Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Y Diogyn

Oddi ar Wicidestun
Afon y Tryweryn Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Y Sebonwr

Y Diogyn.

DIOG, orweddiog wr rodda,—feroes
I farwaidd segura,
Trwy angen hyd nes trenga,
Ac os ca nef cysgu wna.

Is haulwen 'does dim salach,―ni rodiodd
'Run creadur hyllach,
Mwy di ras,—beth sy'n gasach,
Na llafn di-waith llyfndew iach?


Nodiadau

[golygu]