Neidio i'r cynnwys

O Gors y Bryniau/Yr athronydd

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth O Gors y Bryniau

gan Kate Roberts

Newid byd

YR ATHRONYDD

"HIRAETH ofnadwy ydi hiraeth mam ar ôl plentyn sugno," ebe cymdoges.

Cododd yr Athronydd ei ben yn sydyn oddiar ei lyfr, ac edrychodd yn syn. Dyna'r dywediad rhyfeddaf a glywsai erioed. Ni welsai yn yr holl lyfrau a ddarllenasai mo'i debig. Ac er ei glywed gan wraig syml, wledig fel Jane Ifans, yr oedd cyn dywylled â Groeg iddo ef.

Hen lanc oedd yr Athronydd yn byw gyda'i chwaer. Flynyddoedd yn ôl cyfarfu â damwain yn y chwarel, ac ni weithiasai fyth oddiar hynny. Dywedai rhai i'r ddamwain effeithio ar ei ben. Maentumiai pobl garedig eraill mai'r felancoli oedd arno, a phobl garedicach na hynny mai diogi. Tae waeth am hynny, ni pheidiodd Ifan Dol Goed â darllen o'r dydd hwnnw hyd yn awr; a rhoddodd ei hen gyfeillion yn y chwarel y ffug-enw "Athronydd" arno. Nid âi allan byth bron, a phan âi, byddai ei feddyliau'n gyfangwbl gyda'r hyn a ddarllenasai, fel na fyddai'n waeth iddo fyw ar y Cyhydedd mwy nag ar ochr Moel y Fantro, o ran dim a deimlai o'r pethau a oedd tuallan iddo ef ei hun. O ddydd y ddamwain hyd yn awr, dyma'r tro cyntaf i ddim ei ysgwyd allan ohono ef ei hun a'i lyfrau. A sylw Jane Ifans oedd hwnnw.

Edrychodd yr Athronydd yn syn arni fel petae hi'n ddewin. Yna trodd i edrych ar ei chwaer a eisteddai'n benisel yn y gornel. Yna oddiar ei chwaer at y cymdogesau eraill a eisteddai'n gylch oddi-amgylch y tân. Pa beth oedd ar y merched yma ei eisiau? Ni welsai Ifan erioed mo Meri, ei chwaer, yn cynnwys merched fel hyn i'w thŷ i siarad ac i glebran. Cofiodd. Dyma'r arferiad pan fyddai rhywun farw mewn teulu, bod llawer o bobl yn dyfod i weld y profedigaethus, yn siarad llawer ac yn rhoi rhywbeth. Dyma'r "mynd i ddanfon at y cynhebrwng." A daeth yr hyn a achosodd "danfon" hwn fel pang i galon yr Athronydd. Echdoe, bu Luned, plentyn bach blwydd oed ei chwaer, farw. Ni chymerasai erioed nemor sylw ohoni, heblaw ei bod yno, dyna'r cwbl. Eithr ddoe, teimlodd fod rhyw wacter mawr yn ei fywyd. Collodd ddau lygad glas plentyn bach i befrio arno bob tro'r edrychai dros ymyl ei lyfr. Trwy'r dydd ddoe, a bore heddiw, ceisiai beidio â chodi ei ben oddiar ei lyfr rhag cael y siom a ddilynai hynny. Ond yn awr, caeodd ei lyfr gyda chlep, a dechreuodd synfyfyrio. Dyma un cwestiwn eto i'w ychwanegu at y cwestiynau eraill a'i blinai. Dywedwyd mai ynddo ef ei hun y canolbwyntiai meddyliau'r Athronydd. Nid yn hollol felly ychwaith. Nid darllen i'w ddifyrru ei hun a wnai, eithr darllen er ceisio dadrys cwestiynau a ddaeth i'w ben ar ôl y ddamwain. Os agorwyd ei ben, agorwyd ei feddwl Ond yntau; a darllenai yn ddiddiwedd. ni chai ateb i'r cwestiynau. Ar y munudau anesmwyth hynny o fethu, cerddai allan bob amser, i edrych a gai atebiad iddynt yn ei feddyliau ef ei hun. Eto, yr oedd cyn dywylled yno ag yn y llyfrau. Yr unig oleuni a gai fyddai goleuni newydd ar gyfynged meddwl dyn. Ceisiodd, o dro i dro, ddadrys y cwestiwn hwn. Pe na byddai marw o gwbl yn y byd, hynny ydyw, pe byddai i bawb fyw am byth, a fyddai yma le i ofn ac i farddoniaeth? Methodd â chael ateb iddo. A dyma un arall a'i blinai: sut y gallodd Meri a llawer Meri arall godi o'i gwely a gwneud ei gwaith, wedi colli ei bachgen hynaf, cannwyll ei llygad, yn y Rhyfel? Paham y bu raid i blant y werin fyned i farw dros achosion brenhinoedd? Paham nad ymladdasent hwy ef eu hunain ar ryw faes fel maes pel-droed ar y cyfandir, a gadael i blant werin fod yn edrychwyr, a gweiddi "hwi hwn," neu "hwi'r llall," yn lle vice versa? Ac yn ben ar y cwbl, methai â deall sut y gallai Duw edrych i lawr o'r nefoedd mor ddigyffro ar y cyfan. Yn ei holl ddarllen, ni chafodd esboniad ar y pethau hyn.

