O Gors y Bryniau/Y wraig weddw
| ← Pryfocio | O Gors y Bryniau gan Kate Roberts |
Henaint → |
Y WRAIG WEDDW
SAFAI Dora Lloyd o flaen ei drych yn ei hystafell wely. Yr oedd newydd roddi'r wiallen olaf yn ei gwallt. O'i blaen yn y drych yr oedd wyneb hirgrwn, trwyn union a llygaid gwineu cynnes, talcen llydan a'r gwallt yn gorwedd arno yn donnau cringoch. Rhoes flows sidan gwyn amdani, ac ni chaeodd ei fotymau hyd y top; gadawodd ychydig o wynder ei gwddf yn y golwg. Blwyddyn cyn hynny i'r diwrnod, sef dydd Llun Sulgwyn y llynedd, gwisgai flows gwyn a rhesi duon ynddo, a chaeasai'r botymau i gyd i'r top uchaf.
Buasai Dora Lloyd yn weddw yn awr ers pum mlynedd, a byth oddiar farw ei gŵr treuliasai bob prynhawn dydd Llun Sulgwyn gyda'i chwaer ynghyfraith, chwaer Ned, i sôn am ddiweddar ŵr a brawd uwchben cwpaned o dê. Yn ystod ei bywyd priodasol treuliasai bob Llun Sulgwyn yn y dref. Cerddai Ned gyda'i glyb, a rhuban coch a dwy snoden felen ynddo, ar draws ei frest. Treuliai Dora'r bore i gerdded y stryd gan ddisgwyl am y clyb. Rhoddai 'i chalon dro pan glywai'r band yn dyfod, a daliai i guro oni welai Ned. Yna, wedi ei weled a theimlo'n falchach ohono nag y teimlasai erioed, dechreuai ei chalon guro'n briodol, a cherddai hithau yn ôl blaen wedyn i'w ddisgwyl o'r cinio. Wedyn âi'r ddau gyda'i gilydd dros yr Aber, ac yna'n ôl i demprans yn Stryd Twll-yn-y-Wal i gael tê. Cerddai'r ddau adref bob amser os byddai'r tywydd yn braf, a chyrhaeddent ym min tywyllnos erbyn amser godro. A byddai'r haul yn suddo dros Fenai pan roddai Dora'r piseri llaeth i oeri yn y pwll dan y pistyll. Dyna ddydd Llun Sulgwyn eu bywyd priodasol hwy, ac edrychai hithau'n ôl arno fel rhywbeth prydferth, yn brydferth erbyn hyn am nad oedd yn bosibl ei gael yn ôl. Yr oedd y dyddiau Llun Sulgwyn cyntaf wedi marw ei gŵr yn rhai rhyfedd iawn. Yn ei galar cyntaf ymhyfrydai fyned i dŷ ei chwaer ynghyfraith, ac nid oedd dim gormod o sôn am Ned ganddi, er y gwyddai mai peth ffurfiol hollol oedd y sôn i Nel. Ond fel yr âi'r blynyddoedd ymlaen, âi'r diwrnod y deuthpwyd a Ned adref o'r chwarel ar elor yn bellach, bellach oddiwrthi. Ni chofiai gyda'r un eglurder ddirdynnu wyneb ei gyfaill Morys Pen y Braich wrth geisio torri'r newydd iddi. Cofiai bob llinell ar yr wyneb hwnnw yn ei ymdrech yn y blynyddoedd cyntaf, ond âi'n llai eglur bob blwyddyn. Ar y dechreu ni allai oddef clywed chwarelwyr yn pasio'r tŷ, ac fe'i caeai ei hun yn y tŷ bob dydd ar ôl i'r corn ganu. Ac er cau'r drws, dychmygai glywed clic y llidiart yn agor a sŵn troed Ned ar y palmant cerrig o flaen y tŷ. Ond aeth clic y llidiart yn wannach, ac erbyn hyn tawsai yn gyfangwbl.
