Murmuron Awen/Y Ffair Gyflogi'r amser gynt
| ← Hen Ddiareb | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Neges gwahanol bobl yn nhy addoliad → |
Ffair Gyflogi'r amser gynt.
ROEDD cymeriadau Cymru Fu
Yn mhell o fod yn ddiwall,
Ond 'roedd pob un fel ef ei hun,
A neb fel rhywun arall;
'Roedd ffair gyflogi'r amser gynt
I'r bechgyn a'r genethod,
Yn ddydd nodedig yn eu hoes—
Yn fath o Wyl y Cymod:
Ychydig o wynebau prudd
A welid yn y bore',
Ond byddai llawer gwyneb hyll
I'w weled yn myn'd adre.
Fe fyddai'r Sho a'r Carifan,
A chymeriadau hynod,
Yn cyd-gyfarfod o bob man
I anrhydeddu'r diwrnod;
A gweision ffermwyr o bob llûn
Yn gwisgo eu harwyddnod,
Fel gallai'r ffarmwr wybod p'run
O'r bechgyn oedd ar osod;
A'r hwn yn gyntaf gaffai le
A gerddai'n ôl a blaen drwy'r dre',
Gydag arwyddnod fod efe
A'i fater wedi'i setlo,
A theimlai 'i hun yn fwy o ddyn
Yn awr na 'run oedd yno.
Fe ddeuai merched glân ein gwlad
I'r ffair mewn dillad gweddus,
Fe wyddai'r mamau sut i fod
Yn hynod o drwsiadus;
Eu neges gyntaf am y dydd
Oedd cael lle newydd diwall,
Ac wed 'yn, rhoddi y prydnawn
Yn llawn at neges arall—
I chwilio am gariad newydd spon:
A theimlai llawer un yn llon
Ar ol cael cariad hon a hon
Yn eiddo iddi ei hunan,
A cherddai 'n ol a blaen ar hyd
Y stryd i'w ddangos allan.
Adwaenid gweision ffermwyr fel
Llafurwyr, wrth eu dillad—
'Doedd dim o'r imitation swell
Pryd hwnw yn y farchnad;
Esgidiau gwaith a chlôs pen glin,
A chôt o frethyn herpan,
A gwasgod a phrin le i ddyn
Roi ben o honi allan:
A gwisgai 'r holl forwynion glân
Eu peisiau stwff a'u 'sanau gwlan,
Ac roedd eu llûn yn ddiwahan
Yn llawn, heb 'run improver—
'Roedd natur wedi bod o'r blaen
Yn hyny 'n gymwynasgar.
Fe fyddai llawer dadl frwd
I'w chlywed wrth gyflogi—
Arabedd gwlad yn llifo 'n ffrwd
O dan ddylanwad breci;
O dan ddylanwad diod fråg
Bydd llestri gwag yn tincian,
A byddai llawer ffarmwr gwag
Ei bwrs, yn brolio 'i arian;
Ac äi un arall ar ei draws
I frolio 'i fwrdd, ei gig, a'i gaws—
'Roedd brolio'r caws yn llawer haws
Na'i dori yn dafellau ;
Ac am y cig, 'roedd dros ei ben
Mewn halen er's blynyddau.
Fe droai 'r lle yn ferw gwyllt,
Ai llawer un i ffraeo,
A'r lleill yn edrych megys myllt
O dan effeithiau'r bendro :
Ond Gruffudd Ifan Cwm y Cil
Oedd arwr y cynulliad—
'Roedd Gruffudd wedi meddwi'n chwil,
Ac wedi colli ei gariad;
A Gruffudd a goronai'r twrdd
Trwy roddi naid i ben y bwrdd,
A thyngu nad äi ef i ffwrdd
Heb ymladd hefo rhywun;
A Gruffudd Ifan oedd y gwr
Fu'n arwr am y flwyddyn.