Yn awr, dyma benbleth eto yng ngeiriau, nid athronydd, na difinydd, ond yng ngeiriau dynes gyffredin, "hiraeth ar ôl plentyn sugno yn hiraeth ofnadwy."

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, cymerodd ddiddordeb yn ei amgylchiadau. Dyheai am glywed y person nesaf yn siarad. Gwelai na siaradai rhai o'r merched o gwbl. Sychent eu dagrau cyn iddynt ddisgyn o gwbl, a sychent hwy drachefn. Ebe un o'r diwedd, Meri Lloyd bach, mae'n rhaid i betha fel hyn ddigwydd, a rhaid i ni i diodda nhw."

"Lol-bi-lol," ebe Ifan, "lol-mi-lol." Cododd yn wyllt ac aeth allan. Caeodd y drws gyda'r fath glep, nes dychryn y plant bach a chwaraeai "london" o flaen y drws. Safodd y plant i gyd yn syn,—nid oherwydd gweled yr athronydd heb ei het,—nid oedd hynny ond peth cyffredin, ond oherwydd gweled neb o deulu Luned bach yn dyfod allan o'r tŷ. Ebe un ohonynt: "Dyma ddewyth y babi bach sy wedi marw, ma hi'n câl mynd i'r twll du, dwrnod ar ôl y fory."

Clywodd Ifan y geiriau, a glynodd y ddau air "twll du" yn ei feddwl am hir iawn. Cerddodd ymlaen ac ymlaen. Ni wyddai i ba le'r âi, ac ni ddaeth i'w feddwl droi'n ôl. Yr oedd arno eisiau cerdded er mwyn cerdded. Yr oedd rhyw ysbryd newydd yn ei waed. Nid oedd ganddo'r un syniad pa amser ar y flwyddyn ydoedd; ond cofiodd fod y plant yn chwarae "london," ac yn y gwanwyn y byddai hynny bob amser. Felly'r arferai ei fam alw tymhorau y flwyddyn. Amser chwarae top, ac amser chwarae trwy'r cortyn a fyddai'r tymhorau iddi hi.

Yn ardal Moel y Fantro, deuai'r gwanwyn yn ddiweddar a'r gaeaf yn gynnar. Byddai caeau gwaelod y plwyf yn eu gwyrdd cyn i gaeau Moel y Fantro ddiosg gwisg y gaeaf. Byddai coed y lle olaf yn noeth, pan wisgai coed lleoedd eraill wisgoedd yr hydref. Pan chwythai'r gwynt o'r môr, yr oedd Moel y Fantro yn nannedd y ddrycin, a chai'r merched gryn drafferth i lanhau heli'r môr oddiar y ffenestri.

