O! Arglwydd da, argraffa
Gwedd
| ← O! Arglwydd, dysg im chwilio | O! Arglwydd da, argraffa gan David Charles (1803-1880) |
Ysbryd Sanctaidd, dyro'r golau → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
281[1] Myfyrdod yn y Gair
76. 76. D.
1 O! ARGLWYDD da, argraffa
Dy wirioneddau gwiw
Yn rymus ar fy meddwl,
I aros tra fwyf byw :
Mwy parchus boed dy ddeddfau,
Mwy annwyl nag erioed-
Yn gysur bônt i'm calon,
Yn llusern wiw i'm troed.
2 Myfyrdod am Gyfryngwr,
A phethau dwyfol drud,
Fo'n llanw 'nghalon wamal
Yn felys iawn o hyd;
A bydded praw maddeuant-
Yr heddwch sydd trwy'r Iawn—
Yn trigo yn fy mynwes
O fore hyd brynhawn.
David Charles (1803-1880)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 281, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930