Neidio i'r cynnwys

O! Na bai fy mhen yn ddyfroedd

Oddi ar Wicidestun
Dan dy fendith, wrth ymadael O! Na bai fy mhen yn ddyfroedd

gan Ann Griffiths

[[]] →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

338[1] Ffyddlondeb Duw i'w Eglwys.
87. 87. D.

O! NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
Fel yr ŵylwn yn ddi-lai,
Am fod Seion, lu banerog,
Yng ngwres y dydd yn llwfwrhau;
O! datguddia y colofnau
A wnaed i'w chynnal yn y nos―
Addewidion diamodol
Duw ar gyfrif angau'r groes.

2 Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod
Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth;
Ond mwy rhyfedd, wedi 'mhrofi
Y dof i'r canol fel aur coeth:
Amser cannu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel heb ddim braw;
Y Gŵr a fydd i mi'n ymguddfa
Sydd â'r wyntyll yn ei law.

3 O! am ddyfod o'r anialwch
I fyny fel colofnau mwg.
Yn uniongyrchol at ei orsedd,
Nid oes yn ei wedd Ef wg:
Amen diddechrau a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un;
Amlygu mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth euog ddyn.

Ann Griffiths


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 338, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930