O Gors y Bryniau/Prentisiad Huw
| ← Y man geni | O Gors y Bryniau gan Kate Roberts |
Hiraeth → |
PRENTISIAD HUW
BORE dydd Llun ydoedd, a bore diwrnod golchi mewn llawer tŷ yn Rhos y Fawnog. Yn Nhir Brith yr oedd y badell olchi ar ganol y llawr ar hen focs sebon ers chwech y bore,—neu, beth bynnag, er pan gychwynnodd Effraim Jôs i'r chwarel. Ar ganol llawr y gegin y golchai Ann Jôs bob amser, am y rheswm syml nad oedd ganddi dŷ golchi. Wrth edrych ar y llawr, yr oedd yno lanast anghyffredin. Ond ped edrychech dipyn o'ch cwmpas fe welech ôl eli penelin ar bopeth. Llanast ar yr wyneb oedd llanast Tir Brith, a hawdd oedd clirio llanast felly ar ôl gorffen golchi. Ac yn wir, yr oedd gan Ann Jôs waith golchi caled. Dygai dillad Effraim Jôs dystiolaeth i'r chwys a'r llafur ar waelod Twll Mawr y Fenlas.
Wedi bod yn chwythu'r tân am spel, rhoddodd Ann Jôs bwniad efo'r stwnsiwr i'r dillad gwynion oedd yn ffrwtian ac yn ffritian ac yn gollwng glafoerion dros ên ddu'r sospon.
"Rwan am dani," ebe hi, a gobeithio na thwllith neb drwy'r giat yna, nes bydda i wedi golchi'r clwt dwaetha ar y llawr yma, a chael slemp ar fy ngwynab fy hun wedyn."
Wrth rwbio'r dillad yn ôl a blaen ar hyd y golchwr, caiff pob dynes amser i feddwl; a rhedai meddwl Ann Jôs y bore hwnnw rhag ei gwaethaf at y diwrnod cynt. Nid oedd Huw, ei mab, fel efe ei hun y diwrnod hwnnw. Prentis mewn siop frethyn yn y dref oedd Huw, a deuai adref i fwrw pob Sul. Y Sul dan sylw, ni cheid gair ganddo am arian. Fel arall y byddai ef fel rheol, a gormod ganddo i'w ddywedyd, ac mewn tŷ lle na chlywid ond grwndi'r gath ar hyd yr wythnos yr oedd hynny'n beth amheuthun iawn. Ond yr oedd rhywbeth yn bod y Sul hwnnw. Nid oedd Huw yn cadw reiat. Mynych y dywedasai ei dad ar y Sul fod y chwilen a'i thraed i fyny ym mhen Huw. Eithr cofiai ei fam heddiw i Effraim ddywedyd wrth Huw y diwrnod cynt nad oedd y chwilen na'i thraed i lawr na'i thraed i fyny. A hi'n myfyrio fel hyn, dyma glic ar y llidiart, a dyma Elin Wmffras, Bryn Sais, i mewn, wedi ymwisgo yn ei dillad noson waith, a'i ffedog ddu o'i blaen, a'r ffasiwn dro yn ei gwefus, fel pe heb weld diwrnod golchi erioed yn ei bywyd.
"Rydach chi allan yn fora iawn ar fora dydd Llun," ebe Ann Jôs.
Ydw," ebe Elin Wmffras, "ma Betsan Tŷ Newydd acw'n golchi, a mi feddylis y baswn i 'n picio draw at yma am funud er mwyn iddi gâl lle."
"Tasa hi'n golchi 'i hun, fasa hi ddim ar fy ffor i nag ar ffor Betsan," ebe Ann Jôs yn ei meddwl.
"Rydw i wedi mynd na fedra i ddim golchi," meddai Elin Wmffras, mi fasa'n rhyfadd iawn gin i weld neb yn golchi imi cyn i Gwilym fynd yn brentis i Siop Huws."
"Wel, ers pan mae Huw yn siop Huws yr ydw i yn gorfod ymroi ati," ebe Ann Jôs. "Peth digon gwael ydi prentisio hogia mewn hen siopa; mae arnyn nhw eisio cimin o ddillad a phres pocad. Ond mi 'rydach chi'n cofio fel 'roedd hi yn yr hen chwareli yma pan yrris i o yno, dim cyflog jest, a 'ro'n i am dreio cael rhwbath amgenach na'r chwaral i Huw. Ond 'rwan, ers pan ma petha wedi siarpio dipyn, ma'n 'difar gin i na fasa fo yno efo'i dad. A deyd y gwir i chi, fydda i 'n gweld dim byd delach na chwarelwr del."
