Neidio i'r cynnwys

O Gors y Bryniau/Pryfocio

Oddi ar Wicidestun
Y llythyr O Gors y Bryniau

gan Kate Roberts

Y wraig weddw

PRYFOCIO

"HEN gnafon hunanol ydi dynion," ebe Meri Ifans, gan yfed llwnc o dê, fel petae hi'n golchi holl wendidau dynion i lawr ei gwddf gyda'r llymaid hwnnw.

"Ia, rhai ohonyn nhw," ebe Catrin Owen, mewn tôn ddiniwed, fel pe na welsai ond caredigrwydd oddiar law dynion ar hyd ei hoes.

"'Does fawr o ddewis arnyn nhw," ebe Meri Ifans, "'dydi'r gora ohonyn nhw'n meddwl am neb yn fwy nag amdanyn nhw'u hunain."

"'Does gynnoch chi ddim lle i gwyno," ebe Catrin Owen, "mi fasa gin i reswm dros ddeyd peth fel yna."

"Dwn i ddim wir," ebe Meri Ifans, "ŵyr neb ddim ond i fyw i hun. Ma talcan y nhŷ i i'r mynydd a thalcan ych tŷ chitha yn gefn simdda i'r drws nesa. Mi fedrwch gau cega defaid a marlod, ond fedrwch chi byth gau cega dynion sy'n byw am y parad â chi."

Agorodd Catrin Owen ei llygaid mewn syndod. Yr oedd bywyd John a Meri Ifans iddi hi bob amser yn ddelfryd o ddedwyddwch. Gymaint o weithiau y bu hi'n dymuno na buasai hi a Wil ei gŵr cyn hapused â John a Meri Ifans.

"Mae rhai yn medru bod yn greulon yn ddistaw," ebe Meri Ifans, a mae mwy o dwrw i galyn creulondab pobol erill, a'ch anffawd chi ydi'ch bod chi'n byw yng nghanol rhes."

"Nid creulon ydi Wil," ebe Catrin Owen, mor danbaid ag y gadawai ci natur ddiniwed iddi ei ddywedyd, "ond pryfoclyd."

"Be sy fryntach na phryfocio," ebe Meri Ifans. "Pan fyddwch chi'n meddwl ych bod wedi cael tipyn o ben llinyn ar ych byw, mi erys Wil adra i ddiogi, a chitha'n gorfod troi allan i weithio'r un fath a heiddiw." Gorffennodd ei chwpaned tê gyda grym.

"Ond ddaru Wil 'rioed dwtsiad pen i fys yna i 'run fath ag y bydd Robin Huws drws nesa'n gneud. "

"Wel, a deyd y gwir gonast, mi fasa'n well gin i gael dyn roe bar o lygada duon imi 'rwan ag y man, na chael dyn fydd yn dal her ar hyd bywyd. A chymrwch gyngor gin i, Catrin Owen, trowch y tu min ato fo, a byddwch mor bryfoclyd ag ynta. 'Does dim ymhel â thalu i ddynion yn i coin i hunain."

"Rhaid i mi chychwyn hi adra," ebe Catrin Owen, "yn 'i wely y gadewis i o'r bora, ac mi fydd wedi codi'r stryd acw os nad a i adra i wneud cinio iddo fo; a toes acw fawr o lo yn tŷ chwaith."

"Mi faswn i yn gadal iddo ddiodda tipyn o eisio bwyd ac annwyd," ebe Meri Ifans.

Cododd Catrin Owen a chymerodd yr arian a'r brintan bach o fenyn gogor a roddasai Meri Ifans iddi am gorddi oddiar y bwrdd.

Diwrnod trwm ym mis Medi ydoedd. Tawch ar y môr, a mwg pawb bron â nogio wrth fyned allan drwy'r corn. Yr oedd rhyw drymder annaturiol yn yr awyr, a rhyw ddistawrwydd rhyfedd ymhobman; y distawrwydd hwnnw a deimlir yn y wlad pan fo'r ysgol wedi ail agor ar ôl gwyliau'r haf. Ar ddiwrnod fel hyn, ni byddai Catrin Owen mewn hwyl i ddechreu gweithio yn ei thŷ ei hun, wedi bod yn gweithio yn nhŷ rhywun arall. Ar ddiwrnod ysgafn, pan fyddai'r gwynt yn chwythu, ac yn enwedig oni fyddai Wil gartref, byddai mewn hwyl i ddechreu ar ddiwrnod arall o waith yn ei thŷ ei hun. Teimlai'n ddigalon heddiw, nid am fod ganddi fwy o reswm i fod felly nag arfer. Nid dyma'r tro cyntaf iddi fyned allan i gorddi am fod Wil yng nghanol un o'i ffitiau pryfocio. Gwnaethai hynny lawer gwaith o'r blaen. Gallai rhywun feddwl mai codi ei chalon a wnai ar ôl clywed geiriau pendant Meri Ifans ar ddynion yn gyffredin. Ond ni theimlai Catrin Owen mor ddiddig, beth bynnag am hapus, wedi clywed awgrymiadau o'r fath. Yn ei thyb hi ei hun, hi oedd yr unig ferthyr o wraig yn yr ardal. Ac y mae cael y fraint o fod yr unig ferthyr mewn ardal yn galondid i ddosbarth neilltuol o bobl. Felly Catrin Owen.

