O Gors y Bryniau/Y llythyr
| ← Newid byd | O Gors y Bryniau gan Kate Roberts |
Pryfocio → |
Y LLYTHYR
PRYNHAWN Sadwrn ym mis Tachwedd 1917, mewn llety yn Lerpwl. Eisteddai Dic, Ifan, a Wil wrth y bwrdd yn ysgrifennu llythyrau. Eisteddai Wmffra wrth y tân, ei ên ar ei wasgod, a'i ddwylo yn ei bocedi, ei draed dan y gadair a'i lygaid ar ffyn y grât, yn edrych rhyngddynt i'r tân a thrwy'r tân i dŷ bychan mewn pentref bychan yn Sir Gaernarfon. Oddiallan yr oedd mwrllwch Tachwedd, oddimewn cegin lân, cyn laned ag y gadawai mŵg tref a phryfed swrth yr hydref iddi fod. Yr oedd yn gegin eithaf cysurus, mor gysurus ag y gallai llawer o heyrn tân ar aelwyd ei gwneuthur. Yr oedd gan y tân ei hun gryn dipyn o orffennol a pheth dyfodol, ac yn y canol rhwng ei orffennol a'i ddyfodol gwelai Wmffra weledigaethau. Gwelai ei gegin ei hun gartref, heb fod lawn mor dwt â hon, eto cyn dwtied ag y gadawai chwech o blant a dau filgi a thywydd gwlyb iddi fod; dim heyrn o flaen y tân, ond stôl bren isel hir, y gallech ddodi eich traed arni heb ofni clywed pregeth gan eich gwraig, a'ch dau ben glin ar ddannedd y grât. Yr oedd Ann, ei wraig, wrthi'n golchi'r llestri ganol dydd Sadwrn, Robin y plentyn lleiaf yn tynnu yn ei barclod a hithau'n gweiddi "Paid." Gweiddi ar Meri'r eneth hynaf i'r tŷ wedyn, iddi redeg ar neges i'r siop, Meri'n rhy fyddar i wrando ac yn dal i chwarae drwy gortyn. Ann yn gwylltio ac yn gweiddi digon i bobl y drws nesaf ei chlywed, a Meri o gywilydd yn dyfod i'r tŷ. Sam a Bob, y ddau filgi'n eistedd un o bobtu Wmffra yn edrych dan eu cuwch arno gystal â dywedyd,
"Tyrd yn dy flaen am wnhingan." Wedyn Wmffra'n codi, ac yn mynd i'r cefn am y ddwy ffured.
"'Rydw i am fynd am ryw wnhingan ne ddwy at yfory, Ann," ebe fe. Cychwyn dan chwibanu'n hapus, er ei bod yn brynhawn Sadwrn ar ôl nos Wener tâl, y noson fwyaf anghysurus yn y mis i Wmffra, pan fyddai arno ofn rhoi ei gyflog i Ann gan ei leied.
Nid bod Ann yn un o'r merched hynny a fydd yn rhygnu ac yn rhincian ar nos Wener tâl. Ond rywsut byddai Wmffra'n lled anghysurus nes dyfod o Ann adref o'r siop. Os byddai golwg hapus ar wyneb Ann, yr oedd hynny'n braw o serchowgrwydd gŵr y siop, a byddai Wmffra'n hapus wedyn, hyd y nos Wener tâl nesaf. Un o'r prynhawnau Sadwrn hynny a welai Wmffra yn y tân yn Lerpwl yn awr, pan fyddai ei ddedwyddwch ar ei uchaf, oherwydd gwên gŵr y siop, a'i bellter yntau oddiwrth y nos Wener tâl nesaf. Wedyn cychwynnai efo Sam a Bob, ei ddwylo yn ei bocedi, a blew esmwyth y ddwy ffured yn eu goglais, a'r ddau filgi wrth ei sawdl.
"S'mai, Wmffra?" ebe hwn ac arall ar y ffordd. Ni ofynnai neb iddo i ba le'r âi. Yr oedd yr ateb yn y ddau gi.