"Wir, fydd Gwilym acw byth yn cwyno am bres pocad, chwara teg iddo fo, mae o 'n un da iawn am hynny."
"Wel, mi fydda i 'n gofalu am roi digon o bres pocad i Huw 'ma, rhag ofn iddo fo weld 'i wyn ar bres rhywun arall,—ac ma hogia ar 'i prifiant fel hyn eisio rhwbath i fyta o hyd,—yn enwedig pan ma nhw mewn lle sy'n llwgu plant pobol."
"Ma Gwilym ni yn canmol 'i le yn arw, ac yn deyd bod Miss Huws yn paratoi tamad da i'r hogia bob pryd."
"Fel arall y bydd Huw yn deyd am 'i bwr' hi, ac ma hynny'n beth rhyfadd iawn, a nhwtha yn byta odd'ar yr un bwr' hi; ond fel yna ma hi; ma lot yn dibynnu ar beth ma'r plant wedi arfar gâl adra," ebe Ann Jôs, gan gymryd benthyg tro Elin Wmffras yn ei gwefus am dro.
"Ydi," ebe Elin Wmffras, heb weld уг ergyd, ac mewn brys i newid y testun, sut ma Huw? 'Rodd Gwilym yn deyd nad oedd o ddim hannar da tua'r Sadwrn, a 'ro'n i'n gweld golwg reit wael arno fo yn y capal ddoe fy hun."
"Chlywis i mono fo'n cwyno o gwbl, a mi ro'dd o 'n byta'n harti fel bydd o arfar, bob amsar adra." Hyn heb ollwng y gath o'r cwd ynghylch ei ddistawrwydd. "O, wel, gobeithio 'i fod o'n iawn. 'Do'n i ddim rhyw dawal fy meddwl, rwsut, heb ddwad draw i edrach rhag ofn 'i fod o'n sal."
"Mi gychwynnodd at 'i waith yn gynt nag arfar heiddiw, ac yn chwibianu mor glonnog a'r gog."
"O, da iawn wir, gobeithio ceith o fywyd ac iechyd."
"Besdad i'r ddynas," ebe Ann Jôs wrthi ei hun.
Ymhen spel, cododd Elin Wmffras i fynd, a safodd am hir iawn i edrych ar Ann Jôs yn gwasgu'r cynfasau allan o'r dŵr lliw glas. Nid oedd dim llai nag edmygedd yn ei llygaid wrth edrych ar ei chymdoges fedrus yn cyfrodeddu'r gynfas am ei braich, yn union fel yr ymgyfrodedda neidr am y pren.
Pan ollyngodd yr olaf ochenaid, ni wyddys yn iawn pa un ai oherwydd myned o Elin Wmffras yr oedd, ai ynte oherwydd bod y dillad gwynion, beth bynnag, yn barod i fynd allan.
Wrth daenu'r dillad ar yr eithin melyn, ni allai Ann Jôs beidio a meddwl am neges Elin Wmffras yno'r bore. Nid i fod oddiar ffordd yr olchwraig y daeth yno. Yr oedd yn sicr yn ei meddwl o hynny. Felly wrth edrych o gyfeiriad y twmpath eithin at y tŷ, nid oedd yn rhyfedd ganddi weld dyn dieithr yn troi trwy'r llidiart. Dechreuasai y dydd Llun yma o chwith, ac ni byddai'n syn ganddi, felly, ddigwydd o rywbeth mawr cyn y nos. Gadawodd y dillad ar hanner eu taenu ac aeth at y tŷ. Meddyliodd unwaith am dynnu ei ffedog fras, ond cofiodd am y clwt mawr oedd ar du blaen ei sgert. Ac er ei bod yn un o'r merched hynny sy'n hoffi clwt blêr yn well na thwll del, eto ni thynnodd ei ffedog gan iddi ei rhoi yn lân y bore hwnnw.
"Mrs. Jones," ebe'r dyn dieithr, mam Huw Jones sy'n brentis acw'n te?"
"O, Mr. Huws, chi sy 'na? Dowch i mewn, ac at y tân, os medrwch chi gamu tros y petha 'ma, gan roi cic i rai o'r dillad.
Na, dim diolch, fe wnaiff hon y tro i mi," gan eistedd ar gadair wrth y drws, fel pe'n falch o gael cadair.
