Murmuron Awen/Y Fronfraith
| ← Ffarwel | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Hyfryd Haf → |
Y Fronfraith.
FRONFRAITH fwyn, daw mawl yn lli,
Trwy ddail y llwyn, o'th emyn di;
Y mae dy gân,
Aderyn glan,
Yn adfywhau fy nghalon i,
Beth elli fod, ganiedydd hardd,
Ai anwyl fwyn gyfriniol fardd?
Neu ysbryd rhydd yn canu ffraeth
Alawon nef i f' enaid caeth?
Dy fawl yn swyn adfywiol sydd
Ar fore braf i galon brudd;
Foreuol fardd
Y gwanwyn hardd,
Mi hoffwn wybod genyt ti
Beth yw dy neges attaf fi?
Aderyn llon, a wyddost ti
Am chwerw bwys
Gofidiau dwys,
A'r nos sydd yn fy mynwes i?
Gruddfanau enaid unig pell,
Freuddwydia'n syn am fywyd gwell,
Fel blin garcharor wedi'i gloi,
Yn blino 'n byw, yn methu ffoi;
Ei nwydau 'n gaeth, dan ysol gur,
Mewn hiraeth am gael bod yn bur,
Y mae dy gân,
Aderyn glan,
Fel cenad tyner angel llon
Yn deffro gobaith yn fy mron—
Rhyw obaith dystaw am y dydd
Y ca fy enaid fod yn rhydd.
Ond canu, canu 'rwyt o hyd,
'Rwyf inau 'n fud
Rhag deffro 'r byd;
Rho dy gyfrinion i mi i gyd.
A wyddost ti fod calon bardd
Yn caru'r tyner, pur a hardd?
Pob peth o'n hamgylch sydd yn bur
Ac yn ddihalog fel y gwir;
Mae natur mewn tawelwch mud,
'Does neb yn clywed yn y byd,
O! dywed im',
Aderyn chwim,
Gyfrinion pur dy galon iach,
'Rwy'n deall iaith aderyn bach.
Mi gofia'r wers, 'rwyt ti o hyd
Yn iach dy fron.
Yn bur a llon,
Yn canu, canu i wella'r byd,
Ac am dy fod yn bur a glan,
Mae nodau gwynfyd yn dy gân
Yn nghwr y llwyn
Aderyn mwyn,
I gofio am dy hudol swyn,
Yn lleddfu cur fy mynwes i,
'Rwyf inau'n canu cân i ti.