Murmuron Awen/Y Goedwig
| ← Cenwch im' yr hen Ganiadau | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Breuddwyd Serch → |
Y Goedwig.
BRYDFERTH goedwig! Adfywiedig
O dan wenau gwanwyn llon,
Llanerch unig wynfydedig
Ydyw i'r luddedig fron;
Lle mae bywyd yn ymsymud
O fy nghylch, a than fy nhraed,
Deffry f' ysbryd marwaidd, cysglyd,
Llifa bywyd trwy fy ngwaed.
Ffrwythlawn goedwig! Bendigedig
Yw ei gwedd dan heulwen haf,
Yn ei diwyg werdd fonheddig,
Gwasgar ei theleidion braf;
Ffrwd lifeiriol, ddystaw fywiol,
Ton o'r anherfynol fôr,
Dreiddia trwyddi, gan ymloewi
Yn ngoleuni heulwen Iôr.
Freiniol goedwig! Aur liwiedig
Yn yr hydref ydyw hi,
Ac urddedig dan barchedig
Orffenedig goron bri;
Llanw bywyd bron a chilio,
Hithau'r flwyddyn gain ei gwedd,
Yn ymbwyllog ddechreu gwisgo 'i
Hunan yn ei dillad bedd.
Bruddaidd goedwig! Mor wywedig
Yn y gauaf yw ei gwedd,
Gwelw-lwyd, mewn diwyg adfyd,
Gyda 'i bywyd yn y bedd;
Cwrlid helaeth nos marwolaeth
Wedi'i daenu dros ein byd,
Enaid anian dani 'n hepian
Megys baban yn ei gryd.
Ond yr haul o dan arweiniad
Gwanwyn ieuanc tyner wedd,
Ddaw yn nghwmni'r "Adgyfodiad
I anadlu ar y bedd;
Awel fywiol, yn llifeiriol
Ffrwd ysbrydol dros y llawr,
Fel portread o ddeffroad
Boreu'r "Adgyfodiad Mawr."