Neidio i'r cynnwys

O Gylch Carn Fadrig (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
O Gylch Carn Fadrig (testun cyfansawdd)

gan John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler O Gylch Carn Fadrig
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dewi Sant
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)
ar Wicipedia


STORIAU AM DEWI SANT


O GYLCH CARN FADRIG

NEU

AR DRYWYDD Y NAWDDSANT



GAN


Y Parch JOHN HUMPHREYS
(Wmffra Cyfeiliog), Tŷ-Ddewi


BARN Y WASG

Gan ein bod yn y niwl o hyd ynglŷn â hanes Dewi Sant y mae'r stori yn ymgais ragorol i wau golygfeydd, chwedlau a thraddodiadau am fro a buchedd Dewi Sant yn ei gilydd.—News Chronicle.

The story centres around St. David and his cathedral concerning which so much charming tradition is blended with momentous history. Other beautiful legends are added I think to those with which most of us are familiar. —Liverpool Echo.




Lerpwl:
Argraffwyd gan Hugh Evans a'i Feibion Cyf
Yng Ngwasg "Y Brython," 356-360 Stanley Road.
1930

CYNNWYS


RHAGAIR.

Ymddangosodd y penodau dilynol yn y "Gwyliedydd Newydd'" dro yn ôl, yn ôl cyfleustra'r Golygydd. Anturir yn awr eu cyhoeddi yn Llyfryn; ond wedi eu talfyrru, ac fe gredaf, eu gwella trwy hynny. Ni fuaswn yn ymgymeryd â chyhoeddi'r gwaith ond ar awgrym a chymhelliad nifer o hen gyfeillion. Nid llawer, efallai, ysgrifennodd fwy i Gylchgronau ei wlad, ac yn enwedig, ei Enwad, nag awdur y penodau hyn, a hynny am fwy na deugain mlynedd, "yn rhodd, ac yn rhad." Wele un cyfleustra i'r darllenydd dderbyn o'r eiddof trwy dalu.

Am y gwaith ei hun, ni ddywedaf ond hyn y cymhellwyd fi i ysgrifennu gan amlder y traddodiadau diddorol yn yr ardal, lle y treuliais y tair blynedd diwethaf. Os metha'r darllenydd wneud allan brif wrthrych y stori, bydd hynny, am y methodd yr awdur bortreadu yn gywir, neu ynte am fod y darllennydd ei hun yn dra anwybodus am wrthrych y barnwyd yn ddoeth guddio ei enw.

Ni honnir fod y penodau yn Hanes ond mewn rhan; golau lloergan y traddodiadau ydyw'r gweddill.

Amcanwyd dilyn y safon ddiwethaf mewn Orgraff; am yr arddull, yr awdur ei hun sydd yn gyfrifol.

Gyda hyder am dderbyniad caredig i'r gwaith y gorffwys,

Hydref, 1930

YR AWDUR.

PENNOD I.
O Gylch Carn Fadrig.

EISTEDDA'R hen Garn ardderchog â'i hwyneb garw, ond hygar, ar y Werydd fawr; â'i chefn ar ddarn o wlad nad oes achos am brydferthach, na mwy cynhyrchiol. Iddi hi y perthyn y neilltuolrwydd, os yw hynny yn rhywbeth, o fod yn derfyn eithaf tir hen Walia yn y gorllewin. Math ar Benrhyn yw y darn hwn o Benfro, cul ei draws-fesuriad, am y cylchynnir ef ar un llaw gan fau St. Brith, ac ar y llall gan y Werydd; neu yn fwy manwl efallai, Sianel St. Siôr. Ond buan yr ymlêd y tir tua'r dwyrain a'r gogledd i wastadeddau braf, ac i amrywiaeth prydferth o fryn a dyffryn. Os priodol sôn am lygaid i'r Garn, yn ogystal ag wyneb, gellir dywedyd fod ei llygad dê ar Sianel St. Siôr, a'r chwith ar fau St. Brith. Ond gall hi edrych tu hwnt i'r cyfagos a gweled digwyddiadau'r Werydd fawr i gyfeiriad machlud haul. Pasia yng ngolwg ei llygaid longau amrywiol eu math a'u maint, o'r balas-long ardderchog a gluda ei miloedd ar y tro cydrhwng Prydain a gwlad y Gorllewin, i lawr hyd at y cwch bychan gyda'i rwyf a'i hwyl, na feiddia ond ymdroi yng ngolwg y glannau. Ar hyd y canrifoedd dyma un o lwybrau'r llong marsiandwr a fordwya o Dde i Ogledd, ac o Ogledd i Dde, haf a gaeaf, ddydd a nos, heb nemor o seibiant. Yn yr haf ychwanegir at y prysurdeb trwy luosogiad llongau a chychod pysgota, ac at hynny gychod plesera, er mantais y lliaws ymwelwyr a gyrchant i Landdofwy gerllaw. Prin y gellir dywedyd fod preswylwyr y Llan yn bobl brysur iawn, ac y mae cryn nifer o honynt yn llwyddo i fyw ar hanner digon i'w wneud. Ond ychwanega rhai at eu cyllid trwy y moddau uchod. Amaethyddol yw'r ardal, ac nid oes ddiwydiant arall gwerth i sôn amdano yn agos, nac, o ran hynny, yn yr holl sir. Bu amser pryd y cynhelid ar y ffermydd deirgwaith y nifer a wneir heddiw, os nad mwy. Ond fel y mae ym mhobman arall, ychydig yw'r galw am weithwyr ar y tir, a hynny mewn rhan o achos amlhau peiriannau, ac mewn rhan am fod y cyflog a hawlir yn fwy nag y medr y ffermwr ei dalu. Felly, hongian oddeutu a wna llawer o ddynion cryfion, gan nad oes obaith am waith heb yr anturiaeth o ymfudo i wledydd eraill, ac nid oes nemor un yn meddu ar ddigon o wroldeb i wneuthur hynny. Dylid nodi hwyrach fod y môr yn denu rhai, ond nid cynifer ag â wnai yn y dyddiau gynt, oblegid ceir heddiw yn y Llan nifer o ddynion mewn oed wedi ceisio eu ffortiwn ar y dyfnder mawr flynyddau'n ôl, ac heddiw yn ddigon clyd eu hamgylchiadau.

Mae'n syn na fai mwy o arwyddion tlodi ar wedd a diwyg llawer o'r trigolion, ond llwyddir yn rhyfedd i gael tamaid trwy weithio tipyn yn awr ac eilwaith, trwy lawer o herw-hela, a thrwy syrthio pan gellir ar gymorth y dôl. I fod yn fanwl, dylid nodi for cryn lawer o nodded i'r tlawd yn dyfod o gyfeiriad yr hen Eglwys Gadeiriol ardderchog, prif addurn a gogoniant y lle.

Ond yn ôl eto at yr hen Garn ardderchog, gan mai o dan ei chysgod hi megis y bu y rhan fwyaf o'r digwyddiadau a groniclir yn yr hanes hwn. O leiaf, yn ei hymyl y bu'r symudiadau cyntaf o bwys y gwyddis amdanynt, ac yno y bu'r Gymdeithas Gristionogol fechan gyntaf, o ba un ymhen amser y cododd sant nas anghofir "tra'r môr yn fur i'r bur hoff bau.'

Mor ardderchog yw yr olwg arni! Ardderchog pa un bynnag a wneir, ai edrych o'r pellter ar ei gwegil rymus, ai ynte dynesu yn barchedig ati a sefyll o flaen ei hwyneb garw ond caruaidd. Yn gadarn ar ei sedd nid yw corwynt ofnadwy y gaeaf yn fwy iddi hi nag awel falmaidd Mehefin. Pwy all ddychmygu nifer y stormydd a gurodd ar Garn Fadrig pe ond o'r dydd y safodd y sant o'r enw ar ei hysgwydd, ac y gwelodd am y tro cyntaf yr Ynys Werdd! Diflannodd y cenhedlaethau byr-hoedlog o ddynion, ond erys hi, wedi tystio i fil o olygfeydd na chanfyddwyd gan lygad dyn. Pe bai ganddi dafod i draethu, gallai adrodd am lawer i ddigwyddiad a barai i waed fferru wrth ei wrando. Gwelodd y llong yn mynd i lawr yn nyfnder y noson ddu; llong y disgwyliwyd yn hir ac yn bryderus glywed gair amdani. Hyhi yn unig a welodd y môr yn amgau amdani, ac a glywodd drueiniaid yn gweiddi am gymorth, ond heb ymwared. Yr oedd ei gruddiau yn wlybion yn wyneb y trychineb alaethus, ond ni allodd gynorthwyo. A chan na ddeellir ei hiaith hi gan ddynion ni allodd adrodd yr helynt.

Nid yw'r darllenydd i ddeall wrth hyn fod y Garn yn anghymdeithasgar. Ac nid yw yn hollol ddigwmni. Yng nghanol ei phobl megis y mae hi "yn trigo." Golwg arddunol a geir o'r pellter arni hi ac eraill heb fod mor amlwg; fel nifer o wylwyr distaw yn gwarchod y glannau. Eistedd hi megis brenhines yn eu canol. Ar ei dwylun y mae digon o le i'r defaid bori ac i'r ŵyn brancio, yr hyn a wnant hefyd wedi i stormydd erch y gaeaf fynd heibio. Golchir ei thraed yn gyson gan donnau eigion, ac yn fynych gyda llawer o stŵr. Gan y golygir treulio cryn amser yn y cylch hwn, gwell disgrifio'r glannau a'r arfordir dipyn yn fanylach, ac yn enwedig gan y bu'r gymdogaeth unwaith y bwysicaf yng Nghymru, ac yr erys ei thraddodiadau ymhlith y rhai pwysicaf oll. Creigiog a pheryglus yw'r glannau hyn bron yn ddieithriad, ac nid oes draeth cyfleus a dymunol ond ar raddfa fechan iawn. Meddylir llawer o'r tameidiau sydd, ond hynny yn sicr yn niffyg gwell, a chan mwyaf yn niffyg gwybodaeth am well. Yn ymyl y Garn, ar y chwith, ceir traeth bychan digon prydferth,—y Gwyndraeth y'i gelwir. Mae hwn yn ymdrochle diogel, a gwerthfawrogir ef gan ymwelwyr. O'i flaen y mae clwstwr o fân greigiau—saith mewn rhif, gydag un yn amlycach na'r gweddill. Yn ddigon naturiol, mewn lle ag y bu'r Eglwys yn bopeth, gelwir y clwstwr hwn "Yr Esgob a'i glercod." Yn fwy i'r chwith eto, ac wrth gefn Ynys Ninian—ynys a wahenir oddi wrth yr arfordir gan sianel tua milltir o led, a digon peryglus, ceir goleudy gwerthfawr. Gelwir hwn hefyd "Yr Esgob." Mae'r ynys hon yn deilwng o air wrth fynd heibio, gan i rai o'r digwyddiadau rhyfeddaf a groniclir gymryd lle arni hi. Ynys yw o tua milltir o hyd a hanner hynny o led ar y gorau. Mae ei thir, gan mwyaf, yn dda, a gellir wrth gnydau toreithiog a "llysiau at wasanaeth dyn " ar ddwy ran o dair o honi. Y mae iddi ddau fryn amlwg allent fod yn "noddfa i'r geifr," ac y mae iddi ei chreigiau "i'r cwningod," o'r rhai nid oes brinder. Ar ei hochr orllewinol cartrefa miloedd ar filoedd o adar o lawer math. O ddilyn y glannau ymhellach ceir yn wynebu'r deau borth bychan nad yw o ddefnydd ond i lanio cychod o'r math lleiaf. Gelwir ef yn "borth Llegyr," ar enw un a ymddengys yn yr hanes hwn rhagllaw. Yn nes ymlaen eto "Borth y Mynach"—yr unig un cyfleus i longau bychain i droi i mewn. Bu adeg pan oedd hwn yn boblogaidd—degau o longau yn dwyn eu trysorau i lanio yma, ac yn cymryd i ffwrdd gynnyrch y tir i leoedd eraill. Ambell i lestr fechan a ymwêl â'r lle heddiw gyda'i llwyth o lo, neu nwyddau at gynhaliaeth dyn. Pe dilynem y glannau serth, ysgythrog ymhellach, deuem at fau bychan poblogaidd ei enw, ond cymharol ddibwrpas ar wahan i'r ffaith y gwelir ynddo weithiau gwch pysgota yn gollwng i lawr neu godi i fyny fasgedi, neu gewyll o ffurf neilltuol a adewir dros y nos yn gyfleustra i'r lobster i syrthio i mewn. Enw y bau bychan hwn ydyw Nonita, neu Non, i'r hwn y mae hanes. Chwarter milltir yn fwy i'r dwyrain deuir i'r unig ymdrochle diogel ar wahan i Wyndraeth yn yr holl gylch. Diogel a feddyliwn, wrth gwrs, i'r rhai na fedrant nofio. Mae degau o leoedd cyfleus i'r lleill, gan y rhed y môr i fewn i'r tir rhwng clogwyn a chlogwyn. Enw hwn eto yw Caerdeon,—awgrym arall mai'r Eglwys a chrefydd sydd wedi gwneuthur yr argraff ddyfnaf ar y rhanbarth hwn o'r wlad. Heddiw ceir ffyrdd difai yn arwain i'r rhan fwyaf o'r lleoedd a nodwyd, megis Gwyndraeth, porth Iwstyn, porth y Mynach a Chaerdeon.

Er mai portread o fywyd yr ardal yn y gorffennol pell yr amcenir ei roddi ar y tudalennau hyn, eto, cyn dyfod at hwnnw, mantais efallai i'r darllenydd fyddai gwybod rhywbeth am fywyd Llanddofwy. Enw cymharol ddiweddar ydyw hwn ar ddinas fechan a gymerodd le un arall tua milltir a hanner i'r gorllewin, a lechai gynt megis yng nghysgod Carn Fadrig. Ai honno yn ôl i gyfnod cyn-hanesiol, ac nid oes neb a ŵyr ei henw gwreiddiol na'i hoed. Nid oes fawr o ddim o'i hôl heddiw, ond yr enw adnabyddus mewn hanes oedd Mynyw. Anodd dywedyd hefyd pa bryd y rhoddes Mynyw le i Landdofwy, ond y mae lle i gredu mai cyfnewidiad graddol yn amgylchiadau'r ardal fu'r achos o ddiflaniad y naill ac o godiad y llall.

Gall hyd yn oed ymwelydd achlysurol gasglu mai ardal ydyw hon wedi gweled dyddiau tra gwahanol, beth bynnag am ddyddiau gwell. Fel y nodwyd eisoes, amaethyddiaeth ydyw'r unig ddiwydiant o bwys heddiw, ac nid yw hwn yr hyn a fu. Gweigion yw'r hen ystordai fuont gynt yn llawn ac yn ganolfannau trafnidiaeth o bwys. Llefara yr hen odynau calch am ddiwydiant o fath arall, ac aml i hen weithdy saer neu grydd a welir yn falurion, neu wedi ei adnewyddu yn drigfod gyffredin. Bechan yw'r ddinas, ac ychydig mewn cymhariaeth y trigolion. Bechan ydyw, a digon anhrefnus, er y dibynna i raddau helaeth ar ddyfodiad ymwelwyr ym misoedd yr haf. Hyd yma ofer fu pob ymdrech, os yn wir y bu unrhyw, i ddwyn y trigolion i gydweithrediad er budd cyffredinol. Amherchir deddfau iechyd, a rhyfedd y rhaid fod naill ai amynedd neu esgeulusdra swyddogion iechydol. Esgeulusir moddion cysur: prin yw'r cyflenwad o ddwfr, ar wahan i gyfleusterau naturiol mewn ffynhonnau a phistilloedd. Ansicr yw moddion goleuni yn y gaeaf, a'r cwbl am na roddir gwrogaeth i ymdrechion er lles cyffredinol. O ran ei threfn, gwahanol iawn yw'r ddinas i'r hon a welodd Ioan yn disgyn oddi wrth Dduw. Yr oedd trefn honno yn berffaith, tra nad oes yma ond mesur mawr o anhrefn. Parhad ydyw y brif heol o'r ffordd a arweinia i'r lle o Henffordd, dros bymtheg milltir i ffwrdd, ac a ddiwedda ym mhorth y Mynach, filltir islaw y ddinas. Yn y brif heol ceir rhai adeiladau cyhoeddus o faintioli a gwerth, ac yn enwedig y Neuadd Gyhoeddus, gyda'r Amgueddfa fechan gysylltiedig â hi. Yma hefyd y saif Capel y Methodistiaid Calfinaidd,—adeilad hardd; ac hefyd gapel llai y Wesleaid. Allan o'r brif heol trŷ dwy arall, gyda chapel i'r Bedyddwyr yn y naill ac i'r Annibynwyr yn y llall. Dyma'r ddinas ar wahan i ychydig o heolydd culion a didrefn yn arwain allan o'r rhai hyn.

Ond gogoniant yr adeiladau i gyd ydyw'r Eglwys Gadeiriol hardd a lecha ar dir isel i'r gorllewin o'r ddinas, ac megis yn ei chysgod. Ac oddeutu'r Eglwys hon a'i rhagflaenoriaid y crynhoa hanes pwysicaf yr ardal, beth bynnag am werth a phwysigrwydd sefydliadau eraill. Deil yr Eglwys Gadeiriol gymhariaeth ffafriol gydag unrhyw un o'r cyfryw yn y deyrnas mewn adeiladwaith cywrain a phrydferth, ac hefyd yn ei thraddodiadau. O'i chylch y mae malurion adeiladau eraill a fuont yn wasanaethgar yn eu dydd, ac a gadwant hyd yn oed yn eu malurion lawer o'u gogoniant cyntefig. Hawdd gweled y bu i'r lle hanes rhamantus, ac nad yw heddiw ond cysgod yr hyn a fu. Erys "Palas yr Esgob" yn ei falurion. Ond nid yma y trig yr Esgob bellach. Ceir yma Ddeondy helaeth a Deon llafurus mewn oedran mawr. Cynorthwyir ef gan ddau o Ganoniaid sefydlog, ynghyd ag eraill a ddeuant yn achlysurol. Troir y Ficerdy i ddibenion eraill, gan nad oes angen amdano. Heddiw cedwir gwasanaeth yn y ddwy iaith, ond bychain iawn yw'r cynulliadau ar wahan i'r prif wyliau ac ym misoedd yr haf. Er hyn, cynhelir gwasanaeth mor gyson a diflin a phe bai tynfa'r miloedd yma fel yn y dyddiau gynt. Galarus meddwl am y dirywiad a raid fod o'r tu ôl i'r sefyllfa bresennol.

Am yr eglwysi eraill nid oes dim i'w draethu yn awr ond yr hyn ellid ddywedyd am fwyafrif eglwysi'r wlad. Araf ac ystrydebol ydyw nodwedd y gwaith. Bychain, fel rheol, yw'r cynulliadau,—yn enwedig ar fore Sul. Cyffredin iawn ydyw moesau'r ardal, ac y mae yn y lle, yn ôl ei faint, gymaint o'r baganiaeth newydd ag a geir yn unman.

Er y deil mwyafrif mawr y trigolion berthynas mewn enw â rhyw gysegr neu gilydd, ychydig o nodau'r gwir Gristion a welir ym mywyd ymarferol y lle; ac ymddengys mewn rhai ystyron o fod yn mynd o ddrwg i waeth.

PENNOD II.
Rhwng Gwyll a Gwawr.

WEDI cipdrem frysiog ar brydweddion naturiol y cylch ac ar ddinas fechan Llanddofwy fel y mae hi heddiw, gwahoddir y darllenydd yn ôl ymhell—i'r cyfnod y mae a fynno'r stori ag ef, Ac yn wir, lawer ymhellach na hynny, sef i doriad gwawr ar hanes y lle, ac hyd yn oed i'r gwyll tu hwnt i hynny. Ymfalchïa'r trigolion yn nhraddodiadau'r ardal, ac os arweinir ni weithiau i'r gwyll, lle mae gwrthrychau, byw a meirw, yn anamlwg, ni ellir osgoi'r anffawd a bod yn ffyddlon i'r amcan mewn golwg. Lle nad oes hanes diamheuol, ceir math ar olion hanes yn ôl troed a gwaith llaw Iberiad, Gwyddyl a Rhufeinwr, a gellir casglu gyda mesur o fodlonrwydd yr hyn na ellir ei sicrhau yn bendant.

Bu'r Iberiad yma, ac os na adawodd y gŵr gwibddu a heinyf hwnnw drysorau ar ei ôl, y mae ei gartref yn aros yn y graig mor ddiogel heddiw ag ydoedd ddwy fil neu ragor o flynyddoedd yn ôl. Rhwng bau Nonita a phorth y Mynach ceir engrheifftiau o'i drigleoedd ef. Hwyrach na all trigolion Llanddofwy ymffrostio mewn dim sydd hŷn na'r ogofeydd hyn fel gwaith llaw eu hynafiaid. Ogofeydd a ddywedasom? Dyna, efallai, y'u gelwir heddiw, ond trigleoedd o waith llaw dyn oeddynt. Dichon na adawodd yr Iberiad fawr o'i ôl ond ei dŷ gwag; ni feddai ddodrefn, ond gadawodd yn hwn arwydd sicr o'i synnwyr cryf. Hawdd dychmygu amdano, druan digysur, naill ai yn ei gorwgl yn y bau, neu ynte yn ceisio rhyw ysglyfaeth ar dir, pan welai arwyddion storm, yn gwneud am ei gaban diogel yn y graig. Ac os dichon i'w ddisgynyddion heddiw resynu weithiau at ei gyflwr digysur, gwelwyd hwy lawer gwaith yn gorfod gwneuthur yr hyn na wnaeth efe, sef casglu ynghyd adfeilion yr hyn a ddinistriodd y storm.

Ceir olion o fath gwahanol yng nghymdogaeth Carn Fadrig. Math ar gutiau crynion o waith llaw dyn yw y rhai hyn; gwaith y Gwyddyl efallai mewn ffordd o amddiffynfeydd bychain. Mae'n bosibl mai er diogelwch rhag bwystfilod rheibus y'u ffurfiwyd. Neu ynte gyd-ddyn creulon, oblegid o bob creadur byw dyn wedi'r cwbl yw y creulonaf. Heriodd y trigleoedd syml hyn filoedd o stormydd a nerthoedd dadfeiliol gaeafau'r oesau.

Ceir profion eglur fod yn yr ardal fodau dynol yn "Oes y Garreg," oblegid ar fryncyn yng nghwr hen dref Mynyw darganfyddwyd llawer o arfau cerrig wedi eu claddu yn y ddaear gan law amser neu ddyn. Tua diwedd y bumed ganrif, neu yn gynnar yn y chweched, trigai ar y bryncyn hwn ddyn ysgeler. Ei enw oedd Bwy, a gadawodd ei enw i'r llecyn y trigai arno. Enwogodd ei hun, fel y ceir gweled, fel erlidiwr yr Eglwys fechan ym Mynyw. Ai disgynnydd o deulu Iberaidd ydoedd ai o rhyw lwyth boreol arall, ni ellir sicrhau? Pagan ydoedd, ac yn byw gan mwyaf ar ysbail o dir a môr.

Ond cyn ffarwelio â'r olion diddorol a lluosog dylid crybwyll y bu'r Rhufeiniwr yma tu hwnt i bob dadl. Mae rhannau o'i "ffyrdd" ef i'w gweled yn amlwg, a phwy a ŵyr nad math ar wersyllfa Rufeinig oedd dechreuad y lle a ddygodd yn ddiweddarach yr enw Mynyw? Bu'r Derwydd yma hefyd, a dichon mai dyma'r ffurf gynaraf ar fath o grefydd a gafwyd yn yr ardal. Gelwir pentref bychan ychydig i'r dwyrain o'r Llan wrth yr enw Llan-y-Derwyddon. Pe yr ychwanegem fod yma arwyddion lled sicr o breswyliad "Arthur Fawr" yn yr ardal am dymor, byddai yn ddigon efallai at y pethau a nodwyd i brofi fod o gylch Carn Fadrig yn diriogaeth enwog yn y cynfyd pell. Gadawodd Arthur ei enw ar feini henafol ac ar dai, ac yr oedd iddo berthynas gwaed â theulu a roes fwy o anrhydedd ar Fynyw nag unrhyw un a fu neu a ddaw.

Truenus i'r eithaf oedd cyflwr yr ardal yn yr oesau boreol hyn, ac y mae'n syndod meddwl sut y llwyddai'r trigolion i gael tamaid. Er fod y tir at ei gilydd yn dda, nid oedd fawr o drin arno, a dibynnid llawn cymaint ar y môr ag ar y tir am gynhaliaeth.

Mae'n sicr fod trafnidiaeth led gyson cydrhwng Mynyw â'r Ynys Werdd ac â phorthladdoedd cartrefol i dde a gogledd. Cadwai hyn nifer o'r trigolion mewn gwaith a dygai i'r lle fesur o foddion cynhaliaeth. Cariai dynion fel Bwy gryn lawer o ddylanwad yn eu dydd, gan mai yn eu dwylo hwynt yr oedd rhannau helaeth o'r tir, ac y cadwent longau at farsiandiaeth a chychod at bysgota. Felly yr oedd nifer o'r preswylwyr yn eu gwasanaeth, a phenyd-wasanaeth ydoedd yn ddiau. Yr oedd gŵr arall o safle a dylanwad yn amser Bwy, â'i drigfod rhyw hanner milltir i'r de o'i wersyll ef. Llegyr oedd enw hwn, ac er ei fod yn ŵr digon ysgeler, eto yr oedd mwy o ddynoliaeth ynddo na'i gymydog. Mynych y codai rhyw gweryl rhyngddynt, a mawr y cyffro ac nid ychydig y dioddef o'r herwydd. Rhwng y ddau, tua'r amser y mae a fynno'r stori ag ef, byd digon helbulus oedd i'r ychydig Gristionogion yn yr ardal. Ond yr ydys eisoes yn rhedeg o flaen y stori.

Cyfeiriwyd fwy nag unwaith at fodolaeth Eglwys i Grist yn yr ardal. Erbyn dyddiau Bwy a Llegyr yr oedd hon yn hen sefydliad yn gannoedd o flynyddoedd mewn oed, er yn dal yn gymharol wan. Ar y cyfan, byw mewn enbydrwydd y buont am gyfnod maith, yn enwedig ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o'r lle. Beth bynnag a ddywedir am y rheiny, nid oes hanes iddynt yn yr ardal hon fod o anfantais i Eglwys Crist. Ond yn hytrach fel arall. Yn wir, pan ymchwilir i mewn i'r cwestiwn o ddyfodiad Cristionogaeth i'r rhan hon o Gymru, y mae cymaint i'w ddywedyd dros y syniad mai gyda hwy y daeth y Cristionogion cyntaf yma ag sydd dros unrhyw ddamcaniaeth arall. Gwir y myn rhai haneswyr gorselog fod yma ddilynwyr i Grist yn gynarach hyd yn oed na hyn, ac mai o Ephesus y daeth y tystion cyntaf i'r ardal trwy rhyw ddirgel ffordd neu'i gilydd. Honnir mai Eglwys ddwyreiniol a lwyddodd i anfon y cenhadon cyntaf, a hynny yn oes yr apostolion. Yr oedd hyn cyn i Frân Fendigaid ddychwelyd o Rufain â'r grefydd Gristionogol yn ei galon a'i ofal. Mae un peth yn sicr sef mai nid Pabau Rhufain a reolai fywyd Eglwys Mynyw, ond mai Eglwys y Cymry oedd, ac a fu am gyfnod maith, hyd yn oed wedi i genhadau'r Pab gael i'w dwylo reolaeth yr Eglwys yn Lloegr. Nid oes ddadl i fod mewn perthynas â hynafiaeth yr Eglwys a fodolai yn y bumed ganrif, yn nyddiau Bwy a Llegyr. Amseroedd blin a gafodd yn ddiau, a bu am ganrifoedd megis "llin yn mygu," neu'r berth yn llosgi. Ni ddifawyd hi er hynny, ond cadwodd y nefoedd hi yn fyw i weled dyddiau gwell. Prin iawn ydyw ei hanes am y canrifoedd cyntaf, ac hyd yn oed yn y bumed a'r chweched ganrif gellid dygymod â rhagor o oleuni. Ond daliodd fel lamp i oleuo mewn lle tywyll " hyd oni wawriodd y dydd." Yn raddol daeth crefydd i wisgo gwedd fynachaidd a lleianaidd, gyda sefydliadau cyfaddas at ei gwasanaeth fel y cyfryw. A beth bynnag a ellir ddywedyd yn erbyn y ffurfiau hyn, mae'n ddios iddynt wneuthur llawer yn y cyfnod bore hwnnw tuag at buro a goleuo bywyd y wlad. Ni fu pob mynach yn ddillyn mwy na meidrolion eraill, na phob lleian uwchlaw beirniadaeth. Er hynny, ym Mynyw, dyma'r dylanwadau cryfaf ymhlaid diwylliant a darbodaeth, heb sôn dim am fywyd ysbrydol. Buont yn nodded i dlodion yr ardal ac yn addysgwyr y trigolion sut i gadw tŷ, sut i drin tir, a pha fodd i brisio amser. Ond gan ein bod erbyn hyn yn dyfod yn fwy i olau dydd, ac yn nes at brif bwrpas y stori, gwell fydd dechrau pennod arall.

PENNOD III.
Yr Erlidiwr.

Safai'r mynachdy cyntaf cydrhwng Mynyw a Charn Fadrig, yn fwy dan gysgod y Garn. Ai heibio iddo ffordd Rufeinig, un pen i'r hon a ddiweddai yn y Gwyndraeth, ac i'r cyfeiriad_arall arweiniai trwy " Rodiad y Brenin" i gyfeiriad Porth y Pysgod. Rhyngddo â'r môr eto safai lleiandy bychan, ag iddo un hynodrwydd o leiaf, sef mai efe oedd yr adeilad mwyaf gorllewinol yng Nghymru. Ni wyddom fod dim o'r hen adeilad yn aros heddiw ond saif ar y llecyn dyddyn bychan o'r enw Gwyndŷ.

Erbyn hyn yr oedd dylanwad cenhadon y Groes yn cael ei deimlo yn lled drwm ar yr ardal, a llawenychai'r tlawd a'r gorthrymedig o'u plegid. Dysgwyd y trigolion i drin tir i well pwrpas ac i wneuthur gwell defnydd o'u gerddi, ac at hyn i dyfu coed ffrwythau. Ychwanegodd hyn lawer at eu cysur, a bellach nid oeddynt mor ddibynnol ar helwriaeth a physgota. Yn ben ar y mynachdy yr oedd dyn gwirioneddol dda,—yr abad Pawl. Yr oedd ef yn dŵr cadarn yn erbyn gormes a chreulondeb meistri anystyriol, a dechreuai'r tipyn Cristionogion yn ei gysgod ef deimlo eu traed danynt ac ymunioni. Ar Bawl edrychai Bwy dipyn yn gilwgus, oblegid teimlai fel pe bai ei ddydd ef trosodd, gan y cynrychiolai'r llall rhyw bwerau cryfach na'r eiddo ef.

