Neidio i'r cynnwys

O Gors y Bryniau/Henaint

Oddi ar Wicidestun
Y wraig weddw O Gors y Bryniau

gan Kate Roberts

HENAINT

WRTH eistedd wrth y tân yn y fan yma heno, teimlaf yn rhyfedd iawn. Nid yn aml y byddaf yn edrych yn ôl i'r gorffennol, ond aeth digwyddiadau'r misoedd diwaetha yma a mi yn ôl rhyw ddeuddeng mlynedd ar hugain rhag fy ngwaethaf. Pan fydda' i yn rhoi tro i'r gorffennol, rhyw aneglur iawn yw pethau yno i mi. 'Rwyf yn cofio pethau wrth gwrs, ond yn eu cofio fel dyn pedair a deugain y byddaf ac nid fel hogyn deuddeg. Ond heno, mi fedrwn ddweyd wrthych, nid beth a ddigwyddodd pan oedd Twm bach Llain Wen a minnau yn yr ysgol, ond mi fedrwn ddweyd sut 'ogleu oedd ar yr hen ysgol ac ar yr hen lyfrau tamp rheini yn y cwpwrdd wrth y drws. Y pnawn yma, mi glywais ddannedd Twm bach Llain Wen yn rhincian wrth gwffio efo'r Scŵl ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ac mi deimlais gyffyrddiad bodis melfed fy athrawes ar ochr fy wyneb wrth iddi farcio fy syms. Rhywsut fe aeth deuddeng mlynedd ar hugain o 'mywyd yn ddim, ac yr oedd Twm bach a minnau yn yr ysgol efo'n gilydd yn ddau gwb o'r deuddeg i'r tair ar ddeg. Mae Twm yn ei fedd heno yn ddyn pedair a deugain oed. Mae'i fam yn fyw yn hen wraig wyth a phedwar ugain. Yn ei hen dŷ yn Llain Wen y mae hi'n byw, efo'i merch Gwen; gwaith rhyw chwarter awr oddiyma yw Llain Wen. Wedi i Twm briodi efo Ann y Wern, cafodd waith yn Chwarel y Fenlas, ac mi symudodd i'r ardal honno i fyw. 'Rwyf i yn byw yn fy hen gartre o hyd. Bu Twm a minnau yn canlyn ein gilydd nes priododd o a mynd oddyma i fyw. Wedyn, fel mae hi'n digwydd, collsom olwg ar ein gilydd, a fyddem ni byth yn taro ar ein gilydd ond pan ddoi Twm i gladdu rhywun i'w hen ardal, neu i edrych am ei fam; neu pan darawem ar ein gilydd mewn ffair yn y dre.

Tua diwedd y flwyddyn ddwaetha dwedwyd wrthyf fod Twm yn cwyno, ac nad oedd o ddim efo'i waith hanner ei amser. Mi euthum i Lain Wen i holi ac i gael tipyn o'i hanes. Ond ni wyddai neb yno ddim byd. Nid oedd yr hen wraig yn fy 'nabod ar y dechreu, ac nid oeddwn yn synnu at hynny, oblegid yr oedd misoedd er pan fum yno. Ond wedi imi ddweyd pwy oeddwn, yr oedd yn cofio ar unwaith, a holodd fi ynghylch y gwartheg a'r anifeiliaid. Cofiai fod un o'r gwartheg yn sâl gennyf.

Ymhen rhyw fis wedyn, clywais mai gwael iawn oedd Twm, ac euthum drachefn i Lain Wen i wybod ai gwir a glywswn. Clywsent hwythau drwy lythyr oddiwrth Ann mai gwael iawn ydoedd, ond nid oedd yno lawer o bryder.

"Rhyw boen yn 'i frest sy gyno fo," ebe Gwen, gan daflu'r peth heibio.

Eisteddai'r hen wraig yn ei chornel wrth y tân, ac nid adwaenai fi mwy na'r noson cynt, fis cyn hynny. Wedi imi ddweyd pwy oeddwn, "O 'r tad," ebe hi, gan ddodi ei llaw ar fy ysgwydd, fedrwn i yn y myw weld dim byd yn debig ynat ti, ond mi gwela i o 'rwan." A chwarddodd yn galonnog.

