Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Murmuron Awen (testun cyfansawdd)

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Murmuron Awen

MURMURON

AWEN:


Gan Gwaenfab, Bala.



1895.
Davies ac Evans, Argraffwyr, Bala.




RHAGYMADRODD.

ANWYL GYDWLADWYR,一

WELE fy Llyfr. Perswâd cyfeillion yn unig wnaeth i mi anturio neu ryfygu ei gyhoeddi.

Cefais i lawer o bleser wrth gyfansoddi yr amrywiaeth a gynwysa; ac os caiff eraill raddau o'r un peth wrth ei ddarllen, ychwanegir at fy moddhad. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i'r lluaws mawr a anfonasant eu henwau a'u harian am dano, cyn ei weled. Boed i'w ffydd a'u hamynedd gael eu gwobrwyo.

Yr eiddoch yn wladgar,

GWAENFAB.

Cynwysiad.


Murmuron Awen.

Gymru Anwyl.

CYMRU anwyl, gwlad y delyn,
Unig wlad fy nghalon:
Cymru enwog ein Llywelyn—
Gwlad y menyg gwynion;
Pan y collaist dy dywysog
Cefaist ddyrnod chwerw,
Cwyd dy ben fy ngwlad ardderchog,
Gormes sydd yn marw.

Gymru anwyl, swn cwynfanus.
Sy'n dy hen alawon,
Trais a gormes gwaradwyddus
Sugnodd waed dy galon:
Dros eu gwlad y mae dy feibion
Heddyw 'n ymfyddino,
Y mae nerthol fraich, a chalon
Gwron gan y Cymro.

Gymru anwyl, ni cha gormes
Mwyach dy ddirmygu,
Megaist feibion ar dy fynwes
Fyn dy anrhydeddu;
Rhengoedd glewion rhyddid Cymru
Loewant eu cleddyfau,
Nis gall gormes mwy anadlu
Awyr dy fynyddau.


Gymru anwyl, y mae caethion
Oesoedd yn dihuno,
Cenir eto fyw alawon
Rhyddid gan y Cymro;
Baner rhyddid gaiff ei chwifio
Ar dy hen fynyddau,
Fe ddaw Cenedl wedi deffro
Ddryllia dy gadwynau.


Hiraeth am Feirionydd.
Alaw"—Difyrwch Gwyr Harlech."

HIRAETH sydd yn tori'm calon,
Hiraeth am hen fryniau Meirion,
Hiraeth am ei glynoedd tlysion
A'i haberoedd glân;
Meirion anwyl, iach, fynyddig,
Fy hen gartref bendigedig,
A hen gartref cysegredig,
Awen bur a chân;
Nid oes wlad trwy'r gwledydd
Mor anwyl a Meirionydd,
Mwyn yw byw yn nghwmni beirdd
Rhwng bryniau heirdd a bronydd,
O dan nodded creig daneddog,
Rhodio meusydd dolydd deiliog,
Yn hudolus swn dihalog,
Cerddi'r adar mân.

Gwell nac aur, a gwell nac arian,
A holl gyfoeth byd yn gyfan,
Ydyw gwenau mwyndeg anian,
Yn fy anwyl wlad;
Rhodio llwybrau 'r gelltydd gwylltion,
A rhoi mawl ar eu hymylon,
Canu hwyliog hen alawon
Melus Cymru fâd;
Hudol wlad fy nhadau,
Mwyn yw hon i minau,
Wylo 'r wyf am awel rydd
Ei bronydd teg a'i bryniau:
Chwardda'r blodau ar ei meusydd,
Blodau'r grug ar fron y mynydd,
Fel rhianod glân Meirionydd,
Wenant yn ddi-frad.


Cenwch im' yr hen Ganiadau.
(Y Miwsig gau John Henry, R.A.M.)

CENWCH im' yr hen ganiadau,
Hen ganiadau'r Cymry gynt,
Pan oedd swn trydanol seiniau
Rhyddid Cymru yn y gwynt;
Cenwch hen ganiadau'r dewrion,
Mwyn alawon llon a phrudd,
Cenwch hwynt uwchben adfeilion
Olaf gormes "Cymru Fydd."


Cenwch im' yr hen ganiadau,
Serch ganeuon "Cymru Fu,"
Hen alawon ein telynau,
Pan oedd telyn yn mhob ty;
Fechgyn, cenwch hwy 'n y meusydd,
Cewch lawenydd a mwynhad,
Cenwch hwynt, rianod dedwydd,
Ar aelwydydd hoff fy ngwlad.

Cenwch im' yr hen ganiadau,
Hwian-gerddi goreu 'r byd,
Tyner odlau serch ein mamau
Uwch ein penau yn y cryd;
Cenwch hwynt, chwi famau tirion,
Pan fo prudd-der dan eich bron,
Nes bo eilun tlws eich calon
Yn ei gwsg yn gwenu 'n llon.

Cenwch im' yr hen ganiadau,
Hen emynau hoff fy ngwlad,
A gysegrwyd gyda dagrau
A gweddiau mam a thad;
Cenwch hwynt pan fo cysgodau'r
Hwyr yn disgyn yn y glyn,
Cenwch im' yn afon angau
Rai o'r hen emynau hyn.


Sing to me the Songs of Cambria.
(Cyfieithiad gan R. Drury.)

SING to me the Songs of Cambria,
Noble patriot songs of yore;
When the watchword, "Cambria's freedom,"
Thrilling sped from shore to shore;
Sing the lays declaimed by heroes,
Stirring songs both sad and bright-
Songs which moved brave warriors' bosoms
In the thickest of the fight.

Sing to me the Songs of Cambria,
Cambria 's love-songs, pure and sweet,
Sung by many a gentle lover
Sitting at his fair one's feet;
Sing them swains, along the meadows,
Ye shall joy and pleasure prove,
Sing them, maidens fair and happy,
Filling all your homes with love.

Sing to me the Songs of Cambria,
Tender lays of mother's love,
Cambria 's lullabies, so soothing,
Like the cooing of a love;
Sing them ever, gentle mother,
When oppressed by many a care,
For the idol of your bosom
Smiling sweet in slumber there.


Sing to me the Songs of Cambria,
Sacred songs of all most dear,
Hallowed by the prayers of loved ones,
Mingled oft with many a tear;
Sing them when the shades of evening
Shroud the valley, dark and cold,
Sing to me in death's dread river
Some of these dear hymns of old.


Y Goedwig.

BRYDFERTH goedwig! Adfywiedig
O dan wenau gwanwyn llon,
Llanerch unig wynfydedig
Ydyw i'r luddedig fron;
Lle mae bywyd yn ymsymud
O fy nghylch, a than fy nhraed,
Deffry f' ysbryd marwaidd, cysglyd,
Llifa bywyd trwy fy ngwaed.

Ffrwythlawn goedwig! Bendigedig
Yw ei gwedd dan heulwen haf,
Yn ei diwyg werdd fonheddig,
Gwasgar ei theleidion braf;
Ffrwd lifeiriol, ddystaw fywiol,
Ton o'r anherfynol fôr,
Dreiddia trwyddi, gan ymloewi
Yn ngoleuni heulwen Iôr.


Freiniol goedwig! Aur liwiedig
Yn yr hydref ydyw hi,
Ac urddedig dan barchedig
Orffenedig goron bri;
Llanw bywyd bron a chilio,
Hithau'r flwyddyn gain ei gwedd,
Yn ymbwyllog ddechreu gwisgo 'i
Hunan yn ei dillad bedd.

Bruddaidd goedwig! Mor wywedig
Yn y gauaf yw ei gwedd,
Gwelw-lwyd, mewn diwyg adfyd,
Gyda 'i bywyd yn y bedd;
Cwrlid helaeth nos marwolaeth
Wedi'i daenu dros ein byd,
Enaid anian dani 'n hepian
Megys baban yn ei gryd.

Ond yr haul o dan arweiniad
Gwanwyn ieuanc tyner wedd,
Ddaw yn nghwmni'r "Adgyfodiad
I anadlu ar y bedd;
Awel fywiol, yn llifeiriol
Ffrwd ysbrydol dros y llawr,
Fel portread o ddeffroad
Boreu'r "Adgyfodiad Mawr."


Breuddwyd Serch.
(Neu, "Fy Nghariad Cyntaf,")

Y Ngwenfron, hoff wrthddrych fy serch,
Diolchaf i ti am y llûn,
Dy ddarlun sy 'n harddach na merch,
Ond harddach yw Gwenfron ei hun
Ond marw yw'r darlun, fy mún,
Er hyny, 'rwyf weithiau mor ffôl
A cheisio cusanu y llûn,
Gan ddisgwyl cael cusan yn ol—
Cael cusan gan Gwenfron yn ol.

Fy nghariad, rho wybod pa bryd
Caf ddyfod i siarad a thi—
Mae'r darlun yn oer ac yn fûd,
Siaradus a chynes wyt ti;
Gelyniaeth o'r oesau a fu,
A balchder y byd sy 'n amgau,
Fel gwylwyr o amgylch dy dy,
Ond gallwn orchfygu y ddau—
A mynwn orchfygu y ddau.

Wel, anfon ryw nodyn pa bryd
Y deui i gysgod y llwyn,
Aberthwn y ddaear, yn nghyd
A bywyd, pe rhaid, er dy fwyn—
Meddyliaf am danat y dydd,
Breuddwydiaf am danat mewn hûn,

Mae sanctaidd wyleidd—dra dy rudd
Fel delw prydferthwch ei hun—
Fel enaid prydferthwch ei hun.

Newidiaist fy natur i gyd
Pob gwrthddrych yn agos a phell,
Newidiodd, fe loewodd y byd,
Aeth pobpeth i edrych yn well;
Mi hoffwn gael bod hyd fy medd
Yn gaethwas i swynion dy wên,
A chariad sancteiddiol dy wedd
Yn harddu wrth fyned yn hên—
Yn gloewi wrth fyned yn hên.

Pob llinell dderbyniais erioed
Oddiwrthyt, a gerfiwyd ar lèn
Fy nghalon, gan gariad, pan oedd
Pob dalen o honi yn wèn:
Ac yno dan goron wén Mai
Ei bywyd, mae darlun y ferch,
Nis gall tragwyddoldeb ddileu
Yr argraff a gerfiwyd gan serch―
Na'r darlun a dynwyd gan serch.


Cariad Mab a Chariad Merch
(Y Gwahaniaeth.)

CARIAD mab a'i gwna fel baban—rhyw swyn,
Yrr synwyr i hedfan;
Cariad didoriad yn dân
Enynawl trwy ei anian.

Ond mae merch, er mor serchog—yw ei bron,
Erioed braidd yn gastiog;
I ryw un heb fod yn rôg,
Yn un ddyrus gynddeiriog.


Ar fin y traeth y safai Merch.

AR fin y traeth y safai merch
A baban yn ei breichiau,
A hunai 'r baban ar ei bron
Yn nhwrw yr elfenau;
Ysbrydion anian oedd yn awr
Yn galw eu byddinoedd,
Ac yr oedd cwmwl dudew, mawr
O ŵg ar ael y nefoedd.


Ar fin y traeth y safai merch,
Gan wylio bad ei gwron
Yn ymladd a'r ystorom erch,
A chwyddodd serch ei chalon;
Gruddfanai anian, gwibiai 'r mellt,
A rhuo bråd wnai'r tonau,
Ac eco 'r creigiau ar y lan
Yn ateb y taranau.

Ar fin y traeth y safai merch,
A'i gweddi aeth i'r Nefoedd,
Ac ymostyngodd tonau'r môr,
A hunodd y tymhestloedd;
A gwelai 'r morwr, ar y traeth
Y fenyw bur ei chalon,
Yn chwifio 'i chadach—baner serch
Ei briodasferch dirion.

Ar fin y traeth y safai merch,
A'i bron rhy lawn i yngan,
Cofleidiai'r morwr dewr ei wraig,
A gwenai'r baban bychan;
Tywynodd heulwen ar y traeth—
Anfonodd Duw ei genad,
I symud y cymylau i ffwrdd
I engyl weled cariad.


Ymlaen, Ardderchog lu.

YMLAEN, ardderchlog lu,
Fel hen wroniaid "Cymru Fu,"
Ymladdwn dros ein gwlad,
Ymlaen! fe ddaeth y dydd,
Ymladdwn nes cael Cymru 'n rhydd
Oddiwrth ormesol frâd,
Ein gelyn Baachus, grymus gawr,
Llawruddiog, euog yw,
Ymladdwn nes ei gael i lawr,
Yn blaid i ni mae Duw.

Cyfodwn faner wen
Ddirwestol "Cymru Fydd " uwchben,
Pob cwmwd, tref a llan:
Ieuenctyd, dewch yn rhydd,
Er mwyn gogoniant "Cymru Fydd,"
I'r frwydr o bob man;
Ymlaen! Ymlaen! i faes y gâd,
Mae swn magnelau draw,
Yn enw Duw, ein hiaith, a'n gwlad,
Gorchfygwn ar bob llaw.


Hen Ddiareb.

FE ddywed hen ddiareb
FE Fod dyn yn myn'd i hobian,
Wrth gerdded gyda'r cloff
Yn myn 'd yn gloff ei hunan;
Ac ni fu 'rioed yn unman
Ddiareb mwy synwyrlan,
Mae dyn yn myn'd 'run fath a'i ffrynd,
Heb wybod iddo 'i hunan;
Os bydd ar un o'r ddau ryw wall,
Bydd un cyffelyb
Yn fuan ar y llall.

Mae llond yr hen ddiareb
O addysg a gwirionedd,
Y mae cymdeithas dyn a dyn
Yn newid dyn yn rhyfedd;
Mae yn syflyd safon bywyd,
Fel rhyw swyngyfaredd.

Ieuenctyd Cymru swynol,
Arweinwyr y dyfodol,
Os ewch i ddilyn cwmni drwg
Daw gwywder nos auafol
I ddelwi eich cymeriad glân,
A 'ch gwywo yn dragwyddol:
Cofiwch yr hen ddiareb,
Fod dyn yn myn'd i hobian,
Wrth gerdded gyda'r cloff,
Yn myn'd yn gloff ei hunan.


Ffair Gyflogi'r amser gynt.

ROEDD cymeriadau Cymru Fu
Yn mhell o fod yn ddiwall,
Ond 'roedd pob un fel ef ei hun,
A neb fel rhywun arall;
'Roedd ffair gyflogi'r amser gynt
I'r bechgyn a'r genethod,
Yn ddydd nodedig yn eu hoes—
Yn fath o Wyl y Cymod:
Ychydig o wynebau prudd
A welid yn y bore',
Ond byddai llawer gwyneb hyll
I'w weled yn myn'd adre.

Fe fyddai'r Sho a'r Carifan,
A chymeriadau hynod,
Yn cyd-gyfarfod o bob man
I anrhydeddu'r diwrnod;
A gweision ffermwyr o bob llûn
Yn gwisgo eu harwyddnod,
Fel gallai'r ffarmwr wybod p'run
O'r bechgyn oedd ar osod;
A'r hwn yn gyntaf gaffai le
A gerddai'n ôl a blaen drwy'r dre',
Gydag arwyddnod fod efe
A'i fater wedi'i setlo,
A theimlai 'i hun yn fwy o ddyn
Yn awr na 'run oedd yno.


Fe ddeuai merched glân ein gwlad
I'r ffair mewn dillad gweddus,
Fe wyddai'r mamau sut i fod
Yn hynod o drwsiadus;
Eu neges gyntaf am y dydd
Oedd cael lle newydd diwall,
Ac wed 'yn, rhoddi y prydnawn
Yn llawn at neges arall—
I chwilio am gariad newydd spon:
A theimlai llawer un yn llon
Ar ol cael cariad hon a hon
Yn eiddo iddi ei hunan,
A cherddai 'n ol a blaen ar hyd
Y stryd i'w ddangos allan.

Adwaenid gweision ffermwyr fel
Llafurwyr, wrth eu dillad—
'Doedd dim o'r imitation swell
Pryd hwnw yn y farchnad;
Esgidiau gwaith a chlôs pen glin,
A chôt o frethyn herpan,
A gwasgod a phrin le i ddyn
Roi ben o honi allan:
A gwisgai 'r holl forwynion glân
Eu peisiau stwff a'u 'sanau gwlan,
Ac roedd eu llûn yn ddiwahan
Yn llawn, heb 'run improver
'Roedd natur wedi bod o'r blaen
Yn hyny 'n gymwynasgar.

Fe fyddai llawer dadl frwd
I'w chlywed wrth gyflogi—

Arabedd gwlad yn llifo 'n ffrwd
O dan ddylanwad breci;
O dan ddylanwad diod fråg
Bydd llestri gwag yn tincian,
A byddai llawer ffarmwr gwag
Ei bwrs, yn brolio 'i arian;
Ac äi un arall ar ei draws
I frolio 'i fwrdd, ei gig, a'i gaws—
'Roedd brolio'r caws yn llawer haws
Na'i dori yn dafellau ;
Ac am y cig, 'roedd dros ei ben
Mewn halen er's blynyddau.

Fe droai 'r lle yn ferw gwyllt,
Ai llawer un i ffraeo,
A'r lleill yn edrych megys myllt
O dan effeithiau'r bendro :
Ond Gruffudd Ifan Cwm y Cil
Oedd arwr y cynulliad—
'Roedd Gruffudd wedi meddwi'n chwil,
Ac wedi colli ei gariad;
A Gruffudd a goronai'r twrdd
Trwy roddi naid i ben y bwrdd,
A thyngu nad äi ef i ffwrdd
Heb ymladd hefo rhywun;
A Gruffudd Ifan oedd y gwr
Fu'n arwr am y flwyddyn.


Neges gwahanol bobl yn nhy addoliad.

MAE rhai yn myn'd o ran arferiad
Rhai i chwerthin ac i siarad,
Rhai i bwyso ac i fesur,
Rhai i basio amser segur,
Rhai er mwyn eu llwyddiant bydol,
A manteision cyffredinol,
Rhai i dwyllo a gwychder dillad,
Ambell un i chwilio am gariad.