Er nad oedd Llegyr ond math ar fôrleidr, gyda chryn lawer o fuddiant ar y tir yn ogystal, ac er nad oedd ganddo fawr o barch_i'r Cristionogion, eto yr oedd o ragorach math na Bwy. Ac yr oedd yn gryfach nag ef,—yn gryfach am ei fod yn gallach. Safai ei dŷ yn ymyl y porthladd bychan a ddygai ei enw. Gellid casglu fod ei wareiddiad dipyn uwch na'r eiddo ei gymydog oddi wrth ragoriaeth ei dŷ. Nid am ei fod yn uwchraddol, oblegid adeilad oedd o gerrig geirwon a chlai; ond yr oedd o gryn faintioli, ac o'r môr ymddangosai ar godiad tir megis castell bychan. O'i gylch yr oedd nifer o gabanod bychain lle y trigai ei weithwyr cyson. Dylid dywedyd, efallai, fod y gŵr hwn yn ddiweddar megis yn tynheru tipyn yn ei deimlad tuag at yr Eglwys fechan ym Mynyw, ac fod cymeriad rhagorol Pawl yr abad yn apelio ato. Am drigfod Bwy, nis gellir dywedyd llawer heblaw ei fod wedi dewis llecyn cysgodol,—manteisiol felly i wynebu storm neu elyn. Saif y bryncyn bychan yn amlwg ymhlith gwrthrychau'r ardal. Gellid meddwl o'r pellter mai math ar glogwyn ydyw; ond pan ddeuir yn agos gwelir y rhed trwy ei ganol hafn o dipyn o ddyfnder, tra mae'r graig yn serth ar bob ochr. Mae'r esgynfa o'r pen deheuol yn serth, ond o'r pen arall yn raddol a rhwydd. Yn yr hafn hwn yr adeiladasai Bwy ei gastell, gan mwyaf o glai, ac yr oedd yno ddigon o le i amryw gabanod ac i feudai ac ystablau. I drigfod Bwy ei hun yr oedd cryn nifer o ystafelloedd, ac i'r rhai hyn gollyngid rhyw gymaint o oleuni i mewn trwy dyllau crynion yn y muriau clai. Yr oedd ganddo ystafell y wledd, yn yr hon, ar brydiau, y ceid cryn rialtwch.

Tra Llegyr, ei elyn, yn tueddu at fwy o dynherwch a meddylgarwch, âi Bwy yn fwy hŷf a beiddgar gydag amser. Dangosai fwy o elyniaeth at yr Eglwys, ac yr oedd ganddo o'i ddeutu rai a gytunent ag ef yn hyn, yn enwedig fath ar was pennaf o'r enw Garth, creadur bychan ond gwisgi, ac awyddus am ffafr ei feistr. Ymostyngai hwn ar adegau i gyflawni budr-waith yn lle Bwy. Ceisid nid yn unig ddrygu y Gymdeithas fechan, ond hefyd ei sarhau a'i blino trwy fân droion anheilwng. Os digwyddai Bwy farchogaeth i gyfarfod mynach neu leian ni hidiai wasgu mor agos atynt nes peryglu niwed, os nad gwaeth. Ceisiai niweidio ffrwyth y gerddi a thaflu ysgerbydau dros y mur i lawnt neu ardd. Torrai ar eu heddwch, efe a Garth yn gytûn, ymhob modd posibl.

Un hwyrddydd daeth pethau i bwynt. Buasai Pawl am dro, neu ynte ar daith, a dynesai at y glwyd trwy yr hon yr arweinid at y mynachdy. Yn hollol ddisymwth wele Fwy yn carlamu o rywle, a chyn i'r abad gael i mewn trwy'r porth dyma'r march cryf ar ei draws, gan ei fwrw i'r llawr yn swrth a thrwm. Beth a ddaethai ohono onibae i Legyr ddigwydd bod yn ymyl, ni all neb ddweud. Ond digwyddodd hwn ddyfod trwy y glwyd yr eiliad honno, wedi galw yn ofer yn y mynachdy, a gwelodd y sefyllfa. Deallodd hi hefyd, ac mewn cynddaredd oblegid un poeth ei dymer oedd—rhuthrodd i'r ffrwyn ac ataliodd Fwy rhag carlamu i ffwrdd. Nid yn unig hynny, ond yr oedd yn ei law bastwn trwm, ac ar un pen iddo glap o gryn faintioli, ac heb betruso rhoes i Fwy y fath ergyd ar ochr ei ben nes ei syfrdanu am rai eiliadau. Ni chwympodd ac ni lewygodd y dyhiryn, oblegid fel yr oedd gorau iddo ef, yr oedd mur go drwchus o rywbeth yn amgylchynu hynny o ymennydd oedd ganddo. Ond yr oedd golwg ddieflig arno pan ddaeth ato ei hun. Daliodd Llegyr ei afael yn y ffrwyn, ac ebr efe, gan ysgyrnygu: "Onid oes cywilydd arnat, ŵr balch, i aflonyddu ar weision Duw a'u drygu yn barhaus? Bydded hysbys iti fod yr ardal yn sylwi, ac fod dydd dial gerllaw. Os na adewi heibio dy ddrygioni, bydded hysbys iti hefyd, os na chymer neb arall mewn llaw i amddiffyn y dynion hyn, na ddrygant neb, y gwnaf fi hynny. Ac fe wyddost ti, Bwy, fod yn fy ngallu i wneuthur hynny." Yn ystod yr arawd fechan ond eofn hon edrychai Bwy fel ci cynddeiriog mewn dalfa, a da fuasai ganddo dalu'r pwyth i'w wrthwynebydd. Ond er fod ganddo fwyell garreg yn hongian wrth ei wregys, ofnodd ei defnyddio. Erbyn hyn yr oedd yr abad wedi codi ar ei draed ac adfeddiannu ei hun yn weddol. "Yr wyf yn ddiolchgar iti, fy nghymydog," ebr efe," am ddyfod i'm cynhorthwy ar eiliad beryglus. Cennad Iôr a fuost yn ddiddadl—angel Duw i amddiffyn Ei was." Yna, gan droi at Fwy, ac edrych megis drwyddo, llefarodd y geiriau hyn, mewn llais dwfn ond clir, a chyda phwyslais—geiriau nad anghofiwyd gan Legyr na Bwy:

"Ti, was y fall, yr wyt wedi meiddio cymryd arfau yn erbyn galluoedd sydd drech na thi, megis y mae dy gymydog hwn wedi cymryd arfau o'u plaid. Ni lwyddi di, Bwy. Cyn y byddi ond ychydig ddyddiau yn hŷn cei braw amlwg o anfodlonrwydd Duw ynghylch dy breswylfod. Ac yn fuan wedi hynny cei dy alw mewn ffordd na ddychmygaist i ateb i'th Grewr am dy greulondeb." Ar hyn, gollyngodd Llegyr y ffrwyn, ac aeth Bwy tua thref yn bendrist. Aeth yr abad a Llegyr i'r mynachdy. Tra nad oedd gan Legyr ar y cyntaf ond neges gyffredin, rhoddes yr amgylchiad wrth y glwyd gyfeiriad a gweithrediad newydd i'w feddwl. Ni ddywedodd air nes cyrraedd i ystafell yr abad; ac hyd yn oed yno ymddangosai fel pe mewn breuddwyd. "Efallai," ebr yr abad wrth ei weled felly, "dy fod yn rhyfeddu at fy ngeiriau wrth Bwy greulon ac erlidgar." "Braidd nad wyf," ebr yntau, ac yn enwedig y cyfeiriad at y dyfodol. Ai tybed, barchedig abad, fod yn eich gallu i weled a rhagfynegu'r dyfodol? Wel, amser a ddengys. Gadawaf iti farnu wedi iti weled mwy. Mae'r Arglwydd ar du Ei weision, ac ni lwyddodd neb yn y pen draw a ymladdodd ag Ef." "Ond am dynged Bwy y meddyliwn. Yr oedd rhywbeth yn awgrymiadol iawn yn eich geiriau.'

"Ni ddywedaf ragor ar y pen yn awr, ond efallai y byddi yn synnu, fy amddiffynydd caredig, at yr hyn a ddigwydd yn fuan." Diau fod Pawl am wneuthur y gorau o'r amgylchiad ymhlaid yr Eglwys, a hawdd maddau iddo am hynny. O dipyn i beth daethant at neges arbennig Llegyr, ac felly y daeth terfyn ar weithrediadau y dydd, ond dechreuad pethau mawr.

PENNOD IV.
Noson Gofiadwy.

ER beiddgared dyn oedd Bwy, troes adref yr hwyrddydd dan sylw, nid yn unig yn bendrist, ond yn llawn o feddyliau dwfn ac amryw. Codai hefyd rhyw amheuon duon yn ei galon. "Beth allai fod ym meddwl Pawl, yr abad, wrth ddarogan fel y gwnaeth?" Wrth gwestiyno ac adolygu, teimlai i raddau yn anesmwyth, ac nid oedd bell o deimlo yn ddig wrtho ei hun am ei driniaeth gyson o'r Cristionogion, ac yn enwedig ei ymddygiad at Bawl y noson honno. Paham yr oedd raid iddo ef ddangos cymdogaeth ddrwg mwy na Llegyr? Ond bu atgof am bastwn Llegyr, a'r boen a deimlai mewn canlyniad, yn foddion i chwythu gwreichion ei ddigllonedd yn fflam drachefn. Gwylied ef," meddai, gan ysgyrnygu ei ddannedd a chau ei ddyrnau, Gwylied ef; mi dalaf y pwyth iddo am hyn eto." Ar hyn yr oedd gartref, a Garth, ei was, gerllaw i gymryd gofal o'i geffyl. Sylwodd hwnnw ar unwaith fod cwmwl ar ei ael, a sylwodd ymhellach fod rhywbeth o'i le ar ochr ei ben. "Pa anffawd a gafodd fy meistr ar ei daith?" daflodd y ceffyl ef, ai beth? "Na," ebr yntau, "'does nemor i geffyl fedr daflu Bwy, ond y d——o abad yna fu'r achos o hyn. Ceisiais yrru ar ei draws, megis ar ddamwain, tra yr oedd yn troi i mewn trwy borth y mynachdy, a chefais ef i lawr hefyd. Ond pwy ddaeth allan trwy'r porth ar yr eiliad ond Llegyr, ac yn ei law bastwn trwm. Ôl y pastwn ydyw hwn,"-gan godi ei law at y clap. Ond, fe dalwn yn ôl iddo. Pa hawl sydd ganddo ef i amddiffyn ac annog rhyw giwaid segur sydd yn dysgu gweision i anufuddhau i'w meistriaid, a chasâu gwaith a thipyn o firi?" Ni ddywedodd Garth ddim am eiliad neu ddwy, ond edrychodd yn feddylgar tua'r llawr. Yna atebodd, ond nid heb beth pryder: "Dyn cryf a beiddgar yw Llegyr, meistr, ac os yw efe wedi cymryd plaid yr abad, ac yn dy erbyn di, nid yw'n arwydd dda. Mae iddo'r gair yn ddiweddar yma hefyd o fod yn dyner wrth y rhai sydd yn ei wasanaeth, ac yn dda i'r tlodion. A rhaid cyfaddef beth bynnag yw gwerth y grefydd newydd yma, y mae'n dechrau dylanwadu er daioni arno ef. "Garth," ebr y meistr, gan edrych yn sarrug, a wyt ti am gymryd plaid Llegyr yn erbyn dy feistr? A wyt tithau yn dechrau dyfod o dan eu cyfaredd? A wyddost ti fod yr abad wedi bygwth pethau mawr arnaf,—hyd yn oed marwolaeth? Am Legyr, mi ddof i fyny ag ef eto, cei weled. Nid wyf yn debyg o anghofio,—nid y dolur yn gymaint â'r sarhâd." Na, nid hynny, fy meistr; byddaf yn ffyddlon iti hyd farw, os bydd raid. Ond dywedir i mi fod gan y Cristionogion yma rhyw ddylanwad rhyfedd hyd yn oed dros elfennau natur, ac y gallant alw mellt a tharanau ac ystormydd i'w cynhorthwyo, os bydd raid. Mae sôn fod rhyw fodau anweledig yn eu helpu. Meddwl yr oeddwn, os yw pethau fel hyn yn wir, mai ofer ydyw ymladd â hwynt, ac mai gwell gadael iddynt." "Taw â dy ffiloreg. Nid yw'r cwbl ond ofergoeledd; rhywbeth at ddychryn hen wragedd a phlant. Ac eto, gan gofio, fe soniodd yr abad rywbeth wrth ddiolch i Legyr fy mod i wedi cymryd arfau yn erbyn galluoedd sydd gryfach na mi. Pw! ni welodd Bwy alluoedd felly hyd yma, a gwell i tithau, Garth, beidio â gadael i hen chwedlau fel hyn wanychu dy galon."

Cymerodd y gwas ofal y ceffyl, a throes y meistr i'r tŷ. Ond nid i orffwys. Wedi eistedd munud, a rhoddi atebiad neu ddau digon sarrug i'w briod, Enid, aeth allan drachefn, a dringodd i gopa uchaf y bryncyn. Yno eisteddodd i lawr i fyfyrio, ond aflonydd iawn oedd ei feddwl. Tynnai ymlaen erbyn hyn, ond yr oedd yn noson loergan a thyner. Yn niwedd gwanwyn neu ddechrau haf gall yr hinsawdd fod yn hyfryd yn yr ardal hon. Codasai'r lloer dros Gaerdeon awr yn ôl, a honno'n llawn, a gallai weled y trumau cylchynol yn glir. Gwelai'r ynysoedd rhyngddo â Hafan y Rhŷd, ac yr oedd llewyrch y lloer ar y bau yn brydferth. Sïai y môr yn dyner,—hwiangerdd oedd ganddo'r noson honno. Nid oedd yr adar wedi hollol ddistewi, a chlywid cŵn y cymdogion yn ateb ei gilydd. Os codai ei olwg i fyny, gwelai fil o sêr yn gwenu mewn awyr ddigwmwl. Trodd i synfyfyrio:

"Beth a feddyliai'r abad, tybed, yn yr hyn a ddywedodd?" Ond ni charai i'w feddwl gerdded i'r cyfeiriad yna. "Mae fel pe yn paratoi am dymor hyfryd at waith y tir ac i gasglu cyfoeth y môr," ebr efe wrtho ei hun drachefn. Yna gwrandawodd eilwaith. Yr oedd mor dawel fel y teimlodd iâs o ofn. Trodd ei glust i gyfeiriad Hafan-y-Rhŷd, lle pwysig yn nhrafnidiaeth y wlad, hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw. "Rhyfedd," meddai wrtho ei hun,"fel y swnia'r môr o'r deau ar noson mor dawel! Dywedir mai arwydd storm ydyw ei sŵn o Gaerdeon, ac yn enwedig Hafan-y-Rhŷd. Ond 'does fawr o argoel hynny heno, nac am ddyddiau eto, dybygwn i. Ac i mewn ag ef. A thra Bwy fel hyn yn syn-fyfyrio ar un bryncyn, rhyfedd iawn fod Llegyr hefyd yn gwneuthur yr un peth ar un arall rhyw hanner milltir i'r deau. Wedi cryn sgwrs gyda'r abad, troes yntau adref yn llawn meddyliau. Ni feddyliai rhyw lawer am ei gymydog, ond rhaid cyfaddef ei fod yn fwy balch na dim arall am y ffonnod a roddes iddo. Gŵr digon ysgeler a fuasai yntau hyd yn ddiweddar, a dengys ei ymosodiad sydyn ar Fwy nad oedd yr hen natur wedi ei threchu hyd hynny o leiaf. Ond yr oedd dylanwad y ddiadell fechan ym Mynyw yn dechrau dywedyd yn ffafriol arno; a phan ddechreuodd fyfyrio y noson honno wrtho ei hun, a'i olwg ar ynys fechan rhyw ddwsin o filltiroedd i'r deau-orllewin, daeth geiriau'r abad yn ôl ato. Dechreuodd feddwl o ddifrif am y gwahaniaeth rhwng ei fywyd ef â'r eiddo y Cristionogion o'i gylch. Yr oedd eu bywyd hwynt mor heddychol, a'i duedd hefyd i ddwyn gwell trefn ar bopeth,—nid yn unig foesau,—ond hyd yn oed y tir. Buasai yn gwrando ar eu gwasanaeth yn yr Eglwys fechan,—i ddechrau, tu allan i'r drws, ond wedi hynny meiddiodd fynd i mewn. Clywodd un o'r mynachod yn pregethu: gŵr syml ei eiriau, ond cyrhaeddodd y genadwri adref, a theimlodd nad oedd yr hen fywyd y peth i ddyn rhesymol. Cododd math ar gywilydd arno o'i fywyd fel môr-leidr, ac fel llawer peth arall amheus. Ac eto, teimlai fod anturiaeth, beiddgarwch ac ysgelerder wedi mynd megis yn ail natur iddo, ac mai nid hawdd oedd troi dalen. Pan drôdd i'w dŷ, wedi hir fyfyrio, yr oedd ymhell o fod yn Gristion; ac eto yr oedd ei wyneb wedi troi i'r cyfeiriad iawn. Pan ddaeth allan o'i fyfyrdod dwfn, sylwodd yntau, fel Bwy, fod rhywbeth yn rhyfedd yn sŵn y môr ar noson mor dawel a chlir. "Yn sicr," ebr efe, "er cliried yr awyr a thynered yr awel, y mae rhyw storm sydyn yn agos."

PENNOD V.
Noson Gofiadwy (parhad)

TRANNOETH digwyddodd un o'r dyddiau hyfrytaf a wawriodd erioed ar Fynyw, ond yng ngwres y dydd yr oedd bron yn annioddefol, er mai cynnar ym mis Mai ydoedd. Ceisiai dyn ac anifail cysgod, os oedd modd, a chaled ydoedd ar y rhai orfodid i ddal pwys y dydd a'i wres. Gyda'r hwyr gwelid yr abad Pawl yn symud dipyn yn arafaidd yng nghyfeiriad Porth Llegyr. Daeth i'w feddwl gellid Cristion o Legyr ond iddo gael cyfle buan i ddyfnhau argraffiadau y noson cynt. Cafodd ef yn ymyl ei dŷ yn mwynhau hynny o awel a geid gyda'r hwyr. Dyn craff oedd Pawl; yn wir, dyn cyfrwys ydoedd efe yn ystyr orau'r gair. Yr oedd yn rhy fedrus yn ei alwedigaeth i ruthro lle y gwyddai fod pwyll ac amynedd yn angenrheidiol. Felly, gan awgrymu rhyw neges heb fod o bwys mawr, gadawodd i Legyr ei hun arwain yr ymddiddan at bethau crefyddol, yr hyn a wnaeth yn bur fuan. "Mi a sylwais, barchus dad," ebr efe, "i chwi lefaru geiriau wrth Bwy a swnient yn ddieithr iawn i mi, ac yn sicr iddo yntau hefyd. A oes rhyw allu mawr y tu ôl i bethau fedr ddwyn barn sydyn ar ddynion fel cosb am eu pechodau? Ac a oes gennych chwi wybodaeth am y gallu hwnnw, a llywodraeth drosto fel ag i allu bygwth fel hyn?"

"Y mae Duw," ebr yntau, " yn hir Ei amynedd; ond pan galeda calon dyn yn erbyn Ei lywodraeth, ac yr arweinia hynny ef i ddrygu ei bobl, y mae Efe yn alluog i amddiffyn Ei eiddo. Yn ein Llyfr ni y mae gennym enghreifftiau o'i waith yn anfon plâ neu ysbrydion anweledig, a thrwy y rhai hynny yn gwneuthur trychineb ofnadwy ar y ddaear.

"Mi a garwn yn fawr weled y Llyfr," ebr y llall, " ond nid hawdd ei gael, mi a wn." "Na, nid oes ond copïau ysgrifenedig yma a thraw i'w cael, ac yng nghadw yn bennaf yn y mynachdai, ond os caret, mi a ddarllenwn iti bennod neu ddwy, er mwyn iti glywed am rai o'i weithredoedd mawr. Cei glywed am ddeg plâ yr Aifft, ac am angel yn lladd, mewn un noson, gant, wyth deg a phump yng ngwersyll Assyria." Edrychai Llegyr yn dra sobr, os nad yn ddychrynedig, wrth glywed hyn. "Ond," meddai, "y mae hynyna ymhell yn ôl; onid oes rhywbeth yn nes atom?" "Oes, ddigon. Fe ddangoswyd pethau mawr yng Nghaersalem fel barn ar yr Iddewon am roddi ein Harglwydd i farwolaeth ar gam. Ac wedi ei ddychwelyd i'r nefoedd, lle y mae yn awr, fe estynnodd un o'r enw Herod, tipyn o frenin mewn enw, ei law i ddrygu yr Eglwys. "A chan bryfed yn ei ysu efe a drengodd" ydyw'r hanes amdano. Fe geisiodd gŵr a gwraig (yn yr Eglwys, cofia) dwyllo eu cydaelodau a'r Apostolion santaidd ynghylch gwerth dipyn o dir, ac fe drawyd y ddau â barn marwolaeth. Mae Duw yn drugarog, ond y mae'n sicr o amddiffyn Ei bobl. Gwell i Fwy fod yn ofalus; dywed rhywbeth wrthyf fi fod ei ddiwedd gerllaw." "A gaf fi ganiatad i roddi diwedd arno, barchus abad, ac fe'i gwnaf yn ddianghenraid i Dduw ymyryd?" Hawdd gweld fod mwy o'r " hen ddyn" yn Llegyr nag o'r "newydd" hyd yma. "Na," ebr yr abad, "gad ef i ddwylo yr hwn y pecha yn ei erbyn." Er hyn i gyd, wedi i Bawl droi adref, y meddwl uchaf ym mynwes Llegyr oedd y carai roddi terfyn ar fywyd anheilwng Bwy, er mwyn, os gallai, ennill ffafr y Duw y clywsai amdano. Nid oedd yn ddigon dan ddylanwad gras i allu ysgoi'r meddwl hwn.

Ond yn awr am y noson gofiadwy i Fynyw a'r cylch. Fel y nodwyd, buasai yn annaturiol o boeth yn ystod y dydd, ac at yr hwyr yr oedd y gorwelion deheuol a gorllewinol yn gymylog iawn, ac yr oedd golwg fygythiol arnynt. Ac anodd ymgynnal dan bwysau'r awyr. Gellid anadlu brwmstan o'r awyr, ac yr oedd yn amlwg fod storm gerllaw, os na ddigwyddai basio yn y môr, fel y digwydd weithiau. Yn nes ymlaen, fodd bynnag, yr oedd hynny yn annhebyg, gan y gwelid yn croesi bron y cwmwl digllon ei olwg fflachiad mellten yn awr ac eilwaith. Prysurai'r pysgotwyr i'r lan, gan rwyfo am yr hafanau bychain agosaf. Prysurai disgynyddion yr hen Iberiaid i'w cartrefi digysur ond diogel. Gŵr ofnus yw'r pysgotwr ar adeg o fellt a tharanau. Daeth cawod sydyn, a chliriodd yr arwyddion peryglus am ennyd fer. Rhuai'r taranau o bell, a thybiodd llawer fod y gwaethaf drosodd, ac aethant i orffwys heb feddwl llai. Ond nid pawb. Rywfodd neu'i gilydd, ni allai Bwy gael bygythiad yr abad o'i galon, ac yn lle troi mewn i orffwys aeth i edrych am Garth, ei was, yr hwn, fel eraill, a lechai yn ei gaban clai. Yr oedd hwn yn rhan o wersyll Bwy yn yr hafan ar y bryn. Synnodd Garth yn fawr glywed llais ei feistr yn galw arno, ond rhaid oedd ateb ac ufuddhau.

"Nid oes arnaf awydd gorffwys am dipyn, Garth, ac y mae Enid wedi mynd i'w gorweddle. Credaf iddi gael peth dychryn pan fflachiodd mellten megis i'w hwyneb. Tyrd i gael llwnc o ddiod, er mwyn lladd amser nes y daw cwsg ataf." Cyfeiriwyd at Enid, gwraig Bwy. Dynes ysgeler, ryfygus fuasai hithau hyd yn ddiweddar. A pha ryfedd? Byddai'n anodd bod yn wahanol yng nghwmni'r fath greadur o ŵr ag oedd iddi. Ond yn ddiweddar, daethai i gyffyrddiad dirgelaidd â Gwenhwyfar, yr abades, un o angelion Duw ymhlith dynion,—a daethai cyfnewidiad amlwg drosti.

Ufuddhaodd Garth fel dyn mewn breuddwyd. Bu gyda'i feistr am gryn amser, ond yn bur anesmwyth. Cynhyddu wnai'r storm. Ni chiliasai ond megis i ennill nerth ychwanegol. Llenwid yr ystafell weithiau â goleuni llachar, ac yr oedd yn amlwg fod nerth y rhyferthwy uwchben y lle. Nid cynt y fflachiad arswydol nag y clywid y daran, nid yn ymrolio yn hamddenol yn y pellter, ond yn torri yn gleciadau brawychol yn union uwchben, ac yn siglo'r lle â'u nerth. Gwelwai Bwy; gellid gweled ei welwder yn fflachiad y fellten; ac yn y man wele sŵn dieithriol,—sŵn fel ped elai rhyw beth yn ganddryll. "Och fi," ebr y meistr, mae mellten wedi taro'r gwersyll." Ond bron cyn iddo orffen llefaru, wele fflachiad arswydol arall, a llond y lle o arogl brwmstan. Cwympodd Bwy yn swp i'r gornel, a chollodd bob ymwybyddiaeth. Pan ddaeth ychydig ato ei hun, torrai y wawr a chiliasai'r ystorm ofnadwy. Edrychodd yn freuddwydlyd a blinderus o'i ddeutu, a gwelodd fod Garth yn yr ystafell ond yn swp diymadferth yn y gornel arall. Ceisiodd ymlusgo ato, a gwelodd fod y fellten wedi deifio ei wallt, ond yr oedd ynddo anadl wan. Yna meddyliodd am ei wraig, druan, ac ymlusgodd gyda thrafferth i'w hystafell. Gwelodd fod y tô uwch ei phen wedi ei glirio ymaith, a dyna lle yr oedd hithau ar ei gorweddle yn udo yn alarus, gan dynnu gwallt ei phen. Edrychai yn frawychus, a hawdd gweled oddi wrth ei hymddygiadau a'i dolefain ei bod wedi colli ei synnwyr yn hollol. Cymaint a ddywedai oedd y ddeuair,—"Barn Duw; barn Duw!" Edrychodd Bwy trwy ffenestr yr ystafell a gwelodd fod ei wersyll yn yfflon gan mwyaf, wedi ei ddifrodi gan yr ystorm fawr. Cafwyd, yn ddiweddarach, fod colled hefyd mewn bywyd dynion ac anifeiliaid.

Profodd y storm yn ddinistriol iawn i'r holl ardal, ond bron nad ellir dywedyd fod y teimlad o ddychryn wedi taflu i'r cysgod bob ymdeimlad o golled. Drannoeth, yr oedd yr holl ardal yn ferw, a phob math o newyddion yn cael eu sibrwd. Aeth y sôn ar led mai barn Duw ar Fwy oedd hyn oll; a diau fod â fynno Llegyr rywbeth â hynny, oblegid daeth yn wybyddus i'r abad rag-fynegu pethau mawr ddyfod. Bu hyn, wrth gwrs, yn help i godi pen yr Eglwys fechan yn y lle. Taenwyd y gair fod Bwy a Garth ymhlith y meirw, ac fod Enid wedi mynd o'i phwyll, yr hyn oedd wir yn ei hachos hi, druan. Aethai y greadures ddioddefus yn wallgof ac ni feiddiai Bwy fynd i'w golwg am fod yr olwg arno yn ei chyffroi tu hwnt i bob llywodraeth. Ni laddwyd Bwy, ond fel y sylwyd, bu ar ddibyn tranc; a bu Garth megis yn hofran rhwng dau fyd am rai dyddiau. Bu'r hyn a glywsai gan ei feistr am fygythiad yr abad yn achos anesmwythyd i'w feddwl cyn ei daro i lawr; oblegid tra yn anymwybodol clywid ef yn griddfan, ac weithiau yn sibrwd yn floesg: "Gallu-cryfach-na-Bwy." Er caleted calon hwnnw, ac er beiddgared ei ysbryd, teimlodd rhyw wendid yn ymwisgo drosto na phrofasai ei gyffelyb o'r blaen. Nid oedd o lawer wedi ymadfer o'r ysgytiad a gawsai, ac yr oedd dolef ei wraig: "Barn Duw," a sibrydiadau Garth, yn peri aflonyddwch mawr i'w feddwl. Beth, wedi'r. cwbl, os oedd efe yn "gwingo yn erbyn y symbylau?" Beth ddeuai o'i wraig? Beth ellid wneud â dynes wallgof? Mor bell ag y gwelai, yr oedd hi a Garth hefyd, yn dechrau dyfod o dan ddylanwad yr abad a'i ganlynwyr. Beth ddeuai o Garth. Ni allai efe ei feddyginiaethu, ac nid oedd neb a costuriai wrtho! Weithiau, deuai'r hen nwydau cryfion ac aflywodraethus i'r wyneb, a chymhellid ef i gymryd ei fwyell ac ag un dyrnod roddi terfyn ar eu bywyd.

PENNOD VI.
Ar ôl y Storm.

TRA meddyliau duon felly yn codi yn ei fynwes, digwyddodd droi ei olwg i gyfeiriad Mynyw, a phwy welai yn araf ddringo'r llwybr i gyfeiriad ei wersyll maluriedig ond yr abad Pawl. Bron na pheidiodd ei galon guro. Tybed a oedd cweryl arall yn ymyl, ac os oedd, teimlai mai efe a gollai'r dydd, canys erbyn hyn yr oedd ganddo syniad newydd am nerth yr abad. Nid oedd am ddangos hynny, ac os cai le i dybio y byddai gair garw yn debyg o ddiarfogi ei wrthwynebydd, penderfynodd lefaru'r gair hwnnw. Ond rhaid bod yn wyliadwrus. Pan ddaeth yr abad i'w ymyl, craffodd Bwy ar ei wedd ag un edrychiad treiddgar er ceisio darllen yno rywbeth am natur ei neges. Ond yn hollol ofer. Dwyster, sobrwydd ac urddas yn unig a welai, heb arwydd ofn, nac, o'r ochr arall, fel y tybiai, o ŵg. Safodd o flaen gŵr Duw gan ymunioni am eiliad, ac yna foesymgrymu y gradd lleiaf. Yr oedd moes-ymgrymiad yr abad yn llai fyth. Yr wyf yn deall iti gael colled trwy'r storm. Gwelaf (gan daflu trem o'i ddeutu) fod dy drigfod wedi bron ei llwyr ddinistrio. Da fod gennyt dy fywyd, oblegid dywedir i mi i'r farn dy daro, ond nid i farwolaeth y tro hwn. Gwylia arnat dy hun rhag digwydd rhywbeth gwaeth iti y tro nesaf. Ar hyn clywodd ddolef alarus, "Barn Duw,—barn Duw!" ac edrychodd braidd yn gyffrous. "Pwy sydd yn dolefain fel yna?" "Fy ngwraig," ebe Bwy, "fe'i dychrynwyd gan y mellt, ac yn enwedig y fflachiad a chwalodd y tŷ. Ni chawn ddim o'i genau ond hyn fyth er hynny."