Nid oeddwn yn rhyw dawel iawn fy meddwl ynghylch Twm, a thrannoeth euthum yno gyda'r trên i weld drosof fy hun. Synnais yn fawr pan welais ef yn y fan honno yn eistedd wrth y tân; yr oedd golwg wael iawn arno. Ei wyneb yn felyn ac yn deneu, a'i ddwylo'n lân. Eto, yr hen Dwm oedd yno yn sôn am ei gôr yn y chwarel gydag afiaith.

"'Rydw i yn disgwyl y bydda i 'n o lew at gwarfodydd y Nadolig yma," meddai, 'rydw i wedi cael dwrnod go dda heiddiw."

A sgwrsio am gorau a chystadlaethau y buom drwy'r amser. Wrth gychwyn oddi-yno, daeth Ann i nanfon i, ac yr oedd ei hwyneb yn hollol wahanol i'r hyn ydoedd yn y tŷ. Yno yr oedd yn llawen, a phrin y gallasech ddweyd fod dim yn ei phoeni. Wedi dyfod allan y canfûm mai ymdrech oedd hi arni yn y tŷ.

"Sut 'roeddat ti yn 'i weld o?" meddai. "Yn well nag 'roeddwn i 'n meddwl, meddwn innau, gan ddweyd anwiredd.

"Mae o 'n frenin heiddiw wrth yr hyn fuo fo," ebe hi. "Amball ddwrnod mae o 'n cael poenau ofnadwy." "A wir," ebe hi, gan fygu ochenaid, ' lliw drwg iawn mae'r doctor yn 'i roi ar betha."

"Wyddan nhwtha mo'r cwbwl," meddwn innau, beth mae o 'n ddeyd ydi'r matar?

"Tydi o ddim yn deyd yn rhyw blaen iawn," ebe hithau. "Ond rhaid imi fynd i'r tŷ. Paid â bod yn ddiarth."

"Mi ddo i yn o fuan eto," meddwn i wrth groesi'r gamfa i'r cae.

Ond i'm cywilydd nid euthum am hir iawn. Rhyfedd fel mae dyn yn medru anghofio salwch sydd yn ddigon pell oddiwrtho. Felly bu hi efo minnau.

Pan euthum yno wedyn, ni allwn gredu fy llygaid gan gymaint y newid yn Nhwm. Ar fy myned i'r tŷ clywn arogleu pobi bara da. Yr oedd Ann wrthi'n tynnu'r bara o'r pobty, a Thwm yn eistedd gyferbyn, a'i wyneb yn deneuach ac yn felynach a'i lygaid yn fawr. Pe gallesid trawsnewid yr wyneb hwnnw, fe fuasai yn ddarlun cysurus. Ni chymerodd lawer o sylw ohonof, ond cadwai ei olwg ar Ann yn tynnu'r bara o'r popty. Cnociai hithau o danynt efo'i migyrnau, fel petai hi'n cnocio drws, i edrych a oeddynt yn barod. "Gwna hyna eto," ebe fo wrthi, "gwna hyna eto," a'i lygaid yn rhythu.

A chnociodd Ann y dorth i'w fodloni. "Fel yna y bydda mam yn gneud ers talwm," meddai wrthyf i.

A daeth rhyw olwg dros ei wyneb, yr un olwg ag a welais arno lawer gwaith mewn cyfarfod llenyddol, pan fyddai'r beirniad yn rhoi ei feirniadaeth, ac wedi dweyd digon ohoni i ddangos mai ei gôr ef oedd y goreu. Diflannodd yr olwg yna'n fuan a throdd ei lygaid at y tân. Felly y bu tra fum yno, yn syllu i'r tân, heb ddweyd fawr ddim, ond ateb ambell gwestiwn. Gofynnodd un cwestiwn ohono'i hun heb dynnu 'i olwg o'r tân.

"Sut mae mam?" meddai.

"Mae hi'n reit dda o ran 'i hiechyd," meddwn, "i cho hi sy'n mynd."

"Ia'n tê?" meddai yntau, "eitha i hynny fod, am wn i."

Nos drannoeth euthum i Lain Wen. Gofynasai Gwen imi fynd oblegid yr oedd yn bryderus iawn erbyn hyn. Yr un fath â'r troeon cynt, nid adwaenai'r hen wraig fi. Ac wedi gwybod pwy oeddwn, ni chymerai ddim diddordeb ynof i na'm pethau.