Eto i gyd daliai i fynd i dŷ ei chwaer ynghyfraith ar yr ŵyl yma. Aeth y peth mor ffurfiol â mynd i'r dref gynt, ac nid oedd am ei golli. Eithr eleni nid oedd arni awydd o gwbl mynd yno, ac eto ni chymerasai'r byd yn grwn â mynd i unman arall. Achos y cyfnewidiad oedd Bob Ifans y Rhandir. Sut y daeth i'w bywyd, ni wyddai. Ond ryw ddiwrnod teimlodd fod Bob Ifans yn rhan o'i bywyd, ac nad oedd yn bosibl byw hebddo.
Gŵr gweddw oedd Bob Ifans, ac yr oedd ei garedigrwydd i bobl ddi-gefn yr ardal yn ddiarhebol. Ni ofynnai i neb am ganiatâd i'w helpu, ond fe gerddai heibio i'ch drws ac fe rôi "wair i mewn" yn y beudy cyn i chwi wybod hynny. Ac ar un o'r achlysuron yma y teimlodd Dora Lloyd yn wahanol tuag ato. Deuthai Bob Ifans yno'n gynnar ar brynhawn Sadwrn, ac aethai i'r gadlas heibio i'r drws heb i Dora ei weled. Rhyw dipyn cyn y cynhaeaf gwair oedd hi, a chymerodd Bob i'w ben gario hynny o wair oedd yn weddill yn y gadlas i'r beudy er mwyn dechreu gwneuthur sylfaen i'r das. Yr un foment ag y deuai Dora i mewn drwy un drws i'r beudy, deuai yntau i lawr y grisiau llechi ac i mewn drwy'r drws arall gyferbyn. A dyna'r olygfa a welai hi am ddyddiau a misoedd wedyn. Dyn heb fod yn rhy dal, ei goesau yn rhy hir i'w gorff efallai, wyneb glân newydd ei eillio, gwallt wedi brithio, het ddu a chrysbais ddu yn llwyd gan lwch llechi, trywsus melfared gwyn a chlytiau llwydlas o ôl y llechen hyd-ddo, a dau lygad llwyd yn edrych heibio i'r baich i weld ei ffordd. Disgynnai llwch y gwair yn llwyd hyd ei wyneb, ac arhosai gweiryn yma ac acw hyd ei fwstas. Yr oedd popeth yn y darlun yn llwyd. Mewn gair, rhyw un clwt o lwydni ydoedd, ond fe aeth y darlun a'r dyn oedd yn ganolbwynt iddo i'w chalon.
Deuai Bob Ifans yno yn amlach wedyn, a chollodd stem gyfa i'w helpu gyda'r cynhaeaf gwair. Cof ganddi'n awr wrth wisgo amdani am y diwrnod hwnnw. Diwrnod poeth tebig i heddiw ydoedd. Yr oedd hi yn y tŷ llaeth yn torri bara a 'menyn erbyn tê, a chlywai sŵn yn dyfod o'r gadlas trwy'r ffenestr agored tu cefn iddi. Sŵn ysgafn y gwair ydoedd, a disgynnai ar ei chlust, wrth luchio'r gwair o'r drol i'r das, fel siffrwd pais sidan merch wrth gerdded. Yna deuai llais Bob Ifans:
"Y gongol yma 'rwan, hogia bach, neidiwch hynny fedrwch chi, er mwyn cael lle i'r droliad nesaf."
"Pryd byddwn ni wrth y to, Robat Ifans?" ebe un o'r hogiau.
"O, mi gawn ni das bach allan cyn hynny," ebe dyn pen y das.
Gwenai Dora'n foddhaus ar y dorth wrth feddwl am ei dynerwch a'i amynedd gyda'r plant.
Deuai golygfa arall o flaen ei llygaid.