"Mae dy wraig yn iawn, a phe cymeraset tithau gyngor i beidio ymladd â phwerau sydd gryfach, ni ddigwyddasai hyn." Mae fy ngwas wedi ei daro hefyd, ac nis gallaf wneuthur dim iddo." "Ie, y gwas oedd law-law gyda thi i ddrygu yr Eglwys. Mae eich bywyd ill dau wedi ei arbed y waith hon, ond peidwch ymfalchio, y mae rhagor i ddyfod. Gad i mi olwg ar dy wraig." Er rhagored dyn oedd Pawl y mae'n amlwg ei fod am wneuthur y gorau o'r sefyllfa er dyrchafu pen yr Eglwys. Arweiniwyd ef i ystafell Enid, ac yno cafodd hi fel arthes gynddeiriog o ran golwg, yn y gongl, a'r eiliad y gwelodd hi ei gŵr torrodd allan i lefain, "Barn Duw —barn Duw! O, yr ellyll, i ddwyn barn Duw ar dy dŷ â'th eiddo." Ond pan welodd hi yr abad wrth ei sawdl hi a dawelodd ychydig, gan edrych ar ŵr Duw gyda chymysgedd o ofn a hyder, fel yr edrychai y rhai mewn meddiant cythreulig ar y Crist. Dynesodd yr abad yn eofn gan osod ei law ar ei phen. Tynnodd y druanes anadliad dwfn. Daeth gwên i'w hwyneb oedd cynt yn gythryblus, a mesur o dangnefedd i'w hysbryd. Gafaelodd yntau yn ei llaw ac arweiniodd hi i fath o ystôl oedd yn yr ystafell. "Tangnefedd iti, wraig dda; cymer gysur, y mae Iesu Grist yn adfer iti dy bwyll." Edrychodd hithau arno mewn syndod, ac er yn rhy wan i godi oddi ar ei heisteddle, sibrydodd yn floesg: "Iesu Grist,—pwy ydyw ef? Clywais yr enw unwaith o'r blaen gan bysgotwraig i lawr ym Mhorth Llegyr." "Rhaid iti fynd o dan ofal yr abades Gwenhwyfar i'r Lleiandy, ac yno fe ddysgir iti amdano Ef yn fanylach." Yna, gan droi at Fwy, ebr efe, os nad yn sarrug, eto yn awdurdodol, "Mi a anfonaf ysgrubl i'w chyrchu. Mae hi'n rhy wan i fynd unrhyw ffordd arall, a gofala di, er mwyn dy ddiogelwch dy hun na roddi di rwystr ar y ffordd." Ni raid amau nad oedd yr abad yn cymryd mantais ar yr amgylchiadau i ddychryn tipyn ar Fwy ac i hyrwyddo buddiannau'r Eglwys. "Ple mae'r gwas?" ebr efe drachefn, mewn tôn dra awdurdodol. Arweiniwyd ef ar unwaith at Garth, yr hwn oedd fyth yn anymwybodol. O leiaf, yr oedd fel un yn breuddwydio. Ond pan welodd yr abad, bron na lewygodd tuhwnt i adferiad, oblegid credai mai dyma'r dyn oedd o'r tu ôl i'r storm a'r difrod. Ond plygodd yr abad i lawr gan roddi ei law ar ei dalcen poeth: "Paid ag ofni, druan tlawd; dy gamarwain a gefaist gan un a ddylasai wybod yn well." Daeth golwg ddiolchgar i wyneb Garth, a thorrodd megis gwawr gobaith ar ei bryd. Ni allai ond sibrwd yn floesg iawn: "Ie—yn erbyn—y gallu—mawr. Ond—byth—rhagor." Yr oedd penbleth Bwy yn cynyddu, a chroes-deimladau megis yn ei rwygo. Unwaith eto daeth y fwyell i'w feddwl. Paham lai na gorffen â honno, nid yn unig Enid a Garth, ond hefyd yr abad ymyrgar? Ond yr oedd arno ofn Pawl, er na charai i neb feddwl hynny. "Rhaid i hwn hefyd ddyfod i'r Mynachdy. Nid oes obaith am ei gorff fan yma, ac y mae achos gofalu am ei enaid." Llefarwyd y geiriau gan Bawl fel "un ag awdurdod ganddo," a theimlai Bwy nad oedd yn feistr bellach yn ei dŷ ei hun. Ni feiddiai wrthwynebu. Safai'r Lleiandy i'r gorllewin o'r Mynachdy, ac yn agos i Wyndraeth a'r môr. Arweinid iddo ar hyd ffordd gul yn troi allan o'r ffordd ragorach arweiniai heibio'r Mynachdy i Wyndraeth. Yn ddiweddarach yr un dydd gellid gweled dau gwmni bychan, y naill yn gadael y Mynachdy, dan ofal yr abad; a'r llall y Lleiandy, dan ofal Gwenhwyfar. Yr oedd gan y naill a'r llall fath ar ysgrubl tuag at ddwyn yr anffodusion o wersyll Bwy. Cyfarfyddodd y ddau gwmni ar y groesffordd yn troi i gyfeiriad y gwersyll, a chymerodd yr abad a'r abades y blaen.

Soniwyd eisoes am Wenhwyfar, dan ofal yr hon yr oedd y Lleiandy. Gellid dywedyd llawer amdani hi, ond gwell gadael. i amgylchiadau ddadlennu ei chymeriad. Digwyddiad, mae'n debyg, a barodd iddi ddwyn yr un enw â phriod Arthur; ond beth bynnag am rinweddau honno, rhagorai hon hyd yn oed arni hi. Nid yw'n amhosibl i'r ddwy fod yn berthynasau, oblegid yr oedd i Arthur ei hun berthynas led agos â'r lle. Ond beth bynnag am hynny, ni fu ond ychydig yn holl hanes yr Eglwys i fyny â hon mewn prydferthwch cymeriad, ac ymgysegriad i wasanaeth Crist. Nid oedd y Lleiandy hyd yma ond bychan, ac nid oedd ond ychydig o leianod dan ei gofal. Ni wyddis dim am ei theulu na man ei genedigaeth, ond yr oedd syniad ar led mai o Geredig y daeth, ac fod rhyw ddirgelwch ynglŷn â'i dyfodiad i'r ardal. Cysgodai lleiandai, fel y cawn weled, ferched rhinweddol a gymhellid i ffoi o'u cartrefi er mwyn osgoi cysylltiad priodasol â dynion annheilwng. Gallai yn hawdd fod Gwenhwyfar yn un o'r cyfryw, a gellid yn hawdd ddychmygu am ddyn yn colli ei ben a'i galon dros y ferch brydweddol hon. Eisoes, gwnaethai argraff ragorol ar fywyd Mynyw, a da fuasai gan amryw ferched o dueddiadau crefyddol adael y byd pechadurus o'r tu ôl a throi i mewn i fod o dan ofal Gwenhwyfar am dymor, os nad am oes. Daethai i gysylltiad â mwy nag un o rai a gollasant y ffordd, megis Mair o Fagdala, a rhoddes iddynt gysgod y Lleiandy a mantais cyngor da ac esiampl bron berffaith. Adwaenid hi yn dda yn yr ardal, a chredid gan lawer fod iddi y ddawn i gyflawni gwyrthiau, oblegid achubasid mwy nag un o safn marwolaeth.

Yr oedd ganddi le yn y Lleiandy i rai tebyg i Enid, gwraig Bwy; trueiniaid a gymerid i mewn dros dro am ymgeledd corff. Ond anfynych y gadawent y lle heb gael eu harwain ganddi hi at feddyg enaid hefyd. Fel yr oedd dylanwad y ddau sefydliad er daioni diamheuol i gyrff ac eneidiau. Dyma'r foneddiges, felly, a arweiniai gwmni'r Lleiandy yng nghyfeiriad gwersyll Bwy. Synnai'r boblogaeth yn fawr at yr hyn a welent, a methent â deall y symudiadau. Gwyddent erbyn hyn am golled Bwy trwy'r ystorm ac am ymweliad yr abad ag ef. Ond beth oedd hyn oedd yn canlyn? Safent yn ymyl eu tai gan geisio dyfalu, ond yn hollol ofer. Safodd y ddau gwmni yn ymyl tŷ maluriedig y pennaeth annuwiol, ac yn fuan gwelid hwynt yn troi'n ôl, pedwar o ddynion wrth bob ysgrubl, ac ar un Enid wan, yn cael ei dwyn o garchar ryddid. Ar y llall, Garth, bron yn rhy wan i anadlu. Y noson honno cysgodd Enid yn dawel o dan dô y Lleiandy bychan a brofodd yn gartref iddi am weddill ei hoes. A chafodd Garth ei hun ymhlith y mynachod, yn wan a rhwyfus, ond â chanddo syniad fod pethau yn newid er gwell.

A beth am Fwy? Tra'r ysgrubliaid yn gadael y tŷ yr oedd fel dyn wedi ei syfrdanu. Nid oedd ganddo allu i symud llaw na throed. Amheuai gywirdeb ei synhwyrau. A oedd pethau fel yr ymddangosent? Edrychodd yn hir ar eu holau, ac weithiau teimlai awydd rhedeg, a cheisio eu blaenori, a phrotestio. Eithr teimlai na allai. Yn y man dychwelodd yr ysbryd aflan, a chydag ef saith o rai gwaeth. Taflodd ei fwa dros ei ysgwydd, a hongiodd ei fwyell wrth ei wregys; ac fel y mynnai pethau fod aeth i gyfeiriad porth Llegyr. Rhyw hanner canllath oddi wrth y lan yr oedd llong fechan a berthynai i Legyr, a rhan o'i llwyth wedi ei ddwyn eisoes i dir mewn cychod. Ac fel y digwyddai yr oedd llong wâg berthynol i Fwy gerllaw, a phan gyrhaeddodd yr oedd Llegyr yn cyhuddo rhai o ddynion Bwy o fod wedi cymryd rhan o'i eiddo a'i guddio yn y llong wâg. Rhaid cofio fod Bwy yn fôr-leidr, ac nad oedd ganddo ef na'i weision fawr o ddirnadaeth am onestrwydd. Aeth pethau o ddrwg i waeth, a daeth hen ysfa ryfelgar i mewn i fywyd Llegyr unwaith eto. Mynnai fynd i chwilio llong Bwy. "Os i fy llong i yr âi, ni ddeui oddi- yno yn fyw," ebe Bwy rhwng ei ddannedd. Yr oedd yn barod i ryfel. "Rhaid i mi gael yr eiddof fy hun, Bwy, ac y mae llawer ohono yn dy long di. Gorchymyn i'th weision ei ddychwelyd, a dyna ben." "Ni orchymynnaf y fath beth. Nid wyf wedi anghofio yr hyn a wnaethost wrth glwyd y Mynachdy, ac nid yw'r abad yma'n awr; mi ofalaf amdanaf fy hun." Mynd, fodd bynnag, a wnaeth Llegyr, â nifer o'i ddynion ffyddlon o'i ddeutu. Gwelai Fwy fel yn teimlo am ei fwyell. "Gwell iti beidio, Bwy. Cymer rybudd. Nid wyf am dywallt rhagor o waed, ond rhaid imi gael fy eiddo. Gwell iti beidio; paid a'm temtio." Ond i ddim pwrpas. Yr oedd fel pe y mynnai pethau fod. Cododd Bwy ei fwyell i daro, ond mewn eiliad trawyd hi o'i law a disgynnodd i'r môr, lathenni i ffwrdd; ac mewn eiliad arall yr oedd bwyell Llegyr drwy ei ymennydd. Fel hyn y cyflawnwyd proffwydoliaeth Pawl ond ychydig ddyddiau ynghynt.

PENNOD VII.
Lleian Newydd.

PRIN y mae angen nodi i farwolaeth ddisyfyd Bwy trwy law Llegyr greu cyffro ym Mynyw. Er gwaethed dyn ydoedd, teimlid wedi ei golli o'r ardal fod ynddo rai prydweddion dymunol. Ar y cyfan, buasai ei weision ef ei hun yn ffyddlon iddo, a Garth, megis ci bach, wrth ei sawdl yn wastadol. Bu felly nes i wawr dorri ar ei feddwl eu bod ill dau yn ymladd yn erbyn galluoedd cryfach na hwynt-hwy. A daethai, fel y gwelwyd, rhyw olau i ddeall a chalon ei wraig, a wnaethai yn anodd iawn iddi fyw gydag ef yn ddiweddar. Gan fod sibrwd yn yr ardal fod cleddyf megis yn hongian uwch ei ben byth er pan fygythiwyd ef gan yr abad, ni fu ei farwolaeth trwy law Llegyr yn gymaint o syndod ag y buasai ar wahan i hynny. Ac fe ymledodd y syniad na fu Llegyr ond offeryn yn llaw Duw y Cristionogion yn y digwyddiad rhyfedd hwn. Aeth yr abad yn fwy ei ddylanwad nag erioed, ac edrychid arno fel un â'r duwiau yn trigo ynddo. Gwyddai yntau hyn, a chymerodd beth mantais ar hynny. Arferodd ei awdurdod i weled nad ai eiddo Bwy ar ddisperod, gan fod Enid yn y Lleiandy, ac yn debyg o aros yno yn hir. Yr oedd Garth hefyd yn y Mynachdy, a disgwylid iddo droi at Gristionogaeth ac ymlynu wrth y sefydliad. Y peth gorau, felly, oedd sicrhau yr eiddo trwy Enid at wasanaeth yr Eglwys, a gwyddai'r abad na chodai Llegyr wrthwynebiad dan yr amgylchiadau. Aethai hwn yn ddioed at Bawl, gan gyfaddef ei drosedd. Wedi'r hyn a ragfynegasai'r abad, nid gwiw edrych ar y tro ond fel un â bŷs Duw ynddo, ac yn enw'r Eglwys cyhoeddodd Pawl faddeuant iddo. Yr oedd teimlad yn codi yn yr ardal mai gwaith peryglus oedd erlid yr Eglwys, a bu hyn yn help i'r mynachod ac eraill i gyflawni eu gwaith.

Ond yn awr rhaid troi wyneb i gyfeiriad arall am dro, a gosod gerbron y darllenydd ddigwyddiad dirgelaidd a fu yn y man yn foddion i greu cyfnod newydd yn yr ardal. Soniwyd eisoes am y modd y ceisid nodded Lleiandai gan ambell riain anffodus, oedd yn agored i ymyriadau dynion nwydus a thrythyll. Mae'n wir y ceisid y sefydliad gan y mwyafrif o rianedd, am y dewisent fywyd o ddefosiwn tawel o flaen rhwysg a berw cymdeithas fydol. Ond nid un o'r rheiny oedd Nonita, ferch Gynyr, o Gaer Cawch. Nid na ddewisasai efallai, pe yn agos i Fynyw fywyd felly, oblegid merch lednais, brydweddol ydoedd hi, a orfodid mewn rhan i ymgymysgu â chymeriadau nas hoffai. Yr oedd Caer Cawch gryn bellter o Fynyw, a Gynyr yn ŵr mawr ei ardal, wedi hannu o hen deulu enwog yng Nghymru. Safai efe ac Eurwen, ei wraig, yn uchel yng ngolwg eu cymdogion, ac nid oeddynt yn anfoesol, er yn tueddu at fydolrwydd. Yr oedd yn y Gaer lawer o loddest a rhialtwch, yn enwedig ar ôl dychwelyd o'r helfa. Nonita oedd yr unig blentyn, ac yr oedd yn fawr iawn yn eu golwg. Carai yr helfa a'r rhedegfa cystal â neb, ond yr oedd ei bywyd yn lân a rhinweddol, er na honnai, hyd yma, fod yn grefyddol. Llawer un a roddai y cwbl oedd yn ei feddiant o allu ennill llaw a chalon Nonita, ond tra yn siriol a chwareus gyda hwn a'r llall, ni welsai eto neb yr hidiai ddim amdano. Ond yr oedd mab i ŵr mawr heb fod ymhell o'i chartref, sef Alun o Gaerydfa, wedi ffoli arni, er na roddasai hi yr awgrym lleiaf o hoffter ohono. I wneuthur pethau yn waeth iddi hi, ffafriai y rhieni ef, a chroesawent ei ymweliadau. Yr oedd hithau yn ddigon o foneddiges i beidio ymddwyn ond yn barchus tuag ato, nes y gwelai fod yn rhaid ei ddi-dwyllo o'r tu hwnt i amheuaeth. Gwyddai Alun y carai hi yr helfa a'r awyr agored, ac yn aml gorfodid hi i gymdeithasu â chwmni digon garw ac anfoesol. Nid oedd Alun yn un o'r cyfryw; ac yr oedd hynny o leiaf yn ei ffafr. Un diwrnod braf galwodd, ac yr oedd yn hawdd gweled ei fod ar neges arbennig. Cafodd y croeso arferol gan y rhieni, ac nid ymddangosai Nonita i fod yn anfoddog o'i ymweliad. Yn y man, ebr efe yn sydyn, "A fu Nonita yn marchogaeth heddiw? Os naddo, y mae'n resyn, oblegid y mae'n ddiwrnod rhagorol am dipyn o garlam". "Na, ni fûm eto," ebr hithau, "ond yr oeddwn ar fedr mynd dipyn yn nes ymlaen." "Dewch yn awr, tra mae'r tywydd yn ffafriol. Beth ddywedwch chwi?" gan droi at y rhieni. Ategasant ei awgrym ar unwaith. "Pan fo Alun yn troi'n ôl, ni hidiwn fynd ran o'r ffordd i'r cyfeiriad hwnnw," ebe Nonita, yn hollol ddidaro. Nid oedd hyn yn ffafriol i gynllun Alun, oblegid arfaethasai ofyn am ei llaw a'i chalon tra'n absennol o'r tŷ, a dychwelyd gyda'r newydd da am ei ffawd, oblegid ni freuddwydiasai am gael ei omedd. Syrthiodd ei wynepryd pan wnaeth Nonita ei hawgrym, ond gan dybio fod hanner torth yn well na dim, cytunodd â hynny. Ymaith â hwynt, a gwelai Alun fod y march odditan Nonita yn llawn o nwyf. Pranciai am gychwyn, a'r munud y cafodd ganiatad, ymaith ag ef, gan adael yr eiddo Alun ymhell ar ôl. Ond, fel mater o foneddigeiddrwydd, arafodd y ferch nes iddo gyrraedd i'w hymyl. "Gadewch inni gymryd dipyn yn arafach, Nonita, os oes gennych lywodraeth dros yr anifail yna." "O, oes," ebr hi, "ond tybiais mai allan am garlam yr oeddym." "Wel, ie; ond y mae gennyf amcan arall, os caniatewch i mi ei roddi ger eich bron." "Prin y gallaf warafun hynny; beth sydd gennych?" "Wel, Non," ebr efe, gan gwtogi yr enw mewn ffordd o hyfdra, fel y gwneid gan ei rhieni weithiau, nid yw yn bosibl na wyddoch nad yw fy nheimladau i tuag atoch yn rhai cyffredin. Y gwir yw, y mae wedi dyfod i hyn: na fedraf fi fyw lawer yn hwy heb eich cael chwi i fod yn gyfrannog o'm bywyd, ac yn arglwyddes ar fy nhŷ." Gwridodd Nonita yn sydyn, a thros ei holl wyneb, a diau i'r gŵr ieuanc gymryd hyn yn arwydd dda. "Maddeuwch i mi,". ebr hi mewn llais clir, a chydag acen bwysleisiol, ond yr ydych o dan gamargraff, ac wedi cymryd gormod yn ganiataol. Ni roddais erioed le i chwi feddwl fod gennych hawl i siarad fel hyn. Ac i fod yn fyr, y mae'r hyn a awgrymwch yn amhosibl." "Amhosibl!" ebr efe, ar dop ei lais, ac mewn cyffro, gan wneuthur am afael yn y ffrwyn; ond cyn iddo lwyddo yr oedd anifail Nonita megis ag un naid lathenni oddiwrtho. "Nonita," ebr efe, bron yn llidiog, "arhoswch i mi gael siarad â chwi." Dynesodd ati, ac yn sydyn gwnaeth am ymaflyd ynddi a cheisio tynnu ei phen ar ei ysgwydd, gan ddywedyd megis rhwng ei dannedd: Y mae'n rhaid i chwi wrando arnaf fi. Yr wyf wedi penderfynu y cewch fod yn wraig imi neu (ac yr oedd golwg ynfytyn arno) "ni chewch fod yn wraig i neb arall byth. Yr oedd gan Nonita fath o ffrewyll yn ei llaw, ac heb eiliad o rybudd rhoddodd hi ar draws ei wyneb, nes y gwaeddodd fel creadur cynddeiriog. A chyn iddo adfeddiannu ei hun gwnai Nonita am gartref â'r gwreichion yn ehedeg oddi wrth bedolau ei march. Ond teithiai ei meddwl yn gyflymach fyth, a phenderfynodd ar gwrs ei bywyd. Ni chai Alun hi, deued a ddelo. Rhag i'w rhieni amau dim aeth i groesffordd am garlam led faith. A'r noson honno, gan gymryd ychydig bethau angenrheidiol i'r daith, ymaith â hi ar gefn yr un march. Yn blygeiniol drannoeth safai wrth ddrws Lleiandy Mynyw yn crefu am noddfa. A chymerwyd hi i mewn. Ond nid cyn rhoddi ohoni gyfrif manwl o'r hyn a ddigwyddasai y caniataodd Gwenhwyfar iddi gysgod parhaol y Lleiandy, neu cyhyd ag y dymunai.

Mawr y cyffro bore drannoeth pan wybuwyd ei cholli o Gaer Cawch. Aed i'r ystabl a chafwyd fod y ceffyl ar ba un y marchogai yn eisiau. Ofer y ceisiwyd dilyn ôl ei draed gan mor ofalus fu Nonita hyd yn oed yn hynny. Ni chodwyd cri yn yr ardal, ond meddyliwyd am Alun, gan mai efe a'i gwelodd hi ddiwethaf ar wahan i aelodau'r teulu. Cafwyd hwnnw dipyn yn sur ei ysbryd, a rhoddodd adroddiad o ymddygiad y ferch tuag ato, oedd yn gwbl yn ei ffafr ei hun ac yn ei herbyn hithau. Amheuodd y tad rywbeth; ac er y meddyliasai dipyn o Alun, yr oedd ei gariad at ei ferch golledig erbyn hyn yn fflam. Pan glywodd Alun yn sôn am" sarhad ac am anfoneddigeiddrwydd mewn cysylltiad ag un mor lednais a charuaidd â Nonita, gwylltiodd yn fawr, ac mewn tymer boethlyd y dywedodd: "Alun, er dy fod hyd yma wedi bod yn bur uchel yn fy ngolwg, ac y bu gennyf unwaith feddwl y gallet ti a Nonita fod yn ŵr a gwraig, pe gwyddwn iti gymryd mantais ar fy merch yn fy absenoldeb fe losgwn dy dŷ uwch dy ben." Gan bwyll," ebr y llall dipyn yn ffroenuchel; "Ei bod wedi pa sail sydd gennyt i dybio hyn diflannu yn ddirgelaidd o'r golwg, ac mai tydi o'r tu allan i gylch y teulu a'i gwelodd ddiwethaf. Mi a'i ceisiaf ple bynnag y mae, a gwae di os caf allan iti geisio ei darostwng fodd yn y byd." Trodd ar ei sawdl, ac aeth y llall i ffwrdd â'i ben i lawr.

Ac yn awr daw gŵr arall i'r golwg, mor bwysig â neb ond un yn yr hanes hwn. Efe oedd Arglwydd Ceredig, a'i enw oedd Sandde. Yr oedd yn berchen rhannau helaeth o'r hyn sydd erbyn hyn yn swydd Ceredig, a chanddo amryw balasau yma a thraw. Un oedd yng Ngwynfor, ar yr arfordir. Yr oedd ganddo diriogaethau yn Henfro hefyd, a lle heb fod ymhell o Gaer Cawch. Yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru oll oblegid derbyniasai Gristionogaeth, ac nid oedd yn y wlad dŵr cadarnach o'i phlaid. Meddylid yn uchel iawn ohono yng Nghaer Cawch ar gyfrif ei waedoliaeth uchel, ei linach henafol a'i gymeriad uwchraddol. Hyn ar wahan i'w feddiannau lawer. Yr oedd ar delerau da â theulu Gynyr, er nad oedd y ddau yn byw yn hollol yn yr un byd. Gwyddai am Nonita, ac yn ddirgelaidd edmygai hi yn fawr; ond gan fod gofal am fam oedrannus hyd yn ddiweddar wedi ei wneuthur yn ddall i'w fuddiant ei hun, cafodd ei hun ar gyffiniau canol oed heb gymhares bywyd. Clywodd yn y man golli Nonita o'i chartref a chyffrôdd yn fawr,—fwy nag y carai i neb wybod. Galwodd yn ei chartref, a chyda gochelgarwch gŵr mawr ac urddasol, gwnaeth yr ymholiad priodol. Ond gan fod Nonita wedi deisyf am gael bod yn guddiedig—o leiaf am yspaid—ni wyddai'r rhieni, er chwilio ac ymholi, ddim o'i hanes. "Na," ebr y tad, "nid oes gennym un dychymyg ple i'w cheisio; yr ydym wedi ymholi nes blino ar y gwaith." Esgusodwch fi," ebe Sandde, "ond a wyddoch chwi am rhyw achos iddi guddio ei hun? A ydyw yn bosibl fod rhywun yn ei blino?" Cwestiwn lled gyrhaeddgar oedd hwn, a gochelgar fu atebiad Gynyr. "Yr ydych wedi gofyn cwestiwn ar fater go lednais, fy nghyfaill, a gwell gennym beidio drwg-dybio neb." "Ond fe wyddoch beth a wneir gan rai merched llednais dan amgylchiadau felly. Ffoant am gysgod i'r Lleiandy agosaf atynt." A pha le y byddai hwnnw "? ebr y tad yn awchus. Ysywaeth, nid oedd hanes crefydd ei wlad yn hollol yn ei fyd ef.

"Nis gwn am yr un yn nes na Mynyw, ger Carn Fadrig, rhyw ddeg milltir ar hugain oddiyma. Ond pan geisiant loches mewn lle felly, anodd iawn cael o hyd iddynt heb lawer o wyliadwriaeth ddistaw." Dyna a fu; a rhag i'r rhieni ddyfod i gasgliad na charai Sandde iddynt ar y pryd, trowyd y sgwrs i gyfeiriad arall. Ond ni fu'r siarad heb godi meddyliau yng nghalon y gŵr mawr. Cynhyrfwyd ei fron mewn modd dieithriol, ac ymddangosai Nonita i'w ddychymyg yn fwy prydweddol nag o'r blaen. Penderfynodd ar ei gwrs o ymchwil, a gwyddai fod ei safle yn gyfryw fel yr adwaenid ef ymhell ac agos. Yr oedd ei nawddogaeth i grefydd yn wybyddus i bawb. Heb fod yn hir wedi hyn, gellid gweled gŵr o urddas yng nghwmni gwas uwchraddol yn marchogaeth o fryn i bant, cydrhwng Pant y Gwyll a Mynyw.

PENNOD VIII.
Paratoad y Ffordd.

TROWN yn ôl i'r Lleiandy er mwyn gweled pa fodd y mae pethau yn cymryd eu lle a'u ffurf o dan ofal Gwenhwyfar. Nid oes ganddi hyd yma ond deg o leianod o dan ei disgyblaeth, a chyfrif Enid, gweddw Bwy, fel un, a Nonita fel un arall. Prin y gellid cyfrif Enid yn lleian mewn ystyr fanwl; ac edrychid ar Nonita fel un yn ceisio lloches rhag storm. Ond am y ddwy yma yr oedd prif ofal yr abades ar y pryd. Ymlynai Enid wrthi fel un wedi ei hachub o'r tân, ac yr oedd dysgu ffordd Crist iddi yn bleser. Wedi llwyr wella, mynnai gymryd arni ei hun ben trymaf gwaith y sefydliad. Nid oedd ganddi syniad am droi allan, na Gwenhwyfar syniad am iddi fynd. Hoffid hi yn fawr gan bob aelod o'r cwmni bach.

Am Nonita, bu hi yn bur anesmwyth am beth amser. Ofnai, ar un llaw i'w chuddfa ddyfod yn hysbys; ac ar y llaw arall, hiraethai am fywyd rhydd y cartref—yr awyr agored, yr helfa, a difyrrwch diniwed y dyddiau a fu. Ond buan y daeth Gwenhwyfar fel duwies yn ei golwg, ac yr oedd ymgom â hi yn ddigon i dawelu pob storm yn ei mynwes. Fy meistres y galwai hi Wenhwyfar, a "fy chwaer" y gelwid hi gan y llall. Er mai math ar chwaeroliaeth oedd y sefydliad, eto teimlai'r lleill fod yr abades gymaint yn uwch mewn cymeriad a safle fel ag i hawlio cyfarchiad uwch- raddol.

A ydyw fy meistres yn sicr fy mod yn ddiogel yma? "Yn hollol ddiogel, fy chwaer. Os am gadw yn guddiedig, gellwch wneuthur hynny hyd y mynnoch; ond cofiwch mai nid carchar yw'r lle hwn i fod, ond cartref. Os teimlwch ar eich calon yn nes ymlaen i droi yn ôl adref, gellwch wneud hynny. Os carech esmwytho meddwl eich rheini, ac aros yma, y mae hynny hefyd at eich dewisiad."

"Carwn iddynt gael meddwl tawel, ond nid am beth amser eto." Ymddiriedasai Nonita ei chyfrinach i'r abades, a'r rheswm dros adael cartref. "Yr ydych yn sicr nad oes gennych serch o gwbl ato? "Yn hollol sicr." Ond beth pe bai un arall, gwahanol ei ffordd a gwir urddasol yn chwennych eich llaw; a ydych yn sicr mai yma y mae eich lle, ac nid yn wraig i un felly?" Edrychodd Nonita dipyn yn sydyn i wyneb yr abades fel pe'n amau a glywsai hi rywbeth. Ond yr oedd meistres y tŷ wedi arfer cuddio ei meddwl pan bo achos, fel na welai y llall arwydd o ddim o'r fath. Cofiwch,' ebr hi ymhellach, mai nid carchar yw hwn, na lle i gadw neb ond yr hon sydd o galon am adael y byd oddiallan a'i ofalon a'i gysuron cyffredin, ac i ymroi i gariad a gwasanaeth Crist yn unig."

"Oni ellir gwasanaethu Crist allan oddiyma?" "O, gellir, ac fe wneir. Ond nis gellir bod yn ddyweddi yr Oen yn yr un ystyr â'r rhai sydd wedi ymneilltuo unwaith am byth a chymryd eu lle mewn sefydliad fel hwn."

"Dyweddi Crist?" ebe Nonita yn synllyd. "Nid wyf deilwng i fod felly. Ond a wyddoch chwi, fy meistres, syniad a ddaeth i fy meddwl wrth fyfyrio ddiwrnod neu ddau yn ôl?"

"Beth ydoedd, fy merch? Mi a garwn wybod."

"Mai y ddedwyddaf o holl ferched y byd y rhaid fod Ei fam—y forwynig a'i rhoddodd i'r byd. Ac nid mewn Lleiandy y trigai hi, ond, fel y dywedasoch, mewn bwthyn tlawd." Ie, ie, ond un oedd hi, ac wedi ei hoes ddaearol dyrchafwyd hi uwchlaw holl wragedd y byd. Addolir hi heddiw." "Ie," ebe Nonita, ond ni orffennais adrodd fy meddyliau." "Gorffennwch ynteu, fy merch." "Wel, mi a feddyliais mai yr anrhydedd agosaf i hynny fyddai bod yn fam i rhyw was mawr, anghyffredin,—rhywun tebyg i Ioan Fedyddiwr y darllenasoch amdano." Edrychodd Gwenhwyfar mewn syndod arni, a chyda gradd o rywbeth fel arswyd. "Dywedwch i mi, fy merch," ebr hi, a ddaeth i'ch meddwl y carech fod yn fam i un felly?" "O," ebr hithau, gan edrych tua'r llawr, " y mae eisiau cymeriad mor bur â'r forwyn at gael anrhydedd felly. Nid wyf yn ddigon santaidd a da i'r Arglwydd osod arnaf y fath anrhydedd. Ond credaf, pe y gwnelai hynny, y byddwn y ddedwyddaf yn y byd." Agorwch eich calon yn llydan gerbron yr Arglwydd, fy merch, a disgwyliwch wrth Ei ewyllys Ef. Cawn weled beth a ddigwydd."

O'r funud hon bu Nonita fel un wedi ei thrawsnewid yn llwyr, a thynnodd sylw pob aelod o'r sefydliad trwy fanylwch ei gwasanaeth, ac yn enwedig nefoleidd-dra ei thymer, ei lledneisrwydd a'i thynherwch.

