Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Ymson awen uwch bedd Havesp

Oddi ar Wicidestun
Er cof am Robert Evan Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Fy nymuniad

Ymson awen uwch bedd Havesp.

GWIW enw'n hanes Gwynedd—yw Dewi.
A duwies cynghanedd
Yn welw fud—wylia'i fedd
O dan wawdiaeth dinodedd.

Ow! argel dawel Dewi,—noeth weryd
Heb lythyren arni,
Ond er heb rwysg—gloewder bri—oesol
Wres awen hudol erys i'w nodi.

Ar ei enw trwy Wynedd,—fe erys
Anfarwol anrhydedd,
Duwies can a chynghanedd
Hyd y farn ddynoda'i fedd,


Nodiadau

[golygu]