Rhai i edrych ar eu gilydd,
Rhai i farnu'r ffasiwn newydd,
Rhai i brisio aur a gemau
Y menywod, a'u rubanau,
Rhai i foddio meistr a meistres,
Rhai i ddweud a chlywed hanes,
Rhai i foddio'r gwr bonheddig,
A'r offeiriad gwir barchedig.

Rhai am lo, a rhai am fara,
Rhai am wlanen at y gaua',
Rhai i besychu ac i duchan,
Rhai i gysgu a phendwmpian,
Rhai er mwyn i'r gwyddfodolion
Wybod eu bod hwy'n gantorion,
Rhai i ddiolch am y profiad
Nad ydynt hwy fel pechaduriaid.


Ac mae llawer mor garedig
A bod yn feirniaid anffaeledig,
Ar y bregeth, a'r pregethwr,
Ar y weddi a'r gweddiwr ;
Mor ychydig yw rhifedi
Y rhai sy'n myned i addoli,
Mewn priodol isel agwedd,
Adyn tlawd wrth borth trugaredd.


Y Cthl Canu.

FY nhestyn ydyw ellyll blin,
Sydd yn ymddangos ar bob hin,
Nid oes 'run dewin all ei drin,
Maent wedi methu:
A'r ysbryd hwn o fan i fan,
Addoldai'r wlad, y dref, a'r llan,
A gras a chariad sy'n rhy wan
I'w lwyr orchfygu:
Nid Cthl bach cyffredin yw,
Ond yr angenfil mwya' o'i ryw,—
Yr hyllaf oll a'r dua'i liw,
Cthl Canu.

Fe gollodd llawer Côr ei fri,
Aeth llawer cerddor ar ei spri,
Pan fyddai hwn mewn dau neu dri
O'r Côr yn llechu;
Mi welais lawer brwydr boeth,
A llawer blaenor pwyllog, doeth,

Yn ymladd gyda ch—th—l noeth,
Bron a llewygu,
Un bar ar ol 'roedd alto crâs,
A'r tenor far o flaen y bass,
A'r organ o dan ddwylaw gwas
Y C—th—l Canu.

'Roedd rhai yn low, a rhai'n y top,
A rhai yn cael rhyw sudden drop,
Nes taraw'n sydyn ar full stop,
Oll wedi sythu;
Y blaenor a edrychai'n chwith,
A'i wallt yn sefyll yn ei syth,
Gan dyngu na ro'i fyny byth
Nes eu gorchfygu;
Ond da fu ganddo ef gael troi
I chwilio am y drws, a ffoi
O swn cerddoriaeth hynod lloi
Y C—th—l Canu.

Gwynebau hirion llawn o wg,
Ynfydion beilch, mewn niwl a mwg,
Right Royal treat i'r ysbryd drwg
O fewn addoldy;
Nis gwn mo'r don, ond mi wnawn lw
I mi ei chlywed yn y Zoo,
Ond "Diniweidrwyd," medda nhw
A geisient ganu;
Yn wir, fe geisiodd pump neu chwech
Ei chanu, ond y "Du" fu'n drech.
'Roedd "Diniweidrwydd" yn ysgrech
Y C—th—l Canu.

Etifedd Wynnstay.
Alaw—Glan Medd'dod Mwyn.

FE anwyd etifedd yn mhalas Wynnstay,
Mae pob peth trwy hyny yn dyfod i'w lle;
Anrhydedd, a chyfoeth, a mawredd y byd,
Sy'n sefyll i wylio o amgylch ei gryd—

Yn hanes y teulu boed baban a chryd,
Ac aer i Syr Watkin yn dyfod o hyd,
I wisgo'r hen enw hyd ddiwedd y byd.

Mae enw Syr Watkin i'r Cymro'n mhob gwlad
Yn llanw ei galon a thon o fwynhad,
Enyna gwladgarwch ei fynwes yn dân
Pan en wir hen noddwyr barddoniaeth a chân—
Yn hanes y teulu, &c.

Hil enwog Frythoniaid, a Chymry i'r carn,
Uchelwyr fu'n sathru gormeswyr yn sarn;
Y rhai dan hudoliaeth pob gweniaith a brad,
Fu'n arddel eu henw, eu cenedl, a'u gwlad—
Yn hanes y teulu, &c.

Llanuwchllyn henafol sy'n gloewi'n ei gell,
Mae gwyneb Llyn Tegid yn edrych yn well,
Er pan ddaeth y newydd am faban bach gwyn
I wisgo hen enw "Tywysog Glan Llyn"—
Yn hanes y teulu, &c.


Fel Cymry gwladgarol, ni chollem ein lle,
Pe'r unem am unwaith i waeddi Hwre,
Nes treiddiai y floedd tros fyayddau ein gwlad
I glustiau y baban yn mhalas ei dad-
Yn hanes y teulu, &c.

Hir oes i etifedd tywysog ein gwlad,
Hir oes i'w rieni mewn hedd a mwynhad;
Yn Nghymru boed enw Syr Watkin yn ben,
Tra'r mor yn amgylchu yr hen "Ynys Wen;"

Yn hanes y teulu boed baban a chryd,
Ac aer i Syr Watkin yn dyfod o hyd,
I wisgo'r hen enw hyd ddiwedd y byd.


Gwaith Wisci Frongoch

AF i'r Frongoch, froch ei fri,-am wirod,
Dyma Royal Wisci;
Llys d——l, i arllwys dyli
O anghlod ar fy ngwlad i.

Hen feddwon Sir Feirionydd,
Ymgesglwch at eich gilydd,
I Frongoch;
Pwy fyddai yn sychedig
Pan ellir am ychydig
Gael wisci bendigedig,
Yn Frongoch?
Mae meddwon yn barchedig,
Yn Frongoch.


Pa ddrwg sydd yn y gwirod
Ac yfed tipyn gormod,
Yn Frongoch?
Rhown bellach daw ar Sandy,
Ag uchel dwrw Paddy,
Byth mwyach fe fydd Taffy
Yn Frongoch,
Yn d'wysog byd y wisci,
Yn Frongoch.

Paham nad all y Cymro
Gael meddwi pan y myno,
Yn Frongoch?
Bod heb anghenion buddiol
Oedd bechod anfaddeuol-
Caed hyn cedd angenrheidiol
Yn Frongoch;
Fe lifa bendith oesol
O Frongoch.

Dim llaeth na glasdwr mwyach,
Fe gafwyd diod iachach
Yn Frongoch;
Pob meddyg yn y Bala
All fyn'd i Patagonia,
Cawn wisci cryf i'n gwella
Yn Frongoch;
Rhoed angau yn y ddalfa
Yn Frongoch.


Ac fe ddaw'r diafol bellach
Am dro i Gymru'n amlach,
I Frongoch;
A thyrfa o ellyllon
Yn dilyn wrth ei gynffon,
I fyny efo'r afon
I Frongoch;
Derbyniant eu gwobrwyon
Yn Frongoch.

Daw hen ysbrydion hynod
Yn lluoedd i'w cyfarfod,
I Frongoch;
Ysbrydion gwasanaethgar
Hen gadfridogion beiddgar,
Bob un yn galw ei gymhar
I Frongoch;
I gadw gwyl ddiolchgar
Yn Frongoch.

Ddaw mwyach 'run pysgodyn
I fyny y Tryweryn,
I Frongoch;
Brithylliaid a ymfudant,
Llysywod a'u dilynant,
A'r holl eogiaid nofiant
O Frongoch,
I fyny at Aberhirnant,
O Frongoch.


Wel, bellach rhaid i minau
Yn sydyn droi fy sodlau
Ar Frongoch;
Rhag ofn daw "Nic" o'i loches,
I'm taflu am ddweyd ei hanes
I le sydd yn fwy cynes
Na Frongoch;
Efe yw Boss y busnes
Yn Frongoch.


Anerchiad i ddiwygiad dirwestol fu yn Nghwmtirmynach.

MAE bechgyn Cwmtirmynach
Yn gwella, 'n dod yn gallach,
Os bu'n y fro, ryw rai o'u co'
Ymbwyllo wnant hwy bellach.

Yn Nghwmtirmynach swynol
Bu cyfnewidiad grasol,
'Does undyn mwy, mewn llan na phlwy,
A feiddia'i alw'n feddwol.

Y llanciau a'r henafgwyr,
Sy'n dyfod yn ddirwestwyr,
Ond ambell un, heb fawr o lun
O syniad beth yw synwyr.


Fe ddaw y gwragedd siriol,
A'r merched ieuainc swynol,
Bron o bob ty, ymlaen yn hy'.
I restr y llu dirwestol.

Ni waeth pa faint o freci
Gaiff yn Frongoch ei ferwi,
Fydd yn y Cwm, 'run cefn yn llwm
Ei wisg trwy yfed wisci.

Ac os yw QUEEN VICTORIA
Yn noddi wisci'r Bala,
Nid ydyw hi, er maint ei bri,
Heb goll, nid hi yw'r galla.

Os nad yw'r QUEEN yn foddlon
Os na chaiff wisci ddigon,
Mewn moes a bri, mae'n merched ni,
'N ei churo hi ai choron.

Gadawn y wisci Breiniol
Yn rhodd i rwysg brenhinol,
This Royal Show, is rather slow
I dwyllo bod deallol.

Fe ddaw y gwyr a'r bechgyn
O'r Bala heb ddiferyn,
Ni welir 'run, yn gwneyd ei hun
Byth eto yn yslotyn.


Trosglwyddir "Syr John Heidden,"
O'i rwysg i ganol angen,
Mewn llwch a llaid, bydd ef a'i blaid,
Heb damaid ar y domen.

Rhoi To be let, fa'i 'r calla,
Ar holl dafarnau'r Bala,
Bydd discontent, in Burton—on—trent,
Darllawydd Kent lesmeiria.

Dim mwy o borter Llunden,
Na chwrw llwyd Llangollen;
Fu 'rioed fath dro, bydd "Bass & Co.."
'N ymwingo mewn llwm angen.

Trodd Bacchus, pan y clywodd,
Yn welw, a llesmeiriodd,
Mewn ing a chwys, fe wnaeth ar frys,
Ei 'wyllys cynta gallodd.

Mae angau wedi ei farcio,
Yn barod erbyn trengo,
Gwnaf finau'n rhad, ddwy farw-nâd,
Dwy oernad i'w rhoi arno.


Breuddwyd Mammon ap Gwyddon.

Y TESTYN yw breuddwyd, sef breuddwyd cribddeiliwr,
Ei enw yw Mammon ap Gwyddon, ap swynwr,
Masnachwr mewn diod wenwynig, hudolus,
Magwraeth i wyniau, a nwydau cynhyrfus;
Mae Mammon ap Gwyddon yn ddyn doeth a phwysig
Yn ngolwg y byd, ac yn aelod eglwysig,
Ond cafodd un noswaith ryw freuddwyd dieithriol
Nes oerodd ei waed yn ei galon ragrithiol.

O amgylch y gwely lle cysgai y cadno,
'Roedd goleu brwmstanaidd, glas-welw,yn fflamio,
Ac yn y glas-welw oleuni gelynol,
'Roedd Satan yn eistedd fel teyrn ymherodrol;
'Roedd llyfr o dân yn ei balfau ewinog,
Ac ynddo 'roedd enwau cribddeilwyr cyfoethog,
A Mammon ap Gwyddon a grynai fel deilen,
Wrth weled y llyfr a'r danllyd ysgrifen.

Y Pharaoh haiarnaidd oedd lwfr a digalon,
Yn nghwmni brwmstanaidd yr hen Apolyon;
O'r diwedd gofynodd mewn geiriau toredig,
Beth ydoedd cynwysiad yr ysgrif losgedig?
A Satan atebodd, "Ti Mammon ap Gwyddon,
Wyt un o'm blaenoriaid yn mysg dy gyd-ddynion,
Ac i ti, mae'n weddus egluro dirgelion,
A thywyll gyfrinach uffernol ellyllon.


Yr ysgrif a weli yw enwau fy ngweision,
Y rhai sydd yn pesgi ar waed eu cyd-ddynion,
Y rhai sydd yn llwyddo i ymgyfoethogi
A chasglu anrhydedd drwy wasgar trueni,
Yn byw mewn palasau mewn glythni chwyddedig,
Ar arian y meddwon a merched syrthiedig,
Yn gwasgu eu cyfoeth o gnawd yr amddifad
Sy'n methu cael digon o ymborth a dillad,
Y rhai sydd yn arwyr cymdeithas barchedig,
Ar arian gwaed-ruddiog aelwydydd damniedig!

A'r llyfr hwn a weli yw llyfr coffadwriaeth,
Y gweithwyr ffyddlonaf o fewn fy llywodraeth."

A Satan a droai'r dalenau'n ddigyffro,
A gwelai'r cribddeiliwr ei enw yn fflainio,
Yn mlaenaf yn rhestr y llu melldigedig,
A'r nesaf at enw yr "hen wr boneddig."


Ond yr oedd ganddo arian.

"Yn mhob cell, gwell yw y gwir,
Na gweniaeth ffol ac anwir."


YDYDD o'r blaen 'roedd yn ein tref
Ryw ddarn o wr bonheddig,
Yn siarad mewn cyfarfod mawr
O weithwyr goleuedig;

Gwerthfawredd addysg oedd ei bwnc,
Ond gwelodd pawb yn fuan
Na fedrai Saesneg na Chymraeg,—
Ond—yr oedd ganddo arian.

Mewn cwrdd dirwestol clywais ddyn
Yn diystyru'r meddwyn,
Ond 'roedd y dyn bob dydd ei hun,
Yn arfer cym'ryd gwydryn;
A gwyddai pawb nad oedd ei druth
Ond twyll a rhagrith aflan.
Ac mai rhagrithiwr oedd y dyn,—
Ond—yr oedd ganddo arian.

Dewiswyd Mr. Jones i fod
Yn flaenor yn yr eglwys,
Ond gwyddai pawb mai nid efe
Oedd yr un mwyaf cymwys;
'Roedd ei gymeriad fel a'r fel,
Ac 'r oedd mor ddwl a phentan,
'Roedd pawb yn gwybod hyny'n iawn,—
Ond yr oedd ganddo arian.

Fe urddwyd coeg foneddwr balch
Yn Ofydd mewn Eisteddfod,
Gofynwyd beth 'roes iddo'r hawl?
Ond nid oedd neb yn gwybod;
A dweyd y gwir yn glir a phlaen.
Ni wyddai'r dyn ei hunan,
A chwarddai 'n braf am ben y lol,—
Ond—yr oedd ganddo arian.


Yn Llywydd yr Eisteddfod aed
Am Sais i foddio'r Saeson,
A chym'rodd ddwyawr iddo ei hun
I ddiolch am y sebon;
Ni wyddai ddim am lên ein gwlad,
Ddim mwy nag wyddai baban,
Ei hoffaf waith oedd gwawdio 'n hiaith,—
Ond—yr oedd ganddo arian.

Gwr pur lwyddianus yn y byd
Yw Mr. Brass, y bragwr,
Bob wythnos ein gweinidog â
I edrych dros ei gyflwr!
Ond gwyr yn dda fod Brass yn un
O hen ffyddloniaid Satan,
Mae nod y bwystfil arno'n blaen,—
Ond y mae ganddo arian.

Priododd Catrin, Tanyfron,
Ryw hen greadur atgas,
Ac yn ei fraich hi chwarddai'n llon
Ar ddiwrnod y briodas;
Mae'n ddigon hen i fod yn dad
I fam yr eneth chwiban,
Ac'fe fu gynt yn caru ei nhain,—
Ond y mae ganddo arian.


Yfed Iechyd Da.

DEFOD henafol, fuddiol a da,
I ddangos teimlad cynes,
Yw uno i "yfed iechyd da,"
A pheidio dangos rhodres;
Mae'r bobl gallaf (?) yn gwneyd i gyd,
Y Duciaid a'r Arglwyddi,
A dylai pob crwtyn yn y byd
Geisio dynwared rheiny.

Cael "yfed iechyd" yr upper ten
Sy'n fraint i rai mewn angen,
Pe'r elent i ddyled dros eu pen,
A meddwi yn y fargen;
Anghofiwch helbulou bywyd blin.—
Mae dynion call yn credu,
Fod iechyd a bendith yn y gwin,
Ond deall sut i'w lyncu.

Mae pob Offeiriad a Phrelad call,
A phob Pregethwr parchus,
Yn "yfed iechyd" y naill a'r llall
Fel dynion anrhydeddus;
A phan y genir baban di frad,
Daw'r gwragedd i'w fendithio,
Trwy ddweyd ei fod yn debyg i'w dad,
Ac "yfed iechyd "iddo.


Pan unir llanc hefo'i Weno fad;
Er mwyn rhoi bendith arnynt,
Rhaid cadw rheol a ffasiwn gwlad,
Trwy "yfed iechyd " iddynt ;
Wrth gladdu'r marw eilwaith, rhaid cael
Yfed y gwirod a'r cwrw,
A gwelir ambell gybydd yn hael,
Am dro, ar bwrs y marw.

'Roedd yswain ieuanc y "Plas," yn d'od
I oed a synwyr llencyn,
A daeth rhagrithwyr i ganu ei glod,
Ac yfed iechyd Coegyn;
Gofalwyd am gwrw 'r un oed a'r aêr,
A gwirod i'w gwirioni;
Sebonwyd yr yswain, trwy weniaeth daer
Cynffonwyr wedi meddwi.

******
A welsoch chwi'r Gweinidog fu'n
Gwefreiddio'r dorf o'i gwyras,
Ar hyd rhodfeydd y meddwyn du,
Yn ddychryn i gymdeithas?
Wrth arfer "yfed iechyd da,"
Fe'i llithiwyd ef yn raddol,
Cyn teimlo nerth y marwol blâ
'Roedd ef yn anadferol.