Yr oedd yn noson galed, loergan leuad, a dim awel o wynt yn unman. Yr oedd y rhew yn crensian dan fy nhraed ar hyd y ffordd tua Llain Wen.

"Codi'n wynt mawr y mae hi'n tê?" ebe'r hen wraig heb annerch neb mwy na'i gilydd.

"Faint sy tan 'Dolig?" ebe hi, cyn imi gael siawns i'w chywiro ar gwestiwn y gwynt.

"Deufis," ebe finnau.

"Diar bach," ebe hi, "'rydw i yn cofio fel petai hi'n ddoe am dana i ag Aels fy chwaer yn gwneud cyflath ddydd cyn 'Dolig pan oeddan ni'n dwy yn gweini yng Ngwastad Faes. "A wyst ti be?" ebe hi, gan daro ei llaw ar fy mhen glin, mi rhoethon ni o allan i oeri. Gynta 'n bod ni wedi gneud, dyma ni'n clywad rhyw sgrech fwya ofnadwy. A beth oedd yno ond rhyw hen iar wedi rhedag drwy'r cyflath, ac wedi llosgi. Mi ddoth i hewin hi i ffwrdd, y gryduras." A chwarddodd yr hen wraig.

"Tewch â'ch lol, mam," ebe Gwen yn snaplyd.

"Sut 'roedd Twm?" ebe hi wrthyf yn addfwynach.

"Symol iawn," meddwn i, "symol iawn, wedi gwaelu'n arw er pan welis i o'r tro dwaetha."

"Ia," ebe hithau, "ron inna yn i weld o wedi gwaelu'n arw y arw y dwrnod y buom i yno. Mae arna i ofn fod rhwbath wedi gafael yn Twm."

"Bobol bach," ebe'r hen wraig, "mi fydda yna betha digri yn digwydd es talwm."

"Tewch, mam," ebe Gwen yn ddiamynedd, "dydach chi ddim yn clwad Wil yn deyd mor sâl ydi Twm?"

"Twm?" ebe'r hen wraig, "ia'n tê?" Aeth rhagddi wedyn.

"Rydw i'n cofio Aels a minnau'n dwad adra dros bompran Gwredog efo'n cariada, o Ffair Wyl Grog, a phan oeddan ni ar y bompran, dyma ni'n gweld ysbryd, a ffwrdd a ni yn yn hola, yn ôl dest i'r dre, ac adra rownd y lôn wedyn. Mi 'roedd Aels yn hogan glyfar hefyd. Mi gai hi neb fynna hi yn gariad."

Wrth edrych arni yn eistedd yn y fan honno, yn hen wraig hen, âi fy meddwl yn ôl at yr amser pan fyddwn yn galw yno heibio i Dwm i fynd efo fo i'r ysgol. Gwraig bach, writgoch, gron, oedd hi'r adeg honno, fel twmplin 'falau, yn mynd yn fân ac yn fuan o gwmpas y tŷ. Yr oedd ganddi feddwl y byd o Twm. Y fo oedd yr hogyn 'fenga, a mawr oedd bydau ei fam efo fo. Yr oedd yn rhaid iddo wisgo mwstard mewn gwlanen ar ei frest drwy'r gaea a'r ha bron. Ac at hynny, hances wlanenéd am ei wddf ac yn croesi ar draws ei frest o dan ei fresus. Byddai'n rhaid i Dwm doddi'n llymad yng ngwres Gorffennaf cyn y cai eu tynnu. Ni chai'r gwynt chwythu arno gan ei fam. Meddyliwn am y fam weithgar honno,—a'r hen wraig hon, yn eistedd wrth y tân a'i dwylo dros 'i gilydd.

Am wn i mai'r un dillad oedd ganddi 'rwan. Nid oeddwn yn ei chofio erioed heb y cap gwyn o dan yr het wellt ddu. Nid cap gwyn wedi'i gwicio oedd o chwaith, fel a welais i gan Betsan Ifan pan oeddwn i'n hogyn, ond cap gwyn a ffrilin, a het bach gron ddu yn troi at i lawr, a'i chantel wedi ei rwymo efo melfed a phluen o gwmpas y corun. Un felly a welais ganddi erioed, ac ni welais hi 'rioed hebddi am ei phen yn tŷ. Yr oedd ganddi bais stwff gartre amdani, bodis gwlanen, a barclod glas a gwyn; ac am ei thraed bâr o glocsiau a chlesbin gloyw arnynt.

