Neidio i'r cynnwys

O Gors y Bryniau/Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Prentisiad Huw O Gors y Bryniau

gan Kate Roberts

Yr athronydd

HIRAETH

ODDEUTU naw ar gloch nos Sul ydoedd, ac eisteddai John Robaits a'i wraig, Elin, o bobtu'r tân, mewn cegin gysurus yn eu tŷ, yn Heol y Mynach, Pentre'r Glo. Yr oedd tân mawr coch yn y lle tân—tân digon mawr i rostio gŵydd o'i flaen, ac nid oedd cyfle i'w oleu daflu ei lewych ar y pared gyferbyn gan ddisgleiried goleu'r trydan a grogai o'r nenfwd. Cuddid y llawr teils coch a du gan linoleum tew, eithr nid yn rhy dew i guddio'r ffaith mai teils a oedd o dano ac nid coed. Iaith popeth yn y tŷ hwn oedd fod y teulu'n byw'n ddel, ac mai gair amhriodol am eu tŷ a fyddai y gair "llwm."

Eisteddai John Robaits yn y gadair freichiau yn ei ddillad gwaith—dillad duon y glowr. Trywsus "duck" wedi rhwbio digon yn y talcen glo i fod yn ddigon du i gurad. Yn lle'r goler ledr a wisgai am ei wddf yn y chwarel ers talwm, yr oedd crafat coch a du a gylymai dan ei ên, wedi dau dro o amgylch ei wddf. Am ei draed yr oedd esgidiau hoelion mawr—heb arlliw llwch llechi yn y tyllau careiau hyd yn oed.

Darllenai Elin Robaits y Cymru Mawr, ac edrychai ei gŵr yn synfyfyriol i'r tân.

Oedd, yr oedd llythyr William Tan y Chwarel wedi siglo tipyn ar feddwl John Robaits heddiw. Ysgrifennai William unwaith yn y pedwar amser at John i ddywedyd sut yr âi pethau ymlaen yn y Chwarel a'r hen fro. Codi calon ei hen gydymaith a wnai llythyr William bob amser, ond cafodd ei lythyr ddoe effaith wahanol. Nid prudd mohono, ond hawdd i'w wraig weled ei fod am godi ei binnas i fynd i'r Gogledd yn ôl. Adwaenai yr arwyddion hynny er pan ddaeth gyntaf i'r De. Yn lle mynd i'r Ysgol Sul fel arfer, fe arosasai John adref i bendympian wrth y tân, ac nid i bendympian chwaith, oblegid pan ddaeth Elin yn ôl o'r Ysgol Sul, dyna lle'r oedd pentyrrau o hen luniau hyd y bwrdd, a John yn edrych yn graff dros ymyl ei spectol ar rai ohonynt. Un mawr a oedd ganddo yn ei law y munud hwnnw—un o holl chwarelwyr y Fenlas, yn un o flynyddoedd ei bri. Daeth y llun a'r gorffennol yn fyw iawn i gof John Robaits. O'i flaen yr oedd William Cae Hywel, a laddwyd ar waelod y Twll Mawr y diwrnod poeth hwnnw ym mis Gorffennaf, a'i wraig a'i blant wedi mynd i lan môr Dinas Dinlle am dro. Yno hefyd yr oedd Dic yr Hendre a ddihangodd i'r Merica rhag dlêd ei wraig. Yno o'i flaen yr oedd wyneb hawddgar Dic y Morfa a laddwyd yn y Rhyfel. Ond yr oedd mwy o'r darlun yn fyw nag oedd wedi marw, galwai'r holl wynebau hynny arno ef, John Robaits, Pen Bryn gynt, yn ôl i'r hen fro.

Ac yn awr wrth eistedd wrth y tân, cyn cychwyn am ei shifft nos, yr oedd mor aflonydd ac mor barod i swnian a gwenynen o amgylch bys coch.

"Ym mhle rhowd y llythyr yna, Elin," ebe fe toc.

"Pa lythyr?"

"Ond llythyr William."

"Chdi a dy lythyr! I be 'rwyt ti'n colstro. Mi 'rwyt ti wedi ddarllan deirgwaith esys. Rhwng hôl dy fysadd di a blotia William, fedar Guto byth i ddarllan o pan ddaw o o Gaer Dydd nos Wenar."