Bob Ifans yn pegio'r mochyn ar ddiwrnod oer yn y gaeaf. Yr oedd cyn fedrused fel pegiwr mochyn ag ydoedd fel dyn pen y das mewn cynhaeaf gwair, ac ni byddai funud wrthi. Yr oedd y munud hwnnw'n un ofnadwy i'r mochyn, i'r pegiwr, ac i'r edrychydd. Hyfrydwch i deimlad Dora Lloyd ydoedd i Fob Ifans fedru cadw llywodraeth ar ei wyneb a'i dymer. Ac os medr merch ddal i feddwl yr un fath am ddyn wedi ei weld yn pegio mochyn, pan mae'n gymaint temtasiwn iddo dynnu ei wyneb i bob ffurf, fe argoela'n dda.
Ond i beth y breuddwydiai Dora fel hyn, a'r amser yn rhedeg ymhell? Ni roesai ond ei sgert amdani eto. Byddai Nel wedi blino disgwyl wrthi. Wrth edrych arni hi ei hun yn y drych yn ei blows wen a'i sgert ddu, meddyliodd nad oedd y sgert ddu yn gweddu i dymer ei meddwl. Nid oedd waeth iddi heb na rhagrithio, byddai'n rhaid iddi sôn am Fob Ifans wrth Nel rywdro, ac efallai y byddai gwisgo sgert las yn help i dorri'r garw a dechreu sgwrs am y peth. Felly aeth i'r cwpwrdd i nôl y sgert las, treuliodd amser i'w thwymo o flaen hynny o dân oedd yn weddill, a rhoddodd hi amdani. Ymdrôdd ragor drwy fynd i chwilio am fasged a hen faneg kid i gasglu danadl poethion i'r mochyn. Pethau da iawn i godi stumog mochyn oedd danadl poethion. Yr oedd erbyn hyn yn barod i gychwyn.
Pwy oedd yn ei hwynebu wedi iddi agor y llidiart ond Marged Jones y Pant, wedi bod ym mynwent y plwyf yn golchi carreg fedd ei gŵr. Yr oedd pwced ar ei braich, ac fe wyddai Dora fod brws sgwrio, ffedog fras a darn o sebon oddimewn i'r bwced. Ar ddyddiau gŵyl ac uchel-wyliau yr âi Marged Jones y Pant i wneuthur yr oruchwyliaeth hon. Cyn gynted ag y gwelodd hi Ddora, eisteddodd i lawr ar y garreg fawr wrth y llidiart fel pe'n mynd i gael sgwrs hir. Yr oedd y llall erbyn hyn yn ddiamynedd. Yr oedd yn ddigon boddlon ymdroi gyda'i myfyrdodau distaw ei hun, ond nid gyda myfyrdodau uchel pobl arall.
"Wedi bod yn y fynwent, Margiad Jôs?" ebe Dora, gan edrych ar y bwced.
"Ia," ebe hithau, "a 'rydw i wedi blino'n arw. Ma hi'n gryn step i waelod y plwy ar dywydd poeth."
"Ydi," ebe Dora'n ddiegni.
"A mae o 'n gryn dipyn o waith cadw bedd mewn trefn. Welsoch chi 'rioed cyn gyntad ma hen chwyn a 'nialwch yn tyfu."
"Ia'n tê?"
"Ond tydi rhai pobol yn malio dim faint o chwyn dyfith ar fedda i teulu nhw."
"Nag ydyn," ebe Dora yr un mor ddigyffro. Gwyddai na ffitiai'r cap yna mohoni hi. Ond methai ddeall paham y siaradai Marged Jones i'r cyfeiriad yna.
"A ma rhai pobol yn waeth na hynny," ebe'r olaf drachefn, mi fedrwch gerad hyd feddi yn Llanadwn heb wbod ych bod chi'n gneud hynny."
"O."
"A 'rydw i'n synnu at rai pobol hefyd, pobol y basach chi'n disgwyl petha ymgenach gynnyn nhw. Dyna i chi Bob Ifans y Rhandir 'rwan. 'Does yna ddim pwt o garrag fedd wrth ben i wraig o."