Ac eto i gyd, yr oedd yno ryw harddwch na welid mohono'n gyffredin. Bob nos o'u bywyd gwelodd chwarelwyr yr ardal hon yr haul yn machlud dros Fôr Iwerydd neu dros Sir Fôn. Yn yr haf, ei dân yn troi Menai yn waed am hir, ac yn y gaeaf, ei lewych melyn gwan yn darfod yn sydyn ar Fôr Iwerydd. Gwelodd y bobl hyn leuad llawn Medi yn codi dros ben yr Wyddfa, ac yn taflu ei goleu ar weithwyr y cynhaeaf. Eto y mae'n gwestiwn a gymerasant amser i edmygu'r golygfeydd erioed. Nid oedd lleuad Medi'n ddim i bobl a driniai dir mor llwm. Heddiw, fodd bynnag, tarawodd harddwch yr olygfa Ifan â syndod. Yr oedd rhyw fawredd yn perthyn iddi. Bu fyw yn yr ardal hon am hanner can mlynedd heb erioed weld dim ond moddion llwgu pobl.

Cerddodd ymlaen ac ymlaen, ac fel y cerddai, teimlai ryw asbri newydd yn ei goesau, a daeth rhyw deimlad llac, rhyfedd i'w ben. Tybiai, ond iddo fyned ymlaen fel hyn, y byddai iddo ddadrys yr holl gwestiynau dyrys hyn cyn nos. Trodd o'r ffordd i'r mynydd. Yr oedd rhyw asbri yn y grug hyd yn oed—neidiai yn ôl cyn gynted ag y sethrid ef, ac yr oedd ei sŵn wrth ei sathru fel miwsig offerynnau cerdd i gerddediad yr athronydd. Toc, daeth ar draws yr hen Gatrin Dafydd yn tynnu grug ar ei heistedd ar y mynydd.

Diwrnod braf, Ifan," ebe hi.

"Ia," ebe Ifan.

"Sut mae Meri?" ebe'r hen wraig.

"Digon drwg ydi hi."

"Ia, dwi'n siwr, ma plant yn gneud eu lle yn yr hen fyd yma, petae nhw yma ddim ond am awr."

Aeth Ifan yn ei flaen gan feddwl am ei geiriau. Methai eto â deall deunydd hapusrwydd Catrin Dafydd. Trwy'r gwanwyn a'r haf, byddai'n tynnu grug i'r tyddynwyr i'w roi o dan eu teisi gwair, a'i gario iddynt yn feichiau mewn rhaff ar ei chefn, am chwe cheiniog y baich a chwpaned o dê. Ac eto yr oedd yn hapus.

Toc daeth i ben y bryn ac i dir esmwythach. Teimlai'n ddigon ysgafn i hedeg. Clywai sŵn dŵr yn tincial dros y cerrig fel sŵn chwerthin. Ni allai ddeall paham yr oedd y sŵn yma'n gymorth iddo gerdded. Yn awr ac yn y man clywai fwrlwm dŵr codi wrth iddo daro ei droed ar fwsog, a chodai hynny ei ysbryd. Cerddodd i lawr ochr arall y bryn, ac i fyny un arall, heb flino dim. Wedi cerdded am oriau fel hyn, cyrhaeddodd lecyn gwyrdd esmwyth ar odre crib serth, ac eisteddodd i lawr i fwynhau'r olygfa. Ni allai weled Menai yn awr, dim ond mynyddoedd duon o'i gwmpas ymhobman. Edrychai rhai ohonynt fel petae'r Diafol ei hun wedi cipio darn ohonynt yn ei geg gan mor ysgrythrog oeddynt. Nid yr olwg esmwyth, dawel honno a wna i chwi gysgu oedd arnynt, ond yr olwg wyllt a gyfyd ryw hiraeth na wyddoch am beth yn eich enaid. Ni allai'r Athronydd eistedd. Galwai'r mynyddoedd gwyllt hyn arno i fynd yn ôl i setlo'r cwestiynau a'i blinai. Teimlai y gallai wneuthur hynny'n awr. Yr oedd yn dechreu tywyllu erbyn hyn, a chychwynnodd tuag adref. Ond safodd yn stond. Dyma fiwsig yn dyfod o rywle tu ôl iddo—miwsig milwaith melysach na sŵn y grug dan ei draed a sŵn dŵr ar gerrig. Ni allai'r Athronydd gymharu ei sŵn i ddim ond i sŵn meddyliau newydd yn torri ar feddwl awdur. Trodd yn ei ôl a dilynodd y miwsig rhag ei waethaf. Yr oedd yn rhaid iddo ei ddilyn. Dilynodd y sŵn nes dyfod at gornel yn y crib. Heibio i'r gornel ac i lannerch gyffelyb ar yr ochr arall. Yno gwelai ddyn ieuanc yn canu chwibanogl—chwibanogl wedi ei gwneuthur o frwynen cors—a merch ieuanc yn dawnsio i'r miwsig—y miwsig a'i trodd ef yn ôl er gwaethaf y mynyddoedd a'i galwai ymlaen. Dyma'r mab a'r ferch ieuanc harddaf a welsai erioed. Eisteddodd i lawr ar y glaswellt yn fudan llwyr, a daeth rhyw deimlad drosto nad adnabuasai mohono erioed o'r blaen. Am unwaith teimlai'n hapus. Anghofiodd yr hen gwestiynau hynny, a phan ddaethant ar draws ei feddwl fel seren wib, chwarddodd yn galonnog am iddo fod mor ffôl a meddwl amdanynt erioed. Nid oedd dim yn ei flino. Eisteddai i edrych ar yr olygfa fel dyn yn yfed dedwyddwch. Pa waeth ganddo ef ffordd yr elai'r byd a'i drybini a'i ddioddef? Digon iddo ef oedd ei fod ef ei hun yn ddedwydd y munud hwnnw.

