Neidio i'r cynnwys

O! Frenin nef a daear lawr

Oddi ar Wicidestun
Glalanha dy Eglwys, Iesu mawr O! Frenin nef a daear lawr

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)


wedi'i gyfieithu gan anhysbys
Cyduned seintiau daear lawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

315[1] Erfyn am Arddeliad Dwyfol
M.C.

1 O! FRENIN nef a daear lawr,
Mor werthfawr yw dy wedd!
Rho inni braw ar hyn o bryd
O'th nefol hyfryd hedd.

2 Goleua Di ein deall gwan
Ym mhob rhyw ran o'th waith:
Datguddia'n awr i'th annwyl blant
Dy fawr ogoniant maith.

3 O! cryned, Arglwydd, ger dy fron,
Dy holl elynion cas;
A llwydda hefyd yma'n awr
Wirionedd mawr dy ras.

4 Anwylaf Dad, O! arddel Di
Y genadwri hon,
Nes llanw â gwir wybodaeth glau
Holl gyrrau'r ddaear gron.

Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 315, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930