Murmuron Awen/Y Llenleidr
| ← Seindorf Arian Llan Ffestiniog yn y Bala | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Ein Henwad ni → |
Y Llenleidr
LLENLEIDR yw'r testyn, mae'n destyn go dyn,
Rhaid cerdded yn araf, ac edrych yn syn,
A myn'd yn hamddenol o amgylch y gwalch,
A cheisiwn ei foddio, mae'n hynod o falch.
Y mae yn mhlith lladron amrywiaeth diri',
Mae rhagor rhwng lladron a lladron mewn bri,
Mae rhai lladron craffus, mae eraill yn ddall,
Mae lladron go wirion, a lladron pur gall.
Mae rhai yn lladrata rhyw nwyddau di-nod,
A'r lleill yn lladrata anrhydedd a chlod;
A dyma ein harwr, eu brenin i gyd,
Gall ddwyn eich hymeuydd na wyddoch ddim byd
Fe'i ganwyd yn Lletty Trawsfeddiant a Brad,
Ei fam ydoedd Hoced, a Thwyll oedd ei dad;
Ac fe yinddadblygodd haerllugrwydd a chwant,
Y ddau yn ein harwr, y callaf o'r plant.
"Roedd talent, a gallu, a'r gwir wedi myn'd,
Yn nghyd a gonestrwydd, pan anwyd ein ffrynd,
Ond cafodd uchelgais, uchelgais ddiles,
Cyfrwysdra llwynogaidd, a gwyneb o bres.
Fe dyfodd i fyny nes dyfod yn llanc,
Cynyddodd ei falais, eangodd ei wanc
A chan nad oedd ganddo ymenydd ei hun,
Dechreuodd ladrata oddiar ei gyd-ddyn.
Mewn Cyrddau Llenyddol daeth allan yn awr,
Fel awdwr galluog, a chwyddodd yn fawr;
A cha'dd haner coron am englyn ryw dro,
Er na wyddai fwy am gynghanedd na llo.
Ond nid yw ein harwr yn ddall nac yn bŵl,
Chwi wnewch gamgymeriad os cym'rwch e'n ffwl;
Mae'n gweled gryn dipyn yn mhellach na'i drwyn,
A gwyr sut i drefnu'r hyn mae yn ei ddwyn.
Gall osod ei ddelw aruchel ei hun
Ar draethawd, neu bryddest, waeth ganddo ef p'run,
Os englyn fydd eisiau, cewch hwnw 'n ddiwall,
I gyd yn gyfanwaith o waith hwn a'r llall.
Ni wyr y llenleidr am y drafferth a'r draul,
Y llafur a'r lludded mae'r gonest yn gael:
Am draethawd, neu bryddest, neu englyn, fe red
I'w cyrchu 'n ddidrafferth o shop ready made.
Drafferthus lenorion, a beirddion y byd;
I leidr eich ymenydd ymgrymwch i gyd;
A chofiwch i chwi gael eich geni i fod
Yn sarn iddo gyraedd anrhydedd a chlod.
I ddyn fel ein harwr na roddwch un sen,
Ymro'wch i'w seboni, mae'n fudr dros ben:
Mae'n hawdd iawn cael sebon, ond ofnaf yn siwr
Nad oes yn Llyn Tegid ddim digon o ddwr.