O'i flaen yr oedd dau yn droednoeth goesnoeth heb unrhyw arwydd annwyd na blinder arnynt. Yr oedd lliw eu croen fel plisgyn cneuen yn yr hydref. Yr oedd llygaid y ferch cyn ddued a chysgod Castell y Dre ar Afon Menai noson ddigynnwrf yn yr haf. Yr oedd ei gwallt mor ddu fel y tybiech fod gwawr las arno, a disgynnai dresi ffri" ar ei gwar. Ar ei phen yr oedd darn o "gorn carw,"—y planhigyn bach hwnnw a dyf o gwmpas blodau'r grug,—yn dal ei gwallt fel ractal Elen Luyddawg gynt.

Ond yr hyn a darawai'r Athronydd fwyaf oedd ffurf ei gwddf a'i breichiau. Yr oeddynt yn berffaith. A daeth i'w feddwl cyn lleied o sylw a dalodd beirdd Cymru i ffurf erioed; lliw oedd popeth iddynt hwy, lliw gwddf a gwefus a grudd. Ond dyma harddwch corff a ddaliai i'w gymharu â harddwch meibion a merched Groeg. Am y mab yr oedd ei wallt o wineu gwan yr hydref a'i lygaid o liw môr ar ôl storm. A theimlai Ifan drwy reddf, nad harddwch i syllu arno'n unig oedd hwn, ond harddwch i'w garu.

Gorffennodd y ferch y ddawns ac eisteddodd y ddau ar y glaswellt. Methai Ifan â gwybod beth i'w wneuthur. Ni allai agor ymddiddan. Ebe'r ferch, "A dyma chi wedi dyfod o'r diwedd. Ple buoch chi cyd? Buom yn eich disgwyl yn hir."

"Wn i ddim pwy ydach chi," ebe'r Athronydd, "a wyddwn i ddim eich bod chi yn fy nisgwyl."

"Mae pawb yn dyfod y ffordd yma yn ei dro," ebe'r mab.

"Pwy ydach chi, felly mor hy â gofyn?" ebe Ifan.

"Un o deulu Lleu ydw i, ac un o deulu Llyr yw fy ngwraig," ebe'r mab, "ac yma ar hyd y llechweddau yma'r ydan ni yn byw."

Ni feddyliodd Ifan ei fod yn beth rhyfedd bod teulu Llyr a Lleu ar gael o hyd. Ymddangosai y peth mwyaf naturiol iddo ef.

"Wel, ar beth ydach chi'n byw?" gofynnai'r Athronydd drachefn.

"Ar lysiau'r ddaear a ffrwythau'r coed, a gwin gruglus. Pethau i gadw pobl yn ifanc byth ydi'r pethau yna. A pheth arall, 'does yma neb yn marw."

Cysylltodd y dywediad yna gwestiwn wrth feddwl Ifan.

"A oes gynnoch chi farddoniaeth yma?"

