Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Y Gadair Wag

Oddi ar Wicidestun
Mae'r Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Ffarwel

Y Gadair Wag.

MAE'R gadair yn wag yn ymyl y bwrdd,
Yr hon fu'n ei llanw gymerwyd i ffwrdd,
Mae'r tad yn ei gadair yn bruddaidd ei wedd,
Fel delw o hiraeth ar drothwy ei bedd.

Ei faban amddifad sy'n huno 'n ei gryd,
Rhy ieuanc i wybod am groesau y byd;
A'i dad yn ei siglo gan furmur yn syn
Hwiangerdd ei briod i'w angel bach gwyn.

Gerllaw y mae darlun y fam ar y mur,
A gwres yn ei llygaid cariadus a phur;
Fel pe ba'i ei hysbryd caredig o hyd,
Trwy gyfrwng y darlun yn gwylio y cryd.

Mae'r bwrdd wedi'i hulio dan fendith y nef,
A bachgen a geneth gerllaw iddo ef;
Ond eistedd yn bruddaidd mae'r teulu dinam,
Gan syllu mewn hiraeth ar gadair y fam.

Mae'r eneth fach serchog mewn ufudd fwynhad
Yn ceisio gwneyd pobpeth i foddio ei thad;
Ond gwag yw y gadair a'r aelwyd fach glyd,
Gwag ydyw y bwthyn, a gwag yw y byd.


Nodiadau

[golygu]