"Rhaid imi gael cip arno weldi. Tydw i ddim yn cofio'n iawn ym mhle y deydodd o fod y côr yn cystadlu ddydd Llun y Pasg." Ond yn y dre, siwr iawn. Does dim Steddfod yn unman arall."

"Aros di, doro imi weld," a chwilotodd yn ddyfal yn nrôr y cwpwrdd gwydr. Gan fod ei spectol ym mhoced ei gôt oreu yn y llofft, bu raid iddo ymfodloni ar un pâr o lygaid yn unig. Ond gwyddai John y llythyr yn ddigon da erbyn hyn i'w roi wrth ei gilydd. Rhedai ei olwg dros frawddegau fel hyn:

"Mae ma bracteisio brwd erbyn Steddfod y Dre, Llun y Pasg. Mi roth Lloyd hanner awr ecstra inni ganol dydd ddoe am bractis, o achos bod piano'r hen Breis i fyny yn y chwarel. Mi 'roedd holl sachau siop Ned o dani rhag iddi faeddu.

"Mae hi wedi bywiogi'n gynddeiriog ffordd yma 'rwan, ac mae hi'n dipyn gwell arnom ni na fuo hi ers blynyddoedd. Tair a phymtheg ydi'r isrif cyflog, ac wrth gwrs os byddi di mewn bargan go lew mi gei fwy o gryn dipyn. Mae'r talu bob wsnos yma'n gaffaeliad mawr rhagor y talu bob mis hwnnw, hyd yn oed pe tasa fo'n llai, medda Maggie.

Mi wyddost lle'r wyt ti efo dy lyfr siop. Wyt ti'n cofio Robin Blaen Ddol ers talwm yn deyd wrth Robaits y clarc i fod o'n medru celcio ugain mlynedd cyn hynny, gimint ag oedd o'n ennill y pryd hwnnw, a hynny heb i'r wraig wbod dim. Mae rhai o'r boys, yma, yn galw'r talu gawn ni ar y bedwerydd wsnos, sef hynny fyddi di wedi i neud dros ben yr isrif, yn dâl mawr Dowlais.' Ydyn nhw yn cael rhyw arian mawr iawn yn y Dowlais yna, dwad?

"Mae yma well siawns i hogyn ddwad i flaen 'rwan hefyd. Mae'r crymffastia hogia pedair ar ddeg yma yn cael shed iddyn nhw'i hunain, a rhai ohonom ninnau yn mynd yno i'w dysgu nhw. Dim rhagor o feichio cefnau'r creaduriaid bach ar ddydd Llun pen mis. Mae nhw'n cael dysgu'i crefft fel rhyw fodau dynol arall 'rwan.

Rhwng popeth, mae pethau'n edrych yn go dda. Mae mwy o baent ar hyd wynebau'r siopau nag a fu ers deng mlynedd. Mae 'Partner Bach a Dewr a'r 'Hen Gae' yn gadael Clwb yr Hen Lanciau, ac yn ymuno â'r Clwb mawr arall yna, tua Glamai yma.

"Sut mae hi'n mynd tua'r Sowth yna? Fydd arnat ti ddim blys dwad yn ôl i ganu ar ben côr Ben Solo, etc., etc."

"Mi fydd arna'i awydd garw mynd yn fy ôl i'r North weithia, Elin," ebe John.

"Bydd?" (heb godi ei phen).

"Bydd wir, hogan. Rhyw bysgodyn allan o ddŵr ydw i yn y pwll glo. Tydw i byth wedi dwad dros yr ofn hwnnw pan eis i i lawr y pwll glo'r tro cynta, a Dic Terfyn, yr hen greadur, efo mi—yn gofyn tybad sawl pry genwair oedd rhyngon ni a'r top, ac yn deyd mai bwrw glaw allan yr oedd hi pan glywodd o rhyw dwrw."

Dyn mewn oed fel chdi yn sôn am ofn a thithau wedi gweithio ar waelod twll mawr y Fenlas ar hyd dy oes.'

"Ia, ia, Elin bach, ma awyr las wrth dy ben di yn fanno, ac nid rhyw filltir a hanner o dywod."