Wedyn gadael y ffordd a chroesi ffridd Foty'r Wern, Sam a Bob a'u trwynau'n dyn wrth y ddaear, a llygaid Wmffra'n gwibio mwy i'r dde a'r chwith nag oeddynt. Yna myned trwy gae, Sam yn cerdded tu ôl i Fob, a Bob tu ôl i Wmffra, yn drindod o'r un meddwl. Tros y gamfa fel tri milgi i Gae'r Boncan ac eistedd i lawr am dipyn. Yna gollwng y ffuredau thri phâr o lygaid yn edrych i'r un cyfeiriad. Dyma'r gynffonwen allan, ac ar amrantiad, Sam yn ei gwar. "Well done, boy," ebe Wmffra dan ei anadl ar ei gadair yn Lerpwl, gan fygwth neidio oddiarni. Ond cofiodd fod ei ddwylo yn ei bocedi a'i draed dan y gadair, ac fe'i sadiodd ei hun yn ôl.
"Tyrd ona di, i bendwmpian, Wmffra," ebe Dic.
"Ia," ebe Ifan, "sgwenna adra at dy wraig, ne mi feddylith dy fod ti wedi marw."
"Dim peryg yn y byd," ebe "Wmffra, mi fasa'n haws gin Ann gredu 'mod i wedi marw taswn i yn sgwennu."
"Oes yna âits yn 'angerddol?" gofynnai Wil a ysgrifennai at ei gariad.
"Nag oes," ebe Ifan dan lyfu cas llythyr.
"Oes," ebe Dic.
"Ma hi'n siwr o ddallt be wyt ti'n feddwl pe taet ti'n rhoi pymthaig âits yn'o fo," ebe Wmffra.
"Gin dy fod ti mor siwr," ebe Ifan, tyrd at y bwr' yma a sgwenna at Ann."
"Na 'na i," ebe Wmffra yn yr un dôn ag yr etyb hogyn anufudd ei fam.
"Ma Ann yn siwr o ddallt ma gweithio ar ôl yr oeddwn i'r pnawn yma, ac ma' dyna sydd wedi fy rhwystro i adra heiddiw. Go drapia'r hen weithio ar ôl yna." Poerodd i lygad y tân.
Ar y ffordd haearn yn Lerpwl y gweithiai'r pedwar, a chaent diced rhad i fyned adref efo'r trên bob tair wythnos. Gan fod tair wythnos yn llai na mis, a chan na theimlai Wmffra'n anghysurus bellach wrth gyflwyno'i gyflog i Ann, nid anfonai ei gyflog adref bob wythnos fel y gwnai Dic ac Ifan, eithr cai Ann gyflog tair wythnos bob tro'r âi ef adref, ac ni thrafferthai'r un o'r ddau i ysgrifennu at ei gilydd yn y cyfamser.
Ni welsai'r un o'r hogiau mo Wmffra'n ysgrifennu erioed. Ond ni ddeuthai'r gwir, na allai efe ysgrifennu o gwbl, erioed ar draws eu meddwl. Ped aethent i'r un ysgol ag ef yn blentyn, efallai y gwybuasent. Nid oedd Wmffra ond rhyw bymtheg ar hugain oed, a dylai dyn pymtheg ar hugain yn 1917 allu ysgrifennu pwt o lythyr, beth bynnag. Gallai Dic ac Ifan, oedd o'r un oed ag ef, wneuthur hynny'n rhugl. Er bod y pedwar yn gweithio yn yr un chwarel cyn y Rhyfel, nid aethent i'r un ysgol yn blant. Gwyddai'r tri arall y gallai Wmffra wneuthur ei gownt ar ben mis cystal â'r un athro a wisgodd sbectol erioed. Ond gallai'r hen William Jôs, a dynnai am ei bedwar ugain, wneuthur ei gownt heb roddi dimai'n ormod ym mhoced cwmni'r gwaith nac yn ei boced ei hun, mewn ffordd a yrrai rifyddwyr yr oes hon i wasgfeuon. Eithr ni ddaeth i'w meddwl erioed osod Wmffra ar yr un tir â hen bobl.