"Ma'n ddrwg gin i bod 'ma ffasiwn lanast," ebe Ann Jôs, a'i gwefus isaf yn crynu; oblegid gwyddai, erbyn hyn, i rywbeth ddigwydd i Huw; ond ceisiai feddiannu ei henaid.
"Ma'n debyg na wyddoch chi ddim bedi byw mewn tŷ lle nad oes yno ddim tŷ golchi?"
"Dwn i ar y ddaear lle bydd yr hogan acw'n golchi; fydda i byth yn boddro ynghylch petha felly," ebe Huws.
Er pan ddaeth i mewn, cymerasai Ann Jôs sylw manwl ohono,—rhwng cromfachau, megis,—oblegid ni welsai feistr Huw o'r blaen. A barnu oddiwrth ei olwg, nid oedd dim yn debyg i siopwr ynddo, yn ôl ei barn hi. Meddyliai fod ei Huw hi yn amgen siopwr o'r hanner. Yr oedd golwg bryderus arno heddiw,—yn fwy felly nag arfer. Yr oedd rhywbeth heblaw arian yn ei boeni. Ebe fe o'r diwedd,—
"Ma'n debyg, Mrs. Jones, bod yn syn gynoch chi 'y ngweld i yma'r bora 'ma?
"Dyna jest be o'n i 'n feddwl 'rwan."
"Ma'n reit gas gen i ddeyd wrthach chi nad ydi Huw a finna ddim yn rhyw gyd-dynnu'n dda iawn."
"O."
"Nag ydan, bachgan go anodd 'i drin ydi o."
"Ma hynny'n dibynnu ar y sawl sydd yn 'i drin o."
"Nag ydi, wir, mi goelia i ma fel 'na basa Huw efo pawb."
"Fydd o byth yn anodd 'i drin adra, ac ma Effraim a minna'n rhywun, Mr. Huws.'
"O wel, Mrs. Jones, ma gwahaniath rhwng plant gartra ac oddicartra. Fel rheol, y rhai sydd ora adra, sydd waetha pan dro nhw'i cefna ar 'i rhieni."
"Ma hynny'n dibynnu ar y lle'r â'n nhw iddo fo, Mr. Huws."
'Ta waeth am hynny, ma hogia wedi mynd i feddwl 'rwan mai nhw 'di'r meistri, ac mai ni ydi'r gweision. Pan o'n i'n hogyn welis i 'rioed was yn meiddio gneud yr hyn ma hogia 'rwan yn 'i neud."
"Ella bod gwahaniaeth yn y meistri, Mr. Huws?"
"Uwd ne fara llaeth fydda mrecwast i bob amser, ond ma hogia 'rwan yn troi 'u trwyna ar fara a menyn i frecwast.
"Nac ydyn, Mr. Huws, os can' nhw fara menyn."
"Wel, bara a margarîn, ynta,—mae o'n ddifai i ddannadd crymffastia fel Huw yma. Welis i ddim 'menyn erioed, ond i dê, pan o 'n i 'n llafn."
"Ella ma dyna'r rheswm na fasa tempar well arnoch chi efo'r ddynoliaeth sy 'rwan, Mr. Huws. Ma'n rhaid cael rhwbath gwell nag uwd a bara llaeth i fagu coesau i redag ar negesi i siopwrs sy rhy grintachlyd i gadw ceffyl a char i'w danfon."
"Ta waeth," ebe Huws yn wyllt, "y rheswm pam dois i yma'r bora yma ydi, i ddeyd fod petha wedi mynd yn rhy bell. Mi alwodd fy chwaer arna i i lawr i'r gegin ganol dydd Sadwrn, a dyna'r lle 'roedd Huw a'i lygaid yn melltennu,—wedi codi row fawr ynghylch y bwyd,—deyd bod yr unig sosej gafodd o i ginio wedi mynd yn ddrwg, a deyd na fyta fo byth ffasiwn sothach."
Mewn gwirionedd, disgrifiad gwan iawn o'r twrw oedd hynyna. Eithr dyn an-farddonol, a rhy urddasol i ddefnyddio geiriau mawr oedd Huws. Gallai Gwilym, Bryn Sais, ei wneud allan o wynt yn hyn, fel mewn llawer peth arall, a'i ddisgrifiad ef i glustiau awchus ei fam nos Sadwrn oedd bod yno "andros o row."
"Doedd yr hogia erill yn cwyno dim," âi ymlaen.
"Nag oeddan, miwn; ma gynoch chi rai acw sy'n ormod o lechgwn i ddeyd dim yn ych gwynab chi, ond ma nhw'n ddigon parod i neud bwch dihangol o fy Huw i."