Tra'r ymddiddan uchod yn cymryd lle, daeth y ddau ŵr ar feirch at gwr y dreflan fechan, gan ddisgyn heb fod ymhell o'r Mynachdy. Rhoddes Sandde ei geffyl i ofal ei was, a gwnaeth am y sefydliad hwnnw fel un cyfarwydd â'r lle. Curodd wrth y porth, ac agorwyd gan Garth, yr hwn erbyn hyn oedd adferedig a defnyddiol.

"A ydyw yr abad Pawl i mewn?" "Y mae i mewn, eich arglwyddiaeth," ebe Garth. Y gwir yw y gwelsai yr abad ei ddynesiad, ac y dysgasai Garth pa fodd i'w gyfarch. Synnodd y gŵr mawr at yr atebiad, ac edrychodd braidd yn syn, ond yn dra charedig, ar Garth. "A fyddi di cystal a'm harwain ato?" "Gyda phleser." Nid oedd angen am gyflwyniad. Gwyddai Pawl yn dda am y mwyaf o arglwyddi Ceredig, yr hwn a berchenogai hefyd diroedd o gylch Mynyw. Gwyddai yntau hefyd am gymeriad a dysg yr abad, am yr hwn yr oedd cryn son. "Wele anrhydedd heb ei ddisgwyl, eich arglwyddiaeth; ond nid llai derbyniol o achos hynny. "Teimlaf, barchedig abad," ebr yntau, "mai arnaf fi y gosodir yr anrhydedd, ac mai braint ydyw ymweled a'r lle hwn ac wynebu am ychydig funudau ŵr o'ch dysg, safle a'ch dylanwad chwi". "Y mae geiriau eich arglwyddiaeth yn rhy garedig, ond wedi eich taith yma y mae'n sicr y caniateir i ni gyfleustra i ddangos lletygarwch, ac nad oes frys mawr i droi yn ôl." "Y tro hwn y mae'n rhaid i'm hymweliad fod yn fyr, ac fe garwn, os oes modd, iddo fod yn gyfrin hefyd. Nid wyf yn sicr fod fy neges yn hollol gyfreithlon: hynny yw, fod gennyf hawl i ofyn cwestiwn sydd ar fy meddwl, ac yn pwyso yn lled drwm arno." "Y mae'n anodd gennyf gredu y carai eich arglwyddiaeth ofyn dim ag y teimlwn betruster i'w ateb," ebe Pawl. "Wel, nid wyf mor sicr o hynny. Ynglŷn â'r Lleiandy y mae fy ymholiad i. Collwyd o'r ardal acw, o leiaf oddi fewn i gylch fy nghydnabod,—ferch brydweddol, yn dra disymwth, ac heb fod rheswm amlwg dros ei diflaniad. Merch ydyw i gâr i mi,—gŵr urddasol,—a deallaf fod ei rhieni mewn tywyllwch a phenbleth. Ei henw yw Nonita, ferch G—— o G——. A ydwyf yn troseddu wrth ofyn a ddaeth y ferch i'r Lleiandy hwn am gysgod? Fe wyddoch chwi hanes y sefydliad, ond os oes gwir rwystr i chwi ateb y cwestiwn, nid wyf am wasgu mewn un modd."

Edrychodd Pawl arno yn graff, ac atebodd: "Chwi a wyddoch fod achos cadw materion sefydliadau fel y rhai hyn, ac yn fwy neilltuol y Lleiandy, ar y cyfan, yn gudd rhag y werin. O achos hyn gallasai eich cwestiwn fod yn un na chaniateid i mi i'w ateb. Ond yn yr enghraifft hon perthyn eich ymholiad i un ag y mae hynny a wyddom o'i hanes o'r diddordeb mwyaf. Nid yw, hyd yma, wedi ymdynghedu i fywyd y lleian am oes, beth bynnag a ddigwydd yn nes ymlaen. Ceisio noddfa y mae. Efallai mai chwi yw yr unig un y gallwn ymddiried cyfrinach fel hon iddo. Ond y mae hi yma, ac eisoes yn uchel iawn yn ffafr yr abades Gwenhwyfar. Ymddengys i mi fod rhyw ddyfodol eithriadol iawn o'i blaen."

Gyda moes-ymgrymiad ni ddywedodd yr Arglwydd Sandde ond cwpl o eiriau: "Yr ydych wedi caniatau cymaint ag a geisiaf ar hyn o bryd. Y mae fy meddwl yn dawel, ac nid ynganaf air wrth neb nes bo hynny yn ddiogel."

Wedi nerthu ei galon â thamaid o luniaeth seml ond iachus y Mynachdy, ymadawodd Sandde, yn lled foddhaol ar ganlyniadau ei antur. Trodd adref yng nghwmni ei was gyda theimladau cymysglyd oddi tan ei fron. Teimlai yn falch o fod wedi dyfod o hyd i guddfa yr hon a gollasid, ond ofnai nad oedd modd sylweddoli y dymuniad a godai yn fynych yn ei galon. Tybed a oedd yn bosibl gwneuthur o Nonita Arglwyddes Ceredig? Clywsai am rai yn gadael lleiandai am fywyd cyffredin ac agored. Ac ar wahan i'w gysur personol, byddai uniad dau deulu hen ac urddasol yn Nonita ac yntau yn beth i'w ddymuno.

Ni fu ei ymweliad â'r Mynachdy yn gwbl mor ddirgelaidd ag y mynnai iddo fod. Ar ei waith yn troi i mewn deuai dwy foneddiges o gyfeiriad y Lleiandy, gan gerdded i'r cyfeiriad o ba un y daethai efe. Gwelsant ei gern ar ei waith yn troi i'r porth, a rhoes un ohonynt gam sydyn yn ôl ac edrychodd dipyn yn gyffrous.

"Beth sydd yn bod, fy merch? ebr y llall, oblegid nid oeddynt neb amgen na'r abades a Nonita yn mynd am dro er mwyn iechyd ac ychydig seibiant. Cryn dreth ar natur Nonita oedd bywyd cymharol gaeth y Lleiandy. "Mi a gymrwn fy llw," ebr hi, adwaen y boneddwr a drodd i'r Mynachdy, ond ar y funud nis gallaf alw i gôf pa le y gwelais ef o'r blaen." Peidiwch â chyffroi pwy bynnag ydyw; os teimlwch yn fwy tawel fe awn ar hyd y ffordd yn ôl i Wyndraeth, yn hytrach nag ymlaen.

"O, na, nid oes arnaf ofn tra chwi gyda mi. Awn ymlaen fel y bwriadem; gallaf guddio fy wyneb a dieithrio fy hun os digwydd i ni gyfarfod y fath un." Ac ymlaen â hwynt gryn bellter, nes cyrraedd prif-ffordd a arweiniai i Borth y Pysgod. Aethant ar hyd hon am ysbaid nes dyfod i ffordd eto a arweiniai i Bont y Gwŷll. Ar y ffordd yn ôl gwelent ddau ŵr ar geffylau yn troi i'r ffordd hon. Cuddiodd Nonita ei hwyneb ar unwaith, ac edrychodd yn bur gynhyrfus eto. Ac wedi iddynt basio, ebr hi: "Un o'r ddau yw yr hwn a welsom yn troi i'r Mynachdy, ac fe wn yn awr pwy ydyw." A phwy, fy merch?" "Neb llai na Sandde, Arglwydd Ceredig: gŵr mwyaf urddasol y diriogaeth sydd bron yn ffinio â'r eiddom ni. Ac y mae iddo diroedd yn Henfro hefyd. Beth yw ei neges, tybed?" "A ydyw yn gyfeillgar â'ch teulu?" "O, ydyw, yn hollol felly." "Wel, y mae llawer yn galw gyda'r abad, a chredaf fy mod wedi clywed am y gŵr hwn fel un o golofnau Eglwys Crist yn y wlad." Ni ddywedodd Nonita ddim, ond curai ei chalon yn gynhyrfus, yn wir, bron yn aflywodraethus. Gwyddai fod enw y gŵr mawr hwn wedi ei gysylltu gan rai â'r eiddo hi. Tybed ai yspïwr oedd ar ran ei rhieni? Ond ni ddywedodd ddim ymhellach, na Gwenhwyfar chwaith. Ond yr oedd ei meddwl hithau ar waith. Beth os oedd Rhagluniaeth fawr yn dechrau gweithio yng nghyfeiriad cyflawniad breuddwydion Nonita? Beth os mai y gŵr urddasol Sandde fyddai'r offeryn i roddi i Walia ŵr mawr megis Ioan Fedyddiwr i "baratoi ffordd yr Arglwydd?" Tra'r ddwy yn dwys-fyfyrio cyrhaeddasant borth y Lleiandy.

PENNOD IX.
Gwynfyd Nonita.

YN awr y mae gennym i nodi dau amgylchiad of bwys, a ddigwyddodd yn lled fuan wedi'r hyn a adroddwyd yn niwedd y bennod o'r blaen. wir, un bron yn uniongyrchol. Prin y cawsai Gwenhwyfar a Nonita eu hanadl cyn fod yr abad wrth y drws, ac yn holi am yr abades. Gan y tybiai hi fod gan Bawl rhyw neges arbennig, gofynnodd i'r llall ymneilltuo am ychydig. Felly yn wir yr oedd. Bu'r abad yno am gryn amser, ac ymddiddanwyd yn ddistaw a dwys; hawdd gweled oddi wrth wedd y naill a'r llall fod ganddynt fater dwys o dan ystyriaeth.


"Yr ydych yn argyhoeddedig," ebr yr abad yn ei bod yn gymeriad pur a da, ac yn deilwng o le o dan eich gofal? "Neb yn fwy felly", ebr hithau. "Yn wir, nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl. Byddai yn ddrwg iawn gennyf ei cholli. Eto, dywaid rhywbeth wrthyf, tra yr oedd yn rhaid iddi ddyfod yma nad yw i aros yma. Credaf fod iddi genhadaeth yng ngwasanaeth y Nef â'i dŷg oddi yma, ond nid oddi wrth y gwaith." "Beth a bair i chwi feddwl felly?" "Wel, y mae ganddi syniad mai y nesaf peth at fod yn fam Gwaredwr ydyw bod yn fam i rywun mawr ac amlwg,—un all godi fel Ioan Fedyddiwr i' baratoi ffordd yr Arglwydd.' Credaf fod dymuniad am fod felly yn dechrau gafael yn ei chalon."

"Rhyfedd iawn," ebr y llall. "Ymddengys i mi fel pe byddai ymweliad Sandde yn rhagluniaethol. A dybiwch chwi fod ganddi rhyw duedd i ymserchu ynddo? Os gwn i ddim am y natur ddynol mi a gredaf ei fod ef yn tueddu i feddwl rhywbeth allan o'r cyffredin amdani hi. Ac os nad yw Nonita yn debyg o lynu wrthym am ei hoes, ni allaf feddwl am uniad mwy cyfaddas. Perchenoga ddarn mawr o'r wlad yng Ngheredig, Myrddin a Henfro, ac nid oes neb uwch ei barch ym Mhrydain. Gallai uniad fel hwn fod o fantais anrhaethol i'r Eglwys.

Beth bynnag arall am Bawl, yr oedd buddiant Eglwys Crist ym mlaenaf peth yn ei olwg yn wastad. "Gwir a ddywedwch, ond byddai ei hymadawiad yn ddyrnod drom i'r Lleiandy. Ond ewyllys Duw a wneler. Myfi a wnaf fy ngorau i'w hyfforddi a'i chyfarwyddo." "Gadawaf hi yn eich llaw chwi yn hollol, ac os ymddirieda Sandde rywbeth ymhellach o'i gyfrinion i mi, cewch wybod yr hyn a all fod o fantais." Felly y terfynodd ymddiddan rhwng dau oedd â'u holl fryd ar wybod a gwneuthur ewyllys Duw. Ond ychydig a feddylient yr awr honno am y rhan bwysig a chwaraeent mewn mater oedd i greu chwyldroad yn hanes yr Eglwys ym Mynyw, ac yng Nghymru gyfan.

A thra yr ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo marchogai Sandde tua thref, weithiau yn araf iawn ac yn llawn meddyliau, bryd arall yn gyflym. Ni orffwysodd nes cyrraedd Gwynfor, er y temtid ef i droi i Gaer Cawch ar ei ffordd. Ond penderfynnodd feistroli ei feddyliau ei hun cyn galw yno.

Fodd bynnag, nid oedodd, ac un bore wele efe yn cychwyn am gartref Nonita, â'i feddwl yn bur aflonydd. Yr oedd ganddo i groesi darn mawr o wlad Ceredig, ac hefyd ran o wlad Myrddin, er mwyn cyrraedd yng nghwr Henfro i Gaer Cawch. Mawr oedd y croeso, ac yn sicr y dyfalu oddi wrth ei wedd natur ei genadwri. Casglwyd oddi wrth y goleuni a chwaraeai ar ei wyneb nad oedd yn gludydd newydd drwg, a chyn iddynt gael amser i ddyfalu yn hir torrodd allan yn siriol: Mae eich merch yn ddiogel, ac yn nodedig ei pharch gan bawb o'i chylch." Ond ym mha le, eich arglwyddiaeth? Carem wybod ym mha le?" "O, ie; esgusodwch fi am gymryd gormod yn ganiataol. Dylaswn fod wedi eich hysbysu mai yn Lleiandy Mynyw, a than ofal yr abades Gwenhwyfar, un o ragorolion y ddaear. Mae ei chlod hi yn yr holl Eglwysi." Yna adroddodd hanes ei ymweliad, ond heb awgrym mor bell o'i ddiddordeb neilltuol: ei hun ynddo.

Wedi peth siarad pellach, dywedodd, "Wel, hi a erys yno am dymor, o leiaf, ond efallai nad yw Nonita wedi ei galw i dreulio ei hoes, fel dyweddi Crist, mewn Lleiandy. Ceir gweled. Ond yn sicr yno y mae hi ddiogelaf ar hyn o bryd." Ymddangosai fod ganddo ragor ar ei feddwl, ond yr oedd mewn anhawster i dorri trwodd. Yn y man, ebr ef, dipyn yn gynhyrfus i foneddwr o'i safle ef, "Yr oedd gennyf neges ychwanegol yma heddiw yn rhwym mewn ystyr wrth y newydd da a ddygaf i chwi, a charwn yn fawr gael cyd-ddeall ar y mater hwnnw cyn dychwelyd. Nid wyf erioed wedi sôn wrthych am y peth, nac hyd y gwn wedi rhoddi nemor, os dim, lle i Nonita ddyfod i gasgliad neilltuol. Ond y mae hi wedi bod yn fy meddwl ers tro hir, ac yn wir, yn fy nghalon hefyd; a mwy nag unwaith y bwriedais ofyn eich caniatad i siarad hi ar y mater. Os caf allan nad yw hi am dreulio ei hoes fel lleian, a gaf fi eich caniatad chwi, fel rhieni, i geisio ei llaw a'i chalon?

Edrychodd y rhieni y naill ar y llall, ac yr oedd syndod a llawenydd yn gymysg ar eu gwedd. Rhaid cyfaddef ei fod yn fwy cydnaws â'u teimlad i weled eu merch yn Arglwyddes Ceredig nag yn lleian, er fod ei diogelwch yn fawr yn eu golwg. "Mae eich arglwyddiaeth wedi cymryd ein hanadl i ffwrdd. Ni feddyliasom erioed y gallai'r fath anrhydedd ddyfod i deulu Caer Cawch. Os tybiwch Nonita yn gymwys i fod yn gymar eich bywyd, ac os gellir ei chael allan o'r Lleiandy yn ddidramgwydd, a'i bod yn barod i dderbyn eich llaw, ni byddai dim yn fwy boddhaol gennym." Edrychodd Sandde yn foddhaus, oblegid dyma un cam wedi ei roddi yng nghyfeiriad nôd fuasai yn awr ac eilwaith o'i flaen ers cryn amser. "Diolch i chwi. Ni ofynnaf ddim ymhellach ar hyn o bryd. Cewch wybod sut y bydd pethau yn edrych yn nes ymlaen. Ond cofiwch hyn yn ôl pob arwyddion, bydd yn anodd perswadio Nonita i adael yr ardal acw, er iddi dorri ei chysylltiad ffurfiol â'r Lleiandy. Ond y mae gennyf fuddiant tirol yn y cylch, a gallaf drefnu ar ei chyfer, a'i chadw yn ddigon pell oddi wrth un a allai fod yn ddolur llygad iddi." Rhyngoch chwi a hithau yn hollol. Bydd yn ddiogel yn eich llaw chwi."

Ond i ddyfod yn ôl at Nonita. Heb feddwl fawr am y diddordeb hwn ynghylch y dyfodol, yr oedd bywyd y Lleiandy yn cynhyddu mewn dedwyddwch iddi, a hithau yn cynhyddu mewn poblogrwydd. Lledai'r sôn am ei phrydferthwch, ei swyn a'u duwioldeb trwy'r holl ardal. Awyddai'r trigolion ei gweled, ac os caent y fraint i ddyfod wyneb yn wyneb â hi trwy ymweliad o'i heiddo, teimlent fel pe wedi cael golwg ar un o angelion Duw. Rhyfeddai Gwenhwyfar at ei chynnydd amlwg ymhob gras, a chredai yn gadarnach o ddydd i ddydd fod rhyw ddyfodol mawr i Nonita. Aeth sôn ar led fod gwyrthiau yn digwydd yn yr ardal, ac yn enwedig fel canlyniad ymweliadau Nonita â'r bobl, a chai hi fwy o ryddid na'r gweddill o'r lleianod i fynd wrthi ei hun, er y byddai Gwenhwyfar a hithau lawer ynghyd.

Ond, i ddyfod at ddigwyddiad rhyfedd. Un noson, heb fod yn hir ar ôl ymweliad Sandde â'r ardal, cafodd weledigaeth a adawodd argraff ddofn iawn ar ei meddwl; argraff fod y nefoedd yn bwriadu gosod arni anrhydedd. Nid oedd yn sicr ei bod ynghwsg; ond yr oedd yr hyn a welodd ac a glywodd mor sicr i'w meddwl ei hun â phe digwyddasai liw dydd, golau glân, tra yn berffaith effro. Yr oedd yn noson dywell, ond gwelodd ei hystafell yn graddol oleuo, ac wrth draed ei gorweddfa rhyw fôd disglaer na welsai mewn dychymyg ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yr oedd iddo wisg fel yr heulwen, tra y syllai arni ddau lygad tyner, caredig, ond hynod o siriol. Ac er syndod iddi ei hun ni chyffrôdd. Yn y pellter, tu ôl i'r ymwelydd, cafodd gipdrem am un eiliad fer ar Sandde, Arglwydd Ceredig. Diflannodd ar amrantiad, a'r peth nesaf oedd llais o'r mwyneiddiaf yn llefaru'r geiriau hyn: "Nac ofna, Nonita, ti a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Dofwy." Ar hyn diflannodd, a pha gyflwr bynnag yr oedd Nonita ynddo o'r blaen, yr oedd yn ddigon effro yn awr. Yr oedd yr ystafell bellach fel y fagddu, ond nid oedd arni radd o ofn. Yn hytrach teimlai yn annisgrifiol o ddedwydd. Meddyliodd unwaith geisio yr abades ac adrodd ei phrofiad. Ond penderfynodd adael i amgylchiadau gymryd eu cwrs, gydag argyhoeddiad dwfn ar ei meddwl y bwriadai Rhagluniaeth iddi hi a Sandde fod yn ŵr a gwraig. Ie, ac fod mab i fod iddynt, a hynny i bwrpas mawr. Yn sicr, dyma'r hyn a nododd wrth Gwenhwyfar fel y peth agosaf i fod yn fam Gwaredwr. Pan ymddangosodd bore drannoeth yn ei chylch arferol, sylwodd pawb fod rhyw ddedwyddwch eithriadol yn daenedig ar ei hwyneb, a rhyw dangnefedd anarferol yn nisgleirdeb dwfn ei llygaid.

Aeth cwpl o fisoedd heibio-misoedd o lwyddiant yn yr Eglwys, ac o ffafr gynhyddol Nonita yng ngolwg pawb. Ai ei chyfrinachau hi a'r abades yn amlach ac yn ddyfnach, a gwyddai'r ddwy y deuai Sandde rhyw ddydd i geisio ei llaw, ac mai llwybr Duw fyddai iddi roddi ei hunan i'w ofal.

Amdano ef eto, aeth yn anesmwythach ei feddwl, ac yr oedd ei ymweliadau â Chaer Cawch yn amlhau. Rhoddasai ar ddeall yn glir iddynt ei fod am geisio llaw a chalon ei merch. Un prynhawnddydd hyfryd ym mis Mai, wele efe a'i yswain yn ymddangos ar ben y rhiw olaf o gyfeiriad Pant-y-gwŷll. Nid oedd llawer rhwng yr haul a machludo o'r tu cefn i'r Lleiandy. Galwodd i ddechrau ar Bawl, yr abad, a'r ddau, yn fuan wedi hynny, ar yr abades. Wedi peth ymgynghoriad galwyd ar Nonita i mewn. Yr oedd Pawl a Gwenhwyfar yn hollol argyhoeddedig o'r cwrs a gymerai amgylchiadau. Ni fu'r ymddiddan ond byr tra'r pedwar ynghyd, ac i'w ddwyn i ben Gwenhwyfar a dorrodd allan, â'i llygaid yn llawn a lwmp yn ei gwddf: Nonita, y mae ei arglwyddiaeth yma ar fater y gellwch chwi ac yntau ei benderfynu orau heb ragor o gwmni. Nid oes gennych wrthwynebiad, a oes, iddo osod ei fater ger eich bron chwi yn unig?

Mae'n ymddangos, fy annwyl feistres, nad oes modd inni fynd yn erbyn yr hyn a ymddengys fel ymyrriad oddi uchod." Wedi i'r lleill ymneilltuo, cododd Sandde ar ei draed, ac mewn ffordd nas gallai ond y gwir foneddwr ei wneuthur, gosododd ei achos gerbron. "Cyn i chwi ddyfod yma," ebr efe, "temtiwyd fi, fwy nag unwaith i siarad â chwi. Wedi i chwi geisio lloches yma, nid wyf yn cael llonydd. Y mae eich rhieni yn fodlon i mi osod fy achos ger eich bron. Ond cofiwch, y mae rhywbeth yn gysegredig yn yr holl achos hwn. Golyga eich symud o'r lle hwn, er ei golled; ond nid o'r ardal, os na chwenychwch hynny. Cewch ryddid i ymroddi i fywyd o ddefosiwn santaidd. Dan yr amgylchiadau, a oes obaith imi ennill eich llaw a'ch calon?"

"Teimlaf mai anrhydedd ydyw cael cynnig ar law un o brif arglwyddi'r tir," ebr hithau yn wylaidd. "Ond ymddengys i mi, wedi'r hyn oll a brofais yn ddiweddar, nad oes gennyf allu i ddewis yn wahanol. Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Estynnodd ei llaw iddo, yr hon a gododd yn barchus at ei wefus, gan ddywedyd: Yr wyf yn bendithio Duw am yr eiliad ddedwydd hon." Y noson honno arhosodd yn y Mynachdy, a phenderfynwyd llawer o bethau. Tua milltir i'r deau, neu ragor, yr oedd hen balas ar osod o'r enw Carnedd y Derwydd. Ar ddiwrnod teg ym Medi, gellid gweled Sandde, Arglwydd Ceredig, yn arwain Nonita, ei wraig, i'w chartref newydd hwn, gan y carai hi gartrefu yn rhywle yn agos i'w chyfeilles annwyl Gwenhwyfar.

PENNOD X.
"Beth fydd y bachgennyn hwn?"

ER symled a distawed priodas Sandde a Nonita, buan y lledodd y sôn i bell ac agos, a mawr fu'r llawenydd, er y teimlid ei cholli o'r Lleiandy. Cymedrolwyd y teimlad o siom gan y ffaith ei bod yn ymgartrefu yn yr ardal. Carasai Sandde allu gwneuthur mwy o'r amgylchiad; ond falched ydoedd o fod wedi sicrhau y fath drysor iddo ei hun fel y bodlonodd yn rhwydd i fyw yn y neilltuaeth cymharol hwn er ei mwyn. Nid heb achos y bu llawenydd yn y wlad o'r uniad hapus hwn, ac yn enwedig i'r Cristionogion. Yr oedd i'r ddau deulu hynafiaeth a pharch, gan yr olrheiniai Sandde ei dras yn ôl i Gunedda Wledig; a hithau mor bell â Saithen Hen. Er nad oedd teulu Caer Cawch ar y pryd i fyny â'r traddodiadau gorau, yr oedd gobaith, trwy Nonita, adfer yr enw da. Yr oedd yn ffodus yn ogystal â hapus yn ei chartref newydd. O ben y tŵr gallai weled dros y bau i derfynau tiriogaeth ei hynafiaid, ac, mewn rhan, ei rhieni. Carasai Gaer Cawch yn fawr, ond yr oedd y darn o Henfro a welid o Garnedd y Derwydd yn brydferth ac arddunol, ac yr oedd yr olygfa o'r tŵr yn wledd i'w llygaid. Cyn dyfod y dyddiau byrraf ac ystormydd y gaeaf, aeth oddiamgylch gyda'i phriod, gan y teimlai bellach yn ddiogel yn ei law ef. Mor ardderchog oedd lliwiau amryw a chyfoethog yr Hydref! Mawr oedd y llonder pan ymwelwyd â'r hen gartref, a mawr y parch a delid i'w phriod urddasol. Ni soniwyd am reswm y ffoedigaeth, ac ni ddaeth enw Alun gerbron. Er hynny, yr oedd tŷb guddiedig gan ei rhieni a gwybodaeth sicr gan ei phriod fod a fynno ef â'i hymadawiad sydyn. Am Alun ei hun, ni chododd ei ben am dymor, ac ni faddeuodd iddo ei hun am y ffordd ledchwith ac aflwyddiannus a gymerodd i geisio sicrhau ei ddymuniad. Oblegid bu'r ffordd honno yn foddion i ladd ei obeithion o gyfeiriad Caer Cawch. Tyngodd lŵ, gan iddo fethu cael Nonita, na fynnai neb arall, a chadwodd ato. Doeth neu annoeth, aeth oddeutu gydag ysbryd sur nes i amser i fesur wella ei glwyf.

Tra Sandde a Nonita yn ymheulo yng nghymdeithas ei gilydd, cymer amgylchiadau eu cwrs yn yr ardal. Mynych yr ymwelai Gwenhwyfar â Charnedd y Derwydd, pe dim ond er cael cipdrem ar ei chyfeilles fawr, ac er yfed ar y ffordd yr awyr iach. Credai hi a Phawl yn hyn, a gwnaethant ddeddfau ei sefydliadau yn ffafriol i iechyd y mynachod a'r lleianod. Perthynai, erbyn hyn, gryn lawer o dir i'r Mynachdy, a threfnid i'r mynachod roddi eu boreuau i gasglu gwybodaeth; y gweddill o'r dydd hyd yr hwyr i waith ar y tir; a'r hwyrddydd i ddefosiwn. Syml iawn ond iachus oedd moddion cynhaliaeth, yn bennaf fara, llysiau a dwfr. Yr oedd gwaith yn erthygl yng Nghredo Pawl a Gwenhwyfar, ac yr oedd pawb yn well o hynny.

Gan na adawodd Bwy ar ei ôl ond Enid, ei weddw, a Garth, ei brif was, a chan i Enid benderfynu aros o dan gysgod y Lleiandy, daeth yr eiddo—tir, llongau, cychod, &c., yn feddiant i'r Eglwys. Dyna'i dymuniad hi. Daeth Garth hefyd yn aelod pwysig o'r Gymdeithas, ac o wasanaeth eithriadol gyda'r allanolion. Am Legyr, wedi ei ymosodiad sydyn ac angheuol ar Fwy, sobrodd yn fawr, ac ymwasgodd yn fwy at y disgyblion; a mynych y cyfarfyddai yr abad ac yntau. Ac fel hyn, o dipyn i beth, yn enwedig wedi ymsefydliad Sandde yn eu plith, daeth cyfnewidiad amlwg er gwell i fywyd ac amgylchiadau'r ardal. Dan driniaeth dynherach daeth dynion cyffredin yn fwy rhywiog a hawdd eu trin. Yr oedd pob golwg fod Cristionogaeth i wreiddio yn ddwfn yn y tir ac i aros yn ardal Mynyw am oesau lawer. Gwir fod paganiaeth yn dal i ymladd, ac yn enwedig ar ynys fechan Ninian, am yr hon y ceir eto sôn.

Ond ar hyn o bryd rhaid inni wylio'r symudiadau oddeutu Carnedd y Derwydd. Daw blwyddyn cyn hir er pan arweiniwyd Nonita o'r Lleiandy yno, ac er, am ysbaid hir, y gwelwyd hi oddeutu'r lle ac yn ôl a blaen mewn ymweliadau â'r Lleiandy a chabanau'r trigolion, yn ddiweddar ni welir hi oddieithr gan Wenhwyfar a'r cylch agosaf i mewn.

Aeth si drwy'r lle fod yn y palas ddisgwyliadau neilltuol. Mawr, yn sicr, oedd diddordeb Gwenhwyfar mewn sefyllfa fel hon, pan gofiai am yr ymddiddanion difrifol ond diddorol a gawsent y dyddiau gynt. Mynych yr ymwelai â'i chyfeilles, am y credai y gallai fod o help iddi dan yr amgylchiadau.

Prin y rhaid dywedyd fod disgwyliadau Sandde yn fawr, er na ddywedai lawer. Am Nonita ei hun, fel Mair, mam yr Iesu, cadw yn ei chalon a wnai hi yr hyn a welsai ac a glywai gan ei phriod ac eraill. Edrychai Sandde am etifedd i'w ystâd, os mab a roddid iddynt. Ond, sut bynnag am hynny, llawenychai yn y rhagolwg ar i Nonita fod yn fam. Am Wenhwyfar, gwyddai hi beth oedd myfyrion calon ei chyfeilles yn well na neb, heb eithrio ei phriod. Os digwyddai efe sôn am aer, pe dim ond mewn ffordd chwareus, rywfodd nis gallai ei briod ieuanc fynd i mewn i'r miri diniwed. Ond wrth Wenhwyfar dywedai ei chyfrinach. "Yr wyf wedi bod yn gweddio am fab, fy meistres," ebr hi; "gobeithio nad ydwyf yn pechu wrth hynny. Gwyddoch am fy nymuniad os byth y deuthwn yn wraig, o gael bod yn fam i rhyw gennad amlwg dros Dduw yn y wlad. Dyma fy nymuniad heddiw. A oes rhyw gamwedd ynddo, dybiwch chwi?" "Dim o gwbl, fy merch. Credaf y gwrendy Duw ar eich gweddi, ac mai mab a ddyry Efe i chwi. Credaf hefyd, 'mai hwn a fydd mawr,' ac fod cenhadaeth amlwg o'i flaen."

Rhoddes hyn Nonita mewn teimlad dedwydd dros ben, ac edrychodd ymlaen yn obeithiol. Wrth fyfyrio, daethai i'w meddwl un peth dipyn yn hynod, a chan fod ei phriod yn or-awyddus am ei boddhau ymhob dim, ni chafodd nemor drafferth i gael ei ffordd yn y peth hwn hefyd. Nid oedd am roddi genedigaeth i'w chyntaf-anedig mewn palas. Credai fod gormod o fydol-fawredd ynglŷn â hynny. Lai na chwarter milltir rhwng y plas a'r môr, yr oedd hafdy bychan. Nid oedd ond un ystafell, a go fechan oedd honno. O'i ddôr yr oedd yr olygfa yn hyfryd, dros y bau i gyfeiriad Hafan y Rhŷd, a thros yr ynys fechan, Glasfryn, ymhell i'r môr. Gofynnodd mewn pryd i Sandde, ac hefyd i Wenhwyfar, am ei symud i hwn pan welid arwyddion fod "ei hawr" gerllaw. "Ni chafodd Efe hyd yn oed gystal lle â hwn i edrych arno pan gyntaf yr agorodd ei lygaid." Rhaid dywedyd i'r syniad o'i chymryd yno drethu peth ar gariad a pharchedigaeth priod, ond wedi cael awgrym gan Wenhwyfar, bodlonodd yn hollol.

