn fynych yn ei enw;
Mae'n myn'd! mae'n isel iawn—
Pwy bryna ffon mor hylaw?
Mi bwysais arni gynt,
Ond—torodd yn fy nwylaw!
Enwogrwydd ydyw'r nesaf, syllwch arno!
Mor loew yw—mor werthfawr yw ysblander
Yr enwau yma welir yn disgleirio,
Ar len ffurfafen oer daearol falchder:
Cewch drwy enwogrwydd glod,
Pan fyddwch yn eich beddau,
Gofala beirniaid craff
Am adgyfodi'ch—beiau.
A gobaith siriol, lona lawer mynwes,
"Rwyf wedi blino ar ei haddewidion;
Arweiniodd fi i goledd ffug a rhodres,
O dan ddylanwad hudol gwag freuddwydion;
Mae'n myn'd! fy olaf ffrynd—
Fy mywyd sydd yn fethiant,—
Neu cawsai'r trysor hwn
Ei gadw yn fy meddiant.
A chan—fu'n lloni f'enaid am flynyddau—
Pwy hoffai gael hen delyn fud anhwylus?
Caiff fyn'd yn rhad—'rwy'n methu trin ei thanau,
I ganu'r nodau ganai gynt mor felus:
Ffarwel! hudolus gerdd,
Mae gofid yn fy llethu;
Ffarwel! hen delyn fwyn,
'Rwyf wedi blino'n canu.
Uchelgais, ffasiwn, balchder a phleserau,
Sydd yma heddyw i gyd i gael eu gwerthu;
Rhyferthwy siomiant fel gor—lifus donau,
A wnaeth i'm calon falch ystyfnig blygu;
Helbulus galon brudd!
Fu gynt yn gartref pleser,
Sydd heddyw'n gartref oer,
Gofidiau, siom, a phryder.
Ni cheisiaf mwy anrhydedd byd na'i bleser,
Gobeithion gloewon sydd yn cilio'n mhellach—
Mae'n rhaid i'm henaid ofnus mewn cyfyngder,
Rhag suddo byth, gael angor diogelach;
Cusanu'r wialen wnaf,—
Mae genyf gyfoeth helaeth,
Fy Meibl, a fy Nuw—
Tragwyddol etifeddiaeth!