"Wel, i dorri fy stori'n fyr," ebe Huws, gan frathu ei ben heibio'r drws i edrych a oedd y llidiart yn agored, "pam dois i yma oedd, i ddeyd na ddath Huw ddim at 'i waith y bora 'ma. Yr oedd Gwilym Wmffras yn deyd 'i fod o wedi cychwyn, achos 'roedd o'n cerad rhyw ddeugian llath o'i flaen o, nes y daeth o at y tro hwnnw yn ymyl Pont Wyrfai; a 'ro'n i 'n meddwl y basa chi'n licio gwybod er mwyn i chi fynd i chwilio amdano fo." Dywedodd y frawddeg olaf ar y ffordd tua'r llidiart.
Yn awr, pe dywedasid hyn wrth bobl gyffredin fel chwi a minnau, fe gawsem wasgfa. Eithr nid dynes gyffredin fel chwi a minnau oedd Ann Jôs. Nid oedd mynydd a phant yn ei meddwl hi o gwbl. Yr oedd fel y gwastadedd a orweddai rhyngddi â'r môr. Yn lle cael gwasgfa, fe gafodd syniad. Cipiodd y gwlanenni oedd heb eu golchi yn y fasged i'r cefn. Taflodd y dŵr budr; tynnodd y sospon oddiar y tân ac aeth a hi allan; sychodd fymryn ar y llawr ac ar ei hwyneb a chweiriodd y gwely. Gwnaeth hyn i gyd oherwydd i'r gair "cwest" a'r gair "corff" basio drwy ei meddwl. Gwisgodd amdani ei dillad noson waith, a chychwynnodd i'r chwarel i nôl Effraim. Pan ofynnodd gwraig Bron y Gadair iddi beth a'i tynnai allan mor fore ar fore dydd Llun, yr unig ateb a gafodd oedd mai picio i neges yr ydoedd.
Er gwaethaf cwrteisrwydd Ann Jôs, ni allodd gwraig Bron y Gadair wrthsefyll y demtasiwn o fyned i ffenestr y llofft i weled mam ein gwron yn dringo llethr yr Allt Hir tua Chwarel y Fenlas.
Pan gyrhaeddodd y chwarel, mawr,—na, mae mawr yn air rhy ddôf i ddisgrifio syndod Ann Jôs o weld yn sefyll ar y bonc mewn sgwrs ddwys,—Huw, Effraim, a Lloyd y stiward.
"Wel wir," ebe hi, "dyma'r dydd Llun rhyfedda welis i 'rioed, a gobeithio na wela i byth un 'run fath ag o. 'Rydw i'n meddwl ma bryddwydio 'rydw i ers meityn. Gobeithio na cha i ddim strôc." Yr oedd Huw a'i gefn ati, a sylwodd y fam am y tro cyntaf erioed ar hyd coesau a chulni cefn ei bachgen. Y peth cyntaf a syrthiodd ar ei chlust oedd, "Cewch, yn eno'r bobol, ddechra bora fory, ond wrth gwrs, canlyn y wagan gewch chi am dipyn," gan Lloyd.
Pan drodd Huw, sylwodd y fam ar y gwahaniaeth oedd ynddo rhagor y diwrnod cynt. "Wel, Huw bach, oedd y cwbl a allodd ei ddywedyd. Golwg digon digalon oedd ar Effraim Jôs tan yngenyd," Saith mlynadd i ddim."
"Be sy?" ebe'i wraig.
"Be sy, by—be?" ebe Effraim Jôs. "Yr hogyn yma am ddwad i'r chwaral eto, wedi gwastraffu'r holl flynyddoedd rhwng y dre a'r armi."
"Mae'n eitha gin i i gâl o adra," ebe'i fam, "i edrach fedra'i ledu tipyn ar 'i gefn o, a rhoi tipyn o fêr ar yr esgyrn yma." A lledodd Huw ei frest yn ddiarwybod.
"Ia, ia," ebe'r tad, digon hawdd cymyd y peth yn ysgafn fel yna,—tasa'r hogyn wedi bwrw'i brentisiath yn y chwaral yn lle yn y dre, nid canlyn y wagan y basa fo fory."
"Well gin i ganlyn y wagan ar hyd f'oes," ebe Huw, "na rhwygo calico; a 'rwan am drywsus melfared. Mi af i brynu o i siop yr hen Huws 'i hun, i dynnu dipyn o ddŵr o'i ddannadd o."
- Mai, 1921.