Llanc ieuanc llon oedd "Hywel Wyn,"
Ar ddydd priodas "Harri,"
Ond duodd ei gymeriad gwyn
Trwy brofi'r hyn sy'n meddwi;

Fe "yfodd iechyd da" i'w frawd
Rhag iddo gael ei wawdio,
Mae Hywel heddyw 'n feddwyn tlawd,
A phawb yn cilio rhagddo.

'Roedd "Elwy"'n fachgen glana'r wlad
Pan oedd wrth fwrdd y 'Sgweiar,
Yn yfed gwin, i foddio'i dad,
Mae heddyw yn y carchar!
Ca'dd deddf ei wlad awdurdod barn,
I gloi'r carchardy arno,
Gwnaeth ddeddfau sanctaidd Duw yn sarn
Ar hyd ei lwybrau yno.

Un arall oedd o'r cwmni llon,
Fu'n "yfed" y pryd hwnw,
Mewn hen ystafell, dywell, lom,
Yn ymyl "Elwy"'n marw;
Yn marw'n swn rhuadau ofn
Cydwybod wedi deffro,
A chaddug colledigaeth ddofn
Oedd yn amgau am dano.

Y Friallen.
(Y Gerddoriaeth gan R. Drury, Lerpwl.)

CROESAWAF di, friallen dlos,
Ar war y ffos sy'n gwenu,

Wyt megis gwyryf deg ei phryd,
O wydd y byd yn llechu,
Yn nghysgodion gelltydd gwylltion,
A di—ail ydyw dy deleidion;
O! ni liwiodd haul dy loewach,
Ni fedd y palas urddas harddach;
O! cwyd dy ben, flodeuyn byw—
Ni luniodd Duw dy lanach.

Mor wylaidd wyt yn nghlawdd y ddol,
Mor ddwyfol yw dy wenau,
A natur chwardd gan falchder o
Dy wisgo ar ei bronau:
Blaenffrwyth siriol blodau swynol,
A gwenau nwyfus gwanwyn nefol,
Fel teleidion bywiol swynion
Y nef ar aelwyd daearolion,
Sydd yn dy wedd, flodeuyn cu,
Yn denu calon dynion.


The Primrose,
(Cyfieithiad gan R. Drury.)

I WELCOME thee, pale primrose fair,
By brooklet gently gliding,
So like a modest maiden there
From vulgar vision hiding;
Crouching under craggy places,
Peerless are thy gladsome graces,

Of choicest charms thou art the wearer,
Nor radiant sun e'er painted rarer;
O raise thy head in beauteous bloom,
God never fashioned fairer.

How modest art on meadow side,
Or rustic hedgerow growing,
Whilst nature swells with joy and pride,
And love to thee overflowing;
First-fruit thou of fragrant flowers,
Offspring sweet of springtime showers
Heavenly beauties mark thy smiling,
Earthly cares away beguiling,
O! thou dost steal, sweet flow'ret fair
Men's heart with winsome wiling.


Cadeirio'r Bardd.

WELE, Brif-fardd yr Eisteddfod
O'i ymguddfan yn ein gwyddfod,—
Ninau 'n ddifyr gadwn ddefod
Freiniol Cymru lân;
Trwy gadeirio 'r bardd buddugol
Gyda rhwysg a bri gwobrwyol,
Am ei hoenus rym awenol,
Gywir "Fab y gân;"
Dyddan anrhydeddu,
Beirdd ac awen Cymru,
Wnawn mewn hwyl ar ddydd ein gwyl.

Yr egwyl i'w mawrygu,—
Ond yn benaf un dyrchafwn
Fardd y gadair, ef a godwn,
A'i ogoniant ef a ganwn
Heddyw'n ddiwahan.
Daliwn er hudoliaeth—
Unwn heb wahaniaeth,
Yn ddi-frad mewn newydd fri
I noddi awenyddiaeth;
O fywydol Eisteddfodau
Y cwyd arwyr y Cadeiriau—
Dynion wedi twymno 'u doniau
Mewn gwladgarol dân.


Chwifiwn faner Rhyddid Cymru.

CHWIFIWN faner rhyddid Cymru,
Cymru anwyl gwlad y gân,
Y mae'r nefoedd yn edmygu
Cywir sêl gwladgarol dân;
Y mae "Arthur" wedi deffro
Ac yn gloewi mîn ei gledd,
Chwifiwn faner rhyddid Cymru,
Cawn roi gormes yn ei fedd.

Udgorn rhyddid sydd yn seinio
Heddyw yn yr awel rydd,
Seren rhyddid sydd yn fflamio,
Seren gobaith Cymru Fydd."


Chwifiwn faner rhyddid Cymru,
Mynwn Gymru'n Gymru rydd,
Cofir enwau y rhyfelwyr
Gan wladgarwyr "Cymru Fydd;"
Adgyweiriwn ein telynau,
Canwn odlau ein rhyddhad-
Odlau rhyddid grea fywyd
Ar bob aelwyd yn ein gwlad.
Udgorn rhyddid, &c.

Chwifiwn' faner rhyddid Cymru,
Mynwn ormes dan ein traed,
Ein gwroniaid fu'n cysegru,
Daear Cymru gyda'u gwaed;
Ar eu beddau, chwifiwn ninau
Faner rhyddid Cymru fâd,
Safwn fel yr hen Frythoniaid,
Yn wroniaid dros ein gwlad.

Udgorn rhyddid sydd yn seinio
Heddyw yn yr awel rydd,
Seren rhyddid sydd yn fflamio,
Seren gobaith "Cymru Fydd."


Mae'r Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol.

MAE'R Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol,
Ni phlygwn byth mwyach yn wasaidd a ffol;

Os coll'som ein coron, os cwympodd ein Llyw,
Mae gormes yn marw, a Chymru yn fyw;
Mae'r Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol,
A'r nefoedd am godi'r hen wlad yn ei hol.

Fe flinodd y Cymro ar wawd a sarhad,
Fe flinodd yn cwyno dan ormes a brâd;
Mae'i fraich yn gyhyrog. a'i galon fel craig,
Mae'n barod i chwyfio heu faner y ddraig;
Mae'r Cymry, &c.

Mae llwfriaid yn trengu, gwaseiddiwch yn ffoi,
Gwladgarwch y Brython o hyd sy'n crynhoi,
Fel llanw dialedd, i ddial sarhad
Holl fradwyr yr oesoedd ar arwyr fy ngwlad;
Mae'r Cymry, &c.

Os cwympodd y cedyrn, os gweiniwyd y cledd,
Os huna Llywelyn heb faen ar ei fedd;
Mae tân ar hen allor gwladgarwch o hyd,
A chenedl yn codi'n wladgarwyr i gyd;
Mae'r Cymry, &c.

Cymraeg a siaradwn heb ofni sarhad,
Cymraeg yn mhalasau a llysoedd ein gwlad,
Fel gem yn disgleirio bydd Cymru ryw ddydd,
Yn nghoron gwareiddiad yr oesau a fydd.
Mae'r Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol,
A'r nefoedd am godi'r hen wlad yn ei hol.


Y Gadair Wag.

MAE'R gadair yn wag yn ymyl y bwrdd,
Yr hon fu'n ei llanw gymerwyd i ffwrdd,
Mae'r tad yn ei gadair yn bruddaidd ei wedd,
Fel delw o hiraeth ar drothwy ei bedd.

Ei faban amddifad sy'n huno 'n ei gryd,
Rhy ieuanc i wybod am groesau y byd;
A'i dad yn ei siglo gan furmur yn syn
Hwiangerdd ei briod i'w angel bach gwyn.

Gerllaw y mae darlun y fam ar y mur,
A gwres yn ei llygaid cariadus a phur;
Fel pe ba'i ei hysbryd caredig o hyd,
Trwy gyfrwng y darlun yn gwylio y cryd.

Mae'r bwrdd wedi'i hulio dan fendith y nef,
A bachgen a geneth gerllaw iddo ef;
Ond eistedd yn bruddaidd mae'r teulu dinam,
Gan syllu mewn hiraeth ar gadair y fam.

Mae'r eneth fach serchog mewn ufudd fwynhad
Yn ceisio gwneyd pobpeth i foddio ei thad;
Ond gwag yw y gadair a'r aelwyd fach glyd,
Gwag ydyw y bwthyn, a gwag yw y byd.


Ffarwel.

FFARWEL, meddai Hywel wrth adael ei wlad
Ffarwel i hen aelwyd fy mam a fy nhad;
Ffarwel i ymgomio o amgylch y tan,
Ffarwel, Gymru anwyl, gwlad awen a chan;
Ffarwel, mae adgofion dihalog yn hel,
Nes llethu fy nghalon, with sibrwd ffarwel.

Ffarwel, meddai mam wrth ei phlentyn yn brudd,
A'i dagrau fel perlau o serch ar ei grudd;
Ffarwel, fe fu cariad cyn iti roi cam,
Yn cerfio dy ddarlun ar galon dy fam.
Ffarwel, mae adefion, &c.

Ffarwel, meddai tad, a chofia y bydd
Dy enw yn cael ei gyflwyno hob dydd
Wrth orsedd y nefoedd, ar aelwyd dy dad,
A chofia dy Dduw wedi gadael dy wlad.
Ffarwel, mae adgofion, &c.

Ffarwel, meddai rhian brydweddol a phur,
A'i bron yn ymrwygo gan ofid a chur;
Ffarwel, rwy'n dy garu-dy garu yn ffol,
Ffarwel, fy anwylyd, O! brysia yn ol;
Ffarwel, mae adgofion dihalog yn hel,
Nes llethu fy nghalon wrth sibrwd ffarwel.


Y Fronfraith.

FRONFRAITH fwyn, daw mawl yn lli,
Trwy ddail y llwyn, o'th emyn di;
Y mae dy gân,
Aderyn glan,
Yn adfywhau fy nghalon i,
Beth elli fod, ganiedydd hardd,
Ai anwyl fwyn gyfriniol fardd?
Neu ysbryd rhydd yn canu ffraeth
Alawon nef i f' enaid caeth?
Dy fawl yn swyn adfywiol sydd
Ar fore braf i galon brudd;
Foreuol fardd
Y gwanwyn hardd,
Mi hoffwn wybod genyt ti
Beth yw dy neges attaf fi?

Aderyn llon, a wyddost ti
Am chwerw bwys
Gofidiau dwys,
A'r nos sydd yn fy mynwes i?
Gruddfanau enaid unig pell,
Freuddwydia'n syn am fywyd gwell,
Fel blin garcharor wedi'i gloi,
Yn blino 'n byw, yn methu ffoi;
Ei nwydau 'n gaeth, dan ysol gur,
Mewn hiraeth am gael bod yn bur,
Y mae dy gân,
Aderyn glan,

Fel cenad tyner angel llon
Yn deffro gobaith yn fy mron—
Rhyw obaith dystaw am y dydd
Y ca fy enaid fod yn rhydd.

Ond canu, canu 'rwyt o hyd,
'Rwyf inau 'n fud
Rhag deffro 'r byd;
Rho dy gyfrinion i mi i gyd.
A wyddost ti fod calon bardd
Yn caru'r tyner, pur a hardd?
Pob peth o'n hamgylch sydd yn bur
Ac yn ddihalog fel y gwir;
Mae natur mewn tawelwch mud,
'Does neb yn clywed yn y byd,
O! dywed im',
Aderyn chwim,
Gyfrinion pur dy galon iach,
'Rwy'n deall iaith aderyn bach.
Mi gofia'r wers, 'rwyt ti o hyd
Yn iach dy fron.
Yn bur a llon,
Yn canu, canu i wella'r byd,
Ac am dy fod yn bur a glan,
Mae nodau gwynfyd yn dy gân
Yn nghwr y llwyn
Aderyn mwyn,
I gofio am dy hudol swyn,
Yn lleddfu cur fy mynwes i,
'Rwyf inau'n canu cân i ti.

Hyfryd haf.

FE ddaeth yr hafddydd llon,
Mae'r awel yn adfywiol,
Blagura rhos, mae anian dlôs
Mewn gwisgoedd priodasol:
Mae prudd-der wedi ffoi,
Llawenydd yn teyrnasu,
Mae'r goedwig werdd yn fwy o gerdd,
A'r blodeu glan yn gwenu.

Yr henwr sydd yn llon,
A theimla'n ieuanc eto;
Dan wenau haf, fe deimla'r claf
Ei galon yn adfywio.
Mae'r plant yn chwareu'n llon
Wrth gasglu blodau gwylltion;
A'r feinir lan yn canu cân
Wrth odro'r gwartheg blithion.

Y bechgyn ieuainc sydd
Yn taflu eu gwasgodau,
Yn foreu iawn eu gweled gawn
Yn hogi eu pladuriau;
Ac yna'n myn'd yn rhes—
Yr hwsmon yn blaenori—
Os poeth yr hin, rhaid chwysu'n flin
Os na bydd min i dori.


I droi a thrin y gwair,
Fe ddaw 'r inorwynion siriol,
Yn lanwedd braf, mewn hetiau haf,
Ac am y fwyaf doniol;
A'r plant ar hyd y ddol
Yn rhedeg ac ymdreiglo,
Gloynod byw, bob llun a lliw,
O gylch eu penau'n gwibio.

Ac os daw gwlaw i roi
Atalfa ar y gweithio,
Gall pawb fwynhau rhyw ddydd neu ddau
O hamdden i orphwyso.
Ar ol y gawod wlaw,
Adfywia gwrid y blodau;
A natur chwardd, fel gwyryf hardd,
Wrth edrych ar ei thlysau.

Daw'r haul ar ol y gwlaw
I loewi gwrid y blodau;
Daw heulwen gu, 'rol tywydd du,
I loewi'n bywyd ninau.
Pe byddai'n haul o hyd,
Fe wywai'r blodau tlysion;
A phe ca'i dyn ei ffordd ei hun,
Fe wywai ei brydferthion.

Hywel ac Olwen.

ROEDD hen elyniaeth oesau'n ol
Rhwng teulu'r Bryn a'r Hafod,
A'r ddau hen deulu ddaliai'n ffol
I chwythu tan anghydfod:
Ac aer y Bryn, sef Hwyel Wyn,
Ac Olwen, merch yr Hafod,
Dyfasant yn elynion tyn
Fel mater o gydwybod.

Bugeiliai Hywel braidd ei dad
Ar lethrau mynydd Berwyn;
Mewn llon fwynhad, äi Olwen fad
I gasglu blodau gwanwyn:
Rhag iddi gwrdd a Hywel Wyn
Ymguddiai'r eneth lawen,
A dringodd Hywel lawer bryn
Rhag iddo gwrdd ag Olwen.

Oud rywsut, drwy ddamweiniol drefn,
Cyfarfu 'r ddau yn sydyn,
Edrychodd Hywel wysg ei gefn,
Edrychodd Olwen wed'yn;
A sefyll wnaeth y bachgen iach
Fel un yn methu symud,
Ac wedi cychwyn tipyn bach
Fe safodd Olwen hefyd.

Nos dranoeth ddaeth, a Hywel aeth
Am dro i'r llanerch dawel,

Ac yn ddamweiniol (?) Olwen ddaeth
I edrych welai Hywel;
Fe wridodd Olwen fel y rhos,
A gwridodd Hywel wed'yn,
Wrth edrych ar yr eneth dlos
A'i gruddiau fel y rhosyn.

'Roedd Hywel. Wyn yn ngwydd y ferch
A'i ddawn yn bur aniben,
Ond medrodd cariad siarad serch
Trwy gyfrwng llygaid Olwen;
Hi welodd dân edmygedd gwir
Yn gloewi gwrid y bachgen,
A gwelodd Hywel gariad pur
Yn gloewi llygaid Olwen.

Bugeiliai Hywel braidd ei dad
Ar lethrau mynydd Berwyn,
Mewn llon fwynhad äi Olwen fad
I gasglu blodau gwanwyn;
Mewn dirgel fan yn nghwr y rhos
'Roedd eu paradwys newydd,
Ac Olwen dlos ar fin y nos
Ddiangai yno beunydd.

Wrth weini ar y mab a'r ferch
Gelyniaeth a fu farw,
Yn aberth ar hen allor serch
Y llosgwyd ef yn lludw;
A rhoed ei lwch oddiar y tan
Yn meddrod annghof bythol,
Y dydd y gwisgodd Olwen lan
Y fodrwy briodasol.


Rhosynau Mai.

RHOSYNAU Mai, mor deg eu pryd,
Dewisol fyd o flodau,
A gwlith y nef fel gemau prid
Yn gloewi gwrid eu gruddiau;
Gwylaidd wenant ar eu gilydd
Wrth ymolchi yn ngwlith y meusydd
Haul y boreu sych eu gruddiau,
Ac arno weithian gwenant hwythau,
Yn nghol y berth clan goron bri
Mewn awyr ddigymylau.

Rhosynau Mai wisg fryn a phant
A nwyfiant bywyd nefol,
A leddfant ofid byd o gur,
A'u gwenau pur ysbrydol;
Peraidd sawyr blodau purlan
Eneinia dyner fynwes anian,
Chwardd y bronydd ar y bryniau
O dan eu hudol addurniadau,
Nes synu byd a swyno beirdd
I foli heirdd rosynau.

Rhosynau Mai sydd i fy mron
Fel cwmni llon angylion,
A gwelaf deg ogoniant Duw
Yn ngwenau'r byw deleidion;
A'r wenynen fechan felen,
O dan haul hafaidd yn ei helfen,

Ddaw i gasglu mel i'w diliau
Ar ddwyfoledig iraidd flodau,
Gan ddiolch mewn murmurol gan
Am swynol lan rosynau.

Rhosynau Mai, addurna rhain
Goronbleth gain y flwyddyn,
A thlysach na holl berlau drud
Coronau'r byd yw rhosyn:
Yn nhawelwch gwylltedd unig.
A'i wên hyfrydol iselfrydig,
A'r gloynod byw a wibiant
Oros i ros, ac a'u cusanant,
Fel engyl chwim mewn nwyfiant chwai,
Rhosynau Mai addolant.

