Murmuron Awen/Yr Ehedydd yn canu mewn 'storom
Gwedd
| ← Cadeiriad Taliesin Fychan | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Englynion Croesaw → |
Yr Ehedydd yn canu mewn storom
GWYLIAIS yr 'Hedydd gwiwlan,―ar ysol
Fyw orsedd y daran;
Tra hudol yn ngwersyll trydan,
Ei nodau dewr, mewn byd o dân.
O nefol lwyfan ufel-fellt,—ei gân
Esgynai trwy'r fflam-fellt;
I'r nefoedd uwch swn taran-fellt,
Yn donau mawl ar edyn mellt