Yna dechreuodd feddwl am ei bywyd er pan briododd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Bu ddigon rhyfedd, fel y buasai ambell wraig wedi ei adael yn hytrach na dioddef rhagor ohono. Yn yr un rhes â hi yr oedd pobl yn byw na wnaent ddim o un pen blwyddyn i'r llall ond gweithio, y gŵr yn y chwarel a'r wraig yn y tŷ, bwyta, cysgu a magu plant, heb symud byth o gartre. Beth bynnag am ddedwyddwch Catrin Owen, nid oedd ei bywyd mor undonog â hynyna. Ni chafodd erioed beth mor undonog â chyflog mis efo'i gilydd gan ei gŵr, gan na weithiasai erioed fis llawn. Ac ni chysgai Wil gartref bob amser. Cysgai yn y rhinws bob nos Sadwrn tâl bron, ac ymwelai'r plisman â'r tŷ'r wythnos wedyn, pan fyddai Wil yn ddieithriad yn y chwarel. Cai'r stryd gymaint â hynny'n fwy o amrywiaeth yn eu bywyd ar gorn Wil Owen. Mewn gwirionedd, Wil Owen, a Wil Owen yn unig, a gyfleai bob amrywiaeth yn y stryd. Os byddai'n well gan Wil Owen daflu ei chwyn dros ben ei wal i ardd Robin Huws yn lle 'i ardd ei hun, gwnai hynny tra fyddai Robin Huws yn codi rhawiad o datws. Os byddai'n well gan Wil Owen daflu'r wagen dros y domen yn y chwarel na pheidio â gwneuthur hynny, fe wnai petae yno gant o stiwardiaid yn gweiddi arno beidio.

Ond buasai'n well gan Catrin Owen fywyd undonog ei chymdogion na holl amrywiaeth ei bywyd ei hun. Sut y priododd dau mor anhebig sy'n gwestiwn i'r nefoedd ei ateb. Gwnai'r fath ieuo anghymarus i chwi gredu mai yn y nefoedd y gwneir priodasau. Wil wedi ei eni i garped (yn ôl ei feddwl ei hun) ac yn cael teils. Catrin wedi ei geni i deils a heb ddymuno dim byd gwell. Dioddefodd holl bryfocio'i gŵr, nid am fod ganddi ysbryd Cristion, ond am mai Catrin Owen oedd hi, heb ynni o gwbl cyn belled ag yr oedd ei thafod yn y cwestiwn, ond digon o ynni lle'r oedd gwaith tŷ. Weithiau fe âi'r ynni y meddyliasai ei roddi yn ei thafod i'w breichiau. Fe dystiai'r ffordd y sgwriai'r ffustion ar ambell fore Llun wedi cael ffrae â Wil, i hynny'n dda.

Modd bynnag, y bore hwn, wedi clywed Meri Ifans, daeth rhywbeth i'w meddwl na ddeuthai erioed o'r blaen. Gafaelodd yn ei siôl a thynhaodd hi am ei breichiau gyda grym gwraig wedi gwneuthur ei meddwl i fyny.

Wrth fyned i fyny at y rhes dai lle'r oedd yn byw, sylwodd ar eu corn simdde hwy. Yr oedd torchau mawr o fwg yn myned i fyny drwyddo, yn llwyd i ddechreu, ac yna'n bygddu. Dyma un o driciau Wil eto. Gwyddai nad oedd fawr o lo yn y tŷ, a gwyddai nad âi Wil byth i hel priciau. Wrth ddynesu at y tŷ, gwelai ei gŵr yn siarad ag Ann Huws y drws nesaf. Amlwg ar agwedd yr olaf mai ffraeo'r oeddynt. Yr oedd ei llygaid hi'n goleuo mellt, ond edrychai Wil Owen yn ddigyffro hollol, ei ddwylo yn ei bocedi, a'i lygaid yn edrych i rywle rywle, fel pe na bai Ann Huws yno o gwbl. Yr agwedd yma ar Wil Owen a laddai ei gymdogion. Ni fannai dim arno. Chwibanai ef pan fyddai ei gymydog yn maeddu poer yn ei gynddaredd.

