Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Yr Oen bach

Oddi ar Wicidestun
Y fodrwy aur Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Y Nadolig

Yr Oen Bach

AR ddôl ni cheir ei ddelach,—na chywrain
Chwareuwr doniolach:
Na natur ddiniweitiach,
Yn yr un byd na'r oen bach.

Oen, adwaenid o anian—ddihalog,
Fu'n arwyddlun egwan,
O'r Oen Iawnol, dwyfol, dan
Ing byw angau heb yngan.


Nodiadau

[golygu]