"Dim llawer; achos mewn gwlad lle nad oes marw, 'does yna ddim lle i ofn a phryder a meddyliau duon felly. A phobl y meddyliau duon sy'n medru ysgrifennu barddoniaeth oreu. Yr unig farddoniaeth sydd gynon ni ydi canu'r adar, sŵn dŵr, a murmur awel rhwng y coed."

"Gobeithio y maddeuwch imi am ofyn ydach chi'n hapus yma," ebe Ifan.

"Ydan," ebe'r mab gan edrych ar ei wraig.

"Ond fyddwch chi ddim yn blino ar eich gilydd weithiau?" ebe'r holwr drachefn.

"Tydi cariad byth yn blino."

Cofiodd Ifan iddo ddarllen am rywbeth tebyg iawn i gariad yn blino, a mynegodd hynny.

"Mi all hynny fod," ebe'r mab, mewn lle y mae pobl yn byw ar draws ei gilydd, ac mewn tai cyfyng. Ond nid yn yr awyr agored."

Gallai'r Athronydd dystio i'r gwirionedd yna i raddau ar ôl y dydd heddiw.

A hwy yn siarad fel hyn, torrwyd ar yr ymddiddan gan drwp o blant llawen yn rhedeg allan o ogof yn y graig gerllaw.

"A dyna'ch plant chi?" mentrai'r Athronydd wedyn.

"Ie," ebe'r fam yn falch; a chofleidiodd rai ohonynt. Ymddangosai'r plant i gyd yn llawen, oddieithr un eneth fach a lechai o'r tu ôl. I Ifan, yr oedd yr eneth fach yma'r un ffunud â Luned, plentyn ei chwaer. Ie, dyna'r llygaid gleision a befrai arno ef, pan godai ei olygon oddiar ei lyfr. Edrychai yn swil ac yn ddigalon yn y cwmni hwn, a barnai ei hewythr fod ôl wylo ar ei hwyneb. Cododd ochenaid yn ei mynwes ac edrychodd ar y ferch, ond trodd ei golwg draw yn siomedig.

'Nid y chi bia'r hogan bach yma? ebe Ifan.

"Ie," ebe hithau, "echdoe y ganed hi i'r byd yma, ac y mae hi dipyn yn swil ac yn ddigalon. Hiraeth ofnadwy ydi hiraeth plentyn bach ar ôl bron ei fam."

Ni theimlai'r Athronydd fod angen cywiro'r ferch am ddywedyd fel yna. Teimlai ei bod yn berffaith iawn, a daeth dywediad Jane Ifans i'w gof. "Mae merched yn deall pethau trwy reddf," ebe fe wrtho'i hun, "ac 'rydan ninnau ddynion yn ymbalfalu â'n deall." Ond ni theimlodd ar ei galon ddadleu o gwbl.

Toc, dyma fe yn clywed llaw fach yn cydio yn ei law. Trodd ei ben, a dyna lle'r oedd Luned yn swatio'n dyn wrth ei ochr a'i phen i lawr. Cododd yntau ei phen, a gwenodd hithau arno.

Am y tro cyntaf yn ei fywyd, daeth y teimlad drosto yr hoffai wasgu'r eneth fach i'w fynwes a'i chusanu. A gwnaeth hynny gyda holl angerdd y teimlad newydd hwn a'i meddiannodd. Edrychai Eluned yn hapus iawn, a gwenai arno fel y gwnai ar fynwes ei mam.

Ar hyn dyma'r miwsig yma'n dechreu wedyn. Y tro hwn deuai o'r ogof, ac aeth pawb i mewn ar ei ôl; Ifan a Luned yn ei freichiau yn olaf. Wedi dyfod at enau'r ogof—O dywyllwch! Daeth "twll du'r " plant i'w feddwl. Ond ymhell, bell, bell, ymhen draw yr ogof hon, gwelai enau ogof arall, a llewych yn dyfod allan ohoni—nes peri i'r genau edrych fel lleuad llawn ynghanol caddug. Ceisiodd yr Athronydd droi'n ôl, ond ni allai. Tynnai y miwsig ef i mewn.

**** Dradwy, yng nghynebrwng Luned, ni allai un rhes weld rhes arall gan mor drwchus y niwl.

Ciliodd y niwl ymhen deuddydd, ond ni ddaeth Ifan Dol Goed byth yn ôl i Foel y Fantro.

Mawrth, 1922.

Nodiadau

[golygu]