Neidio i'r cynnwys

O! Deued Pob Cristion i Fethlem yr Awron

Oddi ar Wicidestun
Loywaf o'r sêr sydd yn britho'r ffurfafen Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam

gan William Williams, Pantycelyn

770[1] O! Deued pob Cristion
12. 8. 12. 8. T.

1. O! DEUED pob Cristion i Fethlem yr awron,
I weled mor dirion yw'n Duw;
O! ddyfnder rhyfeddod! fe drefnodd y Duwdod
Dragwyddol gyfamod i fyw!
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
Er symud ein penyd a'n pwn;
Heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd Hwn!
Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan―
Daeth Duwdod mewn Baban i'r byd;
Ei ras, O! derbyniwn; ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto Ef gweithiwn i gyd.

2 Tywysog tangnefedd wna'n daear o'r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
Dan goron bydd diben ein Duw.
Yn frodyr i'n gilydd, drigolion y gwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;

Ein disgwyl yn Salem, i ganu yr anthem,
Ddechreuwyd ym Methlem, mae Ef.
Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan—
Daeth Duwdod mewn Baban i'r byd!
Ei ras, O! derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto Ef gweithiwn i gyd.

—Anhysbys

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 770, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930