Ac un prynhawn ym mis Medi daeth arwyddion mai doeth fyddai ei symud, a gwnaed hynny gyda chyn lleied o amlygrwydd ag oedd modd. Gwenai yr haul tra y symudid hi; ond yr oedd arwyddion nad oedd storm ymhell. Fodd bynnag, rhoddwyd hi i orwedd ar wely bychan, yn ôl ei dymuniad, yn yr hafdy. Daethai bydwraig fedrus o Wynfor, adnabyddus i Sandde, ac uchel ei chymeriad. Rhaid oedd hefyd gael Gwenhwyfar yn ymyl. A'r noson honno daeth rhan gyntaf breuddwyd Nonita i ben,—ganwyd iddi fab. Am "aer" y meddyliai y tad yn ei lawenydd. Pan alwyd Gwenhwyfar i mewn i'w golwg, tra'r fam yn rhy wan i ddywedyd dim, cododd lygaid siriol tua'r Nef, cystal â dweud: Gwrandawyd fy ngweddi." Deallodd yr abades yr awgrym, a nodiodd gyda gwên serchus. " Beth fydd y bachgennyn? Wel, cyn croniclo dim ymhellach amdano, rhaid nodi cwpl o bethau go hynod a gymerodd le ynglŷn â'i enedigaeth. Crybwyllwyd y gwenai'r haul tra y symudwyd Nonita i'r hafdy. Ond buan iawn y newidiwyd gwên natur. Ymgasglodd cymylau duon, bygythiol eu golwg, uwchben y fan, a thra Nonita yng ngwewyr yr esgoreddfa, torrodd allan ystorm ddychrynllyd o fellt a tharannau. Yr oedd hyn megis arwydd fod y Nef yn sylwi ac am ddathlu'r amgylchiad mewn modd cyffrous. Ond digwyddodd peth arall. Symudwyd y fam a'r baban i'r palas mor fuan ag yr oedd ddiogel gwneuthur hynny. Pan aethpwyd yn ôl i gyrchu'r gwely ar yr hwn y gorweddasai Nonita ac y ganesid y mab, a phan symudwyd y gwely, er syndod i'r rhai a wnaethant hynny, yr oedd o dan y gwely ffynnon ddofn o ddwfr grisialaidd wedi tarddu. Nid oedd argoel cynt. Mae'r ffynnon yno heddiw, a "Ffynnon Nonita" y gelwir hi.

PENNOD XI.
Ynys Ninian.

CYFEIRIWYD eisoes at Ynys Ninian, a thra y bydd Nonita yn ymadfer i'w chynefin, a'r bachgen yn cael amser i sylwi peth ar y byd y'i ganwyd iddo, bydd yn ddiddorol cofnodi rhywbeth am ynys a ddaeth, mewn amser, yn enwog. Saif tua milltir i'r gorllewin, a'i rhediad o ddeau i ogledd. Tua milltir yw ei hyd a phrin hanner hynny o led ar y gorau. Y mae arni beth tir hafal i ddim yn Henfro, ond y mae ei glannau o bobtu ar y cyfan yn eirwon. Er hynny, y mae ambell gilfach lle y glaniai'r pysgotwr ei gwch. Y mae arni ddau fryncyn uchel, "noddfa i'r geifr," ac y mae iddi ei "chreigiau i'r cwningod." Anodd, a pheryglus yn fynych, ydyw croesi'r culfor milltir o led yn ôl a blaen.

Heddiw, nid oes ond un ffermdy ar Ynys Ninian, lle y dylai hanner dwsin o leoedd bychain fod, pe dim ond er mwyn gwneuthur y gorau o'r tir, ac er mwyn cwmnïaeth. Y syndod o'r ochr arall ydyw y gallodd lliaws mawr o deuluoedd fyw ar yr ynys yn yr adeg am ba un yr ydym yn sôn. Dyma hanes ynysoedd o'r fath ple bynnag yr awn. Lle y trigai cannoedd gynt, ni cheir heddiw ond ugeiniau. Sut y llwyddai'r trigolion gynt i gadw corff ac enaid wrth ei gilydd, y mae'n anodd i ni ddychmygu mewn oes sydd â'i chysur yn llawnach a'i moethau yn llawer. Y mae'n amlwg na wyddent ail i ddim am gysur yn ôl ein syniad ni amdano. Ond helient rywbeth o dir a môr a'u cadwai yn fyw, a thrigent yn eu cabanau llwm, yn oer, carpiog, a'u dillad gan mwyaf o grwyn. Môr-ladron oeddynt mewn rhan, os nad yn bennaf, ac yr oedd yr ynys yn fwy cyfleus i hynny na'r arfordir. Caffent y cyfle cyntaf ar long-ddrylliadau, ac nid oeddynt yn ôl o gymryd mantais ar eu cyfle. Anodd dywedyd beth oeddynt o ran cenedl,—math ar gymysgedd, efallai, o'r Iberiad a'r Celt. Fodd bynnag am hynny, yr oedd ar yr ynys ddiadell fechan o Gristionogion dan ofal mynach hynod o'r enw Iwstyn: dyn a adawodd draddodiadau hynod yn yr ardal. Am ysbaid, bu hwn ym Mynachdy Mynyw, dan ofal a chyfarwyddyd Pawl, a cheisid gweithio yr ynys o'r Mynachdy. Ond gan fod croesi ar y gorau yn anodd, ac ar amserau yn amhosibl, gofynnodd Iwstyn am ganiatad yr abad i fynd trosodd, a byw ymhlith yr anwariaid. Prin yr oedd Pawl yn fodlon, a hynny am resymau digonol iddo ei hun. Nid oes yno le iti fyw, fy mrawd," ebr efe. "Nid oedd gan fy Meistr le i roddi Ei ben i lawr," ebr y llall. "Ac onid yw'n berygl bywyd i un mynach drigo ymhlith pobl mor ysgeler? "Ni allant ond lladd y corff, barchedig abad, ac nid oes arnaf ofn." Ac heb ofn na phryder, nac un meddwl am ei gysur ei hun, drosodd yr aeth, ac i aros nes gorffen ei waith ef mewn sylfaenu Eglwys a ddaeth i fri. Cynorthwywyd ef i adeiladu i ddechrau gaban cyffredin o gerrig geirwon iddo ei hun, ac yn hwn y trigai, a'i gymundeb â Christ mor agos fel yr ystyriai ei hun yn wyn ei fyd. Gŵr hynod oedd hynod am ei dduwiol-fuchedd, ac eithriadol am ei dynerwch. Hefyd am ei hoffter o natur ac o bopeth a berthynai iddi: blodau, anifeiliaid, adar,—hyd yn oed y pryfyn. Galwai efe "y prŷf yn frawd," ac mewn ardal mor lawn o flodau ac adar, nid oedd Iwstyn byth heb gwmni. Adwaenid ef o bell, yn enwedig oddi wrth ei ddull arafaidd ac igam-ogam o ymsymud. Tybiwyd, nes gwybod yn well, mai dwfn-fyfyrdod ar bethau mawr a gyfrifai am hyn, ond deallwyd wedi hynny mai ofn oedd arno iddo wrth gerdded yn ddi-hidio roddi ei droed ar rhyw abwydyn bychan a'i ladd. Felly, os gwelai berygl sangu ar y trychfilyn, rhoddai gam o'r neilltu. Ac os gwelai fod troed dyn neu anifail wedi anafu un o'i "frodyr bach," fel y galwai hwynt, gwnai ei orau i'w feddyginiaethu! Ac ai onid efe oedd yn iawn? Pa hawl sydd gan ddyn (rhad arno!), yr unig lofrudd mawr ar y ddaear, i ddamsang i farwolaeth y trychfilyn bach na wnaeth niwed iddo ef na neb arall? Daeth hwn i fod ar hyd ffordd mor gyfreithlon ag yntau, ac y mae ganddo gyfartal hawl fyw, hyd y gwyddom. O leiaf, credai y sant Iwstyn hynny. Etyb, mewn llawer enghraifft, bwrpas ei fodolaeth yn well na'r dyn a'i maedda.

Aeth y sôn am Iwstyn fel y dyn tyner, cyfaill yr adar a'r anifeiliaid; a beth bynnag a wnelid o'i olwg, gofalai dynion beidio gwneuthur yn ei olwg yr hyn a barai boen iddo. Un diwrnod, gwyliai dau ddyn cyffredin ef yn rhodio yn araf ar hyd un o'r ffyrdd. Gwelodd dryw fach ar y llawr, a thrwy ryw anffawd yn amlwg yng ngafaelion angau. Cododd hi yn ofalus. Llanwodd ei lygaid o ddagrau, ac heb feddwl fod neb ond Duw yn gweled ac yn clywed, ebr efe: "Pwy a'th faeddodd di, fy nghares fach, ac a'th adawodd i farw fel hyn? Ceisiodd wneud allan a oedd modd meddyginiaethu, ond gwelodd fod y galon fach yn curo yn rhy gyflym; y corff bychan yn crynu fel y ddalen grin o flaen yr awel; a gwelodd fod y llygaid yn pylu ac yn cau. Daliodd hi yn ei law nes y trengodd, a sylwai y dynion oedd am y clawdd ag ef fod ei wefusau yn symud. Edrychodd o'i gwmpas am rywbeth a wasanaethai mewn ffordd o amdo i'w "gares fach", a gwelodd dafolen braf. Gyda thynherwch mawr lapiodd y corff bychan yn honno, ac yna agorodd fedd bychan yn y tir tywodlyd, lle y claddodd hi. Edrychodd o'i ddeutu ond ni welodd neb. Edrychodd i fyny, a hawdd gweled y teimlai fod ei Dad ef a'r creadur bach a gladdodd yn fodlon i'w waith. Dyna Iwstyn! Dyna'r dyn a anfarwolodd ei hun ac a anfarwolodd yr ynys ar ba un y mynnodd drigo. Nid rhyfedd i'r sôn ymdaenu y gwelid ef yn rhodio yng nghwmni bodau goruwch-naturiol. Araf iawn am ysbaid fu llwyddiant y gwaith ar yr ynys, ac yn ei gaban garw y ceisiai addysgu a chysuro y credinwyr a enillai o un i un. Os awgrymid fod ei fyd yn galed, yr oedd ganddo ddigon o atebion. Dywedai mai ei gaban ef oedd y gorau ar yr ynys, a'i fod yn byw yn fwy moethus na phobl ei ofal. Aethai pethau ymlaen, gan wella ychydig, am ysbaid go hir cyn dyfodiad Sandde i'r ardal; a thalai Pawl ac eraill ambell i ymweliad â'r mynach, gan fawr resynnu at ei sefyllfa o dlodi ac anghysur. Ond wedi i Sandde ymsefydlu yng Ngharnedd y Derwydd, a deall y sefyllfa, nid hir bu heb greu chwyldroad. Wedi ymddiddan maith a difrifol gyda'r abad ar wahanol faterion crefyddol, ac yn enwedig ar ôl clywed am gymeriad, gwaith a sefyllfa Iwstyn torrodd allan yn bur wyllt, gan ddweud: "Ni allaf feddwl am i ŵr Duw aros mewn sefyllfa fel hon am ond cyn lleied o amser ag y mae'n rhaid, a charwn wneuthur rhywbeth er ei gysur tra yn codi tŷ iddo, ac i eraill ddylai fod yno gydag ef. Ai tybed y cytunai i aros gyda mi tra gyda phob brys posibl y codwn Fynachdy bychan yno er ei gysur a'i gyfleustra?

"Nid wyf yn meddwl," ebe Pawl,"fod gallu ar wyneb y ddaear â'i tynnai o'r ynys oddi wrth yr ychydig braidd sydd dan ei ofal. Ond mawrygaf eich awgrym haelfrydig o godi tŷ iddo. Caiff eich arglwyddiaeth fendith y Nef ar eich tŷ a'ch teulu am feddwl am hyn." "Mae'r fendith wedi disgyn mor helaeth fel y carwn wneuthur hyn a llawer mwy."

Ac nid oedodd ei addewid a'i fwriad. Aeth un gaeaf garw heibio—garw iawn. Ond daeth amser i'r adar ganu unwaith drachefn. Gwisgwyd y coed â dail, a'r meysydd â blodau. Clywid Ilais y gwcw yn y wlad, a melys hynod ei deunod hi. Collwyd ei chân yn ddiarwybod, a daeth amser prysur cynhaeaf. Ond ni welwyd gaeaf arall heb fod Iwstyn yn ddiddos yn ei Fynachdy newydd, a dau arall i'w gynorthwyo yn ei waith anodd. Efe a fwriedid i fod yn ben ar y sefydliad hwnnw, ond cymaint oedd ei awydd i efelychu ei Feistr fel mai gwas i bawb ydoedd hyd yn oed i Stephan ac Andreas, ei gynorthwywyr. Ac o dipyn i beth, fel y ceir nodi, aeth ei ddylanwad mor fawr ar yr ynys nes y gellid gweled yn amlwg fod yr anialwch yn dechrau blodeuo. Nid oes, wedi'r cyfan, ddim cyfartal at ddarostwng pechod ag ysbryd addfwynder.

PENNOD XII.
"Hwn a fydd mawr."

FEL y crybwyllwyd, digwyddodd pethau tra hynod ynglŷn â genedigaeth cyntaf-anedig Nonita, yr hwn hefyd a fu ei hunig anedig. Ni fu i'r bachgennyn hwn, am yr hwn y gweddïodd ac y diolchodd y fam gymaint, na brawd na chwaer. Bu'r amgylchiadau ar y cyntaf yn achos o gryn benbleth i Sandde, gan iddo ef, ar y cyntaf o leiaf, roddi ei fryd ar gael aer i'r etifeddiaeth. Yr oedd hynny yn ddigon naturiol, canys "yr oedd efe yn gyfoethog iawn". Dymuniad digon cyfreithlon oedd cael un i drosglwyddo i'r cenedlaethau a ddêl ei enw a'i fuddiannau. Ond yr oedd yn ddyn o synnwyr cryf ac o dduwioldeb dwfn, ac ni bu yn hir nes ei ennill drosodd i safbwynt ei wraig o edrych ar bethau. Credai hi, ac nid heb achos, fod y mab hwn i fod yn rhywbeth mwy nag etifedd ystâd, sef "gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw," i hyrwyddo gwir grefydd yn y tir, ac i ennyn a gwasgaru fflam diwygiad crefyddol trwy Gymru benbaladr. Pan arweiniwyd Sandde i'r un argyhoeddiad â Nonita, diflannodd pob syniad am ysblander amgylchiadol o'i feddwl yn llwyr. Aeth yr etifeddiaeth eang fras yn ail beth, a chlywyd ef yn sibrwd mewn dwfn fyfyrdod: Beth ydyw etifeddiaeth ddaearol, wedi'r cwbl, yn ymyl buddiannau Teyrnas Dduw? Caiff y bachgen hi i'w ofal, a gwnaed fel y mynno â hi." Bu codiad y ffynnon ar y llecyn y'i ganwyd yn foddion i gadarnhau'r syniad mai nid bachgen cyffredin a roddwyd i Nonita a Sandde. Cerddodd y sôn am y ffynnon, a mawr y cyrchu fu i'r lle. Ond gan mai oddimewn i'r hafdy yr oedd, ofnid croesi y rhiniog er cael golwg arni heb ganiatâd y meistr. Ac, yn wir, ofnai rhai fynd yn rhy agos, caniatâd neu beidio. Edrychent ar y fan fel lle santaidd; ac felly mewn gwirionedd yr oedd i'r neb a feddai ronyn o barchedigaeth. Gwelodd Sandde awyddfryd y lliaws, ac un diwrnod, tra efe, Nonita a'r mab bychan ynghyd, ebr efe: "Mae'r bobl, o bell ac agos, yn cyrchu i ymyl yr hafdy, ac wrth gwrs, awyddant am weled y ffynnon. Ond ofnant nad oes ganiatad i'w gweled heb ofyn i mi yn gyntaf. Ac ofna rhai ofyn i mi. Beth ellir wneud, fy anwylyd, er cyfarfod eu dymuniad? Heb betruster, hi a atebodd: "Rhaid troi'r lle bach at wasanaeth y cyhoedd. Arwydd hynod yw'r ffynnon o alwedigaeth uchel i'n mab yn y man. Ni allaf feddwl bellach am yr hafdy fel lle at ein gwasanaeth ni. Adeiledwch fur oddeutu'r ffynnon. Carregwch y gwaelod a'r ochrau. Gadewch yr hafdy fel ag y mae, a gwneler cyfleustra i bobl flinedig eistedd, os carant, o gylch y ffynnon. A chan fod yn debyg y daw yn achlysurol bobl o fri a chyfoeth, gwneler math o gyfleustra uwchlaw'r ffynnon i dderbyn rhoddion pererinion at wasanaeth achos Crist."

"Ardderchog Nonita! Fe wnaf hynny. Ond oni charech i mi adeiladu hafdy arall gerllaw? Y mae'n llecyn mor hyfryd, â'i wyneb ar y deau." "Na, nid hynny, Sandde, a garwn. Ac eto bydd y llecyn yn lled gysegredig i mi tra byddaf byw. Oni ellid adeiladu cysegr bychan yn rhywle gerllaw, lle y gallem fel teulu droi i mewn i addoli?" "Ac os carai neb arall droi i mewn oni fyddai yn gyfleustra hyfryd?" Ebr y gŵr mawr, â sobrwydd ar ei wedd: "Nonita, fy anwylyd a'm trysor, credaf yn sicr mai ysbryd Duw sydd yn llywodraethu eich meddwl yn hollol. Gwnaf hyn hefyd, ac heb oedi."

Ac felly y gwnaeth. Bu'r ffynnon am genedlaethau â'r to uwch ei phen yn gysgod i bererinion. Hyd heddiw y mae tô uwchben y ffynnon ei hun, ac y mae ei dyfroedd mor loyw, grisialaidd ac iachusol ag y buont erioed. Ac ychydig bach i'r gorllewin y mae Capel Nonita. Diau nad yw heddiw ond math o gofeb o'r hyn a fu. Ond ymddengys y sylfeini yn dra henafol, ac felly ran isaf y muriau. Oddifewn i'r muriau y mae malurion, a dyn a ŵyr pa beth a geid pe y cloddid i lawr o dan rwbel. Mesura'r Capel rhyw bedair llath ar ddeg wrth chwech, ac ar yr ochr ddwyreiniol, ar faen llyfnach na'r rhelyw, y mae Croes. Lluniwyd hon, mae'n debyg, gan law rhyw bererin ganrifoedd lawer yn ôl. Erys y Capel a'r ffynnon bron yr un fath ar hyd y cenedlaethau, ac nid oes reswm paham na ddaliant eto am ganrifoedd i ddyfod.

Buan yr ymadferodd Nonita yn llwyr ar ôl gwasgfa'r enedigaeth, a phrin y rhaid dweud fod ymweliadau Gwenhwyfar â hi yn rhai dyddiol am ysbaid. Un prynhawn, tra hi yn ymyl y tŷ, tybiai iddi glywed llais yn canu—yn canu yn nefolaidd o swynol. Wedi agor y drws, daeth y nodau yn amlycach, a hi a ddynesodd yn araf at ddrws yr ystafell, lle y disgwyliai gael y fam a'r baban. Ac oddiyno y deuai y nodau melysber. Gwrandawodd yn astud, a dyma a glywodd, oblegid yr oedd Nonita erbyn hyn yn ail ddechrau'r gân: "Y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd," &c. Arhosodd o'r tuallan nes i'r llais ddistewi ac i Nonita orffen eilwaith Gân Mair" o fawrygiad am ffafr Duw. Dysgasai hon gan Wenhwyfar tra yn y Lleiandy. Yr ydych yn ddedwydd, fy merch," ebr yr abades. "Yn annisgrifiol ddedwydd; a phaham lai? Rhoddes yr Arglwydd i mi fy nymuniad, ac y mae fy mhriod yn llawn gydweled â mi mai rhodd Duw ydyw y bachgen i rhyw ddiben mawr. Credwn y gallwn broffwydo amdano megis y gwnaed am arall: "Hwn a fydd mawr." Edrychwch arno yn gwenu; gweled yr angylion y mae." "A ydyw eich priod yn rhywle cyfagos?" ebe Gwenhwyfar, wedi cryn lawer o sgwrs. "Fe ddaw i mewn gyda hyn. A oes gennych rhyw gennad i'w rhoi?"

"Y carai yr abad ei weled ar awr benodol yn y Mynachdy; gadewch iddo wybod pan gyrhaedda."

Cyfarfod pwysig oedd hwnnw yn y Mynachdy yn hwyr yr un dydd. Yr oedd yn bresennol yr abad, Gwenhwyfar a Sandde. Wedi ymdrin am ysbaid ynghylch hyn a'r llall, mynegodd yr abad yr hyn oedd uchaf ar ei feddwl: Eich arglwyddiaeth," meddai, "y mae'n amlwg fod eich cyntafanedig a'ch aer wedi ei eni i ddibenion uwchlaw y cyffredin, ac y mae'n hyfrydwch i mi ddeall eich bod wedi eich argyhoeddi mewn rhan, os nad yn gwbl, mai nid i gyfoeth nac i alwedigaeth fydol y ganed ef." Erbyn hyn," ebr yntau, yn gwbl argyhoeddedig. Y mae cymaint o bethau eithriadol wedi dwyn fy mhriod a minnau at ein gilydd, i gychwyn, ac wedi hynny iddi hi yn arbennig ynglŷn â dyfodiad y bachgen, fel y mae'n rhaid imi gredu mai nid i fod yn Arglwydd Ceredig y ganed ef." "Na," sibrydai'r abades, "ond i fod yn dŵr o nerth i Eglwys Crist, ac yn fflam o gennad i oleuo a thanio'r wlad." Felly," ebr yr abad drachefn, "rhaid i ni fod yn ofalus i wneuthur popeth yn ôl ewyllys Duw, mor bell ag y gallwn ni wneud allan beth yw yr ewyllys honno. Rhaid gofalu am ei ddysg o'r groth. A rhaid gofalu ym mlaenaf oll am i'w fedydd fod yn deilwng o'i ach a'i alwedig- aeth. Daw yr amser yn fuan. Pwy a dybiech chwi a ddylai weinyddu yn yr ordinhad bwysig honno?" "Pwy ond yr abad cymwys a char- edig?" "Na," ebr yntau, "rhaid wrth un mwy na'r abad. Ac y mae gennyf rhyw argyhoeddiad y cyrhaedda gŵr teilwng o'r Ynys Werdd mewn pryd,—neb llai na'r Esgob Elwy. Byddai gweinyddiad y bedydd ganddo ef yn beth gweddus, ac ni ddymunwn neb llai i weinyddu yr ordinhad santaidd."

Gan nad oedd dim yn erbyn yr awgrym penderfynwyd mai felly yr oedd i fod. Cydsyniodd Nonita ar unwaith; ond yr oedd rhyw argraff ar ei meddwl mai nid yng Ngharnedd y Derwydd nac yn Eglwys Mynyw, y dylid cyflawni'r wasanaeth. "Gwelais mewn breuddwyd," ebr hi "ŵr urddasol yn glanio ym Mhorth y Mynach, ac yn sefyll ar lecyn ychydig i'r gogledd o'r afon Alun. Dywed rhywbeth wrthyf mai ar y llecyn hwnnw y dylid bedyddio, ac y ceir arwydd arall fod anfoniad y bachgen a'i alwedigaeth yn ôl ewyllys Duw."

Nid oedd wiw dywedyd dim yn erbyn yr awgrym, oblegid credid yn ddiysgog gan y rhai a'i hadnabyddent orau fod Nonita mewn rhyw gymundeb eithriadol o agos â'r Nef. A'r unig gwestiwn ymarferol yn awr oedd sut i drefnu'r gwasanaeth. Disgwyliai'r abad Elwy drosodd, ond yng ngwyneb ansicrwydd cyfleustra a pheryglon y sianel yn yr Hydref, rhy anodd oedd trefnu dim yn fanwl. Trefnwyd, modd bynnag, fod y mater i gael ei osod gerbron yr Esgob pan gyrhaeddai, ac i nodi iddo'r llecyn penodedig a'r rheswm dros fynd yno. Credid mai nid anodd ei berswadio wedi iddo glywed yr hyn a ddigwyddasai i'r fam. Pe gwybuasai y rhai oedd yn trefnu dipyn yn rhagor, gwnaethai i ffwrdd yn hollol â'r anhawster neilltuol hwn, fel y ceir gweled. Un min hwyr, ychydig ddyddiau wedi hyn, cyn fod neb yn ei ddisgwyl, gellid gweled yr Esgob Elwy ac arall gydag ef yn araf lwybro o Borth y Mynach tua'r Mynachdy.

PENNOD XIII.
Bedydd Cofiadwy.

ER fod disgwyliad am yr Esgob ar adeg amhenodol, parodd ei adroddiad ef o'r modd y daeth, ac yn enwedig o'r cymhelliad i ddyfod, syndod nid bychan i'r rhai a glywsant ei stori yn y Mynachdy. Daethai gydag ef, fel yr awgrymwyd, un arall o'r enw Monwy. Nid oedd hwn yn swyddog uchel yn yr Eglwys, ond efô a gadwai mewn dirgelwch y llyfrau a'r llestri cysegredig. Daethai â rhai o'r pethau angenrheidiol gydag ef. Wedi iddynt nerthu eu calon â lluniaeth, a chael amser i ddadluddedu ychydig, galwyd am Sandde, ac am Wenhwyfar hefyd, ac i'r cwmni hwn yr adroddodd Elwy ei stori hynod. "Nid oeddwn wedi meddwl ymweled â Mynyw hyd amser diweddarach," ebr efe, er fod cytundeb rhyngof â'r brawd Pawl i ddyfod pan fyddai gyfleus i mi. Ond dair noson yn ôl cefais weledigaeth hynod iawn. Nid wyf yn meddwl fy mod ynghwsg, ond nis gallaf eich sicrhau ar y pen hwnnw. Fodd bynnag, cwsg neu effro, mi a welais wrth draed fy ngorweddfa foneddiges ieuanc a thra phrydweddol. Yn wir, ni welais yn fy nydd ei harddach; ac yn ei breichiau yr oedd baban bron newydd-anedig. Ni chyffroais, ond teimlais megis mewn llesmair. Yna clywais lais clir ond mwynaidd yn fy ngorchymyn wrth fy enw: "Y mae angen am yr Esgob Elwy ym Mynyw yn ddiymdroi. Y mae'r llong ym mhorthladd Rhyd-y-dŵr yn aros. Nac oeder ac na phetruser; y mae'r Nef yn galw." Ar unwaith diflannodd yr hyn a welwn a distawodd y llais. Ni wyddwn beth i'w wneuthur am funud neu ddwy, na beth i'w ddweud. Ond yr oedd y weledigaeth mor glir a'r alwad mor bendant fel yr ofnais, os oedwn, bechu yn erbyn Duw. Codais, ymwisgais, cyrchais Monwy, gan ei orchymyn i ddyfod gydag ef â'r Llyfr Gwasanaeth a'r cawg Bedydd. Gwnaethom am y porthladd mor gyflym ag y gallai'r anifeiliaid ein dwyn, a chawsom y cyfleusterau megis y dywedwyd. Yr oedd llong ar hwylio i Borth-y-Mynach, ac oddiyno i Borth-y-Pysgod. Cymerasant ni ar y bwrdd heb un math o seremoni. Cawsom fordaith hwylus, ac ni chymerwyd oddiarnom ddimau o long-log. Ymhellach, nid ymddangosai fod ganddynt neges i Borth-y-Mynach, ond er mwyn ein gosod ni yn ddiogel ar dir. A dyma ni wedi cyrraedd."

Tra yr adroddai Elwy ei stori edrychai bob llygad arno fel pe'u tynnid gan fagnet, ac yn enwedig Sandde. Teimlasant oll hefyd fel pe rhedai gwefr trwy eu cyfansoddiad. Am funud edrychasant yn syn ar ei gilydd, a'r cyntaf i siarad oedd Sandde: A ddichon yr Esgob roddi i ni rhyw ddychymyg pa fath un oedd y foneddiges a welodd?" Yr oedd yr un cwestiwn megis ar wefus y lleill. Gwenodd yr Esgob, a gofynnodd, bron yn chwareus: "A oes gennych yn eich meddyliau rhyw ddarlun o'r hyn allai Mair, mam yr Iesu, fod? Yr oedd i hon wyneb cyn laned, ond fod tipyn o ôl gwasgfa arno. Ond yr oedd yn foneddiges hynod o brydweddol, ac ychydig o wrid ar ruddiau fel marmor o wyn. Yr oedd golau'r Nef yn ei llygaid, ac at y cwbl yr oedd gwisg lleian amdani."

"Dyna ddigon," ebe Gwenhwyfar. "Diolch i'm harglwydd Esgob." Hawdd gweled mai at Nonita y rhedodd pob meddwl, ac heb ymdroi aed ati i drefnu gwasanaeth y bedydd. Gan mai Sandde oedd y mwyaf cyfrifol yn y mater, naturiol oedd iddo ef gymryd y blaen yn yr ymgynghoriad. "Mae'n sicr," ebr efe, "fod i'r weledigaeth ei pherthynas â bedydd fy mab cyntaf-anedig, ac fe fyddai'r hyn a glywsom bron yn anhygoel onibae am rai pethau tebyg sydd wedi digwydd eisoes. Mae'n sicr mai darlun o'm priod a gawsom gan yr Esgob, ac o'm mab bychan sydd yn aros am fedydd. Gall yr abad a'r abades roddi i chwi, fy arglwydd Esgob, amryw ddigwyddiadau a brofant i ni fod i fy mab rhyw bwrpas i'w fywyd o ordeiniad y Nef. A dylwn ddweud fod gan fy mhriod rhyw argyhoeddiad rhyfedd ynglyn â'r bedydd. Nid ydyw am iddo gymryd lle yn yr Eglwys, ond ar lecyn agos i Borth-y-Mynach; buoch yn ei ymyl ar eich ffordd yma. Y mae ar y llecyn goeden fechan bron yn nechrau ei thŵf. Yn ymyl honno y carai fy mhriod i'r bachgen gael ei fedyddio, fel y gall hi yn achlysurol alw i weled a gwylio datblygiad y pren, ac ar yr un pryd feddwl am gyd-ddatblygiad ein mab mewn corffolaeth ac ysbryd.'

Ni ddywedodd neb air mewn atebiad i'r araith hon, ond edrychodd yr Esgob a'r abad ar ei gilydd dipyn yn arwyddocaol, ac aed ymlaen at y trefniadau.

Ni allaf aros ond ychydig," ebr Elwy; "rhaid imi droi yn ôl cynted ag sydd modd wedi i mi weinyddu yn nerbyniad i'r eglwys nifer o blant a dychweledigion sydd o dan ofal yr abad. "Gorau po gyntaf," ebe Sandde, cyn i'r hin oeri. Yr ydym yn barod unrhyw adeg." Trefnwyd i'r awr fod am unarddeg o'r gloch drannoeth. Hawdd oedd rhoddi hysbysrwydd digonol o'r amgylchiad. Cyfarfyddodd torf o bobl oddeutu'r llecyn drannoeth; y rhai cymharol segur ymhell cyn pryd. Ar yr adeg benodedig, er cyrraedd mewn pryd, wele gwmni bychan yn gadael Carnedd-y-Derwydd ar un ochr i'r afon. Gyda'i gilydd mewn cerbyd aeth Sandde, Nonita, y baban a Gwenhwyfar. Yr oedd hefyd yn cerdded, ymlaen ac yn ôl, bob gwas a morwyn a berthynai i'r lle. Yr ochr arall, o gyfeiriad y Mynachdy a'r Lleiandy, gellid gweled cwmnïau yn gwneud am y man cyfarfod, ac o'r rhai hyn y pwysicaf oedd yr Esgob Elwy a'i gydymaith Monwy, a Phawl yr abad. O sylwi yn graff, gellid gweled yr arweinid Monwy gan yr Esgob gerfydd ei law, ac yn y man cafwyd allan y rheswm; yr oedd y truan yn ddall. Eto, daliai swydd nid dibwys yn yr Eglwys. Yn ei ofal ef, fel y sylwyd, yr oedd y cawg bedydd, ac iddo ef y perthynai cymhwyso'r dwfr at gorff y bedyddiedig tra yr adroddai'r Esgob y geiriau.