Rhosynau Mai, arluniau mad
O nefol wlad tlysineb,
A'i lluoedd saint mewn nwyfiant llon,
Teleidion tragwyddoldeb;
Gwlad heb auaf, nos, na gwywdeb,
I wywo blodau anfarwoldeb,
Lle mae gemau'r Iawn yn gwenu
Fel blodau glan yn nghoron Iesu,
A Haul Cyfiawnder dwyfol mwy
Byth arnynt hwy yn gwenu.


Cwyn y bardd am Feirion.
(Penillion Telyn.)

YN iach i chwerw boen a chur
A llafur yn Llynlleifiad,
Ymado wnaf cyn myn'd yn hen—
Mae'r awen ar ddirywiad;
Meirionydd lán yw'r fan i fyw,
Meirionydd yw fy nghariad."

Yn iach i dref y niwl a'r mwg,
A mwllwg sydd yn mallu
Pob deilen werdd, a cherdd a chân,
A diddan hwyl prydyddu:
Mi hoffwn fyn'd o le fel hyn,
I Feirion cyn y foru.

'Rwyf wedi blino ar fy myd
Dan benyd yma beunydd,
Nid am y byd y mae fy serch
Ond am ryw lanerch lonydd,
Yn nghanol gwlad mewn awyr glir
Ar fryniau Sir Feirionydd.

Hiraethu mae yr awen flin
Am rywle 'n min y mynydd,
A than a bwyd mewn bwthyn bach
Yn mryniau iach Meirionydd;
O swn y byd, mi weuwn bill,
Mi ganwn benill beunydd.


Ar lan Tryweryn rhodio'n rhydd,
A wnawn heb brudd ofalon,
Gan wylio'r byw frithylliaid man
Yn nyfroedd glån yr afon;
A chor y llwyn uwch rhu y lli
Yn moli ar ei hymylon.
Ar fin y Llyn y safai llys,—
Cariadus lys Ceridwen;
Ond cwympo allan wnaeth y plant,—
Cwympasant yn y fargen
I ddwr y Llyn, wrth setlo'r ffrae,
Ac yno mae yr awen.


Cadw dy afraid erbyn dy raid.

TI, laslanc gwamal, main dy lun,
Diatal, sy'n diota,
Wrth geisio gwneyd dy hun yn ddyn,
Ti wnei dy hun yn epa;
Os wyt am enill parch a chlod,
Bydd gynil o dy arian,
A phaid a dangos byth dy fod
Yn frawd i "Evan Benwan".—
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."


Mae Gwen yn ceisio denu ei dyn,
Ac mae ei llun yn weddus,
Ond fel mae gwisgoedd coeg y fun
Yn gwneyd y dyn yn ofnus;
Mae'n ofni fod ei eneth wen
Mewn dyled yn y siopau,
Ac ofna nad wyt tithau, Gwen,
Yn gymaint gwerth a'r biliau—
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."

Mae llawer llanc, yn more'i oes,
Yn gwario'i nerth yn ofer,
Mewn ymarferion sydd yn groes
I ddeddfau moes a chryfder;
Rho bris ar iechyd, gyfaill hyf,
Ni phrynir ef ag arian,
A chofia'n awr, tra 'r wyt yn chwim,
"Ddaw henaint ddim ei hunan;"
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."

Daeth ffarmwr llwm ar ol ei daid
Yn berchen cyfoeth lawer,
Ac mae er hyny yn ddibaid
Yn gwario'i aur yn ofer;
Ar air o gyngor gwrando, frawd,
Rhag iti gael dy siomi,
"Yn ngenau'r sach cynila'r blawd,"
Cyn myn'd yn dlawd mae sobri;
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."


Ci y Bugail.

ER cof am Cymro, Cymro'r ci,
O uchel waed ac uchel fri;
Ei achau sydd ry faith i mi
I'w rhoi i lawr yn daclus;
'Roedd ef yn wyr i Mot Bryn Rhudd,
A nai i Pero Ty'nyffridd,—
Cwn anghyffredin yn eu dydd
Am drin y defaid barus.

A chadwai Cymro, fel ci call,
Urddasol fri ei hil heb wall,
'Roedd ei ffyddlondeb yn ddiball,
'Roedd hefyd wedi graddio,
Ac enill ei M. A. er's tro,
Ni phasiodd 'run yn uwch na fo,
Ac fe edrychai cwn y fro,
I fynu dipyn arno.

'Roedd Cymro hefyd, fel ei daid,
Yn ben ymladdwr pan fa'i rhaid,
A llawer gwaith cymerodd blaid
Y gwanaf mewn ymrafel;
Ond ni fu'n euog yn ei oes
O ddechreu ffrae na chweryl croes,
'Roedd wedi dysgu deddfau moes,
Ac hefyd yn eu harddel.

'Roedd yn ddarllenwr meddwl gwych,
A gall'sai y frawdoliaeth sych
Gael gwers neu ddwy er maint eu clych,
Gan y creadur gwirion;
Os iach ac ysgafn fyddai 'mron,
Fe fyddai llygaid Cymro'n llon-
'Roedd yn adnabod swn pob ton,
A lifai dros fy nghalon.

Ond fe fu farw, er ei fri,
Yn llawn deng mlwydd, sef canmlwydd ci,
A chollais inau ddagrau'n lli,
O hiraeth wrth ei briddo;
Ac mi fum ganwaith wedi hyn,
Ar donau oes mewn breuddwyd syn,
Yn rhyw ail fyw boreuddydd gwyn
Fy mywyd gyda Cymro.


Gwen, a Gwen arall.

I welais lawer lili wen
Cyn gweled Gwen yr Hafod,
Ond nid oedd harddach Gwen a'i swyn,
Gan 'run o'r mwyn rianod;
Pan y gwelais Gwen, gwirionais
O dan ei swynion, ac mi deimlais.

Nwyf gariadlon gwyllt ysbrydion,
Yn awen ferwol dan fy nwyfron;
Ond methwn ddweyd wrth Gweno lân,
A llosgai'r tân fy nghalon.

Bum am flynyddau'n caru Gwen
Heb weled 'run wen arall,
Ei charu'n aml, a'i charu'n hir,
A methu'n glir a'i deall:
Daeth un arall fedrai siarad
Iaith ei galon, i ddwyn fy nghariad,
Hoffodd hithau ei gymdeithas,
Yn fuan llwyddodd arddull addas;
Ac er fod hyny'n ddigon cas,
Bum inau'n was priodas.

Ond foreu dydd priodas Gwen,
Mi gwrddais Wen anwylach,
Os nad yw hon mor lân ei grudd,
Ei chalon sydd yn lanach:
Nid wy'n cwyno colli hono,
Mae'r llall yn fwynach, gwenach Gweno,
Wedi ingoedd cariad anghall,
A siom, mi ddeuais ine i ddeall
Mai gwell i ddyn, na mygu'r fflam
Yw chwilio am un arall.


Teulu'r Glep.

OSODWYD fy nhrigfod yn mhentref anghydfod
Ac felly 'rwy nabod y teulu yn dda,
Yn llety cenfigen dan nawdd Modryb Modlen
Y cwrddant yn llawen drwy'r gauaf a'r ha',
A charia'r hil glepiog eu chwedlau celwyddog
Yn gyson a selog i Modlen bob dydd,
Ac fe ddaw y diafol i'r cwrdd yn bersonol,
I'w gwneyd yn fwy gwrol i siarad yn rhydd.

Un fudr aflawen a diog yw Modlen,
Yn nod ar ei thalcen mae malais a brad,
Mae'n ddrych o anwiredd, a'i gwallt am ei danedd
Yn bwrw llysnafedd ar bawb yn y wlad;
Mae begws Ty Pella, a Sian y Pen Isa,
A merch y Ty Nesa bob amser wrth law,
Ac os bydd ystraeon celwyddog yn brinion
Bydd Modlen yn anfon am Shoned Ty Draw

Ac wedy'n y Cwmni ddechreua ymloni,
A Modlen yn porthi wrth dywallt y te,
Dylifa ystraeon-datguddir dirgelion,
A theimla pob calon yn awr yn ei lle;
Ond tystiant yn unol mai peth anymunol,
Yw siarad am bobol-er hyny fod si,
Fod merch Dafydd Evan yn hwnw iawn 'rwan,
A'i chariad mewn ffwdan yn myn'd ar ei spri.


Mae un o'u cymdogion yn fawr ei ddyledion,
Ac mac ei feich'afon heb ddim yn y banc;
A siarad go ddigri am wraig Mosus Pari
A Mosus yn poeni na fuasai'n hen lanc;
A rhai o'r pregethwyr sy'n llwyrymwrthodwyr
Wrth fyw 'n gymedrolwyr yn myned yn fras,
Aelodau Eglwysi o'r ardal yn meddwi,
A Methodus wedi cael cwymp oddiwrth ras.

A diwedd pob stori fydd peidiwch a f' enwi,
Ac os ewch i holi y "Nhw" fydd yn dweyd,
Bydd gan bob un newydd am rywun mewn aflwydd,
Ac os bydd yn gelwydd y "Nhw" fu'n ei wneud;
A chyn ymwahanu bydd Modlen yn trefnu—
Ac yn eu tynghedu yn enw eu tad,
I daenu'r ystraeon yn ddiwyd a ffyddlon
Yn mysg y trigolion dros wyneb y wlad.

Fe fethodd cyfreithwyr a deuddeg o reithwyr
O brofiad a synwyr gael Modlen i'r rhwyd,
A barnai y blaenor ei bod yn ysgolor
Uwchlaw i Belphegor mewn dichell a nwyd ;
Ond Modlen o'i hanfodd o'r diwedd a drengodd,
A'r clochydd a'i priddodd yn mynwent y Llan,
A dywed rhai ofnog fod ysbryd tafodog
Byth wedy'n yn marchog o amgylch y fan.


Er Cof am Elin Davies.
Gynt o'r Ceunant Isaf, Waen y Bala, yr hon a fu
farw yn Plainfield Centre, N. Y.,
yn 90 mlwydd oed.

Hi ddewisodd nawdd Iesu,—fore'i hoes;
Ei fawrhau a'i garu
Y bu hon heb wahanu;
I lan y bedd ffyddlawn bu.


DROS y mor yn nhir Amerig
Cysegredig yw ei bedd,
Huna 'n rhwymyn y cyfamod
Nes daw diwrnod newid gwedd;
Deffry serch adgofion cynes
Yn fy mynwes brudd am hon;
Mewn estronol wlad bellenig,
Mae ei holaf anedd unig,
Ond angylion yn garedig
Wylia 'i beddrod dros y don.

Wrth ei chofio, i fy nghalon
Daw adgofion llawn o swyn,
Nes cynhyrfu'm serch, a'i enill
I wneyd penill er ei mwyn;
Hoffwn fyn'd i'r ardd i'w chanlyn
Pan yn blentyn nwyfus llon,

'Roedd y gwenyn yn ei 'nabod,
Llechwn inau yn ei chysgod;
Rhowch flodeuglwm serch yn gofnod
Ar ei beddrod dros y don.

Arni curodd 'stormydd amser,
Ofn a phryder byd di—hedd,
Ond ni threiddia adlais 'stormydd
I ddystawrwydd dwfn ei bedd;
Dros y don i aros angau,
Aeth mewn henaint o tan bwysau
Chwerwon amgylchiadau croes:
Daeth ystorom heb ei dysgwyl,
A'i gobeithion aeth dan gymyl,
Cefnodd ar ei chartref anwyl,
Adeg noswyl—ddiwedd oes.

Tawel huned nes daw boreu
Agor "dorau beddau'r byd,"
Pan y cesglir gwaredigion
Dedwydd Sion oll ynghyd;
Carodd enw ei Gwaredwr,
Pwysodd ar ei Phrynwr byw.
Pan ddaw boreu yr adferiad,
Cofio'i llwch a wna ei Cheidwad,
Ac i'w hunig fedd amddifad
Treiddia galwad Udgorn Duw.

May,
Geneth fechan Mr. a Mrs. Evans, 'Seren' Office, Bala.

YN gynar iawn gadawodd May
Deganau plentyn bach,
A thelyn aur ga'dd yn eu lle,
Mewn bythol fywyd iach:
Cyn teimlo min gofidiau cudd,
Ca'dd fyn'd yn more'i hoes,
A blodau gwanwyn ar ei grudd
I ganu am waed y groes.

Gofalodd "Iesu tyner" am
Y fechau yn y lli,
Ac aeth a chalon tad a mam
I'r Nefoedd gyda hi;
Ni chuddiodd bedd mo dlysach hon,
Ac ni cha'dd Cor y Nef
Yr un gantores fach fwy llon
I chwyddo'r anthem gref.

Rhyw brudd fwynhad i'w mham a'i thad
Fydd myned gyda'r plant,
I weled bedd eu geneth fad
I fynwent "Elltyd Sant;"
Cant dywallt dagrau serch yn syn
I ysgafnhau eu cur,
A rhoddi blodau hafddydd gwyn
Ar fedd prydferthwch pur.


Cyn i ofidiau marwol fyd
Lychwino 'i grudd erioed,
Gadawodd ei flinderau 'i gyd,
Cyn cyrhaedd pum' mlwydd oed;
Gorweddodd, hunodd yn ddifraw
Yn mreichiau angau trist,
Deffrodd, a thelyn yn ei llaw,
Yn mreichiau Iesu Grist.


Ellen Gwen
Geneth fechan Mr. a Mrs. R. Evans, Saer, High Street, Bala.

ROEDD Ellen Gwen
Fel rhyw ddymunol rosyn iach,
Flagurodd am ryw enyd fach;
Rhy debyg oedd i dlysni pur
I ddal awelon oerion cur;
A gwywo wnaeth cyn dwy flwydd oed,
Cyn dysgu iaith y byd erioed:
Rhyw angel mwyn anfonodd Ef,
Ar frys i'w dwyn.
I ddysgu siarad iaith y Nef.

Rieni prudd,
Ni roed eich geneth fach i chwi
I'w mhagu, ond i'w charu hi

Am dymor byr, a chariad byw,—
Ac yna 'i rhoddi 'n ol i Dduw,
A'i gwisg yn lan, yn deg ei phryd,
Mor bur a'r diwrnod daeth i'r byd;
I'ch swyno rhoed, angylaidd wedd,
Na wybu 'rioed,
Fod pechod yn y byd, na bedd.

Y fechan dlos,
Yn gynar aeth mewn tawel hedd,
O'ch blaenau i gynesu'r bedd,
A chodi 'ch hysbryd uwch law'r byd
I feddwl am y Nef o hyd;
Pan groeswch chwithau yn y man
Bydd yn eich disgwyl ar y lan;
Estyna hi ei llaw fach wen,
I'ch derbyn chwi,
A choron bywyd ar ei phen.

Heb oleu ffydd,
Anhawdd i ni fawrhau y fraint
O fagu plant i fod yn saint,
A myna serch ymdroi yn syn
Uwch ben eu bedd, yn niwl y glyn;
Ond daw goleuni dwyfol wawr
Cyn hir i chwalu 'r cymyl mawr;
Mae Ellen fach, rieni trist,
Mewn gwynfyd iach,
Yn berl yn nghoron Iesu Grist.


Lizzie Ellen.
merch fach Robert ac Elizabeth Jones, Tynant, Celyn.

I WYN haf, hoen nefol,—Iesu alwodd,
Lizzie Ellen siriol;
I fyw'n iach, heb fai na'i ol,
Ar ei gwedd yn dragwyddol.

Aeth Lizzie Ellen cyn naw oed,
O fyd o boen,
I fythol hoen;
Un dyner oedd, garuaidd hardd,
A dedwydd megis breuddwyd bardd;
'Roedd pawb yn hoffi cwmni hon,
A'i chwmni a wnai bawb yn llon;
Dan ganu o hyd,
Hi aeth trwy'r byd,
Hi ganodd fel rhyw eos fwyn,
Hyd nes daeth angau i dori'r swyn.

'Roedd yn ei llais gyfriniol swyn,
Tynerwch llon,
Dihalog fron,
A throai'n llon alawon lleddf—
Ni chlywodd swn taranau deddf,
Yn deffro nodau dyfnion cur,
Erioed o fewn ei mynwes bur;
Bu fyw mewn hedd,
Ac aeth i'r bedd,
Fel tyner, wylaidd, lili wen,
A choron harddwch ar ei phen.


Aeth plant yr ysgol, dyrfa hardd,
Ond prudd eu gwedd,
I gychwyn Lizzie fach i'r bedd;
A threiglodd gloewon ddagrau prudd
Dros ruddiau gloewon fel y dydd,
Wrth gychwyn yr enethig gain,
I dawel fedd ei thaid a'i nhain;
Ei hargel fan,
Yn llwch y Llan,
Enyna gofion serch yn fflam
Yn nghalon gynes tad a mam.

Hi ganodd lawer yn y byd,
O fawl i Dduw,
Yn odlau byw,
Canu i "roddwr pob daioni,"
Brenin nef, a thad goleuni,"
Aeth yn ddiofn,
Trwy'r afon ddofn,
Ac ar y lan yr ochr draw
Rhoed telyn bywyd yn ei llaw;
'Roedd swn cyfriniol gwynfyd iach
Yn llais melodaidd Lizzie fach:
Pan yma'n canu gyda'r plant,
Tarawai nodau telyn sant,
Dan ganu o hyd,
Hi aeth trwy'r byd,
Ond mwyach, cana uwchlaw poen,
Gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen.

Er Cof am David,
Anwyl blentyn Mr. a Mrs. Edwards, Pantffa, Llwyngwril.

GWYWODD David cyn ymagor,
Gwywodd pan yn ddeuddeg oed,
Fel blodeuyn ieuanc siriol
Cyn difwyno 'i wisg erioed;
Blwyddi chware, chware a dysgu,
Fu ei dymor ar ei hyd ;
Pan oedd duwies lan gwybodaeth
Iddo'n dangos ei chyfriniaeth,
Chwythodd awel oer marwolaeth
Arno,—cefnodd ar y byd.

