Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Ymson Enaid

Oddi ar Wicidestun
Tri Darlun Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Aelwyd y Meddwyn

Ymson Enaid.

PECHADUR wyf, a'm beiau mawr,
Yn ofid dirfawr im';
Dan bwysau temtasiynau lu,
Yn methu sefyll dim.

Yn ngafel temtasiynau certh,
Fy nerth sy'n myn'd yn llai;
Gruddfana enaid tanllyd iawn
Mewn corff sy'n llawn o fai.

Pan ddaw rhyw angel ambell waith,
I sibrwd gobaith ffydd,
Ar fryniau aur trugaredd rad,
Mi welaf doriad dydd.

Uwch law y niwl a'r 'stormydd certh,
Mi welaf brydferth wawr;
O don i don, 'rwyn d'od yn nes,
I'th fynwes Iesu mawr.


Nodiadau

[golygu]