Cyrhaeddwyd y llecyn yn ymyl y pren bychan a hoffasid gan Nonita. Cyn dechrau'r gwasanaeth edrychai'r Esgob o'i ddeutu am ddwfr at y bedydd. "Pa le y ceir dwfr cyfaddas at y bedydd?" gofynnai, gan edrych oddeutu; a chyda'i fod yn gofyn y cwestiwn agorodd y ddaear yn ymyl y pren, a ffrydiodd allan ddigonedd o ddyfroedd grisialaidd. Nid oedd angen am atebiad, canys wele'r Nef yn ateb ar unwaith, ac yn rhoddi arwydd arall fod y bachgen oedd ym mreichiau Gwenhwyfar yn rhywun wedi ei fwriadu i bethau mawr.

Bron na chyffrôdd yr Esgob ei hun; ac yr oedd arwyddion arswyd ar bob wyneb o'r rhai a welodd y wyrth. Cymerodd yr abad y wasanaeth agoriadol, ac yr oedd difrifwch yn daenedig ar ei wedd yntau. Yna ebr yr Esgob wrth Monwy: "Moes dy law a dy lestr er mwyn i mi dy arwain i gymeryd o'r dwfr hwn a anfonodd Duw i'r perwyl. Hanner lanwyd y cawg cysegredig, a thra y llefarai'r Esgob y geiriau, gwaith Monwy oedd cymhwyso'r dwfr. Efallai na thybiai y gwŷr urddasol hyn heddiw fod trefn o'r fath yn gyfreithlon ac effeithiol. Ond dyddiau symledd ac effeithiolrwydd oedd y rheiny, ac nid rhwysg a gwâg seremoni. "Enwch y plentyn," ebr Elwy. "Dofwy," atebai'r tad. Dofwy, yr wyf yn dy fedyddio di," &c. Ac ar yr un pryd arweiniai law Monwy. Ond nid oedd raid! Tra efe yn paratoi at dywallt y dwfr ar wyneb y plentyn, cafodd ei olwg! "Fy arglwydd Esgob," ebr efe yn gyffrous, "yr wyf yn gweled. Yr wyf wedi cael fy ngolwg!"

Cyffrowyd y dyrfa eto fwy-fwy, a chyfodai'r cwestiwn mewn mwy nag un meddwl: "Beth fydd diwedd y pethau hyn? Terfynwyd y gwasanaeth tra arswyd byd â ddaw yn gorffwys ar bawb. Cyd-dyfodd y pren bychan a thyfiant Dofwy. Daliodd y ffynnon i roddi ei dwfr gloyw, glân, ar hyd y canrifoedd. Miloedd ar filoedd o bererinion fu ar ymweliad â'r lle, ac afonydd o ddyfroedd a ddygwyd ymaith ganddynt. Cyrchir i le y ffynnon eto, ond nid yw'r dyfroedd yn bwrlymu i fyny fel y gwnai. Gwelir y man lle y bu, ond bu amgylchiad diwydiannol yn foddion i ddwyn y dwfr ymaith i le arall. Onibae i rybudd difrifol gael ei roddi allan ni chawsai'r goeden lonydd i dyfu. Ond trwy ofal cadwyd hi yn ddi-annaf am ganrifoedd, ac yr oedd fel pe byddai gwarchodaeth y Nef drosti. Nid peth anghyffredin ydyw gweled ymwelwyr yn ymdroi oddeutu "Ffynnon Dofwy," a diau y cânt mewn dychymyg olwg ar bren sydd wedi diflannu ers llawer dydd.

Dwys a difrifol fu'r ymddiddan yn y Mynachdy y noson honno, ac yr oedd presenoldeb Monwy yn teneuo yr awyr. Torrai efe allan ar brydiau mewn ffrwydriad o ddiolch am ei olwg, a theimlent i gyd fod y nefoedd yn agos iawn. Ie," ebr yr Esgob, "y cwestiwn yw, Beth fydd y bachgennyn? Y mae'r Ynys Werdd eisoes yn nyled Mynyw. Tybed a oes i hwn fath o genhadaeth arbennig a fydd yn foddion i hyrwyddo'r gwaith yn Erin hefyd?

"Pwy a ŵyr?" atebai'r abad. Y mae sefydliad y teulu gyda ni wedi bod y fendith fwyaf yn hanes yr Eglwys ym Mynyw. Diau y cysegrir y plentyn o'r groth, ac ni chaiff dim sefyll ar ffordd ei lwyddiant ymhob ystyr. Y mae y fam yn eithriadol o fucheddol ei bywyd, a'r tad yn bopeth y carem iddo fod. Ond y mae hi wedi cael nifer o arwyddion hynod fod i'r mab alwedigaeth uchel, ac y mae ei holl fryd ar iddo gael ei gymhwyso ar ei chyfer. Rhaid gofalu am athraw da iddo mewn pryd.' "I gychwyn, fodd bynnag," ebr y llall, ni raid iddo wrth neb gwell na'm cyfaill, Pawl. Yn y man, efallai, y gellir ei gael i orffen ei addysg o dan ofal yr enwog Peulin. Bydd ei fam a'r abades o dan eich llygad chwi yn ddigon am rai blynyddoedd. Ac wedi i chwi wneud a ellwch, rhaid iddo gael gorau Peulin wedyn." Tra'r ymddiddan hwn yn cael ei gynnal gan yr Esgob a Phawl, nid llai pwysig yr ymddiddan rhwng Sandde a Nonita, tra'r plentyn yn ymyl yn gwenu yn ei grud. Bellach y mae'r tad mor argyhoeddiadol â'r fam fod i'r plentyn alwad nefol, ac mai nid i wylio buddiannau'r ystâd y rhoddwyd ef, ond yr eiddo Teyrnas Dduw. "Caiff holl gyfoeth yr etifeddiaeth ei gysegru gydag ef i'r un amcan mawr. Mae angen am nawddogaeth ar Eglwys Crist, a bydd angen am yr adnoddau hyn er cario'r gwaith ymlaen." " Bydd," ebr y fam, ac aiff rhan o'r elw er ei gymhwyso at ei waith. Ni chadwn i ddim yn ôl, a wnawn ni, Sandde, os bydd angen y cyfoeth arno?" "Caiff bopeth, fy anwylyd, hyd eithaf ein gallu."

PENNOD XIV.
Y Merthyr Iwstyn.

GADAWSOM y gŵr hynod hwn â'i amgylchiadau wedi gwella trwy garedigrwydd mawr Sandde. Yn awr, ceisiwn ei ddilyn ychydig yn ei oruchwylion, ac wrth wneuthur hynny cawn cipdrem i ddirgelwch ei ddylanwad. Beth bynnag a ellir ddywedyd am Fadrig, a Dofwy, a seintiau eraill a adawsant enw da ar eu holau, nid oedd Iwstyn yn ôl i neb mewn santeiddrwydd ymarweddiad a dyfalwch. Tra Pawl yn llafurio ymhlith pobl oeddynt erbyn hyn yn wareiddiedig, a chanddo Sandde yn gefn ac eraill yn gyd-lafurwyr, am ysbaid bu Iwstyn yn ymladd ei frwydr ynghanol anwariaid heb neb o'r bobl gydag ef. Gwir y daethai cyfnewidiad graddol er gwell. Soniasom eisoes am ei dduwioldeb amlwg a'i dynerwch dihafal. Ar Ynys Ninian cafodd gyfle rhagorol i ddangos y naill a'r llall. Cymunai lawer â Natur, ac yr oedd gartref ymhlith anifeiliaid ac adar, ac o'r olaf nid oedd brinder ar dueddau gorllewinol yr ynys. A bregethai efe i'r adar, fel yr enwog Francis, yn ddiweddarach, ni wyddom, gan nad oes dim ar gôf a chadw i'r cyfeiriad hwnnw. Ond ymddiddanai â hwynt, a diau yr adwaenent ef yn dda. Wedi iddo gael gwell cyfleusterau a chwpl o gyd-weithwyr, ymroddodd fwy-fwy i geisio gwareiddio a chrefyddoli y boblogaeth gymysg, wyllt, ysgeler o'i ddeutu. Yn y Capel a godwyd iddo, cynhelid bellach y gwasanaeth gyhoeddus, ac yno y dysgid y plant y llwyddai i'w cael dan ei ofal. Yr oedd darn da o dir gorau'r ynys hefyd yn perthyn i'w Fynachdy bychan, ac ar hwn llafuriai ei hun, gyda Stephan ac Andreas, ac eraill hefyd a dueddant i wasgu at y disgyblion. Ond anodd oedd y gwaith, ac fel y llwyddid ar un llaw, codai rhwystrau ar y llaw arall. Yr oedd Iwstyn tra yn dyner iawn wrth y tlawd a'r helbulus, eto yn chwerw yn erbyn pechod, ac yn gredwr mawr mewn disgyblaeth pan fyddai raid. Yng nghanol môr-ladron ceisiai ddysgu gonestrwydd, ac yng nghanol creulondeb dynerwch. A chododd teimlad o ddicter ymhlith rhai o achos hyn. Pwy oedd hwn i ddysgu iddynt hwy y ffordd i ymddwyn, ac i ennill eu tamaid bara?

Ymhen gogledd-ddwyreiniol yr ynys trigai rhyw hanner dwsin o deuluoedd mewn cabanod gwael, a ffurfient fath o gymundeb bychan yn eu plith eu hunain. Yno yr oedd paganiaeth yn ddigymysg, ac ychydig, os dim, oedd dylanwad y mynach santaidd drostynt. Nid yn unig ar fôr-ladrad y dibynnai y rhai hyn am gynhaliaeth, ond caffent y gair o fod yn rhy chwannog i eiddo eu cymdogion ar yr ynys hefyd. Yr oedd iddynt fath ar bennaeth o'r enw Seli, o darddiad anhysbys,—dyn beiddgar, creulon. Ond mentrai Iwstyn i'w canol yn ddiofn, a thra yn eu plith cariai fath o ddylanwad per-lewygol drostynt. Er hyn, ymddangosai Seli mor galed â'r creigiau o'i ddeutu, ac at hynny yn sarrug. Un diwrnod, awgrymodd y mynach y carai i'r plant ei gyfarfod er mwyn eu gosod o dan addysgiant grefyddol, ac ar hynny torrodd Seli allan fel creadur cynddeiriog:"Fe ofalwn ni am ein plant," ebr efe yn sarrug, "ac fe geisiwn eu dysgu i fod o rhyw ddefnydd, ac nid i arwain bywyd segur, fel y mae arfer rhai." Prin y teimlodd y rhai a glywsant fod y gair garw hwn yn ei le, ac yn enwedig yr awgrym iselwael am seguryd y mynach. Oblegid gwyddai pawb, a neb yn well na Seli, am fywyd llafurus a hunan-aberthol Iwstyn. Ni chyfrôdd efe i'r graddau lleiaf; ac wrth graffu arno daeth rhyw dynerwch dros ei wedd a wnaeth i'w wyneb yntau ddisgleirio fel "wyneb angel."

"Nid mynd â gofal eich plant oddi arnoch ydyw fy amcan, frawd bach, ond ceisio eu cyfarwyddo a'u tywys yn ffordd y bywyd. Dyma fy ngalwedigaeth i, ac nid yw'r plant sydd dan fy ngofal yn ddim gwaeth o herwydd hynny at alwedigaethau cyffredin bywyd, os bydd y cyfryw yn rhai gonest." Daliodd Seli ar y gair "gonest," ac ar eiliad atebodd: "Ie, gonest, bid siwr. Be werth ydyw hogyn os bydd arno ofn ymladd am ysbail yn yr helfa, gonest neu anonest? A pha werth i geisio prog y môr' os yn cwestiyno a ydyw yn onest ai peidio?" Yn ystod yr ymddiddan poenus hwn, sylwasai'r mynach yn graff ar hogyn bychan yn ymyl y lle y dylasai fod drws y caban tlawd. Lledorweddai ar nifer o hen gadachau, a phan lefarai ei dad mor chwyrn ymddangosai i fod yn cael ei ddirdynnu, ac yr oedd arwydd poen ar ei wedd. Ond ni symudai na bys na llaw. Edrychai yn awyddus am gael llygad ei dad, ac yn sydyn trodd Seli y ffordd honno. Gwnaeth y bychan rhyw arwydd a ddygodd radd o dynerwch i'r wyneb garw. "Sôn am onest," ebr efe, "rhaid i rywun feddwl am damaid i blentyn fel hwn. Dyma un, beth bynnag, nad oes berygl iddo ddwyn eich da chwi na neb arall." Gwnaeth y bychan rhyw arwydd eto a fu'n foddion i ddiarfogi Seli yn lân, a chymaint a allodd ddywedyd oedd, "Wel, wel." Dyma gyfle Iwstyn, yr hwn a ofynnodd yn fwynaidd a charuaidd, A oes rhyw ddiffyg neu wall corfforol ar y bychan? Nid yw'n ymddangos yn gryf a gwisgi fel plentyn cyffredin." "Diffyg neu wall, ŵr da? Oes, ddigon; y mae wedi ei barlysu o'i ben i'w draed, ac wedi colli ei barabl." Tynnodd y geiriau leithter i lygaid y mynach ar unwaith, ac nid heb sylw'r tad, er chwerwed ei dymer. Aeth gryn dipyn o'r tân allan o'i lygaid pan welodd hyn. Tarawer dyn yn ei wyneb, ergyd o fil na thery yn ôl. Dangoser deigryn cydymdeimlad, odid fawr na thynera y galon, pa mor galed bynnag y bo. "Druan o'r plentyn," ebr Iwstyn; a chan roddi ei law ar ei ben, ychwanegodd: Y mae'r tad yn y nefoedd yn drugarog, fy mhlentyn, ac y mae Iesu Grist yn caru plant Ni ddywedodd Seli ddim, ond gellid meddwl ei fod yn cadw yn ddistaw trwy drafferth "Esgusodwch fi am ychydig," ebr y mynach ymhellach, "deuaf yn ôl, a cheir gweled a allaf helpu'r bachgen." Cododd y plentyn ddau lygad mawr disgwylgar i'w wyneb, a hawdd gweld fod y cwmni i gyd megis wedi ei syfrdanu. Aeth y mynach ymlaen i gwr eithaf yr ynys, a thrôdd yn ôl gyda'r lan orllewinol. Cerddodd nes dyfod at ogof mewn craig. Mynych y cyrchasai yno wrtho ei hun, a gallai'r ogof honno dystio i weddïau taerion ac i atebion rhyfedd. Syrthiodd ar ei liniau, ac â'i ddwylo a'i lygaid tua'r nef, dywedodd, "O, Dad trugarocaf, gwyddost Ti yr angen am i'th enw gogoneddus gael ei barchu ymhlith y trueiniaid tywyll hyn. Gwyddost gyflwr ac angen y bachgen tlawd, a'r fantais fyddai iddo gael iechyd a nerth corfforol. Pwy a ŵyr nad efe, wedi hyn, fydd un o'th genhadon i gyhoeddi'r anchwiliadwy olud ar yr ynys a thrwy'r wlad? Gogonedder Dy enw mawr, a chŵyd ben dy anheilyngaf was yn yr achos hwn. A geiriau cyffelyb y deisyfodd yn daer, tra dwy ffrwd yn rhedeg ar hyd ruddiau goleuedig. Wedi hyn ymestynnodd ar ei hyd ar waelod yr ogof, ac yn yr ystum honno y bu am gryn amser, â'i ocheneidiau a'i ruddfannau yn llanw y lle.

Yna dychwelodd at y bwthyn. Pe gallai un ddychmygu yr olwg ar y Gwaredwr wrth ddisgyn o'r mynydd wedi noson o gymdeithas â'i Dad, gallai hefyd, i raddau, ddychmygu yr olwg ar Iwstyn wrth neshau at y caban tlawd. Diflanasai'r llid o wyneb y tad, a chasglasai nifer i'r lle gan fod y sôn wedi ymdaenu am ymweliad y mynach. Da i'r bachgen fod y nefoedd wedi diogelu iddo ei glyw, oblegid bu'r ychydig eiriau a glybu yn gysur annisgrifiol iddo. Llawer a ddymunodd am gael ei hun fel plant eraill yn chwarae ar hyd yr ynys, ac yn ymddifyrru ar lan y môr ac yn ei ddyfroedd, pan fyddai hynny yn bosibl. Ond yr oedd bellach wedi cynefino â'i gyflwr a gobaith wedi marw yn ei fynwes. Ond wele rhyw belydryn o oleuni dieithr na chawsai ei fath o'r blaen, a goleuodd ei wyneb pan, unwaith eto, y safodd Iwstyn yn ei ymyl. Edrychai y gwyddfodolion hefyd i'w lygaid gyda math o syndod a hyder. Yr unig un a edrychai yn syn ar y llawr oedd Seli. Ymddangosai efe fel pe byddai arno gywilydd o'i ymddygiad blaenorol; ac yn wir, erbyn hyn, yr oedd. Am y fam, edrychai hi yn bryderus a disgwylgar, ac megis yn barod i syrthio ar ei gliniau.

Wedi aros ychydig yn ddistaw â'i lygaid yn graff ar y bachgen, gofynnodd y mynach i'r tad: "Beth y gelwir y bachgen?" "Uthr yw ei enw," atebodd yntau. Yr oedd llygaid y bychan erbyn hyn fel dwy seren loyw yn ei ben, ac wedi ymsefydlu ar y mynach, ac fel pe byddai'r dagrau ar eu ffordd i'w llanw. Cododd Iwstyn lygaid erfyniol tua'r nef, tra pawb ar lewygu rhwng braw a disgwyliad. "O, Dad!" meddai, "gogonedda Dy enw, a gwna dy annheilyngaf was yn fendith i'r bachgen tlawd a dinerth." Yna trôdd at yr hogyn Uthr bach, a allet ti estyn allan dy law, dybiet ti?" Edrychai'r bychan yn rhy ddychrynedig i ddim. Bydded gennyt ffydd fy mychan anffodus; cred fod Iesu Grist yn mynd i dy wella. Ceisia estyn dy law er mwyn i mi dy helpu." Yn sydyn, gwnaeth yr hogyn ymdrech, ac er syndod iddo ei hun a dychryn i bawb, estynnodd allan ei fraich. Ymaflodd Iwstyn ynddi, gan ddywedyd: "Yn awr, Uthr bach, yn enw Iesu Grist, cyfod ar dy draed." Ger fydd ei law helpodd y bachgen i godi ar ei draed. Cerdda oddeutu," ebr ef ymhellach, ac fe wnaeth hynny hefyd. Yr oedd llonder annisgrifiol ar wedd y bachgen, ond ar bob wyneb arall arwyddion ofn a dychryn. Syrthiodd y fam wrth draed y mynach, gan eu cusanu. Syrthiodd y tad hefyd ar ei liniau, a chyda dagrau mewn llygaid pur anghyfarwydd â dim o'r fath, llefodd: "O, ŵr Duw! maddeuant, maddeuant!! " Gan y Nef y mae maddau. Cyd-ddiolchwn i'r Tad," a chan syrthio ar ei liniau, diolchodd drosto ei hun a thros y bachgen a'r teulu. Yna trôdd at y bachgen, gan ddywedyd: "I wasanaeth y Nef y'th wellhawyd di, fy nghyfaill bach. Aros am ronyn bach gyda'th rieni, ac yna tyred i'm gweled i." Cododd y fam gwr ei fantell at ei gwefus, a thrôdd yntau adref.

PENNOD XV.
Y Merthyr Iwstyn (parhad).

RHEDODD yr amser yn gyflym ar Ynys Ninian fel ym mhobman, ac am amser bu'r weithred ar y bachgen anffodus Uthr yr unig destun siarad. Cynhyddodd dylanwad Iwstyn yn fawr mewn canlyniad, a haws fu iddo ef a'i gydweithwyr ddwyn ymlaen eu gwaith. Ond rhyfedd mor fuan y cymedrolir y dylanwad daionus cryfaf! Ni fu gwyrthiau hynod yr Arglwydd Iesu yn foddion i'w gadw o'r groes; yn wir, mewn ystyr, buont yn foddion i'w ddwyn iddi. Ac er rhagored gwasanaeth Iwstyn ymhlith yr ynyswyr, byr oedd eu côf hwythau ar y gorau. Deuai rhai ohonynt o hyd i rhyw achos cŵyn yn bur fynych, ond er hynny llenwid ei addoldy bychan â gwrandawyr ar ei genadwri. Cyn hir ar ôl ei iachad anfonodd y rhieni y bachgen Uthr i ofal Iwstyn ac i fyw gydag ef yn y Mynachdy. A rhyfedd y datblygiad yn ei feddwl mewn ychydig iawn o amser. Ymddangosai i wneuthur i fyny am y blynyddoedd a gollasai megis yn wyrthiol. Tyfodd yn llanc cryf o gorffolaeth, ac yfai wybodaeth yn awchus a chyflym. Ond bu ei ddatblygiad mewn cymeriad yn fwy na'r ddau. Oherwydd yr hyn a ddigwyddasai, edrychai'r bobl arno gyda gradd o ofn, a disgwylient bethau mawr oddi wrtho. Parchent ef yn ddwfn; o leiaf, y mwyafrif mawr ohonynt; a chyn ei fod yn bymtheg oed dechreuodd dystiolaethu fel cennad Crist. Llawenydd digymysg i Iwstyn oedd hyn, a dechreuodd feddwl y deuai'r amser yn fuan i'w roddi o dan addysgiant rhywun galluocach nag ef ei hun. Daethai rhyw sôn fod Peulin, dysgawdwr pennaf y dydd, ar ôl cyfnod yn y Werddon ac arall yn Ffrainc, yn debyg o ymsefydlu ym Mynyw. Dyma un o'r rhagorfreintiau a ddeuent yn ôl traed Sandde fawr a da. Ar awgrym Nonita, bwriedid codi Lleiandy newydd a mwy yn nes at y Mynachdy, a throi yr hen un yn Athrofa Ddiwinyddol, a galw Peulin i fod yn athraw. Clywsai Iwstyn am hyn oll, ac edrychai ymlaen am gyfleustra i'w ddisgybl hynod. Ychydig a feddyliai y gŵr da am yr helbulon a'r treialon yr oedd ef ei hun i'w hwynebu cyn y deuai hynny i ben.

Onibai ei fod fel plentyn o ddiniwed a di-feddwl- ddrwg, gallasai fod wedi sylwi fod ei ofal mawr am Uthr, a'r hyn a edrychai fel pleidgarwch, yn dechrau creu cenfigen, beth bynnag am falais. Ymhlith y gweithwyr o gylch y lle yr oedd dyn o'r enw Esca; dyn a broffesai grefydd, ond na wyddai ddim am ei grym hi. Nid oedd y mynach yn ddrwg-dybus neu gallasai fod wedi sylwi nad oedd buchedd hwn yn deilwng, na'i ymddygiad ato ei hun mor foesgar ag y dylasai fod. Hefyd gwnai bopeth a allai i rwystro llwyddiant Uthr, a llawer o ddirmyg a ddioddefodd y llanc yn ddistaw. Mwy, yn ddiau, am fod ganddo hogyn di-dalent a di-gynnydd ei hun, yr hwn a gawsai bob help gan y mynach, hyd eithaf ei allu i dderbyn. Gwyddai'r tad hyn o'r gorau. Yr oedd i Esca gydweithiwr, uwch ei safle nag ef, ynglyn â gwasanaeth y Mynachdy, ond o'r un anianawd. Gweithio ar y tir ac yn yr ardd a wnai Esca, ond yr oedd gofal y lle yn allanol ar Brendon, ei gyfaill; a gweinyddai yn fynych ar berson y mynach. Darparai eu lluniaeth yn achlysurol i'r mynachod ac eraill Un noson dywyll, tra'r ddau dan yr argraff fod Iwstyn mewn rhan arall o'r ynys ynghylch gorchwyl neilltuol, rhoisant ffrwyn i'w teimladau chwerw a digofus, heb fawr feddwl mai eistedd ar fainc arw ynghwr yr ardd a wnai'r mynach. Y peth cyntaf a glywodd oedd ei enw ei hun. Dylid dweud, efallai, mai un o'r rhai olaf yn y byd fyddai Iwstyn i glustfeinio yn ddrwg-dybus ar ymddiddanion y rhai o'i ddeutu nac i ddychmygu drwg o fath yn y byd. Ond ni allai helpu clywed ei enw, ac yn naturiol gwrandawodd ymhellach. "O," ebr Esca, "mae'n ddigon tebyg mai galw ar Seli a'i deulu y mae. Y mae'n treulio mwy o amser gyda'r rheiny yn ddiweddar na'u gwerth, er fod Seli yn proffesu pethau mawr.' "Ie," ebr y llall, a'i wraig bethau mwy. Chwarddodd Esca, ond nid yn uchel. "Rhyfedd fel y mae'r teulu lladronllyd hwnnw wedi diwygio er pan iachâwyd y bachgen, ac am y bachgen ei hun, y mae'n rhy benuchel o lawer," ebe Brendon ymhellach. "O, yr wyt tithau wedi dal ar hynny? Wel, y mae'n anodd peidio. Y mae Iwstyn wedi gwirioni arno, ac ni chlywir yn awr ond Uthr hyn, ac Uthr arall, fel pe na byddai fy machgen i ac eraill yn dda i ddim." Bu distawrwydd am ennyd, tra'r mynach yn amau tystiolaeth ei synhwyrau ac yn ceisio dyfalu beth i'w wneuthur. "A glywaist ti fod ein meistr am roddi cwrs o addysg iddo i'w baratoi ar gyfer y weinidogaeth?" ebr Esca eto. "Y mae son fod rhyw ŵr mawr i ddyfod i'r ardal fel dysgawdwr, ac fod Uthr i fod yn un o'i ddisgyblion." Ar hyn aeth y siarad yn rhy ddistaw i'r mynach ei ddilyn, ond clywodd y gair" lladrata," ac wedi hynny: "fe gytunwn ein dau i roddi'r bai ar Uthr." Yna tawelwch drachefn, a bu agos i'r mynach ruthro i'r lle o'r hwn y deuai'r lleisiau. Ond deallodd fod y ddau wedi mynd bob un i'w ffordd ei hun, a deallodd fod pydredd wedi dechrau yng nghalon y ddiadell. Beth oedd orau i'w wneuthur? Ai siarad ar unwaith â'r dynion dichell-ddrwg ac atal eu hanfadwaith, ynte aros am gyfleustra arbennig? Ond ni chafodd aros yn hir, ac yn y cyfamser gwresogai ei galon at y bachgen diniwed: math o Joseph arall, y cynllunid ei frâd. Penderfynodd frysio i gwblhau ei gynlluniau ynglŷn â'i addysg.

Bore drannoeth, ar ôl boreufwyd, daliodd bachgen yn ôl, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le: A ydyw dy ddymuniad yn dal, fy machgen i, am gael rhan yn y weinidogaeth santaidd, fel y buom yn siarad? Mae'n bryd i ni drefnu os wyt yn benderfynol." "Y mae fy awydd yn fwy nag erioed, barchus abad, i gyhoeddi Crist yn Geidwad. Onid Efe, trwoch chwi, a roddodd i mi iachâd? Iachâd corff i ddechrau, ac wedi hynny iachâd i fy enaid. Os bernwch chwi fi yn deilwng âf o dan unrhyw ddisgyblaeth a dybiwch chwi yn orau." "Cei fynd, fy mab, o dan ofal Peulin, i Fynyw, mor gynted ag y gallaf drefnu. Gad y peth yn fy llaw i." A dyna a fu. Aeth ati i drefnu a gwyddai pa le i droi am gymorth angenrheidiol. Gwnaed pob trefniadau fel yr oedd gorau yn ddiymdroi. Ond cyn i'r llanc adael yr ynys, dyma'r hyn a ddisgwyliai Iwstyn yn ddistaw yn cymryd lle.

Un bore, wedi'r boreufwyd a'r Gweddïau, wele Brendon yn ymddangos o flaen ei feistr. I lygad craff y mynach,. wedi ei ragbaratoi, ymddangosai'r dyn yn euog a rhagrithiol. Sylwodd hefyd fod Esca yn sefyll gerllaw, megis yn barod at alwad os byddai raid.

"Wel, Brendon, beth sydd yn bod? A oes arnat eisiau fy ngweled ar rhyw fater? Os oes, paid ymdroi; y mae'r amser yn dra gwerthfawr." Iddo ef yr oedd pob eiliad o bwys mawr. "Y mae'n ddrwg gennyf ddywedyd, fy meistr, ein bod yn colli pethau perthynol i chwi oddeutu'r lle yma. Dro bach yn ôl collasom ddafad o blith y praidd. Neithiwr drachefn collasom gwpl o'r da pluog." "Rhyfedd iawn!" ebr Iwstyn, gan geisio dangos mesur mawr o syndod. "A oes gennych rhyw gyfrif i'w roddi am hyn? Ai llwynog a gymerodd yr ieir, a rhyw fwystfil rheibus y ddafad?" Buom yn meddwl hynny ein hunain," ebr y dyn drwg, rhagrithiol, gan geisio edrych yn rhinweddol. "Ond bellach gwyddom yn amgenach. Fe wyddoch gymeriad Seli a'i deulu yn y peth hwn. Cymerant arnynt fod yn well; ond rhagrith yw." "Yn araf, Brendon, peth difrifol ydyw cyhuddo aelodau o Eglwys Crist o ddrwg fel hwn." "Ie," ebr y llall, gan edrych tua'r llawr, " ond nid y rhieni yn yr achos hwn yn gymaint â'r bachgen. Cymerodd y mynach arno wylltio:

"Beth!" ebr efe, "y bachgen annwyl Uthr! Amhosibl! " Ar hyn amneidiodd Brendon ar Esca i ddynesu, yr hwn a edrychai mor euog a phe wedi ei ddal ei hun wrth y gwaith. "Arhoswch funud. Y mae cymeriad a dyfodol fy mab annwyl yn yr Efengyl yn y cwestiwn." Galwodd am y bachgen, a dylasai'r olwg arno, gyda'i wyneb glân, merchedaidd, llawn gonestrwydd, fod wedi taro y ddau â mudandod.

Fy mab, y mae gan y ddau ddyn yma rywbeth i'w ddywedyd ag sydd o ddiddordeb iti. Yr wyf am iti glywed eu stori. Yn awr (gan edrych yn eu llygaid), pa beth sydd gennych i'w adrodd? "Ein bod yn colli eich eiddo, meistr, o gylch y lle yma, ac mai Uthr sydd yn ei gymryd i'w gartref." "A glywi di, Uthr bach, yr hyn a ddywedir? Edrychai'r bachgen yn syn; nid yn ofnus, ond fel un yn methu â deall. Paid ofni dim, fy mab annwyl, fe wnawn bethau yn glir. A welsoch chwi ef yn lladrata o'm heiddo? Do," ebe Brendon, gan droi at ei gydwas. "Do, ein dau," ebr hwnnw eilwaith.