'Roedd addewid bywyd buddiol
Yn ei fywyd ieuanc ef,
Deall cyflym, byw angerddol,
A naturiol dalent gref;
'Roedd wrth natur yn garedig,
Meddai galon serchog, iach,
A phlant bychain oedd yn hoffi
Bod yn wastad yn ei gwmni,
Hoffai yntau gael sirioli
Calon dyner plentyn bach.

Gyda'i gyllell medrai gerfio
Cyn ei fod yn ddeuddeg oed,
Pren afluniaidd dan ei ddwylaw
Droai yn degan tlysa 'rioed;

Gwenodd siriol haulwen gobaith
Arno foreu bywyd gwyn:
Cafodd drem ar hanes Cymru,
Gwelodd ddigon i fawrygu
Ei gwroniaid, ac i'w caru,
Gyda rhyw edmygedd syn.

Ond pan oedd gobeithion bywyd
Yn ymagor fel y rhos,
Gwywodd ef—gwywasant hwythau,
Mewn angenol bruldaidd nos;
Fel y gragen ar y glanau
Yn adseini swn y tonau,
Felly yr adseiniai yntau
Dyner nodau gwlad sydd well.

Llinellau
Er cof am Alice Ann, merch Mrs. C. Pugh, Mount Street, Bala.

YR oedd prydferthwch gwanwyn gwyrdd
Yn gwenu ar y wlad,
Ac ymagorai blodau fyrdd,
Pan wywodd Alice fad;
Blodenyn oedd hithau, un o'r rhai
Prydfertha fu erioed,
Ond gwywo wnaeth dan wenau Mai,
Yn unarbymtheg oed.


Fel y blodeuyn, un dyner bur
Oedd hi, a theg ei phryd,
Rhy dyner i ddal pwysau cur
A gofid yn y byd;
Ac yn hen fynwent Cil-y-Llyn,
Ar ddechreu Mai fe'i rhoed,
Yn nghanol Mai ei bywyd gwyn,
Yn unarbymtheg oed.

Fe wylia'r bruddaidd ywen werdd
Orweddle Alice Ann,
A sua'r awel alargerdd
Wylofus uwch y fan;
Hi gwyd o'r bedd ar ddiwedd byd
Yn dlysach nac erioed,
Caiff dragwyddoldeb ar ei hyd,
Yn unarbymtheg oed.

Yn myw yni Mai ei heinioes,—Alice
Gadd olud pur eiloes;
Iach dawelwch uwch du-loes,
Yn y nef yn ngwanwyn oes.


Addfwyn Iesu.

ADDFWYN Iesu, 'rwyf yn plygu
Fel yr ydwyf wrth dy draed,
Ac yn gofyn am faddeuant
Cyflawn yn dy ddwyfol waed;

Gwrando weddi'r edifeiriol
Ar y llawr, Waredwr hael,
Cofia'r addewidion mawrion
Roddaist i bechadur gwael.

Addfwyn Iesu, cofia'r taliad,
Cofia'r iawn anfeidrol ddrud,
Mor angerddol oedd dy gariad
Ataf pan yn prynu'r byd;
'Rwyf yn euog, ac yn ofni
Heddyw yn y dyfnder mawr,
Geidwad dyn, ti elli godi'r
"Eiddil yn goncwerwr mawr."

Addfwyn Iesu, rho oleuni,
Chwal y niwl sy'n cuddio'r nen,
Dangos di dy haeddiant i mi,
Brysia ddod i rwygo'r llen;
Rho gydwybod wedi i chlirio
A'i thawelu yn dy waed,
Yn y dyfnder gad i'm deimlo
Craig yr Oesoedd dan fy nhraed.

Addfwyn Iesu, 'rwyf yn teimlo
Grym dy addewidion drud.
Dal fy enaid byth heb sigio—
Aros gyda fi o hyd;
Paid am gadael, addfwyn Iesu,
'N unig mewn tywyllwch mawr,
Dwg fy enaid i oleuni,
Pur oleuni dwyfol wawr.


"Cofia Fi,"

COFIA fi, Waredwr tyner,
Anwadalwch wyf i gyd,
Torais addunedau lawer,
Ac yndd'rysais yn y byd;
Am fy natur gweuais rwydau,
Rhwydau'n gryfach, gryfach aeth,
Nes maent heddyw yn gadwynau
Tynion am fy enaid caeth.

Cofia fi, cyn i drugaredd
Gau agorfa diangfeydd,
Ac i gyfiawn law dialedd
Agor drysau dychrynfeydd;
Cyn im' disgyn i dywyllwch
Pydew dwfn anobaith tlawd,
Lle syrth dagrau edifeirwch
Ar allorau tanllyd gwawd.

Cofia fi, cyn imi groesi
Llinell dy amynedd mâd,
Cyn i edifeirwch golli'r
Ffordd at orsedd cyfiawnhad;
Cyn i ddwyfol bur gymhellion
roi yn ddamnedigaeth drom,
Ac i flodau fy ngobeithion
Drenga ar allorau siom.

Cofia fi, mae'r mellt yn gwibio,
Cymyl barn yn duo'r nen,

A tharanau deddf yn rhuo
Eu melldithion uwch fy mhen;
Grym fy nwydau dilywodraeth
Sy'n fy ngwthio gyda'r lli,
Cyn i ddylif colledigaeth
Gau am danaf, cofia fi.

Cofia fi, Waredwr tirion,
Dryllia fy nghadwynau prudd,
Blinodd f'enaid yn y cyffion,
Gad im' deimlo mod i'n rhydd;
Cwpan damnedigaeth chwerw
Ar Galfaria yfaist Di,
Gwisgaist goron gwawd wrth farw,
I fy nghadw, cofia fi.

[Teg yw i mi wneyd ymddiheuriad i Rhydfab am ddefnyddio rhai o'i gydmariaethau cryfion, a'u troi yn nes adref na'r lleidr ar y groes."—G.]


Gorseddfainc y Gras.

AN fyddo'r cymyl du
Yn crogi uwch fy mhen,
Profedigaethau lu
Fel niwl yn cuddio'r nen,
Fe gilia'r niwl, daw awyr las,
I'r golwg wrth orseddfainc gras.

Pan f'o temtasiwn gref
Yn pwyso ar f'enaid gwan,
Mae ei orseddfainc Ef,
Yn f' ymyl yn mhob man;
Fe drefnwyd imi fan i droi,
Lle rhaid i bob temtasiwn ffoi.

Pan ddygir ger fy mron,
Gan Satan feiau f'oes,
Af at yr orsedd hon
Yn haeddiant gwaed y groes;
Mae gan fy Nuw ei ddwyfol drefn,
I'w taflu oll tu ol i'w gefn.

Fe gofia'r byd fy mai,
Gan edliw'm troion chwith,
Ond llauw gras heb drai,
Sydd wrth yr orsedd byth;
O! fendigedig orsedd Ior,
Lle mac trugaredd fel y môr.

Pan fyddaf ambell awr
Mewn hiraeth am y nef,
Yn meddwl pa mor fawr
Yw ei ogoniant Ef,
Fe gwyd fy Arglwydd gwr y llen
Pan blygaf wrth ei orsedd wen.

Mi nesaf eto'n nes
At orsedd gras y nef,
Caf yma deimlo gwres
Ei ddwyfol gariad Ef
Caf ddadleu f'achos ger ei fron;
O flaen y drugareddfa hon.


Tri Darlun.

Beth yw'r ddaear? Planed hyfryd,
Rhan o greadigaeth Duw,
Man ar drothwy tragwyddolfyd,
Lle mae dyn yn dechreu byw,
Byw i hau'r hyn fydd i'w fedi
Yn mhen oesoedd wedi hyn,
Ac wrth fyw yn ymddadblygu'n
Ellyll du, neu'n angel gwyn.

Beth yw uffern? Lle i gydwybod
Edliw 'r holl rybuddion roes,
Man i ddyn gael ail gyfarfod
Gyda holl bechodau 'i oes;
Rhyw dragwyddol ychwanegiad
O'r anuwiol, farwol haint,
Carchar Duw i roi gwallgofiaid
Moesol, oddiar ffordd ei saint.

Beth yw'r nefoedd? Lle i feddwl
Dyn ymagor byth, a byw,
Byw heb bechod nac un cwmwl
Yn cysgodi gorsedd Duw;
Gwlad i enaid ymddadblygu,—
Gyda meddwl pur, di-len,
Yn tragwyddol ymeangu
Yn ngoleuni'r Orsedd wen.


Ymson Enaid.

PECHADUR wyf, a'm beiau mawr,
Yn ofid dirfawr im';
Dan bwysau temtasiynau lu,
Yn methu sefyll dim.

Yn ngafel temtasiynau certh,
Fy nerth sy'n myn'd yn llai;
Gruddfana enaid tanllyd iawn
Mewn corff sy'n llawn o fai.

Pan ddaw rhyw angel ambell waith,
I sibrwd gobaith ffydd,
Ar fryniau aur trugaredd rad,
Mi welaf doriad dydd.

Uwch law y niwl a'r 'stormydd certh,
Mi welaf brydferth wawr;
O don i don, 'rwyn d'od yn nes,
I'th fynwes Iesu mawr.


Aelwyd y Meddwyn.

DARLLAWYDD parchus, goludog, a chlyd,
Gad aelwyd gysurus dy balas drud,
A mi a'th arweiniaf, gribddeiliwr call,
I weled aelwyd y meddwyn dall;
A chymer i'th ganlyn dy deulu urddasol
I weled effeithiau dy fasnach ddinystriol,

Lle mae plant newynog a chefnau noethion,
A delw marwolaeth ar eu gruddiau llwydion:
Diflana dy urddas, ddarllawydd parchedig,
Yn ngolwg adfeilion eu cartref damniedig.

Gwahoddaf dithau, gymedrolwr call,
I wel'd yr aelwyd hou, rhag ofn y gall
Dy aelwyd di, sydd heddyw'n aelwyd lon,
Fod cyn pen hir, 'run fath a'r aelwyd hon;
Bu'r aelwyd yma unwaith, gyfaill glan,
Yn gartref serch, a chariad pur a chân;
Bu'r meddwyn hwn, un waith lawn cystal dyn
I'w wraig a'i blant, ag ydwyt ti dy hun;
Ond wrth ymarfer yfed gwydryn bach,
Yn nghwmni cyfaill, neu pan ddim yn iach,
Fe dyfodd blys, ar halog allor chwant—
Aberthodd ef ei hun, ei wraig a'i blant.

Nid oes yn awr, ar yr hen aelwyd erch,
Yn aros ddim, ond cariad rhyfedd merch,—
Mae cariad hon, fel gloew seren dlos,
Yn aros ar derfynau prudd tragwyddol nos;
Ond Ow! mae hithau fu mor deg ei grudd,
Yn rhyw ddelw syn o anobaith prudd,
Ar wely gwellt, ar yr aelwyd oer;
Gorwedda ei baban yn welw oer;
A sylla hithau mewn breuddwyd syn
Ar wyneb angylaidd ei baban gwyn,
A gwenodd y bychan yn ei gwyneb gwelw,
A chauodd ei lygaid, yn dawel, i farw
Yn nghwmni angylion esgynodd y plentyn
I fynwes yr IESU, O AELWYD Y MEDDWYN.


Mae'n haner nos! hen gloc y dref
Sy'n taraw 'r nodau trymion;
A threiddia 'r swn trwy wynt y nef
Fel trydan dwfn ysbrydion;
A'r swn ä fel picellau erch
Trwy galon merch siomedig,
A chorff ei baban wasga 'n nes
I'w mynwes ddychrynedig.

Druenus fam, ar aelwyd oer,
Yn disgwyl am ei phriod,
Disgwylia glywed swn ei droed,
Ac ofna iddo ddyfod;
Am rad all ddisgwyl, pan y daw,
Ond cabledd a bygythion;
Ac yn eu cwsg, ei thyner blant
Freuddwydiant am felldithion.

Mae dod! mae'n dod at ddrws y ty,
Yn feddw'n nghwmni meddwon,
A rhuthra i fewn i wydd ei wraig
Yn swn rhegfeydd a llwon:
Uwch gwelw gorff ei faban gwyw
Fe gabla Dduw heb ofni!
O! aelwyd brudd, hen gartref serch,
Yn drigfan erch trueni.

Ei briod grynedig, wywedig ei gwedd,
Iliraetha, weddia, am gysgod y bedd;
A'r plant a ymguddiant o olwg eu tad,
Fel pe byddai yn ellyll uffernol ei frad:

A thyfant i fyny heb wybod beth yw,
Llawenydd, na gobaith, nac addysg, na Duw: .
Rhyw anaf diddiwedd, a nos, hirnos oer,
Sy' ar AELWYD Y MEDDWYN, heb seren na lloer:
Ymgauodd anobaith o amgylch y fan
Yn fôr o drueni, heb ynys na glan.

Ddirwestwyr parchedig, pain sefwch yn syn,
A mudion, yn ngolwg aelwydydd fel hyn?
Goleuwch y ganwyll, ysgubwch y ty,
Mae darnau o arian o'ch amgylch yn llu;
A chofiwch fod argraff a delw eich Duw
Ar enaid y meddwyn aflanaf yn fyw:
Chwi foneddigesau, rhai diwyll a hardd,
Sy'n hoffi dychnygion gwyllt Dante y bardd,
Rhowch heibio y llyfr,rhowch heibio eich hurddas
Mae AELWYD Y MEDDWYN yn ymyl eich palas:
Heb gymorth 'run bardd i roi lliw ar y darlun,
Cewch drem ar inferno ar Aelwyd y Meddwyn.


Ymson y meddwyn ar lan y bedd.

RWY'N cofio fy mhriod yn wyryf dlos,
A'i mynwes yn llawn gobeithion,
'Rwy'n cofio ei harwain at allor serch,
Gan addaw ei charu'n ffyddlon;
Yr wy'n cofio fy nghartref dedwydd llon,
A fy mhlant a'u llygaid gloewon,
Yn chwareu o fy amgylch ar aelwyd glyd,
A'u gwenau fel engyl tirion.


'Rwy'n cofio'r noswaith y llithrodd fy nhroed,
A myn'd adref yn feddw, feddw,
A dyna y noswaith gyntaf erioed
Daeth gofid i'r cartref hwnw :
Ond tyfodd fy mlys yn anghenfil erch,
Dirmygais yubiliau ffyddiog,
Gweddiau fy mhriod—a dagrau serch,
Ac ofnau fy mhlant newynog.

Newynais fy mhriod,—a fy mhlant dinam,
Mae'r ddau yn y fynwent yn huno,
Dan gysgod yr ywen ar fynwes eu mhan,
A'r rhos ar eu bedd yn blaguro;
Ond ow! mae'r adgofion yn rhwygo fy mron—
Estynwch y botel a'r gwirod!
Yn mhorth tragwyddoldeb mi yfaf o hon—
Paham y mae yfed yn bechod?

'Rwy'n well wedi yfed—mi yfaf drachefn,
Mi yfaf y botel i'r gwaelod,
Llonydda fy ysbryd, cynesa fy ngwaed,
Distawa ruadau cydwybod;
Mae'r byd yn fy ngwrthod, a'r nefoedd yn cau,
A phyrth colledigaeth yn agor;
'Rwy'n unig ar donau marwolaeth a gwae,
Heb oleu, heb gwmpawd, nac angor.


Blodeuglwm ar fedd Dewi Havesp.

ENW sydd yn llawn o swyn
Yw Havhesp, y bardd hyfwyn,
Ac hefyd mae adgofion
Hudol serch yn dal i son
Am y bardd, gwiwfardd, a'i gân,
Eneiniawl blentyn anian;
Mae coffa drwy Walia wen
Am Dewi yn myd awen:
Tra'n hiaith hen ac awenydd,

Bardd swynol, anfarwol fydd.
Yn nhawelwch mynwent Derfel
Huna Dewi ei olaf hûn,
Heb arwyddnod, maen, na chofnod,
Fel sy' ar lawer dinod un,
Havhesp-ni raid cerfio 'r enw,
Cerfiodd Dewi hwnw ei hun,
Trwy ganeuon ac englynion,
Erys tra bydd Cymru dirion,
Mewn llythyrenau aur adgofion,
Ar ddalenau calon dyn.

Gwisgodd lawryf anfarwoldeb
Am dlysineb Derfel hardd,
Enw'r ardal sy'n glymedig
Wrth ei nef-anedig fardd,
Fu'n breuddwydio am flynyddau
Gyda glanau'r Ddyfrdwy dlos,

Gan anadlu bywiol dlysni,
I addurno Ceinion Cymru—
Mewn helbulon daliai 'i ganu
Fel yr eos yn y nos.

Tawel-fan yw mynwent Derfel
Wedi poen a blinder byd,
Oes helbulus a therfysglyd
Fu ei fywyd ar ei hyd;
Aml a blin oedd ei drallodion
Yn helbulon ola'r daith,
Ond mae tirion fyw adgofion
Megys irddail bythol wyrddion,
Heddyw'n taflu eu cysgodion
Tyner ar ei feddrod llaith.

Pistyll Derfel wylia 'i argel,
A chofia Duw ei gladdfa dawel,
Pan fydd twif y "'storom ola'"
'N ysgwyd llwch talentau Gwalia;
Daw, daw boreu, bydd angylion
Duw yn gweiui ar blant anffodion,
Pan ddatguddir pob gelynion,
Pan esbonir pob cyfrinion,
Ac y chwelir niwl marwoldeb
Gan oleuni tragwyddoldeb.


Seindorf Arian Llan Ffestiniog yn y Bala.

I DREF y Bala fwyna fan,
Daeth Band y Llan i'n lloni,
O'u hofferynau 'n donau daeth
Cerddoriaeth bur yn ddyli';
Yr oedd eu nodau eneiniedig
Yn llawn nwyf ysol—môr o fiwsig,
Nodau auraidd gwir beroriaeth,
A swyn addas awenyddiaeth,
I'n lloni oll, a'n llawenhau
A diliau ysbrydoliaeth.