"Wel, does arna'i ddim eisio mynd yn f'ôl, beth bynnag. Byd gwan fydd yno eto mhen dim gwerth, a chawn ni mo'r cysur sydd gynon ni yma," ebe Elin, gan droi ei golwg ar y piano.

"Mi fasa'n well gin i fyw mewn byd gwan nac mewn byd du fel hwn. Twyt ti yn cael fawr o gysur ond hynny gei di wrth ennill arian yn y fan yma."

"Wel, dyna beth na chest ti mono fo yn y North am flynyddoedd gora d'oes."

"Ella wir, ond mae'n haws magu plant yno, a hynny ar lai o arian. Mi gaiff dyn laeth enwyn ne rwbeth yn fanno. Ond am y fan yma, rhaid iti dalu crogbris am dipyn o laeth enwyn."

"Ia, ond weli di, John, 'rwyt ti yn cael arian i dalu amdano fo yn y fan yma. Well i ti dalu grôt am chwart o laeth enwyn na chael wyth chwart am geiniog, a dim ceiniog yn y tŷ."

"Mae rhywbeth yn dy bethau di hefyd, Elin," ebe John.

"A pheth arall," ebe Elin, "dyna Guto heb orffen i Golag. Rhaid inni aros yma nes gorffennith o yng Nghaer Dydd."

"Does dim rhaid iddo fo aros. Mi gaiff orffan ym Mangor. Mi gai lodgings yn rhatach hefyd."

"Dwn i ddim am hynny chwaith."

"Tae waeth am hynny," ebe John, "mi liciwn i ddiweddu f'oes yn fy hen fro. Ac mi liciwn naddu tipyn o ladis wyth ac ugian deuddag eto rhag ofn mod i wedi colli fy llaw arni."

"Mi 'rwyt ti'n siarad fel petae ti mewn wsnos i dy bension," ebe Elin.

"Mi fasa rhywun yn meddwl ar y ngwallt i, mod i," ebe John. "Ac i'r North yr â i cyn yr aiff o ddim gwynnach."

Botymodd ei gôt, rhoddodd ei gap am ei ben, ac wedi dweyd "Nos Dawch," allan ag ef i'r nos.

Cododd Elin i roi clo ar y drws, ac wrth wneud hynny clywai sŵn traed trwm John ar y palmant, a hwnnw'n darfod yn y pellter. Beth bynnag oedd yn bod, clywai Elin Robaits y sŵn traed hwnnw yn ei chlustiau am hir amser wedi rhoi ei phen ar y gobennydd, ac yn ei dychymyg clywodd ef ganwaith wedyn.

****

Pa hyd bynnag y cysgodd, deffrowyd hi yn sydyn gan gnoc ar y drws. Deffrodd mor sydyn fel na allai gael ei meddwl at ei gilydd. Beth oedd? Pa un ai shifft nos ai shifft dydd a oedd gan John? Cofiodd, ac ar unwaith daeth ei chalon i'w gwddf. Ni ŵyr hyd eto sut yr aeth i lawr y grisiau, ond yno y'i cafodd hi ei hun yn wynebu un o'r glowyr—un o gyd-weithwyr John. Nid adnabu ef ar y foment—oni chlywodd lais,—"O, Mrs. Roberts, chi sy ma. Dewch i fi ddod miwn. (Ni feddyliasai Elin Robaits am ofyn iddo.) Na, ferch dda, pidwch chi a styrbo'ch hynan 'nawr. Shteddwch lawr (gan afael yn ei braich). Ma John wedi cael ticyn o anap idd i gôs, ond d'yw e ddim rhw lawer—pidwch chi ag upseto 'nawr, d'yw e ddim cynrwg ag oen i 'n meddwl ar y cynta." Ni allodd Morgan Hopcyn fynd ymhellach. Bu raid iddo redeg i nôl dipyn o ddŵr, ac fel y plygai uwch ei phen i'w estyn iddi, gallech weled dwy ffrwd yn gwneud dwy rês wen yn nuwch ei wyneb.

"Na fe, Mrs. Roberts fach, e fydd John yn ôl reit, marcwch chi beth wi'n weyd wrthoch chi. Rodd e'n siarad yn itha hapus da fi'n awr cyn cychwyn ac yn gweyd wrtho i am weyd wrthoch chi y bydde fe'n A1 mhen dwarnod ne ddoi."