Cochodd Dora, a gwelwodd wedyn.
Wel, rhaid imi fynd," ebe hi, "ne mi fydd Nel wedi hen roi gora i nisgwyl i."
"Clic," ebe rhywbeth yr un pryd yn ei chalon, fel drws yn cau ac yn cloi ohono'i hun. A gwyddai Dora Lloyd y foment honno, fod Bob Ifans y tu allan i'r drws hwnnw. Ni wyddai paham, ond ni fedrai byth feddwl am Fob Ifans yn ŵr ag yntau wedi esgeuluso cofio'i wraig gyntaf. Iddi hi, nid rhywbeth i roi taw ar siarad ardal oedd carreg fedd, ond rhywbeth na fedrech beidio â'i roi yn eich galar cyntaf. Rhoddasai hi garreg las a llythrennau aur ar fedd Ned. Dymuniad Ned oedd y garreg las. Dyna a ddywedai ef a ddylai fod ar fedd pob chwarelwr. Rhoddes hithau'r garreg las er mwyn Ned, ond y llythrennau aur er mwyn ei chymdogion. Eto, nid balchter oedd y cwbl. Yr oedd cryn dipyn o deimlad ynglŷn â'r garreg fedd honno. A methai ddeall sut na wnaethai Bob Ifans yr un peth a chanddo yntau fodd.
Wedi mynd ychydig lathenni, ebe hi: "Rhaid imi fynd yn f'ôl am funud, Margiad Jôs; 'rydw i wedi gadal rhwbath ar f'ôl."
Aeth yn ei hôl i'r tŷ a newidiodd y sgert las am y sgert ddu. Wrth fynd at dŷ Nel, gwelai hi yn sefyll ar ben y drws â'i llaw ar ei thalcen.
"Mi 'rwyt ti wedi bod yn ymdroi yn rhwla," ebe'i chwaer ynghyfraith.
"Do, mi ddaliodd Margiad Jôs y Pant fi ar y ffordd."
"Yn lle'r oedd hi wedi bod, tybad? Yn y fynwant, miwn."
"Ia," ebe Dora, ac ocheneidiodd.
Yn ei meddwl, fe gamgymerodd Nel yr ochenaid. I Nel, nid oedd ond un achos ynglŷn â mynwent a barai i Ddora ochneidio. Ned oedd hwnnw. Fe welodd Dora hynny cyn i Nel gael dwedyd dim, ac ebe hi:
"Sud mae dy foch di yn dwad ymlaen 'rwan, Nel?"
"Siort ora, ma nhw'n fytwrs dan gamp."
"Wir, ma nacw wedi colli i stumog yn lân. 'Rydw i am fynd am dipyn o ddalan poethion iddo ar fy ffordd adra."
Ac am foch a gwartheg a lloi y bu'r siarad bron drwy'r prynhawn. Ni bu yno ddim sôn am Ned nac am Fob Ifans. Ond wrth sôn am lo Dora oedd yn pori yng Ngwastad Faes yng ngwaelod y plwy, daeth syniad i ben ei berchennog, a bywiogodd o hynny hyd yr amser i gychwyn adref. Yn yr ardal honno byddai'r borfa'n brin yn y gwanwyn a dechreu haf, a byddai'n rhaid gyrru'r gwartheg i bori i rai o ffermydd brasach gwaelod y plwy. Yr oedd gan Ddora lo, a thrwy fod y gwartheg yn eu llawn laeth, y llo a anfonwyd i bori'r tro hwn. Ac yn wir, bu ar Ddora hiraeth ar ei ôl wedi iddo fynd, oblegid nid oedd yn hollol fel lloi eraill rywsut. Magodd ef ar y bwced o'r cychwyn, ac yr oedd yn hollol fel oen llywaeth.
