Murmuron Awen/Y Ty Tafarn
Gwedd
| ← Canu oer | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y fodrwy aur → |
Y Ty Tafarn.
Y'R gwr a gar gwrw,—ty'r yfed,
Ty rafio a thwrw,—
Ty rhwyg a llid, rheg a llw,
Uchel helynt chwil ulw.
Ty am loddest ymladdwyr—afradlon
Hyfrydle troseddwyr,
Ty euog hil taeog wyr,
A nefoedd i hen yfwyr.
Ty y taerwr, ty y twrw—tryflith,
Cartrefle y meddw,―
Ty eu nâd anynad nhw,
Hen oferwyr fyn farw.
Ty i fariaeth gwyllt oferedd—malldy
Pob melldith a chabledd,
A lle di waith, hyll di hedd,
Twyll a hagrwch,—twll llygredd.