"Ydi dy ddillad di yn wynnach na dillad rhywun arall, tybad?" ebe Wil Owen, a deallodd ei wraig mewn munud mai wedi dyfod yno i gwyno'r oedd ei chymdoges ynghylch rhoddi'r simdde ar dân, a'i dillad hithau allan.

Troes Ann Huws ar ei sawdl, gwyddai mai ofer hollol oedd dadleu â charreg admant.

"Mae'n gwilydd bod neb yn gorfod byw yn yr un stryd â dyn fel hyn", ebe hi'n uchel wrthi hi ei hun, heb sylweddoli bod Catrin Owen yn ei hymyl.

"Dyna'r anfantas o fyw mewn rhes," ebe'r olaf, er iddi feddwl dwedyd, "Be tasach chi'n byw yn yr un tŷ ag o."

Heb ragor na hynyna aeth i'r tŷ yn fwy chwyrn nag arfer. Dyna lle'r oedd ei gŵr, erbyn hyn, yn eistedd wrth danllwyth mawr o dân coed, ystyllennod hir yn ymestyn i'r simdde, a'r fflamau yn ymryson ras ar hyd-ddynt.

"Yn lle cest ti'r coed yna?" oedd cwestiwn cyntaf Catrin Owen.

"Coed y gwely ydyn nhw."

"Coed be?"

"Coed y gwely. Tân ydi'r dodrefnyn hardda'n y tŷ. Ia. Tân ydi'r dodrefnyn hardda'n y tŷ," ebe fe, fel ped adroddai ddarn o farddoniaeth.

Pan sylweddolodd Catrin Owen fod ei gwely, ei hunig wely er pan briodasai'i phlant, y gwely a gafodd gan Meri Ifans adeg geni Huw, ei phlentyn hynaf, er nad oedd ond darn o wely wenscot, wedi mynd i'r tân i borthi nwyd bryfoclyd ei gŵr, suddodd ei chalon i waelod ei bod, ond cofiodd am ei phenderfyniad ar y mynydd.

"Rydw i 'n mynd," ebe hi, fel pe wedi dywedyd hanner ei phenderfyniad o'r blaen.

"I ble?" ebe'i gŵr, heb droi ei ben. "I foddi fy hun," ebe hithau.

"Ma nhw'n deyd ma llyn yr Hafod ydi'r gora at beth felly. Ma mwy o ddyfnjiwn ynddo, ddyliwn," ebe yntau.

Brathodd ei wraig ei thafod, taflodd ei siôl a'i ffedog, a gwisgodd gôt a het. Cychwynnodd tua llyn yr Hafod. Dyma'r llyn yr âi pawb yn yr ardal iddo i roddi pen ar eu heinioes, pan fyddent wedi blino byw, neu'n meddwl eu bod wedi blino byw.

Nid yr un bwriad ag oedd iddi ar y mynydd oedd iddi'n awr. Ar y mynydd, ni feddyliasai am y posibilrwydd y byddai ei hunig wely'n dân coed. Meddwl am dalu Wil "yn ei goin" yr oedd ar y mynydd. Ond yr oedd hyn yn ormod iddi, a'r meddwl cyntaf a ddaeth iddi oedd myned i'w boddi ei hun, heb ystyried beth a olygai hynny. Ond at y llyn yr aeth, a safodd ar ei lan. Ni wyddai fod Wil wedi ei chanlyn o hirbell a'i fod wedi eistedd ar boncan heb fod yn bell i'w gwylio. Bu Catrin rai eiliadau ar lan y llyn heb wybod ei meddwl ei hun, pan glywodd lais ei gŵr yn gweiddi,

"Plymia, Cadi, plymia. Paid â bod ofn. Plymia. Tydi o ddim yn oer."

Syllodd Catrin Owen i waelod y llyn, a gwelodd yno rywbeth na welsai neb o'r rhai a fentrodd blymio, pa beth bynnag a welodd y rheini ar ôl agor eu llygaid mewn byd arall. Fe'i gwelodd hi ei hun yng ngwaelod y llyn hwnnw, mewn brawddeg yn dechreu gyda "phe," ac fe welodd, petai'r "pe" hwnnw'n wir, wên sbeitlyd falch Wil ei gŵr pe dygid ei chorff adref o'r llyn.

Felly, yn lle'i thaflu'i hun i mewn, trodd ar ei sawdl, ac aeth adref.

Ond yr oedd y Diawl ei hun yn ei hwyneb ar ei ffordd adref.

Medi, 1923.

Nodiadau

[golygu]