A llo crand oedd y llo, llo coch a seren wen yn ei dalcen. Yr oedd ei gorff yn gymhesur drwyddo fel eiddo ei fam. Dyna fel y dywedai'r hen Domos Huws, Bryn Rhedyn, am fuwch hardd bob amser, "buwch grand," yn hollol fel pe siaradai am ffrog oreu Annie ei ferch. Rhoesai Wil y Lloua ei ben dros y wal amryw weithiau ers pan aethai'r llo hwn allan i'r cae gyntaf. Ac os brathai Wil ei ben dros y wal fwy nag unwaith, golygai hynny fod ei lygad ar y llo, i'w brynu. Ond ni lwyddodd yn yr achos yma, ac ni chawsai'r cigydd lo ganddi byth. Yn ôl Dora Lloyd, nid oedd y dywediad hwnnw, "Gwell i chwi'r drwg a wyddoch na'r drwg na wyddoch," yn dal wrth werthu llo i gigydd. Ond yr oedd am fagu'r llo hwn deued a ddelo, a chyn pen hir iawn aeth y llo bach yn rhyw ran o'i bywyd. Nid âi ef byth ymhell oddiwrth y tŷ i bori. Codai ei ben a rhedai at wal y cae bob tro yr âi heibio i'r pistyll i nôl dŵr. Pan ddeuai amser ei lith gyda'r nos, rhedai fel peth cynddeiriog at yr adwy, a heibio iddi dan neidio a champio at y beudy. A'r fath bleser oedd ei weld yn llyfu ei drwyn ar ôl gorffen ei lith ac yn estyn ei ben dros ymyl y rhesel i edrych ar ei hôl gan droi ei lygaid mawr, bolwyn! Teimlodd yn wir ddig ato unwaith. Fe dorrodd i mewn i gae'r lein ddillad ryw ddiwrnod, ac fe wnaeth ddifrod yno. Fe basiodd popeth rhad, ond fe gnodd bopeth drud onid oeddynt yn rhidyll fel bocs pupur, ac yn eu plith flows sidan gwyn, y blows lliw cyntaf i Ddora Lloyd ei brynu ar ôl claddu ei gŵr. Yr oedd yn ddig hyd ddagrau wrtho ar y dechreu, a dymunai i'r dincod fod ar ei ddannedd hyd ddiwedd ei oes. Ond rhoddodd bardwn iddo wedi ystyried mai "adwyon gwraig weddw" yw adwyon gwraig weddw wedi'r cwbl, a meddyliodd mai peth chwithig oedd galw neb gwirion yn llo.
Yn awr, wrth sôn wrth Nel am loiau ac anifeiliaid eraill, daeth iddi syniad. Yr oedd am fynnu cael y llo yn ôl cyn yr amser penodedig. Yr oedd arni dipyn o gywilydd cyfaddef wrth Nel na buasai yn gweld o gwbl sut y deuai'r llo ymlaen. Yr oedd yno ers cryn dipyn hefyd, oblegid yr oedd y Sulgwyn yn ddiweddar y flwyddyn honno. Os câi'r llo yn ôl, fe âi a'i meddwl oddiwrth bethau eraill. Ac yn ôl ei meddwl hi yr oedd yn rhaid i rywbeth lenwi eich bywyd, neu ran ohono, beth bynnag. A gwyddai na ddeuai Bob Ifans yn rhan ohono byth eto.
Daeth Nel i'w danfon beth o'r ffordd hyd at y llwyn danadl oedd ar ochr y ffordd. Wrth dorri'r danadl edrychai Dora'n hollol fel petai pob iot o'i meddwl ar fon y llysieuyn rhag ofn ei phigo ganddo. Ond yn lle hynny, yr oedd ei meddwl ar ddarlun lle gwelai Bob Ifans yn cilio'n ôl oddiwrthi yn wysg ei gefn a'r llo'n dychwelyd o Wastad Faes.
"Fyddi di'n medru anghofio petha yn fuan?" ebe hi wrth Nel.
"Anghofio beth, beth wyt ti'n feddwl?" ebe'r olaf.
