Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Yfed Iechyd Da

Oddi ar Wicidestun
Ond yr oedd ganddo arian Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Y Friallen

Yfed Iechyd Da.

DEFOD henafol, fuddiol a da,
I ddangos teimlad cynes,
Yw uno i "yfed iechyd da,"
A pheidio dangos rhodres;
Mae'r bobl gallaf (?) yn gwneyd i gyd,
Y Duciaid a'r Arglwyddi,
A dylai pob crwtyn yn y byd
Geisio dynwared rheiny.

Cael "yfed iechyd" yr upper ten
Sy'n fraint i rai mewn angen,
Pe'r elent i ddyled dros eu pen,
A meddwi yn y fargen;
Anghofiwch helbulou bywyd blin.—
Mae dynion call yn credu,
Fod iechyd a bendith yn y gwin,
Ond deall sut i'w lyncu.

Mae pob Offeiriad a Phrelad call,
A phob Pregethwr parchus,
Yn "yfed iechyd" y naill a'r llall
Fel dynion anrhydeddus;
A phan y genir baban di frad,
Daw'r gwragedd i'w fendithio,
Trwy ddweyd ei fod yn debyg i'w dad,
Ac "yfed iechyd "iddo.


Pan unir llanc hefo'i Weno fad;
Er mwyn rhoi bendith arnynt,
Rhaid cadw rheol a ffasiwn gwlad,
Trwy "yfed iechyd " iddynt ;
Wrth gladdu'r marw eilwaith, rhaid cael
Yfed y gwirod a'r cwrw,
A gwelir ambell gybydd yn hael,
Am dro, ar bwrs y marw.

'Roedd yswain ieuanc y "Plas," yn d'od
I oed a synwyr llencyn,
A daeth rhagrithwyr i ganu ei glod,
Ac yfed iechyd Coegyn;
Gofalwyd am gwrw 'r un oed a'r aêr,
A gwirod i'w gwirioni;
Sebonwyd yr yswain, trwy weniaeth daer
Cynffonwyr wedi meddwi.

******
A welsoch chwi'r Gweinidog fu'n
Gwefreiddio'r dorf o'i gwyras,
Ar hyd rhodfeydd y meddwyn du,
Yn ddychryn i gymdeithas?
Wrth arfer "yfed iechyd da,"
Fe'i llithiwyd ef yn raddol,
Cyn teimlo nerth y marwol blâ
'Roedd ef yn anadferol.

Llanc ieuanc llon oedd "Hywel Wyn,"
Ar ddydd priodas "Harri,"
Ond duodd ei gymeriad gwyn
Trwy brofi'r hyn sy'n meddwi;

Fe "yfodd iechyd da" i'w frawd
Rhag iddo gael ei wawdio,
Mae Hywel heddyw 'n feddwyn tlawd,
A phawb yn cilio rhagddo.

'Roedd "Elwy"'n fachgen glana'r wlad
Pan oedd wrth fwrdd y 'Sgweiar,
Yn yfed gwin, i foddio'i dad,
Mae heddyw yn y carchar!
Ca'dd deddf ei wlad awdurdod barn,
I gloi'r carchardy arno,
Gwnaeth ddeddfau sanctaidd Duw yn sarn
Ar hyd ei lwybrau yno.

Un arall oedd o'r cwmni llon,
Fu'n "yfed" y pryd hwnw,
Mewn hen ystafell, dywell, lom,
Yn ymyl "Elwy"'n marw;
Yn marw'n swn rhuadau ofn
Cydwybod wedi deffro,
A chaddug colledigaeth ddofn
Oedd yn amgau am dano.

Y Friallen.
(Y Gerddoriaeth gan R. Drury, Lerpwl.)

CROESAWAF di, friallen dlos,
Ar war y ffos sy'n gwenu,

Nodiadau

[golygu]