"Yr un siort o ddillad," meddwn i wrthyf fy hun, ond nid yr un wyneb na breichiau. Nid y breichiau yma a welais i ers talwm yn tylino padellaid o does, nes byddai yn gwegian fel tonnen odani. Ychydig o'i hwyneb oedd i'w weld yrwan, oblegid clymai llinynnau ei chap o dan ei gên. Yr oedd yr ychydig oedd i'w weld yn rhychau i gyd, fel llaid ar ôl glaw. Yr oedd ei dwylo'n felyn a brych, fel papur wedi brychu mewn ystafell laith. Yng nghongol ei llygad yr oedd diferyn o ddŵr. Ysgydwai ei phen o hyd, weithiau i fyny ac i lawr, weithiau o'r chwith i'r dde.

"Codi'n fwy o wynt y mae hi'n tê?" ebe hi drachefn.

"Ie," ebe fi, "a rhaid imi ei throi hi." Wrth imi agor y drws ar noson dawel a'r lleuad ar lechen y drws, clywn yr hen wraig:

"Codi'n wynt mawr y mae hi."

Euthum adre'n brudd.

Bum yn edrych am Dwm droeon ar ôl hyn, ac i'm golwg i gwaethygu yr ydoedd bob tro.

Diwrnod Ffair Gaea yr oeddwn yn y dre'n fore. Ond er mor fore ydoedd yr oedd un o gymdogion Twm, a wyddai am ein cyfeillgarwch, yn chwilio amdanaf. Gwyddwn oddiwrth ei wyneb fod ganddo newydd drwg. Yr oedd Twm yn wael iawn, meddai, yn waelach er y noson cynt, ac ofnai na byddai yno erbyn yr âi adre o'r ffair. Cychwynnais ar unwaith tuag yno gan adael y ffair i'r neb a'i mynnai. Yr oeddwn am gael un olwg ar Dwm wedyn. Ond yr oeddwn yn rhy ddiweddar. Yr oedd wedi darfod ryw awr cyn hynny. I mi y rhoddwyd y gorchwyl o ddweyd y newydd yn Llain Wen.

Cerddais yn ôl bob cam, ac erbyn imi gyrraedd Llain. Wen, canai'r cyrn un o'r gloch.

Wrth agor y llidiart i'r llwybr a arweiniai at y tŷ, gwelwn yr hen wraig yn y drws, a'i phen yn ymestyn heibio i'r cilbost. Cyn imi agor y llidiart, gofynasai dyn a âi heibio, ai honno oedd y ffordd iawn i Lanberis. Gwelsai'r hen wraig ef mae'n amlwg, oblegid ei chwestiwn cyntaf i mi oedd:

"Beth oedd ar y dyn yna eisio, deydwch?"

"Eisio gwybod oedd o ar y ffordd iawn i Lanberis."

"O'r tad."

Syllodd arnaf wedyn.

"Pwy ydach chi?" ebe hi.

"Wil," meddwn i, "Wil, ffrindia Twm bach."

"O'r tad," ac ni wyddwn oddiwrth ei mynegiant a wyddai pwy oeddwn ai peidio. Pwysais fy nghefn ar wal y tŷ, gan feddwl am y ffordd esmwythaf i'w ddweyd wrthi. "Wedi dwad i'r drws i spio o nghwmpas cyn iddi dwllu'r oeddwn i," ebe hi.

"Ia?" A brysiais yn fy mlaen drwsgl. "Rhyw newydd go ddrwg sydd gin i ichi'r hen wraig. Mae Twm, druan, wedi'n gadael ni." "Twm," ebe hi, "pwy Dwm?"

"Ond Twm, ych mab chi, ych mab fenga chi," meddwn i.

Edrychodd yn ddi-ddeall, ac ebe hi:

Tydw i ddim yn 'i nabod o, wldi."

Hydref, 1924.

Y DIWEDD.

Nodiadau

[golygu]