"Nodwch yr awr. Bydd yn help i ni. Ac ymhellach, beth aeth ar goll? Collwyd gafr a dafad dro yn ôl; a bore ddoe, am bump o'r gloch, gwelsom ef yn cymryd dwy o'r ieir," Yn awr, dyna rywbeth. Elli di gofio, Uthr, fy mab, ple yr oeddyn bore ddoe am bump o'r gloch?

"Gyda'n gilydd yn gweddïo, fy meistr." Dyna'r gwir; gyda'n gilydd yn foreuach nag arfer, mewn defosiwn santaidd, gan fod gennym i groesi i Fynyw. Digon gwir; ac wele ddau o gau-dystion; digon tebyg y lladron eu hunain, os bu lladrad. Ond yn ddi-gwestiwn yn gelwyddwyr ac enllibwyr o dan rith o grefydd. Ac er mwyn gorffen gyda'r mater annheilwng hwn: Pa le yr oeddych ill dau y noson a'r noson, a'r awr benodol?" Edrychasant ar ei gilydd braidd yn gyffrous. "Yr oeddwn i," ebr Esca, "gartref gyda fy nheulu." "A minnau," ebr y llall, "wedi mynd i orffwys yn gynnar. Gwylltiodd gŵr Duw yn aruthr at y gwyneb-galedwch hwn, a fynnai ychwanegu anwiredd at anghyfiawnder. Gwrandewch, feibion y fall. Oni chlywais chwi yn siarad o dan lenni'r nos, ac yn dyfeisio eich cynllun bradwrus i ddrygu'r llanc? Clywais ddigon o'r sgwrs i bob pwrpas. Ac yn awr, i ffwrdd â chwi oddi ar y tir a berthyn i'r lle hwn, ac o'm gwasanaeth innau. Ac na ryfygwch ddyfod i Gymdeithas y Saint hyd nes i'ch achos gael ei drin yn fanwl."

Llusgodd y ddau ddyn drwg i ffwrdd, ond yr oedd dial yn eu llygaid. Gwelodd y bachgen hyn ac ofnodd. "Fy meistr," ebr efe yn grynedig, "Y mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi achosi gofid i chwi, ac efallai, berygl hefyd." "Popeth yn dda, fy mab; yr ydym yn llaw Duw."

Ond profodd hyn yn ddechrau y diwedd i Iwstyn dduwiol a gweithgar. Paganiaid oedd y ddau ddyn, ond wedi cael eu swyno gan gyfaredd bywyd y mynach, ac wedi gweithio eu hunain i'w ffafr. Ond nid oedd gras Duw wedi cael gafael arnynt, ac yr oedd creulondeb yn beth cynefin iddynt. Clywsai Seli yn achlysurol am eu bwriad i ddial; ac un noson bur dywyll, tra'r mynach yn gadael ei dŷ, dywedodd: "Deuaf i'ch anfon, ŵr Duw; yr wyf braidd yn anesmwyth yn eich cylch." Yr oedd llawer o'r "hen ddyn" ynddo yntau hyd yn hyn. Nid oes achos, fy nghyfaill," ebr Iwstyn. Ond mynd a wnaeth. A phan oeddynt gerllaw y Mynachdy bychan, rhuthrwyd arnynt, a'r peth cyntaf a glywodd Seli oedd sŵn y mynach yn syrthio, a chyn pen eiliad yr oedd bwyell Esca wedi ysgaru ei ben oddi wrth ei gorff. Ond gŵr ysgeler oedd Seli ar ôl ei gyffroi, ac erbyn hyn yr oedd yn hanner addoli Iwstyn. Lloriodd Brendon ag un ergyd, a chyn fod Esca ond yn brin wedi cyflawni ei anfadwaith yr oedd yntau yn gelain wrth ei draed. Ac yn ei gynddaredd gwnaeth â Brendon yr hyn a wnaethai Esca â gŵr Duw. Noson ryfedd fu hon! Ond amser rhyfedd oedd ar fyd. Ond yn rhyfeddach na dim, tra Seli yn methu symud o'r fan wedi'r gyflafan arswydus, wele gorff di-ben y mynach yn codi ar ei draed, a chan gymryd ei ben yn ei ddwylo ei hun, cerddodd i lawr i lan ddwyreiniol yr ynys. Digwyddodd Garth fod yr ochr arall i'r sianel ar y pryd, ar ei ffordd adref, a dyma'r olygfa a gafodd: y mynach yn cario ei ben ei hun, gan ei osod i lawr ar lecyn gwastad ger yr angorfa.

PENNOD XVI.
"A'r Bachgen a gynhyddodd."

AWN yn ôl i'r ynys am funud neu ddwy. Pan welodd Seli gorff di-ben y mynach yn gwneuthur am y sianel, â'i ben yn ei ddwylo, yr oedd fel pe wedi ei blannu yn y ddaear. Ni allai ymsymud. Rhedai ei waed yn oer yn ei wythiennau, ac am- heuai gywirdeb ei synhwyrau. Ond daeth ato ei hun, a chafodd ei hun yn crynu fel deilen o'i ben i'w draed. Seli fel hyn! Bu adeg pan nad ystyriai gymryd bywyd cyd-ddyn yn fwy na'r eiddo gwybedyn. Ond Iwstyn, ei gymwynaswr, wedi ei ladd ac wedi cerdded i ffwrdd, os nad oedd ei lygaid yn ei dwyllo. Goleuodd ffagl, ac yna wrth ei draed gwelai'r ddwy gelain am ba rai yr oedd efe yn gyfrifol. Beth a wnai? Temtiwyd ef i droi adref eu gadael i'w tynged, a pheidio dywedyd dim. Ond tywynasai golau'r Efengyl ar ei enaid, ac er iddo yn ei gynddaredd ladd dau ddyn, eto daeth rhyw deimlad drosto â'i hataliodd i fod yn llwfryn na rhagrithiwr. Yr oedd tynged y mynach yn y cwestiwn a dyfodol ei fachgen ei hun.

Curodd wrth ddrws y Mynachdy, a daeth Andreas i'r drws. Erbyn hyn croesasai Uthr i Fynyw, i fod o dan ofal Pawl am gyfnod; ond yr oedd Stephan ac Andreas yn aros. Dywedodd Seli ei stori heb geli dim. Galwyd Stephan atynt, ac ynghyd aethant i'r llecyn cofiadwy. Goleuwyd ffagl arall. Ond, ple y mae corff ein hannwyl dad yng Nghrist?" gofynnai Stephan. Dywedodd Seli yr hyn a welodd, a chroesodd y ddau fynach eu hunain. Fy hen feistr annwyl," ebe Stephan, " hynod yn dy fywyd a hynod yn dy farwolaeth. Gwyn dy fyd! Cynorthwya ni (gan gyfarch Seli) i roddi'r ddau gorff hyn dan gysgod hyd y bore. Yna trefna i'w claddu mewn rhyw gongl anghysegredig o'r ynys—llofruddion ŷnt." A dyna a fu: claddedigaeth asyn a gawsant. Mawr oedd y cyffro yn y Mynachdy pan gyrhaeddodd Garth â'i stori ryfedd. Tybiodd Pawl fod pall ar ei synhwyrau, ond wedi peth petruster, bodlonodd i gymryd ei arwain i'r lle o dan lenni'r nos. Pan ddaethant yn agos i'r fan gwelent olau dieithriol yn chware ychydig uwchlaw'r ddaear. Tybiasant i ddechrau mai adlewyrchiad golau cwch o'r sianel allai fod; ond erbyn cyrraedd i'r fan, gwelsant mai uwchben corff y sant rhyfedd Iwstyn yr oedd. Yno y gorweddai, â'i ben fyth yn ei ddwylo, ond yn gorffwys ar ei fynwes. "O! fy mrawd!" ebe Pawl, gan dywallt cawod o ddagrau: "un o fil a fuost yn dy fywyd, ac fel hyn y gogoneddaist Dduw yn dy farwolaeth. Ni allwn ddim heno ond ei orchuddio," ebr efe ymhellach, "ond yfory dygwn arch a chladdwn ef gyda pharch ar y llecyn lle y gorwedd." Gwnaed felly. Rhoddwyd ei ben ar ei gorff, a dywaid traddodiad iddo gydio heb drafferth, fel na ellid dywedyd i ddim o'i le ddigwydd. Trodd llawer allan i'w angladd—pawb a allai o'r ynys, a lliaws mawr o'r cylch. Canwyd ac wylwyd wrth ei osod yn y gweryd. Ymgrymwyd gan gannoedd i gusanu man fechan ei fedd." Codwyd colofn uwch y fan, ac ymhen amser Gapel, adfeilion pa un a safant ar y llecyn hyd y dydd hwn.

Ond bellach, beth am aer Carnedd-y-Derwydd? Yr ateb cyffredinol ydyw'r teitl uwchben y bennod hon: "A'r bachgen a gynhyddodd." Cafodd, wrth gwrs, bob gofal i ddechrau, ac addysgiant ar yr aelwyd. Yn y Garnedd yr oedd calon Nonita, ac yma felly y treulient bron y cwbl o'u hamser. Addawent iddynt eu hunain, yn nes ymlaen, allu treulio mwy o amser yng Ngwynfor a Chaer Cawch. Yn y cyntaf yr oedd sefydliad mynachaidd a godai fwy-fwy i fri, yn bennaf trwy nawdd a chynhorthwy Sandde. Ond Mynyw oedd cartref Nonita, gan mai yma y gwelodd Dduw ac y ganed ei bachgen. Cymerai gyfrolau i adrodd ei gofal hi, a Sandde, a Gwenhwyfar am addysgiant Dofwy yn ei flynyddoedd cyntaf. Ond rywfodd, ymddangosai megis yn wyrthiol i ddeall mwy na'i holl athrawon. Ac yn y man daeth i ofal Pawl, yr hwn a ystyrrid yn ysgolor gwych. Ond cyn hir daeth yntau i deimlo fod ei allu yn rhy fach i gyfarfod â gwanc y bachgen am wybodaeth. Tyfai yn gorffolaeth hardd-delw ei fam. Ac yr oedd fel pe na chyffyrddasai'r pechod gwreiddiol ag ef o gwbl. Yr oedd lledneisrwydd a duwioldeb yn naturiol iddo.

Soniasom y trowyd y Lleiandy cyntaf yn athrofa at wasanaeth y dyfnddysg Peulin—prif athraw ei ddydd. Eisoes yr oedd ganddo amryw ddisgyblion o dan ei ofal, ac yn eu plith Uthr, fab Seli, a mab ysbrydol Iwstyn. Erbyn hyn cerddasai Dofwy yn ddyddiol i'r Mynachdy am gyfnod, ac erbyn ei fod tua deuddeg oed teimlai Pawl bron arswyd ei gyfarfod. Felly, un hwyrddydd têg o ddiweddar Wanwyn, tra y tywynnai'r haul melyn cyn machludo ar lecyn cysegredig beddrod Iwstyn, gellid gweled Pawl yn cerdded yn fyfyrgar i gyfeiriad Carnedd-y-Derwydd. Anodd ymsymud gan brydferthwch y golygfeydd, a mynych y troai'n ôl i dremio i'r cyfeiriad yma ac acw. Yn gynnar ym Mehefin gorchuddid llawer maes â gwair bron parod i'r bladur, ac aml i faes o ŷd gwyrddlas a welid ym mhob cyfeiriad. Gwelai Sandde fod yn anodd gan Bawl droi i mewn, ac aeth allan i'w gyfarfod. Os carech gael golwg ar y wlad cyn i'r nos amgau amdani, dewch i ben y tŵr. Cewch yno olwg ar ddarn mawr o'r wlad, a rhannau helaeth o'r môr.

I fyny yr aed, a chyn hir ymunodd Nonita a Dofwy â hwynt. "Ydyw," ebr y mynach, "y mae'r wlad yn werth ei gweled yn ei haml weddau o fendith yr Iôr. Ond credaf mai nid dyma brif destun syndod a diolchgarwch, ond y trawsnewidiad ym mywyd y bobl y cynnydd mewn moes a chrefydd. Y mae hwn yn golygu hefyd welliannau i gyfeiriadau eraill. Beth pe gwelai Padrig y lle heddiw! Ac yn wir, Iwstyn a alwyd mor ddiweddar oddi wrth ei waith. Nid oes ond rhyw dair blynedd ar ddeg er pan yr ymsefydlasoch chwi yma, ac yn sicr bendith i ni fu eich dyfodiad, a chwi a welwch drosoch eich hun yr hyn a wnaeth Duw." "Digon gwir," ebe Sandde, yn synfyfyriol. Yna ychwanegodd y mynach; "Y mae yma ddigon o baganiaeth eto, ond bu bendith Duw ar ein llafur." Ac ar ein gweddïau," sibrydai Nonita yn wylaidd.

Erbyn hyn tynnai yr haul at y gorwel, â gosgordd- lu o gymylau melynliw o'i gylch, a phan godai ei ben weithiau gwenai yn rasusol ar yr hen Garn a'i chylchyniadau. Ac ar y foment taflai gusan olaf dydd ar yr Athrofa fechan. Atgofiodd hyn Pawl o'i neges: Hyfryd yw edrych ar ein hetifeddiaeth Eglwysig, eich arglwyddiaeth, ac y mae ein diolch i chwi o dan Dduw yn fawr iawn." Peidiwch â sôn; peidiwch â sôn; braint ydyw cael helpu Teyrnas Dduw yn ei blaen. Y mae llawer wedi ei gyflawni, ond meddyliwch er hynny am gyflwr ein gwlad ben-bwy-gilydd. Paratowr y ffordd a fu Padrig dda ac eraill, un yma ac un acw. Y mae ôl eich llafur chwithau, fy nghyfaill, yn amlwg, a'r eiddo Gwenhwyfar a'r rhai sydd yn eich cynorthwyo. Y mae ugain mlynedd wedi gwneuthur gwahaniaeth mawr yn yr ardal hon. Meddyliwch fel y nodasoch am gynhaeaf y merthyr Iwstyn ar Ynys Ninian; ac yn enwedig am ganlyniadau ei farwolaeth hynod. 'Gwaed y merthyron yw hâd yr Eglwys.' Er hyn i gyd, dechrau y gwaith ym Mhrydain yr ŷm."

Tra'r ymddiddan hwn yn mynd ymlaen, eisteddai Dofwy yn ymyl ei fam â'i benelin ar ei harffed, â'i law o dan ei ben. Ni thynnai ei lygaid mawr gleision oddi ar y siaradwyr, ac ymddangosai i fod mewn myfyrdod dwfn a dwys.

"I ddyfod at fater fy ymweliad," ebe Pawl, o'r diwedd, ac ni wnaiff niwed yn y byd i Ddofwy glywed; yn wir, fe wna les. Yr wyf wedi gwneuthur fy ngorau iddo, ac yn teimlo na allaf wneuthur fawr yn rhagor. Mae ei awch am wybodaeth yn fawr; eisoes y mae'r Credoau i gyd ar ei gôf, ac yn ei galon hefyd, mi gredaf. Y mae ganddo syniad cyffredinol da am gynnwys yr Ysgrythur Lân. Nid yw yn anhysbys chwaith o weithiau'r prif Dadau Apostolaidd. Ond y mae, fel mab Sacharias ac Elisabeth, wedi ei alw, mi gredaf, i waith mawr, a rhaid iddo gael pob paratoad sydd yn bosibl." A chan droi at Ddofwy, aeth rhagddo: Mae'n sicr, fy mab, fel nad wyf wedi peidio eich atgofio, dro ar ôl tro, fod galwedigaeth uchel i chwi, a rhaid yw wrth baratoad mawr, deall ac ysbryd." "Yr ydych wedi penderfynu beth sydd orau, wrth gwrs, ebr y tad. "Nid oes gennyf amheuaeth nad tymor wrth draed yr athraw enwog Peulin fyddai'r gorau; a byddai hynny yn hafal i'r hyn a gafodd Saul o Tarsus wrth draed Gamaliel. Mwy na hynny, yn debyg i'r hyn a ddysgodd ymhellach wrth draed y Gwaredwr ei Hun." Hawdd gweled fod Pawl wedi ei danio at ei bwnc, ac yn cael ei gario i eithafion. "Dan ofal Peulin caiff fynd ynteu, onide, fy anwylyd?" gan droi at Nonita. "Ar bob cyfrif; ac y mae Dofwy yn dymuno hynny, gan fod ei athraw rhagorol presennol yn meddwl mai dyna sydd orau. Dyma dy ddymuniad, onide, fy mab?" "Fy mam, ebr yntau, gan droi arni ddau lygad mawr, meddylgar, "yr wyf yn eich dwylo chwi, fy rhieni, a Phawl yn hollol."

Bellach nid oedd yn aros ond trefnu'r manylion. Nid oedd fesur ar edmygedd yr abad o Beulin, ac nid heb achos. Gwnaethai enw iddo ei hun fel athraw trwy'r holl eglwysi; ac eisoes llafuriasai mewn rhan yn yr Ynys Werdd a Ffrainc. Casglai o'i ddeutu ddynion ieuainc awyddus i waith, ac yr oedd ei ddylanwad yn rhyfedd arnynt, ben a chalon. Ar wahan i'r enw a enillodd fel athraw Dofwy, a ddaeth i gymaint o fri, bu ei wasanaeth i Gristionogaeth ei ddydd, ac wedi hynny, yn amhrisiadwy. Perygl Eglwysi ydyw i'r sêl genhadol oeri, yn enwedig pan gynhydda gwybodaeth. Daeth hyn i'r golwg yn amlwg yn y canol-oesoedd. Ond yr oedd i Beulin oleuni a gwres, a llwyddai i gyfrannu'r naill a'r llall i'r disgyblion o dan ei ofal.

PENNOD XVII.
Gwisgo'r Arfogaeth.

HAWDD fyddai ysgrifennu penodau am y cyfnod y bu Dofwy o dan ofal Peulin; efe, ac eraill a ddaethant i fri mawr. Ond efallai, wedi'r cyfan, mai nid yr hyn a wnaeth yr athro fu prif ran y paratoad. Fel treiglai amser, gwelid yn eglur fod rhywbeth ymhell o'r cyffredin yn y llanc, yn ei bresennol, ac yn sicr i fod yn ei ddyfodol. Bron na chrëai arswyd ar brydiau yn yr Athrofa ac yn ei gartref. Megis ei fam o'i flaen, daeth iddo "weledigaethau'r Arglwydd," un ar ôl un, ac ymgollai mewn dydd-freuddwydion yn awr ac eilwaith. Ar adegau felly, teimlai y rhai agosaf ato fod pellter rhyngddo â hwynt. Ei brif gymdeithion yn yr Athrofa oedd Uthr, ac un arall anhysbys ei hanes, o'r enw Denys. Ond daeth Uthr ac yntau fel dau frawd, a rhagorent yn fawr fel ysgolheigion. Yr oedd Uthr rai blynyddoedd yn hŷn nag ef, ond er yn gyflym ei feddwl ac ysbrydol ei anianawd, ni allai ddilyn Dofwy ar hyd lwybrau dysg. Yr oedd Denys yn fwy cyffredin ei alluoedd, ond yn fachgen diniwed a llawn o asbri. Hawdd oedd gweled os na ddeuai i enwogrwydd mawr y troai allan yn ddefnyddiol. Fel y cerddai'r blynyddoedd, aeth y cyfeillgarwch rhwng y tri yn ddwfn; ac os oedd yr eiddo Uthr a Dofwy dipyn yn eithriadol, yr oedd hynny am fod iddynt gymaint o bethau yn gyffredin. Fel y deuent yn fwy o feistri ar eu gwaith, caffent fwy o ryddid i fynd oddeutu, ac yr oedd Peulin yn gredwr mawr mewn awyr iach ac ymarferiad corfforol. Mynych y gwelid y ddau yn dringo fraich ym mraich lethrau hen Garn Fadrig, ac fel yr oedd tymor addysgiant yn tynnu tua'r terfyn, gwelid hwy ynghyd fwy a mwy, fel math o Ddafydd a Jonathan. Cerddent ar brydiau ar hyd flaenau traed y Garn, lle y gwylient ddyfodiad a mynediad y don, nes ymgolli mewn sgwrs am yr hyn oedd, a fu, ac a ddeuai. Un hwyrddydd hyfryd, eisteddent ar ben y Garn, tra'r awyr yn glir. Dywed, fy nghyfaill Uthr, dipyn o hanes dy hen feistr unwaith eto." Buasent wrth draed y Garn yn gynharach, ond yn awr eisteddent ar ei chopa. "A weli di," ebr Uthr, "fath o lwybr yn arwain at gefn Ynys Ninian, ac yn ymgolli ar ei hochr orllewinol?" "Gwelaf, yn eglur." Wel, ymlaen y ffordd acw, gwaith rhyw dair munud o gerdded, y mae ogof yn y graig. I honno cyrchai Iwstyn i weddïo, ac oddiyno y daeth y dydd y'm hiachaodd. Daeth yn ôl â rhyw olau rhyfedd yn llewyrchu ar ei wyneb, a gofynnodd i mi estyn allan fy llaw. Tybiais ei fod yn ynfydu. Ond pan ofynnodd eilwaith, mentrais gynnig, a rhyfedd iawn cefais nerth i wneud hynny.' Fe ddylit feddwl llawer o dy gorff iach ar ôl y fath wyrth. Ac, yn wir, ti a wnei hynny. Nid wyf fi eto wedi gweled gwyrth yn cael ei chyflawni, ond fe garwn weld un, 'rwy'n meddwl."" Ond," ebr y llall, os na welaist rai, y maent wedi bod yn dy hanes er hynny. Y mae cymaint o reswm i tithau ystyried dy hun yn llestr etholedig ag sydd i mi. Credaf y gwnei di hynny, ac fod dyfodol mawr iti, beth bynnag amdanaf fy hun."

Yna, ar ôl ychydig o ddistawrwydd, torrodd Uthr allan ymhellach: "Onid yw hi yn glir heno? Dyma'r adeg o'r flwyddyn y ceir golygfeydd clir a phell o'r parth hwn. Edrych ar fan bedd fy hen feistr. Lle cysegredig yw hwnacw, a phaid â synnu os digwydd pethau rhyfedd oddeutu'r lle. Onid oedd yn olygfa gyffrous i'w weled yn rhodio ar y don gan gario ei ben ei hun yn ei ddwylo i le'r beddrod?" Bron nad arswydodd Dofwy pan wnaed y sylw hwn. Ond trodd ei olwg i'r gorllewin, a rhoes floedd sydyn o lawenydd: O, Uthr! gwêl draw acw. Wele fryniau'r Ynys Werdd! Wele gartref yr Esgob Elwy. A'r tir a welodd Padrig, hyd yn oed oddi ar y Gwyndraeth: peth na welodd neb ond efe oddiyno. Acw hefyd y bu Peulin am dro, ein hathro galluog ac annwyl. Cartref Denys hefyd, fel ein hatgofir mor fynych. Ynys Saint yw hithau hefyd, ac addawa Peulin Y cymer fi drosodd am dro wedi i mi orffen fy nghwrs. Addawodd yr un peth i minnau, ac efallai yr awn gyda'n gilydd, a Denys hefyd yn un o'r cwmni."

Fel y tynnai'r haf i ben, a chwrs addysg Dofwy hefyd, digwyddodd amryw bethau yn yr Athrofa ac ym mywyd y llanc a barodd sôn a siarad gylch y fan. Aeth yn fwy a mwy myfyrgar, a byddai rhan o'i fyfyrdodau yn fwy o ddydd-freuddwydion nag o fyfyrdodau cyffredin. Gwelai i'r dyfodol ynddynt, ac i'r dyfodol pell. Hefyd caniateid iddo, megis y gwnaed i'w fam, weledigaethau nos, ac ymddangosiad cenhadon, mor wirioneddol iddo ef â'r eiddo'r angel Gabriel i Sacharias, Mair a Joseph. Yr oedd hyn yn hysbys yn yr Athrofa, ac yn enwedig i'w gyfaill mynwesol Uthr. Crëai y peth fesur mawr o gywreinrwydd; ond pan yr awgrymid rhywbeth gan yr athro Peulin, ymddangosai yn betrusgar, ac ni cheid fawr ganddo. Mynegwyd i'w rieni am y pethau hyn, a thybiwyd os llwyddai neb i'w dynnu allan, mai ei fam fyddai honno. Un noson, tra ond eu dau ynghyd, mentrodd ofyn iddo ai gwir oedd yr hyn a sibrydid yn yr ardal. "Ie," ebr efe, "digon gwir, fy mam; ond rhywfodd nid wyf yn ddigon hŷf ar fy athro i fynegi iddo." Beth am dy fam, fy mab? Fe welodd yr Arglwydd yn dda fynegu iddi hi Ei feddwl mewn perthynas â dy ddyfodiad a dy fedydd."

"Wel, fe ymddiriedaf i chwi, fy mam, a chawn weled beth a ddaw. Ond un noson gwelais fy hun yn yr Ynys Werdd, ac yng nghwmni yr Esgob Elwy a Monwy. Yr oedd torf aruthrol o bobl yn y lle, ac yn sydyn daeth Ysbryd yr Arglwydd arnaf. Esgynnais i ben maen lled uchel a ddigwyddai fod gerllaw, a dechreuais lefaru. Cyn pen hir yr oedd y gruddfannau a'r cyffro yn gyfryw nes, yn ei sŵn a'i golwg, y deuthum ataf fy hun. Wedi hyn, a mi yn fy myfyrgell, syrthiais i fath o lewyg, a gwelais bethau rhyfedd yn yr ardal hon ac eraill. Gwelais Fynachlogydd yn codi yma a thraw yn llu mawr. Gwelais Fynyw a'r cwbl a berthyn iddi yn diflannu bron yn llwyr, a gwelais ddinas newydd, ac Eglwys i mi fy hun, yn codi yn eu lle i gyfeiriad y deau-ddwyrain. At hynny gwelais losgi yr Eglwys ac un fwy yn cymryd ei lle. At hynny, gwelais Balas mawr-mwy o lawer na'r Eglwys yn codi gerllaw, a miloedd o bererinion yn cyrchu i'r lle. Ond ar ôl cyfnod blodeuog, gwelais, ysywaeth, ddadfeiliad y cwbl ond yr Eglwys trwy lygredd mewn lleoedd cysegredig." Cododd y fam ei dwylo mewn cyffro. "Na ato Duw i'r olaf ddigwydd," ebe hi.

PENNOD XVIII.
"Llef un yn Llefain."

ER i Ddofwy gael ei eni, ei fagu, a'i addysgu ym Mynyw, ac er i amgylchiadau ei enedigaeth a'i fedydd fod yn destun siarad am amser, ni wyddai'r ardal ail i ddim amdano. Gwir fod sibrydiadau ar lêd am weledigaethau a breuddwydion, ond bywyd cudd fuasai ei fywyd, hyd pan yn ddwy ar bymtheg oed, y croesodd drosodd i'r Ynys Werdd. Aeth drosodd, nid yng nghwmni Peulin, ond yr Esgob Elwy, a phrin y gwybuwyd ei golli. Ar y pryd hwylusid y gwaith yno gan fesur mawr o adfywiad, a thybiwyd y gallai hynny fod o fantais i'r llanc, yn ogystal â dechrau ar ei waith oddicartref. Ond ychydig a feddylid mai efô fyddai'r offeryn yn llaw Duw i ennyn y tân ac i arwain yn yr adfywiad am flwyddyn gron. Ond felly y trodd pethau allan. Dechreuodd ei freuddwydion gael eu sylweddoli. Tynnai ato ple bynnag yr âi dorfeydd, ac yr oedd ei ddylanwad yn aml yn orlethol. Breintiwyd ef â chyfaddasiadau naturiol, personoliaeth swynol, llais melodaidd a digon cryf i gario ymhell. Daeth y miloedd o dan ei weinidogaeth—paganiaid gan mwyaf a phlygodd cannoedd dan ddylanwad ei genadwri. Parablai yn glir ac effeithiol, a daeth yr addysg a gawsai o dan Pawl a Pheulin,—ïe, a'r geiriau a ddysgodd ei fam iddo,"—yn awr at ei wasanaeth. Cyn ei ddychweliad i Fynyw, tybiwyd y byddai'n fuddiol i Uthr a Denys gael mantais ar ddylanwad y diwygiad mawr, a chymrwyd hwy drosodd gan Beulin. Gadawyd Uthr yno, a bu yn foddion i barhau am ysbaid ymhellach y dylanwad oedd megis gwynt nerthol yn rhuthro.

Daeth Dofwy yn ôl yng nghwmni ei hen athro a Denys, ond daeth heb i air o sôn amdano gael ei daenu. Yn hwyr un noson ym mis Hydref, cyrhaeddodd y llong Borth y Mynach, ac yr oedd Sandde a'r abad Pawl yno i'w dderbyn. Edrychent ar ddyfodiad Dofwy yn ôl i ddechrau ar ei waith ym Mynyw, ac yn wir, ym Mhrydain, yn ddigwyddiad o bwys. Gwyddent am ddylanwad ei weinidogaeth yn yr Ynys Werdd, ac er nad oedd eu disgwyliadau i fyny â'r hyn a ddigwyddodd, eto edrychent am bethau mawr. Yr oedd ei fam, Nonita, yn llawn gobaith da y byddai i'w bachgen droi allan yn gennad anghyffredin, a phan gyrhaeddodd y tŷ, syrthiodd ar ei wddf, ac wylodd o wir lawenydd. Fy machgen annwyl," ebe hi, "rhodd Duw mewn atebiad i'm gweddi; dyma'r dydd wedi dyfod y disgwyliais gymaint amdano. Bron na ddywedwn yn awr fel Simeon dduwiol: 'Yr awr hon y gollyngi. . . Ond disgwyliaf eto weled pethau mawr.