Sirioli'r llesg wna Band y Llan,
A llifa trydan hyfryd,
Ffrwd o gerddoriaeth trwy eu gwaed
Nes gyru 'r traed i symud;
Eu poen a'u gofid a anghofiant,
Yn swn eu nodau'n hoew neidiant;
Er eu mynych frwydrau miniog,
Pwy arafa'r Band llawryfog?
Mae ffawd o'i lloches gynes gu
Yn t'wnu ar Ffestiniog.

Seiniau hudol synadwy—a ddyry'r
Cerddorion profadwy;
A melodedd teimladwy,
A'i swynion têr seiniant hwy.


Y Llenleidr

LLENLEIDR yw'r testyn, mae'n destyn go dyn,
Rhaid cerdded yn araf, ac edrych yn syn,
A myn'd yn hamddenol o amgylch y gwalch,
A cheisiwn ei foddio, mae'n hynod o falch.

Y mae yn mhlith lladron amrywiaeth diri',
Mae rhagor rhwng lladron a lladron mewn bri,
Mae rhai lladron craffus, mae eraill yn ddall,
Mae lladron go wirion, a lladron pur gall.

Mae rhai yn lladrata rhyw nwyddau di-nod,
A'r lleill yn lladrata anrhydedd a chlod;
A dyma ein harwr, eu brenin i gyd,
Gall ddwyn eich hymeuydd na wyddoch ddim byd

Fe'i ganwyd yn Lletty Trawsfeddiant a Brad,
Ei fam ydoedd Hoced, a Thwyll oedd ei dad;
Ac fe yinddadblygodd haerllugrwydd a chwant,
Y ddau yn ein harwr, y callaf o'r plant.

"Roedd talent, a gallu, a'r gwir wedi myn'd,
Yn nghyd a gonestrwydd, pan anwyd ein ffrynd,
Ond cafodd uchelgais, uchelgais ddiles,
Cyfrwysdra llwynogaidd, a gwyneb o bres.

Fe dyfodd i fyny nes dyfod yn llanc,
Cynyddodd ei falais, eangodd ei wanc
A chan nad oedd ganddo ymenydd ei hun,
Dechreuodd ladrata oddiar ei gyd-ddyn.


Mewn Cyrddau Llenyddol daeth allan yn awr,
Fel awdwr galluog, a chwyddodd yn fawr;
A cha'dd haner coron am englyn ryw dro,
Er na wyddai fwy am gynghanedd na llo.

Ond nid yw ein harwr yn ddall nac yn bŵl,
Chwi wnewch gamgymeriad os cym'rwch e'n ffwl;
Mae'n gweled gryn dipyn yn mhellach na'i drwyn,
A gwyr sut i drefnu'r hyn mae yn ei ddwyn.

Gall osod ei ddelw aruchel ei hun
Ar draethawd, neu bryddest, waeth ganddo ef p'run,
Os englyn fydd eisiau, cewch hwnw 'n ddiwall,
I gyd yn gyfanwaith o waith hwn a'r llall.

Ni wyr y llenleidr am y drafferth a'r draul,
Y llafur a'r lludded mae'r gonest yn gael:
Am draethawd, neu bryddest, neu englyn, fe red
I'w cyrchu 'n ddidrafferth o shop ready made.

Drafferthus lenorion, a beirddion y byd;
I leidr eich ymenydd ymgrymwch i gyd;
A chofiwch i chwi gael eich geni i fod
Yn sarn iddo gyraedd anrhydedd a chlod.

I ddyn fel ein harwr na roddwch un sen,
Ymro'wch i'w seboni, mae'n fudr dros ben:
Mae'n hawdd iawn cael sebon, ond ofnaf yn siwr
Nad oes yn Llyn Tegid ddim digon o ddwr.


Ein henwad ni.

Cwynfan a fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd, ar goegni byd;
Tra fo llen ac awenydd,
A chan fwyn, achwyn a fydd.
—GORONWY OWEN.


EIN henwad ni, ein henwad ni,
Yw coron bri y cread,
A theg yw cyfrif pawb yn ffol
Nad y'nt yn nghol yr enwad;
Mae'n henwad ni bob Sul a gwyl
Mewn hyfryd hwyl enwadol,
Heb goledd dim syniadau chwith,
Na neb yn rhith grefyddol.

Ein henwad ni, mae pawb o fri,
O'n henwad ni 'n aelodau;
Cantorion, beirdd, llenorion coeth,
Swyddogion doeth y byrddau;
Mae genym rai a wyr bob aeg,
Ond y Gymraeg yn ddifeth,
Llu o M.P.'s a'r holl D.D.'s—
Rhai uchel bris am bregeth.

Ac nid a neb o'n henwad ni
Byth i addoldy arall;
Mae hyny 'n groes i gredo plaid
Pob Pharisead diwall:
Pe deuai angel yn ei fri,
Wrandawem ni mohono,
Heb nod yr enwad arno 'n blaen,
Ni ro'em ni ddraen am dano.


I gyrddau mawr ein henwad ni
Disgwyliwn ni bob enwad,
A dylech ddiolch i ni 'n hael
I gyd, am gael gwahoddiad;
A byddwch chwithau am y dydd
Yn hael a rhydd eich calon,
A dewch ag arian yn eich cod—
Cewch chwithau glod a sebon.

Y mae addoldai genym ni
Yr hoffech chwi eu harddel,
Os bydd y bregeth braidd yn sych
Cewch edrych ar y capel;
Mae amryw ddoniau yn ein plith,
Pregethwyr rhith—glasurol
Yw rhai a farna 'n henwad ni
Sy'n myn'd a hi 'n bresenol,

Mae'n henwad ni yn fawr ei fost,
Mewn helynt tost a ffwdan,
Am ddynion call o'n henwad ni
I fyned i St. Stephan;
Caiff rhyddid ac iawnderau gwlad
I'r enwad gydymgrymu,
Rhyw geffyl benthyg ydyw 'r wlad,
I'r enwad ymddyrchafu.

Ein henwad ni, pwy fel y ni?
Ein henwad ni yw pobpeth,
A'r hyn nad yw o'n henwad ni
Gyfrifwn ni'n shibboleth;

Mae genym rai ofalant am
Hen glorian camddarluniad,
A phwysir pawb gan ragfarn ddall,
Wrth reol gall yr enwad.

Enwadaeth—melldith a sarhad
Ar anwyl wlad fy nghalon.
Hen ysbryd cul—anfonwn ef
'Run ffordd a'r hen ysbrydion;
Rhown ei weddillion yn y pridd,
Heb gwyn, na chri, na chofnod,
A hunllef rhagfarn ar ei war,
A dirmyg ar ei feddrod.

Siencyn yr hen lanc.

Hen lanc ydyw Siencyn, digyffro, diserch,
Rhy gyfrwys i'w dwyllo gan ystryw 'run ferch,
A chreda'n ei galon, mai gwell i bob dyn
Yw byw yn hen lanc na byw hefo mun;
Mai gwell ar ei les
Yw cadw ei bres,
A byw yn ddilun gyda chalon ddiwres;
Bu llawer merch ifanc, a llawer merch hen,
A llawer merch arall yn ceisio ei ddeall,
Gan geisio ei ddenu drwy ystryw a gwen";
Ond ni roddai Siencyn
Ei ben yn y cortyn,

Ac oddiwrth y merched y cilia mewn dychryn,
A dywed a'i galon gan oered a'r graig,
Mai bendith anhwylus a chostus yw gwraig.

Mae'r genethod medd Siencyn, yn dd'reidus ddi-rol,
Y gweddwon rhy gyfrwys, hen ferched rhy ffol
Ac fe fydd bob amser wrth wrando eu scwrs.
A'i lygaid yn gauad, a'i law ar ei bwrs,
Gan edrych yn gall,
Yn sobr a diwall,
A'i lygaid a'i galon i'w swynion yn ddall;
Wrth weled priodas bydd Siencyn yn dweyd,
"Peth hawdd ydyw addaw,peth arall yw gwneyd."

Bu agos i Siencyn unwaith gael ei wneyd,
Yn rhybudd i eraill ca'r hanes ei ddweyd:
Edrychodd i lygaid Gwendolen y Ddol,
Symudodd ei galon, siaradodd yn ffol,
Ryw dro wedi hyny addefodd y gwir,
Ei fod wedi edrych i'w llygaid rhy hir;
Fe deimlodd ei swynion
Yn gwanu ei ddwyfron,
A dwylaw cyfriniol dieithriol ysbrydion,
Yn newid ei natur, yn newid ei galon:
Bu Siencyn am fis o dan effaith cyfaredd,
A'i wyneb a'i wisg wedi newid yn rhyfedd;
Ond fel llawer un,
Fe ddaeth ato'i hun,
Agorodd ei lygaid, agorodd ei ddeall,
Pan wybu fod Gweno yn caru un arall.


Byth wed'yn mae dal fod y merched i gyd,
Yn rhai wedi eu geni i boeni y byd;
A thaera yn gadarn y byddai ei grogi
Yn llai cospedigaeth ar ddyn na phriodi;
Am fod llawer gwraig,
Yn debyg i ddraig,
A'i thymer mor ffyrnig a thonau yr aig;
Waeth tewi na siarad ar fater fel hyn,
Fydd pawb ddim yn unfarn a Siencyn o'r Glyn,
Pob dyn drosto'i hun,
Ond gwell i bob un
Sydd wedi priodi, yw peidio dweyd gormod,-
Mwy diogel i minau yw atal fy nhafod.
Ond dyma gân Siencyn a wnaeth wedi sobri,
A gweled Gwendolen yn myn'd i'w phriodi.

"'Rwy'n cofio fod Sali merch Begws y Graig,
Yn llances fwyn dirion cyn myned yn wraig,
Ond wedi priodi newidiodd ei helfen,
A chafodd ei phriod ei wneyd yn y fargen,
Newidiodd ei hanes, newidiodd ei phroffes,
Hi drodd yn hen gnawes
Aflawen anghynes,
A thafod fel melin, a gwinedd fel llewes;
Gan hyny, mi dreuliaf fy nyddiau i ben,
Yn hen lanc di sen,
Heb Sali na Gwen,
I wario fy arian a moedro fy mhen,
Tawelwch i mi, a heddwch, Amen."


Y Bardd-sebonwr.

MAE'R bardd wedi 'i eni i ganu a seboni,
Ac er cael ei boeni mae'n ufudd fel oen,
Yn gwneyd marwnadau, yn anerch priodasau,
A chuddio pechodau heb ddim am ei boen;
Mae'n edrych yn wirion, yn brudd a digalon,
A'i ddillad yn llymion-a gwag yw ei god,
Yn wobr am ei lafur, yn dal am ei bapur,
A stamps ar ei lythyr, caiff dipyn o glod.

Er mwyn cael cyhoeddi ei waith yn seboni,
Rhaid myned i weddi ger bron gwyr y wasg,
A gŵyr y cyfarwydd, fod 'stwytho cyndynrwydd
Cydwybod golygydd yn dipyn o dasg;
Ond wedi'r holl gwyno, bendithio a wylo,
Mae pawb yn ei basio fel pe baent yn ddall,
A hwy wnant yn burion, mi dd'wedaf o galon,
Mai'r bardd sydd yn wirion, a'r bobl yn gall.

Wrth fyw i rigymu a cholli ei gysgu,
Mae'r gwirion yn methu cael digon o bres
I brynu tybaco i'w gadw yn effro,
Canwylle i oleuo, a thân i gael gwres;
I loni ei galon, yn dâl am ei sebon,
Caiff wag addewidion teneuon a thlawd,
A dyna y cwbwl a gaiff am ei drwbwl,
Nid oes neb yn meddwl am dalu'r hen frawd.


Mae llunio yn addas, anerchiad priodas,
I fardd yn gymwynas pur hawdd medda nhw,
Ond dyna yr aflwydd, mae'n rhaid i'r rhigymydd
Ddweyd tipyn o gelwydd mi gym'raf fy llw;
Er hated yw sebon, mae'r oriau yn brinion,
I rwbio y trochion hyd ddynion yn ddel,
Mae'r prydydd dirwgnach yn myned yn gallach,
A'i galon yn gletach na sebon—ffarwel.


Y Byd ar Werth,
Efelychiad o "The World for sale," by the Rev. Ralph Hoyton.

BYD ar werth! dyrchefwch yr hysbyslen―
A galwch bob trafaeliwr i'r arwerthiant;
Y byd i gyd ar werth—wel dynia fargen!
Pwy ddaw yn mlaen i brynu—gwag ogoniant;
Mae'n myn'd! caiff fyn'd yn rhad,
Mae f'enaid am ei daflu
I ffwrdd am unrhyw bris
I rywun all ei garu.

Mae'n ogoneddus iawn i edrych arno,—
Edrychwch drosto—byddwch yn ofalus,
Rhag i chwi gamgymeryd wrth ei brisio,
Ces i fy siomi ynddo yn druenus;

Mae'n myn'd! pwy ddaw ymlaen
I brynu bydol fwyniant,
A swyn pleserau gau
A drydd yn—ddagrau siomiant!

Caiff cyfoeth fyn'd yn gyntaf—gem ysblenydd,
Mor brydferth ydyw'r pentwr aur melynion
A anrhydeddodd lawer coeg ymhonydd,
A ddamniodd hefyd lawer enaid gwirion;
A dyma diroedd braf
A llwyni o'u cylch yn gysgod,
I gyd yn myn'd yn rhad—
Pwy ddaw—i brynu beddrod?

A dyma gariad, gyda'i swyn cyfriniol,
A wêa llon brydferthwch am y galon;
Yspeilydd dystaw, llednais, lledrith hudol,
A phawb o dan ei swyn yn myn'd yn wirion;
Mae cariad heddyw'n myn'd,—
Pwy bryna'r g'lomen dyner?
Rhyw awr o hudol swyn,
Ac wed'yn oes—o bryder.

A chyfeillgarwch—dyma berl dymunol!
Ond pwy a'i cafodd mewn cyfyngder chwerw?
Twyllodrus, oer, sigledig, cyfnewidiol,
Yw'r hyn a geir yn fynych yn ei enw;
Mae'n myn'd! mae'n isel iawn—
Pwy bryna ffon mor hylaw?
Mi bwysais arni gynt,
Ond—torodd yn fy nwylaw!


Enwogrwydd ydyw'r nesaf, syllwch arno!
Mor loew yw—mor werthfawr yw ysblander
Yr enwau yma welir yn disgleirio,
Ar len ffurfafen oer daearol falchder:
Cewch drwy enwogrwydd glod,
Pan fyddwch yn eich beddau,
Gofala beirniaid craff
Am adgyfodi'ch—beiau.

A gobaith siriol, lona lawer mynwes,
"Rwyf wedi blino ar ei haddewidion;
Arweiniodd fi i goledd ffug a rhodres,
O dan ddylanwad hudol gwag freuddwydion;
Mae'n myn'd! fy olaf ffrynd—
Fy mywyd sydd yn fethiant,—
Neu cawsai'r trysor hwn
Ei gadw yn fy meddiant.

A chan—fu'n lloni f'enaid am flynyddau—
Pwy hoffai gael hen delyn fud anhwylus?
Caiff fyn'd yn rhad—'rwy'n methu trin ei thanau,
I ganu'r nodau ganai gynt mor felus:
Ffarwel! hudolus gerdd,
Mae gofid yn fy llethu;
Ffarwel! hen delyn fwyn,
'Rwyf wedi blino'n canu.

Uchelgais, ffasiwn, balchder a phleserau,
Sydd yma heddyw i gyd i gael eu gwerthu;
Rhyferthwy siomiant fel gor—lifus donau,
A wnaeth i'm calon falch ystyfnig blygu;

Helbulus galon brudd!
Fu gynt yn gartref pleser,
Sydd heddyw'n gartref oer,
Gofidiau, siom, a phryder.

Ni cheisiaf mwy anrhydedd byd na'i bleser,
Gobeithion gloewon sydd yn cilio'n mhellach—
Mae'n rhaid i'm henaid ofnus mewn cyfyngder,
Rhag suddo byth, gael angor diogelach;
Cusanu'r wialen wnaf,—
Mae genyf gyfoeth helaeth,
Fy Meibl, a fy Nuw—
Tragwyddol etifeddiaeth!


D——l y Wasg.
AM wallau, dyma ellyll—ofnadwy,
Hyf newidiwr erchyll;
Brysiwch, gyrwch y gor-hyll
Fradwr hen i'w fro-dir hyll.

Was anwar am lysenwi—a dygyn
Ramadegwr digri'—
Ddu was tost, be wyddost di,
Urdd annwn, am farddoni?


Christmas Bor(sic)[1] i'r d——l.
D——ly Wasg, dwl ei osgo,
A dwylaw gwyllt, d——l o'i go';
Dirywiol wawdiwr awen,
Un diail byth, a d——l ben,
Ar bob d——l anfoesawl fu
Yn athronydd llyth'renu;
Y dilun fod, ail ni fu
I'r un dwl o'r hen deulu;
Rhoi'swn byg eirias yn boeth
O gylch hwn, y gwalch anoeth,
Olew a saim o'r palas hwn,
Yna'n dadol iawn y dodwn,
O fewn y glwyd fawn a glo,
A thunell ro'wn i'w thanio,
O goed, a gwellt, gydag us,
Rhoi uchel hwre iachus
A wnawn am gael gweled fflamio
Y "du" hwn, feirdd, ar dân a fo
Ymunwn bawb, mynwn ben
Ar ddirywiol fwrddwr awen;
Heddyw fe gyhoeddaf wyl
I gyrchu at y gorchwyl:
Yrwan feirdd, GWRTHEYRN fydd
Yn dra siriol drysorydd,
I'r symudiad ofnadwy,
Ei ddawn i fewn ddena fwy,
O'r llon gewri llengarawl,
A gwyr doeth i losgi'r d——l!