"Gobeithio y bydd o wir," ebe Elin Robaits rhwng ei hocheneidiau, ond ma'n ddrwg gin i 'rwan mod i wedi deyd gair yn 'i erbyn o fynd i'r North. Ella na fasa hyn ddim wedi digwydd petae ni wedi mynd hannar blwyddyn yn ôl."

"Pidwch a wilia shwd ddwli," ebe Morgan Hopcyn, "fyse wedi câl yr anap hyn ble bynnag y byse fe. (Y Sul cynt y taerai Morgan Hopcyn yn yr Ysgol Sul yn erbyn Arfaeth.) A fydd raid i chi ddim poeni dim, e fydd y coliars yn biwr i gwala i chi."

Fe wyddai Elin Robaits hynny'n iawn er yr adeg y cafodd John lid ar yr ysgyfaint.

"Chi fyddwch yn ôl reit, a nawr wi am fynd i moyn Rachel 'co i ddod lan i gadw cwmpni i chi, wath ma nhw'n meddwl mynd a John i'r Hospital. Dyna fydde ore mynte'r Doctor achos ma dolur bach itha seriws ar i gôs e."

**** Nos Fawrth wedyn eisteddai Elin Robaits wrth y tân, newydd gyrraedd adref o'r ysbyty lle y buasai y diwrnod hwnnw a'r diwrnod cynt. Yr oedd amryw o gymdogesau yno, wedi galw i ofyn am ei gŵr. Yr oedd hithau yn falch iawn o'u gweled. Ond yr oedd rhywbeth arall ar ei meddwl, a chwenychai gael y tŷ iddi ei hun. Pan gafodd hynny, estynnodd bapur ysgrifennu a phen ac inc o'r drôr. Cymerodd ddalen o bapur tê i sgrifennu arno'n gyntaf, rhag spwylio'r papur goreu, ac ysgrifennodd y llythyr yma at Stiward Chwarel y Fenlas:

ANWYL MR. LLOYD,

Mae'n debig y bydd yn rhyfedd gynoch chi gael llythyr gin i o'r fan yma. Fel y gwyddoch chi, ma John a finna i lawr yma ers tua deng mlynadd bellach, ac wedi gneud y'n cartra yn weddol gysurus yma. Imi dorri fy stori'n fyr. Mi gyfarfu John â damwain go fawr nos Sul. Yn yr Hospital y mae o, a phan o'n i yno heddiw, mi ddeydodd y Doctor bod yn rhaid torri 'i goes o i ffwrdd. Profedigaeth fawr, Mr. Lloyd bach. Ond imi ddwad at y pwynt. Dyma fy neges i: Mi hoffwn yn fawr pe baech yn medru gweld ych ffordd yn glir i wneud rhyw le bach go ysgafn iddo yn y chwarel, i "bwyso," neu rwbath felly. Wrth gwrs, mi gai waith ysgafn yn y pwll glo, ond mi liciwn i iddo fo gael gwaith yn y chwarel. Mae gin i reswm neilltuol dros ofyn hynny. 'Rydw i'n gobeithio y daw o drwy'r oparesion yn iawn. Mae'r Doctor yn deyd fod gyno fo siawns go lew wrth ei fod yn ddyn cryf.

Gobeithiaf yn fawr y medrwch chi neud lle bach i John druan.

Yr eiddoch yn ddiolchgar,

ELIN ROBERTS (Pen y Bryn gynt).

Ymhen hanner blwyddyn wedyn gwelid teulu yn troi eu cefnau ar Heol y Mynach ar eu ffordd tua'r stesion. Cerddai'r tad wrth faglau, a rhompiai'r tri phlentyn o gwmpas wrth feddwl am "bas" yn y trên.

Wedi cyrraedd y gornel trodd y tad ei olygon yn ôl at ffenestri moelion y tŷ gwag, a gellid ei weld yn sychu deigryn oddiar ei rudd â'i ffunen goch. Ond ni throdd y fam ei golygon yn ôl unwaith, eithr cerddodd ymlaen yn syth. Yn ei chlust yr oedd sŵn dau droed trwm ar y palmant, a hwnnw'n darfod yn y pellter draw.

Mai, 1921.

Nodiadau

[golygu]