Modd bynnag, ped aethent i Ysgol Pen Ffordd Wen gydag Wmffra, fe wybuasent i bob athro yn yr ysgol honno roddi pob gobaith i fyny am ddysgu i Wmffra ysgrifennu. Ni allasai Gabriel ei hun wneuthur hynny, a chaniatau bod Wmffra yn yr ysgol bob dydd, a chaniatau bod Gabriel cystal athro ag yw o angel. Ar gyfnodau y deuai Wmffra i'r ysgol, cyfnodau rhwng cyfnodau chwarae triwant. Ni wn yn iawn pa un o'r ddau gyfnod a fyddai'r hwyaf, ond tystiai Eos Twrog, y plisman plant, i Wmffra dreulio mwy o'i amser i eistedd ar dorlan wrth afon Gwylif nag a wnaeth erioed ar feinciau ysgol Pen Ffordd Wen.
"Rwan, tyrd yn dy flaen," ebe Dic, sgwenna at Ann, a phaid â bod mor bengalad. Mi sgwenith Wil y drecsiwn fel coparplât iti."
Meddyliai Dic efallai mai blerwch ysgrifen a gyfrifai am fywyd di-lythyr Wmffra.
"O'r gora," ebe Wmffra, rhag bod yn llai na dyn, a rhoddodd dro cyndyn yn ei gadair. Ysgrifennodd Wil y cyfeiriad ar gas llythyr ac estynnodd bapur a phensel i Wmffra. Wedyn aeth i'r llofft i newid, ac yr oedd y ddau arall yn ddigon call i fyned i ben eu helynt a gadael Wmffra wrtho'i hun i wneuthur y defnydd goreu a allai o'i bensel a'r papur, ac i wneuthur yr hyn a wna llawer wrth ysgrifennu llythyr, sef rhoddi ei enaid ar bapur.
Bore dydd Llun eisteddai Ann gwraig Wmffra wrth y tân, newydd orffen hwylio'r pum plentyn hynaf a'u gyrru i'r ysgol. Yr oedd hynny'n gymaint gorchwyl fel na welai fai arni hi ei hun am gymryd spel cyn gwisgo am Robin, y plentyn ieuengaf, a chwaraeai efo'r gath ar yr aelwyd. Yr oedd arni eisiau tipyn o amser iddi hi ei hun hefyd, i synfyfyrio paham na ddeuthai Wmffra adref nos Sadwrn. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd er pan oedd yn Lerpwl.
Yn sydyn dyma gnoc ar y drws, a neidiodd ei chalon i'w gwddf pan ganfu mai'r postman oedd yno â llythyr iddi hi. Pan welodd farc post Lerpwl, gwelwodd ei hwyneb, a meddyliodd yn sicr i rywbeth ddigwydd i Wmffra. Gwelodd filoedd o bethau yn yr eiliad honno, a'r peth amlycaf o'r cwbl oedd trên yn myned dros Wmffra. Modd bynnag, medrodd agor y llythyr rywfodd, a newidiodd mynegiant ei hwyneb yn hollol. Ni allech ddywedyd beth oedd am ddigwydd. Crychodd ei thalcen, agorodd ei llygaid led y pen, yna daeth cil gwên i gonglau ei genau. Ond y funud nesaf yr oedd yn wylo dros y tŷ. Yn ei llaw yr oedd dalen bapur, ac ar ei chanol, ddarlun eglur wedi ei dynnu efo phensel o filgi yn gafael yng ngwar cwnhingen. Nid oedd na gair na llythyren ar y papur dim ond y darlun. Ail chwilotodd y cas, rhag ofn. Na, nid oedd ynddo bwt o ysgrifen. Wylodd y fam yn hir. Methai Robin â deall paham yr wylai. Methai'r fam ei hun â deall paham. Eisteddodd ar y gadair a gollyngodd y papur ar lawr.
Cipiodd Robin y papur, a rhedodd y gath am ei rhyddid a'i heinioes.
Cyn gynted ag y disgynnodd llygaid Robin ar y darlun o'r milgi a'r gwnhingen, gwaeddodd:
"W-w-tada!" a chan dynnu ym marclod ei fam, "Mami, tada w-w-!!"
- Mawrth, 1923.