Daw Cusi i reoli'r hwyl,
Yn wir ddawnus fardd anwyl;
EDWIN TEGID ddiwyd ddaw
Yn ddilys lywydd hylaw,
'Morol am GLAN CYMERIG
Wnaf yn siwr, gwua daniwr dig.
In fuddiol minau fyddaf,
Fel hen swyddog enwog af,
I fachu TALIESYN FYCHAN,
Hen weithiwr tost i chwythu'r tân.
Yn bena'i sel Robin siwr
At hwnw ddaw'n ben taniwr,
A gyrwn trwy bob gorawr
Dân a mwg yn donau mawr:
Am oriau nghanol Meirion,
Goleu a mwg a wel Mon.

Atebiad "Old Buffer."
IN Gwaenfab arab wrawl—sy'n hwylus
Anelwr grymusawl
A'i hobi ddiarhebawl,
Pwniwr da yn panu'r diawl,

Wedi cefnu ar wlad y cyfnos—hen ffrynd
Oi hoff randir ddiddos,—
Welwn ni, yn elyn nos
A bwli Diabolos!


Boneddwr heb ei naddu,—go lymrig
Ail amryw o'i ddeutu;
Yw y bod, ga'r ddyrnod ddn
A byddin i'w drybaeddu.

Wedi'r hynod daranu—a bygwth
Mor bigog o'i ddeutu,
Onid aiff y gelyn du
I ddinodedd i nadu?

Atebiad Cusi.
Urdd o Goleg beirdd Gwalia—a gwynfyd
I Gwaenfab, ddymuna
Pawb o'r beirdd coeth, doeth a da,
Ffy ar ddamwain ffordd yma.

Os eilwaith y gelwir sylw—y beirdd,
At y "boy du" hwnw:
Rhaid llosgi 'r "du," du'n lludw—
Bywyd neb arbedan' nhw'.

Geirwon, a didrugaredd—ar brydiau
Ceir brawdwyr cynghanedd—
Y bardd blin—dyma'i rinwedd—
Caru gwlad―cario ei gledd.


Eto, da Gwaenfab ymatal—yn ddoeth;
Rhifa ddeg cyn dial—
Ugeiniau ddaw i'th gynal—
Er dy ddig, tria di ddal.

Mae'n wir fod dy waedd yn haeddu—i bawb
O'r beirdd dy ategu
Yn wrol iawn i erlynu,
Yn ddyfal, er dal y "gwr du."

Arafwn gwell cael ei brofi—yn deg
Cyn dydd blin y llosgi:'
A gweddus ei argyhoeddi
O'i ddiluw 'tân—be ddyliet ti?

Atebiad i "Old Buffer."
LD BUFFER" sy'n gwel'd byw effaith—dyrnod
Ar anwar fod diffaith;
A del i roi duliwr iaith,
Gyw aniddig yn oddaith.

Yr wyf heddyw yn bur fuddiol,—bwli
Diabolos bobol!
Dyma lanc, dim mwy o lol
Unrhyw fwgan rhyfygol.


Atebiad i Cusi.
Ry "du," am roi dial—meddyliwn,
Am ei ddwlwaith gwamal;
Ond drwy ddig, mi dria ddal—am dymor,
Her Belphegor heb oleu ffagal.

Yn siwr wnaf i ddim camwri,—yn deg
Medraf drin d——l "Cusi."
Arafaf nes ei brofi
Ef yn deg er dy fwyn di.


Anerchiad priodasol.
I Mr. Thomas Humphreys, Henblas, Bala, ar yr amgylchiad
o'i briodas a Miss Grace Owen, Hendre, Cefnddwysarn.

WEL, Tomos, daethost dithau—i'r adwy
Lle rhwydir cariadau;
A'i dawn, rhoes Grace gadwynau,
Am ei dyn i rwymo dau.

Henffych ddydd, ddedwydd adeg,—yr uniad
Gyda'r eneth landeg;
Trysor uwch pob gwyddoreg
Yw rhin a dawn rhian deg.


Ti gefaist trwy ornest gyfiawn—law merch
Ail i'w mham gariadlawn;
Creu hedd wna'i dullwedd a'i dawn,
Wna'r aelwyd yn gysurlawn.

Boed ichwi ddibaid iechyd,—a gyrfa
Deg hirfaith o wynfyd;
Dau'n cydyw heb dinc adfyd,
Na seiniau croes ond swn cryd.

Cywydd Diolchgarwch
I Dr. Peters y Bala, am ei ofal a'i fedr yn gwella fy nghariad-ferch.

RHOI pwt i Dr. Peters,
O fawl gân wna i fel gwers
I feddygon beilchion byd
Ai fawrion i'w harferyd;
Wele'r gwr i wylio'r gwan
A bywiogi pawb egwan,
I dlodion gwaclion eu gwedd
O'i galon rhydd ymgeledd,
Nid aur ei bwnc, na da'r byd,
Ond difyrwch adferyd
Y gwan a'r llesg, gweiniwr llon
I lu nghanol anghenion;
O'i dwys boen ein Gwladys bach,
I ni wellodd yn holliach:

I wydd y wlad yn ddi-lys
Dwyn ei glod a wna Gwladys,
A minau sydd am wau mewn serch
Haeddianol gywydd i'w anerch:
Cywydd ar lafur cariad
Wy'n gynyg i'r Meddyg mad,
Dros un egwan fechan fu
O wan iechyd yn nychu:
Ac yn dyst byw, i glyw gwlad,
Safa ngair dros fy nghariad;
I wir Feddyg mor fuddiawl,
Mae'n hawdd i mi nyddu mawl:
Eilio'i glod yn nghlyw gwledydd,
Yn wers fach i'r oesau fydd,
O gywiraf ddyngarwch
I egwan llesg yn y llwch:
Bri yr oes fo'n wobr i'w ran
A dirif aed ei arian.

Yn wylaidd am ei haeledd o,
lawn yw i minau ddymuno,
I bob trigfan, llan, a llys,
Uno'i glod er mwyn Gwladys:
Hir oes iach i'r medrus wr,
O dan goron dyngarwr;
Yn dda'i fyd, yn hardd ei foes,
Tan wenu'n estyn einioes,
A rhodio'n mraich anrhydedd,
Uwch aed ei barch hyd y bedd,
Mewn tref a gwlad, da di-dor,
Ydyw actau y Doctor.


Myfyrdod ar Llyn Tegid foreu haf.

TROF ar hynt ar foreu haf,
Am addoli meddyliaf:
Hyd lanau Tegid lonwedd,
Hudol, iach, caf dawel hedd,
I ganu am ogoniant
A lonai swn telyn sant:
Mae nefol swyn mwyn i mi,
Ger y Llyn, dan gwr llwyni:
Teml enaid, dyma lanerch—
Dyna salm o danau serch,
Awen bardd mysg ceinion byw,
Syw baradwys bur ydyw;
Os wyf wan adyn annuw,
Waelaf ddyn, mi welaf Dduw,
O fy neutu fewn natur
Yn Fod byw o hanfod bur.


At hygar lan Llyn Tegid,—af inau
Yn fynych rhag gofid:
Lle caf braf olygfa brid
Nefol londer haf lendid.

Sain lloniant sy'n y llwyni,—llu unol
Holl anian yn moli
Yn un Cor, i delynori
Alawon haf i nghalon i.

Haf nodau nef anedig,—yn gyngherdd
Trwy gangau y goedwig:
Mawl llon, ar bob bron a brig,
Ar feusydd mor o fiwsig.

Bron yr 'hedydd ymlona,—yn nwyfus
I'r nefoedd esgyna:
Ac anfon i borth Gwynfa
Gain, yn hyf ei gân a wna.

Llanycil ger y llwyn acw,—yw'r lle
Rhoi'r llwch saint i gadw:
A nefol deg fywiol dw
Mirain gysgoda'r meirw.

Pwy ar len, pa arlunydd,—a'i bwyntel
All baentio'r fath lenydd?
Dolenog ddeiliog ddolydd
Yn fyw gan dwf gwenau dydd.

A ban eglur hen binaglau—cedyrn,
Yw ceidwaid ei lanau,
Tragwyddol freiniol fryniau
Yma o'i gylch yn amgau.

Ceunentydd, bronydd, a bryniau —lluniaidd,
Yn llawnion o flodau:
Man i wel'd a chael mwynhau
Nwyf anian mewn haf wenau.


Gwynfyd llawn, pa ddawn ddynol—na lona
Ar lanerch mor swynol?
Glir frodir glaer hyfrydol,
Yn llawn Duw mewn llwyn a dôl.

Wan greadur 'rwy'n gwrido,—a mud af
Lle mae Duw i'w deimlo ;
O! lanaf rydd lonaf fro,
Hawdd i enaid ddihuno.


THOS. JONES, YSW., BRYNMELYN FEL ARWEINYDD.

GWR ffraeth yw ein harweinydd,—a moli
"Brynmelyn" wna'r prydydd;
Gwr hwyliog, a rheolydd
Ar wyr doeth, arwr y dydd.



ROGER HUGHES, YSW., Y.H., BALA, FEL LLYWYDD.

YN llywydd coeth lluoedd cân,—dewiswyd
Hael d'wysog ein llwyfan;
A'i hynaws ddawn ei hunan,
Hwn yra dyrfa ar dân.


Llyn Tegid.

I LYN Tegid, drych Ceridwen,
Yn nghol hardd fy Ngwalia hen,
Gyda chribog fryniog fro,
Yn ymdonawg am dano;
Llyn hynod medd traddodiad,
A'i ddwr yn glo ar ddarn gwlad,—
A chladdfa un Bala'n bod
Yn rhywle ar ei waelod.
Hen gerwyn fawr ar glawr glyn,
A ddeil bur ddyli Berwyn;
Llen o ddwr, gloew—ddwr glan,
Yn llain hir fel llen arian;
Lluniau ser yn y Llyn sydd,
A bryniau fel wybrenydd;
O ogoniant digynwr!
Rhyw wlad deg ar waelod dwr.

Ha! Lyn cu, ar dy lan caf
Hen Lanycil enwocaf—
Machpelah'r Bala, a bedd
Enwogion mewn unigedd;
A dy donau byw glywir
Yn suo cân eu cwsg hir.

Ein glân enwog Lyn anwyl!
Dyma le i deimlo hwyl:
Cariad amlwg cry' deimlaf,
A gwenau pur gwyneb haf;
Mor hardd ydyw, a ddaw rhywun
A'i bwyntel hoff i baentio'i lun?


Tremiaf i wyll henafol
Hanesion hen oesau'n ol,-
I'w hwyluso, "Taliesin
Yn rhodio fu ger dy fin,
Bu derwyddon gwychion gynt,
Yma'n hwylio mewn helynt,
I gadw tân llosgedig
Aberthau eu duwiau dig;
Ond i ni wedi newid
Y mae y lle, 'does dim llid,
Gwaeau, duwiau'n ymdywallt,
Yn ein gwydd ar fron na gallt.

Y mae yr oes yn mawrhau
Y Duw luniodd dy lanau.

Llawer bardd, ar dyner dant,
A ganodd dy ogoniant,
Daw eto feirdd, mawr-feirdd, mwy
Nerthol i roi cynorthwy
Unol, er anfarwoli
Prydferthwch dy degwch di;
I'r hudol wyllt ardal lân,
Y cenir hyd dranc anian.


Y CYBYDD.

CYBYDD yn ei ddydd, nid yw 'n dda--i neb
Ond mae'n iawn pan drenga;
Uwch ei fedd y ceir gwledda
Gwych a hwyl, ac iach Ha! Ha!


"A phan welodd Efe y ddinas Efe a wylodd drosti."

IN Tywysog Crist Iesu,—a wylodd
Dros Salem, pan ganfu
Ddialedd ei diwedd du,
Don ysol yn dynesu.

Y dihalawg Fod a wylodd,-ei fyw
Galon fawr gynhyrfodd;
Heilltion ddagrau dywalltodd,
Ei enaid hael uniawn dôdd.

Ow! daethai dydd melldithion,- yn dwyn byw
Donau barn ar Seion:
I'r golwg, deigr ei galon,
Wylai Duw wrth weled hon!


RHAGRITH.

PA beth sydd mor hagr a rhagrith ?-i fyd
Beth sy'n fwy o felldith?
Ow! hyll adrodd mai lledrith,
Huda yr oes ydyw rhith.


Er Cof am EDWARD JONES, Garneddlwyd, Bala.

O'R ing, yn ngwynfa'r angel—mae Edward,
Symudodd yn dawel,
Mor weddaidd, a'i sanctaidd sel
Dan urddas, Duw'n ei arddel.

Bu erioed heb waradwydd,—ail Abram
Ar lwybrau dyledswydd;
Duwiol sant di ail i'w swydd,
A'i wir ymgais rhag tramgwydd.

Ca'dd ei nod, hen adnodau,—a'i daliodd
Yn deilwng yn angau;
Hwn mewn hedd oedd yn mwynhau,
Rhagluniaeth ar y glanau.

Rhyfedd yn ystorm yr afon,—sylwai
Ar breswylwyr Seion;
Coda'i law—nef alawon,
Yn y llif a ganai'n llon.

I loni 'i nefol anian,—yn foddus,
Canfyddai "Ap Vychan;"[2]
Hen sant braf yn yr hafan,
A rhyw lu o wyr y lan.

Fe hwyliai'r glan nefolion,—i'w hebrwng
At Abram yn union;
Bu cymaint o'r saint yn son
Am dano yn myd dynion.


Tawel fedd i'r tangnefeddwr,—gwr Duw,
Gwr a dawn gweddiwr;
Di-wg oedd, a diau gwr
I'w ddilyn fel addolwr.

I'r eglwys bu'n berarogledd,—i'w oes,
I'w Iesu'n anrhydedd;
Cywir fu, ac ar ei fedd
Ymaros y mae mawredd.


Er Cof am Robert Evan,
anwyl blentyn Mr. a Mrs.Joseph Jones, Bryntegid, Bala.

YN ei wyn febyd yn faban,—tiriodd
Cyn teiroed yn Nghanaan;
Tyfu gaiff Robert Evan,
Yn nefol lys Gwynfa lân.

I wlad dyner heb wel'd henoed—hedodd
Yn mlodau baban—oed:
I nef saint mewn nwyfus oed,
Yn angel mewn ieuengoed.

O hyn allan mae'n holliach,—ymunodd
A chwmni amgenach;
Uwch cur yn awyr burach,
Bywyd a hedd mewn byd iach.


Ymson awen uwch bedd Havesp.

GWIW enw'n hanes Gwynedd—yw Dewi.
A duwies cynghanedd
Yn welw fud—wylia'i fedd
O dan wawdiaeth dinodedd.

Ow! argel dawel Dewi,—noeth weryd
Heb lythyren arni,
Ond er heb rwysg—gloewder bri—oesol
Wres awen hudol erys i'w nodi.

Ar ei enw trwy Wynedd,—fe erys
Anfarwol anrhydedd,
Duwies can a chynghanedd
Hyd y farn ddynoda'i fedd,


Fy nymuniad.

RHOWCH im' fedd, anedd i huno,—o fewn
I hen fynwent "Beuno;"
Hyd y farn, heb ddim arno,
'N gofadail, ond dail yn dô.

Gorweddaf, hunaf mewn hedd,—hyd foreu
Yr adferiad rhyfedd:
Lle na thrig chwerw eiddigedd
Na hanes bai yw mynwes bedd.


Pregeth Goeg-wyddonol.

OEDFA i ddyfnhau f'adfyd, —Ow! ddunos
Gwyddoniaeth gymysglyd!
Oedfa o hir galedfyd,
Anial gwag a niwli gyd.

Af inau, er mwyn fy enaid,—allan,
Fe ddallodd fy llygaid;
Dyma d'w'llwch, llwch, a llaid!—
Darwin i bechaduriaid.

O am beth o'r hen bregethau,—y ddawn
All ddenu eneidiau,
A chul gell, a chlo i gau,
Gwyddonwyr y gau—ddoniau.

Ble mae'r hen, yr hen hanes—am y groes
Ac am Grist yn lloches—
Mawrhydi heb ddim rhodres,
Dihafal rym dwyfol wres?


CANU OER.

OW! ganu diogoniant,—anwydog
Ddieneidiol foliant:
Yn wir eu swn rewai sant,
Nes deiflo naws ei dyfiant.


Y Ty Tafarn.

Y'R gwr a gar gwrw,—ty'r yfed,
Ty rafio a thwrw,—
Ty rhwyg a llid, rheg a llw,
Uchel helynt chwil ulw.

Ty am loddest ymladdwyr—afradlon
Hyfrydle troseddwyr,
Ty euog hil taeog wyr,
A nefoedd i hen yfwyr.

Ty y taerwr, ty y twrw—tryflith,
Cartrefle y meddw,―
Ty eu nâd anynad nhw,
Hen oferwyr fyn farw.

Ty i fariaeth gwyllt oferedd—malldy
Pob melldith a chabledd,
A lle di waith, hyll di hedd,
Twyll a hagrwch,—twll llygredd.


Y FODRWY AUR.

Y fodrwy aur, ni fedra i,—wyr mawr
Yn wir mo'i haddoli
Beunydd, 'da i ddim i boeni
I daenu ei mawl,—dyn i mi.


Yr Oen Bach

AR ddôl ni cheir ei ddelach,—na chywrain
Chwareuwr doniolach:
Na natur ddiniweitiach,
Yn yr un byd na'r oen bach.

Oen, adwaenid o anian—ddihalog,
Fu'n arwyddlun egwan,
O'r Oen Iawnol, dwyfol, dan
Ing byw angau heb yngan.


Y Nadolig.

CROESAW, hudol Nadolig—im' haelwyd,
Ymwelydd parchedig.
A gwydd dew i guddio dig
Oer adwyth hin rewedig.

Gwyliau Nadolig hylon,—y diwrnod
Yr unai Nefolion,
Wiwlu têg, i eilio tôn
Ar aelwyd daearolion.



