Murmuron Awen/Y Meudwy
Gwedd
| ← Y Rhaiadr | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Torwr Beddau → |
Y Meudwy.
DYN a greddf i fod yn granc—yw meudwy,
Ansymudol henlanc;
Un na fyn mo'i droi hyd dranc,
I ofyn am ferch ifanc.
Dwys arwr wedi sori,—dewisol
Dywysog penboethni;
Rhodda ei oes auraidd i
Fyw'n hybarch ar gefn hobi.