Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Y Pelydryn

Oddi ar Wicidestun
Dau Englyn i Blant y Bala i'w dehongli Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Cadeiriad Taliesin Fychan

Y Pelydryn.

BYWIOL, hydraidd belydryn,—iach auraidd,
A chwery fel plentyn;
Swyna ddail, gusana ddyn,
Yrr iasau byw trwy rosyn.

Eirian glir belydryn glan,—a rhadlawn
Fyw ffrydlif o huan;
O liw perl, goleu purlan,
I loewi dydd, gwawl o dân.


Nodiadau

[golygu]