"O diar, be sy arna i?" ebe Dora, oblegid gwyddai na ddeuai'r cwestiwn o gofio ac anghofio i fyd Nel o gwbl. Cymryd popeth fel y deuai a wnai ei chwaer ynghyfraith.
Wedi i'r olaf fynd i'r tŷ, ebe hi wrth ei gŵr:
"Ond 'toedd Dora yn rhyfadd heiddiw?"
"Rhyfadd y gwelis i hi 'rioed," ebe hwnnw.
Yr oedd Nel a'i gŵr cyn debyced i'w gilydd â phâr o gŵn tegan, ond bod pennau'r ddau yn troi'r un ffordd yn lle at ei gilydd.
Drannoeth, anfonodd Dora Joni'r tŷ nesaf i nôl y llo, a rhoddodd arian iddo dalu yn llawn am ei le. Yr oedd yn ddigon boddlon yn ei meddwl y gallai wneud yn burion heb lwgu'r gwartheg. Eleni yr oedd mwy nag arfer o "wellt medi"—y gwair ir hwnnw a dyf yn rhimin glas yng nghanol gwair arall ac a dyn ddŵr o ddannedd gwartheg.
Gallai ei weled yn dyfod i fyny'r ffordd a rhedodd i'r drws i'w ddisgwyl. Mynnai'r llo basio'r llidiart, a gyda chryn drafferth y cafodd Joni ef drwyddi. Aeth heibio i'w berchennog heb gymryd arno ei gweled. Wedi mynd i'r cae rhedodd o gwmpas yn wyllt, ac ni chymerai unrhyw sylw o'r gwartheg eraill nac o'i fam ei hun. Rhedai i ffwrdd pan ddeuai ei fam ato i geisio ei synhwyro. Wedi gorffen rhedeg, a bod yn gas wrth y gwartheg eraill, safodd yn stond yng ngwaelod y cae, a'i ben dros y wal yn edrych i gyfeiriad Gwastad Faes.
Sylwodd Dora ar hyn i gyd, ac aeth i'r cae dan weiddi, "Drwia, bach."
Ond ni chymerai sylw ohoni.
"Joni," ebe hi, wedi mynd yn ei hôl at y tŷ, "wnei di ddim mynd i'r beudy i nôl y bladur a thorri tipyn o wellt medi imi." Ymhen deng munud, croesai'r cae, a'r gwellt medi mewn hen fasged ddillad dan ei braich.
Ni chymerai'r llo sylw ohoni, ond pan daflodd gynnwys y fasged ar lawr, neidiodd yn awchus amdano. Cydiodd hithau mewn tamaid o'r gwellt medi a cheisiodd ganddo ei fwyta o'i llaw. Ond trodd ei drwyn arno a gwthiodd ei llaw o'r neilltu gan bori oddiar lawr. Taflodd hithau hynny oedd yn ei llaw am ei ben i gyd.
"Twyt titha ddim ond 'run fath a dynion," ebe hi. "Ma'n well gin ti dy le na'r sawl pia'r lle."
Aeth yn ei hôl at y tŷ. Yr oedd awr eto dan amser godro. Ond galwodd ar y gwartheg i'r beudy, er ei bod mor gynnar. Methai'r rheini ddeall beth oedd yn bod, a buont yn anufudd am ysbaid. Ond gan y swniai "Trw bach" Dora Lloyd yn fwy o ddifrif nag arfer, teimlasant mai gwell oedd ufuddhau.
Ped aethech heibio i'r beudy ymhen tipyn fe welsech Dora Lloyd yn godro efo'i dwy law, ei phen yn dyn yn nhynewyn y fuwch ac yn canu i fiwsig y llaeth yn chwistryllio i'r piser, y pennill hwn:
Mae gennyf gwpwr cornel,
A'i lond o lestri tê,
A dresel yn y gegin,
A phopeth yn ei le.
Ffa la la, etc.
- Ebrill, 1924.