O! Dewch i'r dyfroedd, dyma'r dydd
Gwedd
| ← Awn, bechaduriaid, at y dŵr | O! Dewch i'r dyfroedd, dyma'r dydd gan Richard Jones o'r Wern |
Hwn ydyw'r dydd o ras ein Duw → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
291[1] "O! deuwch i'r dyfroedd."
M. S.
1 O! DEWCH i'r dyfroedd, dyma'r dydd,
Yr Arglwydd sydd yn galw;
Tragwyddol ras yr Arglwydd Iôr
Sydd fel y môr yn llanw.
2 Heb werth nac arian, dewch yn awr,
Mae golud mawr trugaredd
A'i ŵyneb ar yr euog rai-
Maddeuant a'i ymgeledd.
3 O! dewch a phrynwch win a llaeth,
Wel dyma luniaeth nefol;
Prynwch heb arian a heb werth,
Mae ynddynt nerth tragwyddol.
4 Mae'r wledd yn barod, O! bwytewch,
A llawenhewch yn Seion;
Tragwyddol hedd i blant y llwch;
O! profwch ei bendithion.
Richard Jones, Wern, Llanfrothen
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 291, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930