Y Rhaiadr.

CRY' agenwr creig anian—yw rhaiadr,
Yn rhuo rhyfelgan;
Nodau gwyllt, ofnadwy gân,
A naid dwr yn gwneyd taran.


Taraniad dwr ewynol,—ar holltog
Orwylltedd arswydol:
Llam dirfawr dwr gawr, i gôl
Pair athrist, cwymp aruthrol.


Y Meudwy.

DYN a greddf i fod yn granc—yw meudwy,
Ansymudol henlanc;
Un na fyn mo'i droi hyd dranc,
I ofyn am ferch ifanc.

Dwys arwr wedi sori,—dewisol
Dywysog penboethni;
Rhodda ei oes auraidd i
Fyw'n hybarch ar gefn hobi.



Torwr Beddau.

GLOEWA gwedd y torwr beddau,—was hyf
Pan glyw son am angau;
Hoff yw'r undeb, dau ffryndiau,
Ac elor ddug elw i'r ddau.

Hen briodfab bro adfyd,—gwyredig
Aradwr y gweryd;
Rhychor yn nhymor iechyd,
Yn ei fedd yn dwyn ei fyd.


YR HEN LANC.

GWIR unig, oer ei hanes—yw hen lanc,
Dyn a'i lon'd o rodres;
Un od iawn, ac ofn dynes,
Gwr heb wraig i wario'i bres


YR HEN FERCH.

UNIG hen ferch, anserchog,—anwydog,
Ofnadwy o oriog;
Un o feddwl anfoddog,
A main ei graen, menyw grôg.



MERCH IEUANC.

DYMA eneth dwymai auian—meudwy
Ymwadol aniddan ;
Gwenau cynes lodes lân,
Wnai i hwnw wadu 'i hunan.



RHIANOD MEIRIONYDD.

MEIRIONYDD am rianod,—ni welwyd
Anwylach genethod;
Gwylaidd, luniaidd, cilunod,
Yn swyn byw, tlysa 'n bod.


MYFYRDOD.

A MYFYRDOD am fawrdaith,—a sanga
El Lys engyl ar wibdaith;
Gwibia trwy randir gobaith,
I fan uwch terfynau iaith.


OCHENAID.

ACHWYNYDD yw'r Ochenaid,—addefa
Gudd ofid truciniaid;
Angerdd ein hing rodda naid,
Yn fud don, gofid enaid.



UFFERN.

ANNIFLAN gartref diafliaid,—llyn o dân
Llawn o dwrf gwallgofiaid;
Yn ngwacau barn,—ing heb baid
O lanw damniol enaid.



Y LLAW.

Y LLAW gain, gywrain i gyd,—llawforwyn
Holl fawredd celfyddyd:
Llyw hyf ysgrifell hefyd,
A dwrn barn i drin y byd.


Afon y Tryweryn.

DRYWERYN lan, sy'n hanyw—o bur
Aberoedd disglaer—fyw;
Anwadal ei llun ydyw,
A'i gwaelod yn bysgod byw.

Un fawr ei nwyf yw'r hen afon,—llain deg
A'i llon'd o fendithion;
Ond i warchod rhag tlodion,
Fe rua deddf ar hyd hon.


Y Diogyn.

DIOG, orweddiog wr rodda,—feroes
I farwaidd segura,
Trwy angen hyd nes trenga,
Ac os ca nef cysgu wna.

Is haulwen 'does dim salach,―ni rodiodd
'Run creadur hyllach,
Mwy di ras,—beth sy'n gasach,
Na llafn di-waith llyfndew iach?



Y Sebonwr.

Y benaf yw'r ddawn sebonawl,—cydnaws,
Ddawn cadnaw rhagrithiawl!
Od yw o fwyn, uda fawl
Dinodedd dieneidiawl.


Sebonwr, arwr oeraidd, —ac urddawl
I gyrddau tylodaidd,
Llyfwr o'i gryd, llwfr i'w graidd,
A gwag isel geg wasaidd.

Rhyw greithiog hyll ragrithiwr,—o galon
Ddigwilydd y bradwr;
A chelwyddog, euog wr,
Heb enaid yw'r sebonwr.


Y Tyloty.

TY di-nod i blant anffodion;—y fan
Sy'n fynwent gobeithion,
Rhai clwyfus, bregus eu bron,
Di-gyfaill ond adgofion.

Yma'r ddiniwed dwylledig,—welw,
A chalon siomedig,
Ofnus ddaw, o fynwes ddig
Ei herch hudwr parchedig.

Rhyw haner carchar unig,—agorodd
Dyngarwch bonheddig;
Yn gartref llwm, trwm, lle trig
Yr isel gyda'r ysig.

Porth y bedd, annedd ddiwenau,—oeraidd
I aros am angau,
A'i awr i ddod i'w ryddhau,
Ac i dynu'r cadwynau.


"Gadewch f'r rhai hyn fyned ymaith."

"GADEWCH i'r rhai hyn fyn'd ymaith,"—
Dyma eiriau Mab y dyn,
Pan oedd ingoedd colledigaeth
Yn ei enaid Ef ei hun;
"Gadewch iddynt, tra f'wy'n myned
Trwy bangfeydd gwasgedig ofn,—
Tra b'wyf yn eu lle yn yfed
Cwpan damnedigaeth ddofn."

"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Tra fo cledd cyfiawnder gwyn,
A phicellau damnedigaeth
Yn fy ngwanu ar y Bryn;
Gyrwch hoelion llym eu gwaeau
Trwy fy nwylaw a fy nhraed,
Gadewch iddynt,—nes i fflamau
Uffern, ddiffodd yn y gwaed."

"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Tra f'wy'n dyoddef damniol loes,
Tra fo dwylaw anghrediniaeth
Yn fy hoelio ar y groes;
Gadewch iddynt hwy fyn'd ymaith,—
Tra f'wy'n croesi llyfrau 'r Nef,
Nes y llanwo Iachawdwriaeth
Wagle colledigaeth gref."


"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Mi addewais wrth fy Nhad,
Yn y Cyngor foreu 'r Anfaeth,—
Ymladd brwydr eu rhyddhad;
Gadewch iddynt hwy fyn'd ymaith,—
Tra fwy'n gwisgo coron gwawd,
Tra f'wy'n agor gwaredigaeth
Lydan, i bechadur tlawd."

"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,"—
Fydd ei eiriau tyner Ef,
Pan y daw mewn goruchafiaeth
Eilwaith ar gymylau 'r nef:
"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Telais bridwerth eu rhyddhad,
Ewch i mewn i'ch etifeddiaeth,
Fendigedig blant fy Nhad."


Dalen o Adgofion Mebyd.

Fe safai'r bwthyn bychan,
Ar lan afonig fach,
Lle treuliais ddyddiau dyddan
Boreuddydd mebyd iach:
Nid oedd addurnol dlysni
Yn ei amgylchu ef,
Na dim yn ei gysgodi
Ond hen Fasarnen gref.


Mae'r bwthyn yn adfeilion
Dilun er's llawer dydd,
Lle cymwys i'r ysbrydion
Sydd yn fy mynwes brudd;
Yn gwmni i'm hadgofion,
Ni welir yno'n awr,
Ond cysgod breichiau hirion
Yr hen Fasarnen fawr.

Nid oeddwn yn awenydd,
Ni wyddwn beth oedd deddf,
Ond 'roeddwn yn athronydd
Cyfriniol swyn, wrth reddf;
Fe greai fy nychymyg
Ysbrydion yn y nos,
Na welais byth eu tebyg,
Yn y Fasarnen dlos.

Rhyw greaduriaid hynod
Ganfyddwn rhwng ei dail,
Yn troi yn gwn, a chathod,
A llewod bob yn ail:
Ond deuai 'r adar siriol
Ynghyd, ar doriad gwawr,
I gynal cwrdd undebol
Yn y Fasarnen fawr.

Is-law ei changau deiliog,
'Roedd calon lawen iach
A bachgen bychan bywiog,
Yn caru adar bach;

Hwy ganent am y tlysa',
A chredwn ar y pryd
Fod adar "Waen y Bala"
Yn canu yno i gyd,

Mi dynais nyth y Fronfraith
Wrth fyn'd i Dy'n y Ffridd,
Ond gwnaeth y weithred ddiffaith,
Fy ngalon lon yn brudd;
Bum am wythnosau wedyn,
Yn methu syllu 'n syth,
Yn ngwyneb 'run aderyn,
Wrth gofio am y nyth.

Mi bechais wedi hyny,
Ond cofiaf tra f'wyf byw,
Fy mod yn methu cysgu
'Rol tynu nyth y "Dryw;"
Ond "Robin" oedd fy ffefryn,
A'r deryn mwya'i fri,
Am fod ei enw'n "Robin,"
Run fath a f'enw i.

Rhyw anuwiolion duon,
Feddyliwn oedd y brain,
A llawen fyddai nghalon
Wrth dynu nythod rhain;
Ysguthan, a Phiogen
Oedd hefyd yn y set,
A chredwn fod Cornchwiglen
Yn ceisio dwyn fy het.


'Roedd pysgod "Aber Bleddyn"
Yn hysbys im i gyd,
A lloches pob pysgodyn
Adwaenwn ar ei hyd;
Ar lawer helynt gefais,
Rhaid i mi dynu llen,
Ond llawer gwaith y cwympais
I'r afon dros fy mhen.

Cychwynwn i bysgota
Gan deimlo'n benaf gwr,
A deuwn adre'n wlypach
Na'r pysgod yn y dwr;
A'r pysgod yn yr afon,
Yn gwawdio'r hogyn ffol,
Ond ambell frithyll gwirion
Oedd wedi colli'r ol.

Difyrwch pena'r flwyddyn
Oedd gwisgo bwgan brain,
A myn'd i fygu'r gwenyn
I'r Ceunant at fy Nain;
Ac er cael llawer colyn,
Mi ddaliwn yn fy sel,
Cawn iawn digonol wedyn
Wrth fwyta brechdan fêl.

Pan fyddwn wedi sori,
Maddeuwn i fy mam,
Os cawn i genad ganddi,
I fyn'd i'r Fawnog Gam,'

I lenwi mawn i ganlyn
Y gwyr wnai arnaf drefn,
Sef Dafydd Jones, y Dyffryn,'
Ac Evan Jones, y Cefn."

Cael myn'd i chware i'r 'Foty,'
Bob amser fyddai'n hwyl,
Ni welais byth er hyny
Le gwell i gadw gwyl;
'Roedd dawn Cymreig naturiol,
Gan wraig y bwthyn hen,
A throai'r dyla'n ddoniol.
Dan swyn arabedd Jane,

Wrth fyn'd i'r ysgol ddyddiol
I Gapel Talybont,
Bu llawer tro digrifol,
A llawer brwydr front,—
'Roedd ymladd lond fy mynwes,
Ond daliwn wawd a gwg,
Rhag ofn i "EVAN PETERS"
Fy ngalw'n fachgen drwg.

A chyn diweddu mhenod,
'Rwy'n teimlo ynwyf chwant,
Rhoi blod'yn bach ar feddrod
"Apostol mawr y plant;"
Mae 'i enw i mi 'n swynol.
Ni fedd fy nghalon drist,
'Run enw mwy urddasol,
Ond enw Iesu Grist.


Pan fyddai ef yn holi,
Mi deimlwn yn y fan,
Ei lais yn ysbrydoli
Fy amgyffredion gwan;
'Roedd ei edrychiad siriol
Yn gwneyd y gwan yn gryf,
A than ei swyn cyfriniol
Atebai'r plant yn hyf.
Os byddem wedi methu

A rhoi atebion clir,
Fe wyddai sut i'n denu
Nes cyraedd at y gwir;
Ac os y gwgai arnom,
Fe droai'r gwg yn wres
Trydaniaeth cariad rhyngom,
A nesem ato'n nes.

Anghofiais ei gynghorion,
A chrwydrais o fy lle,
Ond er fy holl ddiffygion,
Fy ngharu 'roedd efe;
'Roedd gras yn ei leferydd,—
A theimlai bachgen drwg,
Bod iechyd yn ei gerydd,
A chariad yn ei ŵg.

Gwr oedd a sêl frwdfrydig,
A gwyneb bywiog llon,
A chalon fawr garedig
Yn curo dan ei fron;

Hen athraw bendigedig,
Ni cha'dd y Nefoedd sant,
A'i enw'n fwy parchedig
Yn nghofion tyner plant.

Ac os oes rhydd gymundeb
Cydrhwng y byd a'r Nef,
Genhadon anfarwoldeb,
Dywedwch wrtho ef,
Fod llu o'i blant sydd heddyw
Ar hyd a lled y byd,
Yn caru gwel'd ei enw,—
Yn cofio ato i gyd.


Gwnawn ein dyledswydd bydd pob peth yn iawn.
Alaw, "Breuddwyd y Bardd.[3]

EISTEDDAIS i lawr mewn unigedd,
Myfyriais ar helynt fy oes,
Meddyliais fod bywyd yn wagedd—
Cynlluniau rhagluniaeth yn groes:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.


Gelyniaeth, a chariad, a chynen,
A ddaw yn feunyddiol i'n rhan,
Cymylau, ystormydd, a heulwen,
Mae blodau a drain yn mhob man:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd bydd pobpeth yn iawn.

Mae pawb yn y byd ar eu gyrfa,
Beth bynag a ddigwydd eu cwrdd,
Yn chwareu eu rhan yn y ddrama—
Ac wed'yn yn cilio i ffwrdd :
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.

Di-ystyr yw tlodi a chyfoeth,
Anrhydedd, a dirmyg, a hedd,
Tywyna yr haul foreu dranoeth
Ar ol i ni ddisgyn i'r bedd:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.


Y Mor Marw.

OR a barn Ddwyfol arno,—Môr marw,
Mor amhuredd trwyddo;
Llif marwol ar hen freiniol fro,
A llûn tristwch yn llen trosto.

Mor heli, lle bu mawr alaeth,—a Mor
Fedd marwol annuwiaeth;
Tragwyddol lwm, ei drwm draeth,
Mor o hylif marwolaeth.

Amhur Lyn erch, Mor len wyw,—y Duwdod
Ar wastadedd distryw;
Ow! Mor o lid marwol yw,
Gwywedig fôr gwae ydyw.

Marwol for yn ymorwedd,—yn oesawl
Ar ddinasoedd llygredd;
Cenllif, dylif, dialedd,
Yn rhuo barn ar eu bedd.


Ymson yr Afradlon.

AF, gwyraf wrth borth trugaredd—yno
Ca f'enaid ymgeledd;
Mynaf fyn'd, mae yno fedd
I holl hagrwch fy llygredd.


Fy unig ddadl, dlawd afradlawn―heddyw
Yw haeddiant y Cyfiawn;
Fy Ior hael, cofia yr lawn,
A rhinwedd gwaed yr Uniawn.


Dau Englyn
i Blant y Bala i'w dehongli.

DAU hen "lew " rheibus tewion,—ac "Onen "
I gynllun ynfydion
"Llwynogod eroes," difoes, defion,
A wincia 'n hyf wrth dalcen hon.

"Tarw" mewn lle anaturiol,—y "Bwch"
A hen "Ben Brenhinol;"
Anghyfaddas "Long" feddwol,
"Plas" i rai, p'le sy ar ol?



Y Pelydryn.

BYWIOL, hydraidd belydryn,—iach auraidd,
A chwery fel plentyn;
Swyna ddail, gusana ddyn,
Yrr iasau byw trwy rosyn.

Eirian glir belydryn glan,—a rhadlawn
Fyw ffrydlif o huan;
O liw perl, goleu purlan,
I loewi dydd, gwawl o dân.


Cadeiriad
"TALIESIN FYCHAN," yn Eisteddfod y Bala, 1893

GADAIR a'r holl arian,—yr hudol
Anrhydedd yn gyfan;
Heddyw'n glir a'i ddoniau glân,
Fachodd Taliesin Fychan.

Cadair wnaed i'r cadarn yw,—a thrylen
Wobr athrylith ydyw;
Ond gorsedd awen heddyw,
I ddyn o bur ddoniau byw.

Ei dalent ysbrydolodd,—i hanes
"HEN SASIYNAU" canodd;
Yr Amen hoff a'r mwynhau,
Yn ei odlau anadlodd.


Yr Ehedydd yn canu mewn storom

GWYLIAIS yr 'Hedydd gwiwlan,―ar ysol
Fyw orsedd y daran;
Tra hudol yn ngwersyll trydan,
Ei nodau dewr, mewn byd o dân.

O nefol lwyfan ufel-fellt,—ei gân
Esgynai trwy'r fflam-fellt;
I'r nefoedd uwch swn taran-fellt,
Yn donau mawl ar edyn mellt


Englynion Croesaw
I MEIRION, ŵyr Dewi Havhesp.

RHOI croesaw i'r baban tirion—yr wyf,
Wyr "Havhesp" yw Meirion;
A dilys fyw hudolion
Ireiddia i lwys ddwyrudd lon.

Gwiwlan deg eilun ei dad,—yw Meirion,
Anghydmarol gariad,
A gem ei fam, a thremiad
Awen fyw yn ei wen fad.

Haedda bill, fe ddaw bellach,—yn hogyn
O agwedd ddoniolach;
Y tlysaf o lauaf linach
Yr awen bur yw Meirion bach.

Boed heddwch a bywyd diddan—iddo,
Cynydded yn fuan,
I noddi cerdd,—nyddu cân
Wyl hyfrydol o wefrdan.




Davies ac Evans, Argraffwyr, Y Bala.

Nodiadau

[golygu]
  1. Yn ôl y Cynwysiad Christmas Box i'r d——l yw enw'r gan.
  2. Ei hen weinidog.
  3. "Dywed Ceiriog na wyddai ef am neb ond ei gyfaill Idris Fychan yn medru yr hen Alaw odidog hon; pa nifer sydd yn ei medru heddyw, tybed?

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.