Murmuron Awen/Y Sebonwr
Gwedd
| ← Y Diogyn | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Tyloty → |
Y Sebonwr.
Y benaf yw'r ddawn sebonawl,—cydnaws,
Ddawn cadnaw rhagrithiawl!
Od yw o fwyn, uda fawl
Dinodedd dieneidiawl.
Sebonwr, arwr oeraidd, —ac urddawl
I gyrddau tylodaidd,
Llyfwr o'i gryd, llwfr i'w graidd,
A gwag isel geg wasaidd.
Rhyw greithiog hyll ragrithiwr,—o galon
Ddigwilydd y bradwr;
A chelwyddog, euog wr,
Heb enaid yw'r sebonwr.