Ni ddywedodd y bachgen air, ond rhedai dwy ffrwd o'i lygaid. Bechan oedd Eglwys Mynyw hyd yma, ond digon i'r pwrpas. Cyhoeddasid y byddai gŵr dieithr yn gweinidogaethu y Sul oedd yn ymyl, ond ni feddyliai neb am fab Carnedd-y-Derwydd. Ychydig oedd y rhai a'i hadwaenent, oblegid bywyd y gell fuasai ei fywyd i raddau mawr. Erbyn hyn, er nad oedd ond deunaw oed, yr oedd yn ddyn mewn corffolaeth. Sul hafaidd oedd y Sul hwnnw, er ym mis Hydref, gan fod Mynyw yn eithriadol am dynherwch ei hinsawdd, a thanbeidrwydd yr haul weithiau yn ddiweddar ar y flwyddyn. Llanwesid yr Eglwys gan dorf ddisgwylgar; yn wir, gorlanwesid hi. Cymrodd Pawl ac eraill y rhannau defosiynol o'r gwasanaeth, ac yr oedd llygad pawb ar y gŵr ieuanc glandeg, meddylgar, oedd fel pe wedi ei syfrdanu gan yr amgylchiadau. Craffwyd arno, a daeth llawer i'r casgliad na allai fod neb llai nag aer Carnedd-y-Derwydd, gan y tebygai yn fawr i'w fam. Pan gododd ac yr esgynnodd i'r pulpud, gellid clywed y pin yn syrthio. Yr oedd y distawrwydd megis yn glywadwy; ac mewn llais megis telyn felysber darllennodd yn destun:—"Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd." Testun dipyn yn hynod ar fore Sul, ond testun oedd i fod yn gyweirnod gweinidogaeth Dofwy am lawer blwyddyn. Bu yn ofalus i gyfaddasu ei lais i'r cylch bychan ar ôl cymaint o bregethu yn yr awyr agored. Er mai ieuanc oedd, yr oedd ganddo synnwyr cyffredin cryf. Daeth yn amlwg yn fuan mai Ioan Fedyddiwr arall oedd y pregethwr i fod, ac fel yr âi rhagddo, difrifolai'r gynulleidfa. Ysgydwai â syniadau cryfion hyd yn oed y rhai mwyaf gwareiddiedig o'r gwrandawyr, heb sôn am y rhai na fuasent o dan y Gair o'r blaen. Nid aeth yn gyffro, ond hawdd gweled fod math ar arswyd wedi disgyn ar lawer o'r rhai a'i clywent. Gwnaed yn hysbys y pregethai drachefn am dri o'r gloch, ac aeth y gair ar led megis ar wifrau. Deellid bellach mai mab Sandde a Nonita oedd y pregethwr, a chyn tri o'r gloch yr oedd mwy na thri llond yr adeilad wedi ymgasglu. Gwelodd Pawl ei gyfleustra a chyfleustra yr Achos Mawr. Trefnodd ei fod i wneuthur ym Mynyw yr hyn a wnaethai gyda chymaint o lwydd yn yr Ynys Werdd, sef pregethu yn yr awyr agored. Pan ddechreuwyd yr oedfa gwenai yr haul o ffurfafen glir. Oddeutu'r llwyfan safai'r swyddogion, ac yn nesaf un o bawb, Peulin, ei hen athro, yr hwn oedd yn naturiol falch o'i brifysgolor. Seml iawn fu'r gwasanaeth ddechreuol—mawl a gweddi fer. Yna safodd Dofwy i fyny o flaen y gynulleidfa fawr, gan mwyaf yn baganiaid. Daethent drosodd o Ynys Ninian, lle yr oedd fyth lawer o dywyllwch, a chan i'r gair gerdded fel tân gwyllt trwy yr ardal, daeth y lliaws o bob cyfeiriad. Ieuanc iawn ydoedd i wynebu'r sefyllfa, ac ofnai mwy nag un iddo fethu dyfod i fyny â galwadau'r fath gyfle. Er balched Pawl a Pheulin, nid oeddynt heb beth pryder yn ei gylch. Ni chymrodd destun yn y ffordd gyffredin, ond yn araf, clir a phwysleisiol, adroddodd ran fechan o'r Efengyl: "A phan welodd Efe y ddinas, Efe a wylodd drosti." Cyrhaeddai ei lais yn ddi-drafferth hyd derfynau y dorf ac ymhellach. Tawel iawn fu am ysbaid, ond meddylgar, a swynol ei olwg. Ni symudai na bys na llaw. Adroddodd yr hanes yn syml ond medrus, a gallasai plentyn ei ddeall. Portreadodd Grist yn dyfod tros ael yr Olewydd o Fethania, nes cyrraedd y ddisgynfa, o ba un y gallai weled y Ddinas Santaidd yn amlwg, a'i gweled i gyd.

Am ysbaid," ebr ef," ni ddywedodd y Gwaredwr air, ond edrychodd yn synfyfyriol. Ac fel y daliai i edrych, ymdaenai prudd-der tros ei wyneb hardd. Aeth hwnnw yn ddyfnach, ddyfnach, a hawdd gweled fod ffynhonnell ei deimladau yn dechrau cynhyrfu. Yn y man, wele ddagrau gloywon yn llifo tros Ei ruddiau llawn pryder a gofid. Ac wele lef dorcalonnus yn hollti'r awyr: "O, Ierwsalem, Ierwsalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi'," &c.

Yn y man cwyd y pregethwr ei lais dipyn, gyda'r cwestiwn: "Ond paham yr wylai yn yr olwg ar ddinas mor hardd; ac un ag iddi hanes mor nodedig? Nid oedd neb arall yn wylo. Llawenydd a sain cân a glywid ar bob llaw. Paham yr wylai Ef? Am y gwelai ymhellach, ac yn ddyfanch nag eraill. Gwelai yn ôl ymhell: a chofiai am freintiau digyffelyb y ddinas. Dinas y deml santaidd, yr oraclau, yr allorau a'r aberthau. Yma y dysgodd proffwydi—proffwydi Duw. Ie (gan godi ei law, a dyfod â hi i lawr fel gordd) ac yma y lladdwyd hwynt am eu gwaith." Ebr efe ymhellach: "Gwelai i ddyfnder bywyd y ddinas ar y pryd; ei seremonïau rhagrithiol a'i thwyll. Gwelai ddynion yn rhith crefydd â'i condemnient Ef ei Hun, y mwyaf o weision Duw, i farwolaeth. Gwelai ei Groes ei Hun, a phen Calfaria, a dwylo wedi eu trochi mewn gwaed gwirion. Ai rhyfedd yr wylai? Ac eto, yr oedd Gwaredwr y ddinas o'i mewn pes mynnai; ond nid adnabyddai hi ei dydd."

Yr oedd rhywbeth yn ei wedd a'i lais yn fwy nag mewn dim a ddywedai, a gariai adref y geiriau i galonnau'r bobl. Gwelsant Waredwr yn cael cam, ac yn cael ei wrthod gan ei bobl ei Hun. A gwelsant hyn mor glir nes teimlo'n ddig wrth y ddinas am ei hymddygiad. Tra'r llefarwr yn symud ymlaen, dechreuodd rhai sylwi nad oedd yr ysblander ar ei wyneb yr hyn oedd ar y dechrau. Ac wrth edrych yn frysiog i'r nen, gwelsant beth rhyfedd iawn. Heb ail i ddim rhybudd duasai'r ffurfafen, ac yr oedd yn llawn cymylau bygythiol. Ond aeth y gennad ymlaen heb sylwi dim ar yr amgylch- iadau, gan godi ei lais, ac erbyn hyn wneud cryn ddefnydd o'i freichiau. Cyn hir cyfarfu'r ddinas hen ac uchelfreintiog â'i thynged. Darostyngwyd ei balchter, a gwnaed hi yn gyd-wastad â'r llawr. Lladdwyd miloedd, a gwasgarwyd y lleill o dan felltith Duw. Ond, y mae'r un Gwaredwr yn sefyll heddiw nid ar yr Olewydd, ond ar ddeheulaw'r Tad. Gwêl Brydain yn ei thywyllwch a'i thrueni. Gwêl Fynyw, lle mae'r iachawdwriaeth fawr yn cael ei chynnig o ddydd i ddydd. Gwêl i bob calon yn y gynulleidfa hon. Gwêl bob twyllwr, rhag- rithiwr, pob celwyddwr, a phob un anonest ac halogedig," etc.

Erbyn hyn, yr oedd y nefoedd uwchben mor ddu fel yr oedd bron yn amhosibl gweld y llefarwr. Mae'n edrych i dy galon, ac yn wylo wrth weled ei chyflwr." Ar hyn, wele fellten mor ofnadwy o ddisglair nes y llefodd y dorf mewn dychryn. Ac heb ond eiliad neu ddwy rhyngthynt, wele daran a siglodd y lle, a bu agos i'r bobl ffoi mewn arswyd. Ond rhwng mellten ar ôl mellten, a tharan wedi taran, clywid llais y pregethwr, oedd wedi codi erbyn hyn i'w gyflawn nerth: "Llygaid yr Arglwydd sydd yn fflachio. Ei lais Ef yw'r daran, bobl, yn galw arnoch droi ato." Ar hyn, wele gawod ddisymwth, ond cenllif. "Dagrau'r Gwared- wr, bobl; Efe sydd yn wylo dros Fynyw heddiw. Oni ddeuwch at ei draed?" Yna fflachiodd mellten arall-yr olaf o'r ysblander arswydol.

Ac yng ngolau hon cafwyd golygfa ryfedd. Yr oedd y dorf ar ei gliniau, a'i dwylo'n estynedig at gennad Crist, ac yn llefain yn uchel am drugaredd.

Diflannodd y storm mor sydyn ag y daeth. Gwenodd yr haul o'r ffurfafen eto. A dyna ddiwedd oedfa a fu'n ddechrau cyfnod. Gwelwyd ar y terfyn bob swyddog yn wir bob Cristion, â'i holl egni yn ceisio lleddfu teimladau drylliedig, ac arwain y clwyfedigion at Grist. Codwyd pen yr Eglwys am ganrifoedd, ac aeth sôn am Ddofwy trwy Gymru a Phrydain, ac i fesur wledydd cred.

PENNOD XIX.
Y Deffroad.

Bu ail oedfa Dofwy yn foddion i godi pen yr Eglwys ac i ddechrau cyfnod hynod o flodeuog ar grefydd yn yr ardal. Am chwech neu saith canrif bu Mynyw a'r cylch yn eithriadol o enwog yn hanes crefyddol Prydain. Drwg gorfod cyfaddef, y daeth wedi hynny ddynion â dylanwadau estronol i mewn; rhoddes gwres a graen y bywyd ysbrydol le i rwysg a gwag-ogoniant dynion cyfoethog a hunangeisiol. Am ganrif neu ddwy arall parhaodd gogoniant a phoblogrwydd allanol yr eglwys yn y lle, ond ysgrifenasid Ichabod ar y muriau. Bwyta ac yfed, ac y mae lle i ofni meddwi, fu hanes y lle am y cyfnod hwn, a daeth y canlyniadau anocheladwy. Erbyn heddiw, nid oes ond olion yr hyn a fu, a gwireddwyd geiriau Crist yma hefyd: Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ yn anghyfannedd." Ac eto, o gymdogaeth Carn Fadrig yr enynnodd y fflam a roddodd Brydain dros dro ar dân. Oddi yma y cerddodd y dylanwad a fu'n help i godi mynachdai ac eglwysi yma a thraw, ac ag enw Dofwy cysylltir hwynt tra rhed y dwfr. Ac os oes un enw a erys yn wyrdd yng Ngwalia-enw a dynn y genedl at ei gilydd, er gwaethaf mân wahaniaethau, enw Dofwy yw hwnnw. Hawlir ef gan bawb, a pherchir ef fel dawn fawr y chweched ganrif.

Ond rhagflaenwn yr hanes, ac â Mynyw hyd yma y mae a fynnom yn bennaf. Am gyfnod ar ôl yr oedfa ryfedd, rhyw arswyd oedd yn yr ardal—arswyd byd a galluoedd anweledig. Ond wedi hynny, daeth megis tywyniad haul ar grefydd, ac "amseroedd adnewyddiad oddi wrth bresenoldeb yr Arglwydd." Ni pherchid enw Pawl yn llai, ond aeth enw Dofwy yn bennaf,—aeth megis bod goruwchnaturiol yng ngolwg dynion. Ac aeth Carnedd-y-Derwydd megis yn bwysicach na'r mynachdy, a Dofwy a'i fam yn fwy ar dafod yr ardal na hyd yn oed Bawl a Gwenhwyfar ardderchog. Bu'r ddau hyn, a Pheulin, er hynny yn addurn a nerth i grefydd am flynyddoedd lawer.

Am Ddofwy, tra'r oedd ef yn hollol ffyddlon i waith ac ordinhadau rheolaidd yr Eglwys; eto, fel ei Feistr Crist, a Phaul, o'r tu allan y bu ei lafur mawr am gryn amser. Yn wir, nid oedd adeilad a ddaliai ei gynulleidfaoedd. Ni theimlodd awydd cryf i fynd o'r ardal am ysbaid, gan y teimlai fod gwaith i'w wneud ym Mynyw, na oddefai cydwybod ei esgeuluso. Er hynny, anesmwythodd, a hynny'n lled gynnar yn ei fywyd.

Un noson, ar ôl diwrnod llafurus, arhosodd ef a'i rieni i lawr yn hwyr, ac wrth ymddiddan agorwyd eu calonnau, a daeth allan yn rhwydd yr hyn oll oedd ar feddwl y mab, ac mewn rhan, ei rieni hefyd. Ofnasai Nonita ar hyd yr amser agor ei chalon i'r bachgen, ac eto, cofiai'n fynych am ddelfrydau ei bywyd gynt. Erbyn hyn, yr oedd y bachgen a fagasai yn tyfu yn ddyn, ac yn enwog ar dafod gwlad. Tybed a oddefid iddi ei gadw yn agos ati fel yn awr? A oedd hi yn ei meddwl yn hollol ffyddlon i bwnc ei gweddïau cyn ei gael? Llawenychai ynddo, a diolchai i Dduw amdano. Ond llefarai rhywbeth o'i mewn fod cyfyngbwynt gerllaw, ac fod yn rhaid iddi hunan—ymwadu. A heno, yn nhawelwch yr hwyr, ac heb neb ond eu hunain, agorodd ei chalon, a dechreuodd lefaru fel o wragedd santaidd y Beibl o dan ddwyfol ysbrydoliaeth.

"Fy mab," ebe hi, "ni allaf ddywedyd pa mor ddiolchgar yw dy dad a minnau i Dduw amdanat. Ofnais droeon fy mod yn gofyn gormod gan Dduw, ond credaf i mi gael fy ngwrando, ac y mae dy hanes hyd yn hyn yn peri i mi feddwl mai rhodd Duw ydwyt. Ofnais hefyd siomi dy dad trwy ofyn am iti gael dy gysegru o'r groth i wasanaeth eglwys a theyrnas Dduw. Ond erbyn hyn, yn wir, cyn dy eni, daeth dy annwyl dad i edrych ar bethau yn yr un golau â minnau. Y mae hyn yn wir onid yw fy anwylyd?" "Yn hollol wir. Unwaith, fy nymuniad oedd, wedi i mi ennill serch dy fam, cael aer i arglwyddiaeth Ceredig. Y mae iti etifeddiaeth gyfoethog, fy mab, o'r ddwy ochr; ac nid rhaid iti fod cywilydd ohoni, nag o dy achau. Ond, y mae'r cwbl at dy wasanaeth. Gwna'r defnydd a fynnot o'r cyfoeth tuag at sylweddoli amcan dy anfoniad, mi gredaf, gan Dduw." Llanwodd llygaid y mab, ac edrychodd i ddechrau i lygaid ei fam, ac wedi hynny yr eiddo ei dad. "Y mae fy nghalon yn llawn, ac nid hawdd siarad," ebr ef. Pwy erioed a gafodd y fath rieni? Ni allaf byth ddiolch digon am y fath rodd. Ond yr wyf yn argyhoeddedig fod imi genhadaeth o bwys tros y nef. Yr wyf yn gysegredig o'r groth, ac y mae awyrgylch fy nghartref megis awyrgylch y nefoedd i mi er pan wyf yn cofio dim. Y drychfeddwl cyntaf a gofiaf amdanoch oedd mai Joseff a Mair oeddych wedi dyfod i'r byd drachefn. Ie, cennad Crist i Brydain ydwyf, ac nid wyf ond megis yn dechrau hyd yma. "A oes gennyt rhyw argyhoeddiad gyda golwg ar y dyfodol?" gofynnai'r fam dipyn yn bryderus. Oes, argyhoeddiad clir. A ydych yn credu mewn gweledigaethau heddiw megis y rhoddwyd i ddynion da o dan y ddau Destament?" Wel fe ddylwn i wneud hynny," ebe Nonita, ar ôl ycwbl a welais. Ond paham y gofynni?" Am fy mod wedi cael hyd yn oed pan o dan addysgiant Peulin, fath o argraffiadau dyfnion gyda golwg ar y dyfodol. Ac y maent yn dyfnhau." "Ai tybed fod galwad am iti adael yr ardal hon, a mynd i gylch ehangach o wasanaeth?" "A deimlet ti yn ofidus fy mam, pe byddai felly?" "O, fy machgen annwyl, ewyllys yr Arglwydd a wneler." "Yna, gallaf fod yn hyf. Credaf fod galwad ar i mi dramwy trwy Brydain. Chwi a wyddoch gyflwr y wlad. Wedi hynny fod galwad ar i mi ymweled â'r Tir Santaidd a sangwyd gan draed fy Ngwaredwr. Ond deuaf yn ôl; ac fe ymsefydlaf yma, a hynny yn eich dydd chwi ill dau." Edrychodd y ddau yn syn am funud, a Sandde a lefarodd gyntaf: "A oes rhywbeth yn fy ngallu i i'th helpu, fy mab?" "Wel, a oes rhyw ddiben i'th gyfoeth, fy nhad, ar wahan i waith yr Arglwydd." Dim o gwbl; caiff y cwbl fynd yn ôl dy ewyllys."

"Felly, fe ddechreuwn yma. Mae'r eglwys yn cynyddu, a'r adeiladau eisoes yn rhy gyfyng. Rhaid inni helpu Pawl, fy hen athro annwyl, a chyntaf. A Pheulin; ïe, a Gwenhwyfar, cyfeilles annwyl fy mam. Chwi a fyddwch yn gefn i'r rhai hyn, ac i'r sefydliadau sydd dan ei gofal oni fyddwch fy nhad? Ac i fechgyn tlodion a elwir i'r gwaith, ond sydd heb adnoddau." "Hyd eithaf ein gallu, fy mab," ebe Sandde yn ddwys a theimladwy.

"A gaf fi nodi un peth arall cyn gorffen, fy nhad?" Dywed yr hyn oll sydd yn dy galon, fy mhlentyn," ebe'r fam, gan edrych fel pe'n awyddus i'w gymryd yn ei breichiau unwaith mwy.

"Wel, fe gofiwch am Uthr, fab Seli, sydd yn byw ar yr Ynys. Dyma un o ryfeddodau mwya'r ardal. Hyd nes i'r diweddar Iwstyn gael gafael ar y teulu, yr oedd Seli yn un o'r dynion mwyaf ysgeler yn y wlad yn barod i ladrad, creulondeb, ie, lofruddiaeth os oedd raid er mwyn cyrraedd ei amcan. Ac am Uthr, yr oedd wedi ei barlysu hyd yn ddeuddeg oed. Yna, gwnaed gwyrth anianyddol ar Uthr, ac ysbrydol ar ei dad. Y mae Uthr i mi megis brawd, a chan nad oes imi frawd na chwaer, y mae fy nheimlad ato ef, ac yntau ataf fi, mi gredaf, megis teimlad brodyr. Ond, y mae ef yn dlawd, ac yn dioddef mewn rhai ystyron o achos hynny. Ac y mae ei rieni yn dlodion iawn. A wnewch chwi nawddogi tipyn ar Uthr a'r teulu, oblegid galwyd y bachgen i bethau mawr?"

"Gwnawn bopeth a ddymuni, ac fe ofalwn na chaiff tlodi ei gadw'n ôl, na pheri anghysur yn ei gartref." Fel hyn y dirwynodd yr ymddiddan i ben, a fu'n galondid i Ddofwy ar y pryd ac yn help iddo am ei oes. Un canlyniad i hyn fu ymweliad Sandde a'i fab â'r Ynys, a hynny yn fuan. Digwyddasai pethau mawr yno er pan syrthiasai Iwstyn o dan fwyell y llofrudd. Yn un peth, cododd ffynnon o ddwfr iachus ar y llecyn, lle nad oedd golwg am ddwfr cyn hynny. Mwy na hyn, bu ei waed yn had yr eglwys o dan ofal Stephan, ac Andreas, ac erbyn hyn Uthr hefyd yn ôl o'r Werddon. Diwrnod heulog oedd hwnnw mewn mwy nag un ystyr ar ba un yr ymwelodd Dofwy a'i dad â'r Ynys, a'r bwriad cyntaf oedd ymweled â chartref tlawd y llanc. Ond erbyn cyrraedd nid oedd neb i'w weled oddeutu oddigerth un hen wreigan analluog, yr hon a eisteddai yn ymyl drws ei chaban. 'Does neb gartref," ebe hi, y mae'r holl ynys heddiw wedi crynhoi i wrando mab Seli yn pregethu."Ac ymhle y digwydd hynny, wraig dda?" gan roddi darn gwerthfawr o arian yn ei llaw. Gerllaw Ffynnon Iwstyn, ar ganol yr Ynys." Ni chymerodd ond amser byr i'r ddau gyrraedd yn agos i'r fan; ond cyn cyrraedd gwelent gryn dyrfa gerllaw. Clywent hefyd lais mwyn yn cario geiriau clir i'w clustiau: "Er i Iwstyn dduwiol syrthio ar y llecyn hwn, nid yw ef yn farw. Mae'n fwy byw ar yr Ynys hon nag y bu erioed. Gwelwch y gwaith a wnaed! Mae'r Ynys heddiw o gwr i gwr yn cydnabod Duw, a bron bawb arni yn gwasanaethu Crist," etc. Aeth ymlaen gan wneuthur apêl gref at y rhai oedd eto heb gredu. Wedi'r oedfa nesaodd Sandde at y bachgen, a chyflwynwyd y naill i'r llall gan Ddofwy. Yna ymwelwyd â'r bwthyn ac â'r ogof lle y cyrchai Seli erbyn hyn i weddïo yn fynych. Cyn iddynt droi'n ôl cafodd Uthr dawelwch ar fater amgylchiadau, a threfnwyd lle i Seli yng ngwasanaeth Sandde a'i cododd o'i dlodi a'i bryder am weddill ei oes.

PENNOD XX.
"Efe oedd gannwyll yn llosgi."

WEDI llawer o lafur a threfnu daeth y dydd iddo adael Mynyw, am dro, yng nghwmni Denys, a phob un ar ei farch. Wynebai yn awr ar Brydain, oedd erbyn hyn wedi tynnu sylw Rhufain; ond o drugaredd, bu Mynyw a Chymru o ran hynny yn hir cyn dyfod o dan ddylanwad andwyol y Pabau. Ond stori arall fyddai hon. Gan fod Uthr wedi aros ar ôl, ni bu y golled am Ddofwy mor deimladwy, a barnwyd, gan fod Denys wedi gorffen ei addysg, y byddai'n fanteisiol i'r ddau, am dymor o leiaf, fynd gyda'i gilydd. Yr oedd yn y trefniadau fod Dofwy i ymweled ym mlaenaf oll â hen gartref ei fam, a'i fod wedi hynny i roddi tro Wynfor, lle'r oedd gwaith mawr wedi ei wneuthur eisoes o dan ofal mynach o'r enw Aeddan. Tra'n teithio am y pymtheg milltir cyntaf trwy lawer o dir bras i gyfeiriad dwyreiniol, edrychai Dofwy yn bruddaidd a synllyd. Da, mewn ystyr, fod ganddo gydymaith llon, calonnog, a dorrai allan yn fynych mewn chwerthiniad iachus. Nid oedd pryder Sandde ar ei daith gyntaf ar hyd yr un ffyrdd i chwilio am Nonita yn fwy na'r eiddo eu mab heddiw wrth droi allan i'w faes cenhadol. Teithient yn hamddenol ar gefn pob i farch a roddasai Sandde eu gwasanaeth, ac ai Dofwy ysbeidiau lled faith heb lefaru gair. Ond yr oedd Denys o ardymer ysgafnach, ac amlwg oedd na wesgid ef i lawr fel y llall gan ymdeimlad o gyfrifoldeb. Wedi teithio cryn bellter yn ddistaw, torrodd Denys allan: "A oes hiraeth arnat, fy nghyfaill, wrth adael dy gartref a'th rieni? Ymddangosi i mi fel yn bruddaidd a thrwm dy galon." "Wel, na, nid hynny yn gymaint. Gwir fod gadael cartref a rhieni fel yr eiddof fi yn golygu rhywbeth, ond y mae hyn yn y cytundeb rhyngom â'n Meistr onid yw, fy ffrind? Os myn neb ddyfod ar fy ôl i. . . . Pwy bynnag ar nas gadawo dad a mam.

Digon gwir, Dofwy; ac y mae'r gadael yn golygu mwy i rai na'i gilydd. Rhaid fod y cymhelliad i ti yn un cryf iawn i droi allan gan adael cymaint ar ôl." "beth amdanat tithau, Denys? Y gwir yw, yr wyf yn fwy dieithr i dy hanes nag y dylwn fod wedi bod gymaint o amser o dan yr un tô. Onid oes rai annwyl itithau i feddwl amdanat a gweddio trosot?" "Neb ar wyneb y ddaear hyd y gwn i." "Does bosibl dy fod yn ddigartref ac yn ddigeraint?" "Yn hollol felly," ebr ef, a'r heulwen ar ei wyneb, a chyda chwerthiniad iachus a bachgenaidd a barodd hyd yn oed i Ddofwy wenu. "Dofwy," ebr ef ymhellach, gan geisio edrych yn sobr, "mae iti gydymaith na ŵyr ef ei hun pwy yw, nac o ba le y daeth" "Wel, sut y llwyddaist i ddyfod yr hyn ydwyt? Pwy a'th fagodd, a pha le y cefaist dy addysg foreol?"

Gan iti ofyn, mi a ddywedaf iti gymaint ag a wn. Y cof cyntaf sydd gennyf amdanaf fy hun ydyw o dan ofal hen gwpl digon tlawd mewn caban heb fod ymhell o Ryd-y-dŵr, yn yr Ynys Werdd. Ond, er tloted oeddynt, ni welais i eisiau dim; cawn ddigon o fwyd plaen, os nad oeddwn drwsiadus iawn fy ngwisg, ac yr oeddwn yn ddigon hapus. Cofiaf y byddai gŵr mewn urddau santaidd yn galw o dro i dro, ac heb feddwl fy mod yn clywed, dywedodd un tro, "Gofalwch na chaiff y bachgen ddim cam; y mae calonnau yn ei garu mewn lleoedd na thybiech byth." "Ond oni wyddost pwy oedd y dyn?" "Dim dychymyg, fy nghyfaill. Unwaith, cofiaf hefyd i foneddiges daro i'r bwthyn—un hardd, ac O mor garedig. Gwisg Lleian oedd amdani, ac ymddangosai i fod ar frys mawr, ac yn ofni cael ei gweled. Cofiaf iddi roddi ei breichiau am fy ngwddf, a'm cusannu yn frysiog a rhedeg allan. Ac wedi iddi fynd, sylweddolais fod fy ngruddiau yn wlyb gan ddagrau adawodd ar ôl. Rhaid mai dagrau a wlychodd fy wyneb," ebe Denys. Ond edrychai yn hoyw a dibris. "Ai dyna'r unig olwg, a gefaist arni?", Ie, yr unig un. A wyddost ti beth, Dofwy? Pan welaf di gartref, fel eilun dy dad a'th fam, rhed fy meddwl at yr ymweliadau hynny. Wrth gwrs, tad a mam y galwn yr hen gwpl gofalus, ond mwy priodol fyddai taid a nain," a chwarddodd eto yn galonnog. A gwnaeth ei chwerthiniad les i Ddofwy. "Yna cofiaf adael y bwthyn am Fynachdy heb fod ymhell, lle y gofalwyd amdanaf nes fy nyfod i Athrofa Peulin. Pwy dalodd y draul ni wn, ond gwn ceffyl pwy sydd o danaf heddiw." Dyna hanes Denys hyd y gwyddai. Nid hollol ddieithr i hanes mynachdai a lleiandai fel y gŵyr y cyfarwydd yn hanes sefydliadau o'r fath. Fel hyn treuliwyd yr amser nes cyrraedd yn gynnar i Gaer Cawch, hen gartref Nonita. Ni pherthyn i'r stori roddi hanes yr ymweliad hwn: digon yw dywedyd i aer Sandde a Nonita gael derbyniad tywysog, ac i'w gyfaill Denys gyfranogi o bob caredigrwydd.

Trannoeth, gan dramwy trwy hen dref Myrddin, a chynnal gwasanaeth yng nghanol y dref, teithiwyd i gyfeiriad Gwynfor, prif sedd Sandde, er mai ym Mynyw y trigai bron yn gwbl. Er fod rhannau o'r ffyrdd yn anhygyrch, yr oedd y wlad yn annisgrifiol o brydferth, a thipyn cyn machlud haul cafwyd golwg ar arfordir hyfryd Gwynfor, a'r palas prydferth yng nghwr coedwig braf. Teithiasant heibio gabannau unig, ac weithiau glwstwr ohonynt megis pentref bychan. Ond golwg baganaidd oedd ar y bobl, ac ocheneidiai Dofwy yn fynych. "A oes gennyt ffydd, Denys, y bydd i'n Hefengyl gyrraedd y rhai hyn a'u troi?" "Ffydd, fy nghyfaill! Paham lai? Oni chlywais am Legyr? Oni welaist â'th lygaid dy hun Seli a Garth ac eraill. Ffydd, oes debyg iawn." Ar hyn siriolodd Dofwy yn fawr. "Maddau imi, Denys; y mae'r cyfrifoldeb ar brydiau yn fy llethu. Pan ddeuthant i olwg Gwynfor, safasant ennyd i fwynhau'r olygfa. Llamodd calon Dofwy o lawenydd. A pha le yr ydym ar hyn o bryd, Dofwy?" Wel, yn ôl y disgrifiad wyf wedi gael, dacw hen gartref fy hynafiaid o ochr fy nhad." A dynion â'u llygaid yn eu pennau oeddynt yn ddigon siwr, oblegid dewisasant i drigo ynddo un o'r rhannau prydferthaf yn yr holl wlad. Gwêl y tir bras. Gwêl y môr glas. A gwêl y coed caeadfrig yn dechrau gwisgo eto amdanynt wisgoedd y Gwanwyn."

Y mae'r olygfa yn dy gyffroi, Denys, ac yn tynnu allan ohonot y ddawn farddonol sydd mor nodweddiadol o'r Ynys Werdd." "Wel, y mae yno beth ohoni yn ddiau, ac ychydig hefyd yn fy natur innau. Mae'n debyg mai Celt ydwyf megis tithau, a'n bod yn bur barod ill dau i ymfflamychu wyneb yn wyneb â phrydferthwch ac arddunedd." "A weli di'r tŷ acw, Denys, ynghwr y goedwig? Dacw yn sicr hen gartref fy nhad, a'i gartref mewn ystyr eto. Byddwn yno gyda hyn." Ac felly yr oeddynt ymhen ychydig funudau. Croeso i Wynfor, fy nau gymrawd." Llais Aeddan y mynach oedd hwn, yr hwn yn niffyg presenoldeb y meistr, a ofynasid i gymryd ei le, mewn rhan. Ond buan y gwelwyd fod yno ddigon o ddwylo parod, o bob rhyw, i weini arnynt. Yr adeg honno ar fyd, ni ellid trwy holl Brydain ddyfod o hyd i wychach palas na pherffeithiach trefniadau na'r eiddo Arglwydd Ceredig o Wynfor a mannau eraill.

Croeso i ti, fy nghymrawd Dofwy, i ran o etifeddiaeth dy dadau. Ffodus wyt yn yr ystyr hon, ar wahân i ras a doniau Duw mewn ystyr uwch. Ac nid wyt tithau, Denys, ronyn yn llai derbyniol, oblegid y mae yma orchymyn awdurdodol i wneuthur â thydi megis pe byddit tithau hefyd yn aer." Yr oedd yn amlwg fod Aeddan, er yn ddigon diniwed, yn mawrhau yr ymddiriedaeth osodwyd ynddo. Diolch iti, fy nghyfaill Aeddan, am dy groeso hen gartref fy nhad. Deuthai gyda ni onibai am ei ymlyniad wrth Fynyw, a'r angen am iddo fod acw ar hyn o bryd. Y mae cael golwg ar y llwybrau a rodiodd fy rhieni ar y daith gyntaf hon yn fath o ysbrydoliaeth i mi." Diolchodd Denys hefyd yn ei ffordd siriol a ffraeth ei hun. Ac yna trowyd i mewn i'r tŷ.

PENNOD XXI.
Gwynfor.

GAN fod i Wynfor hanes cyntefig o gryn bwys, ac iddo ar ôl hyn godi i amlygrwydd mawr, priodol ydyw oedi peth ar y daith gyda Dofwy a'i gydymaith, a rhoddi i'r darllenydd ddrychfeddwl am y lle. Heddiw, nid oes ardal fwy dymunol yng Nghymru gyda'i harfordir cynhyrchiol, ei bryniau ban, ei heglwys henafol, a'i môr glas yn ymdonni y tuhwnt. Rhaid meddwl am fwy o wylltineb a llai o wrteithiad yn y dyddiau gynt. Ond nid llai, o ramant, eithr mwy. Sefydlasai hynafiaid Dofwy yma rai oesau cyn dydd ei ymweliad, a dygesid y fro i fesur mawr o drefn. Dan ofal Aeddan a nawddogaeth Sandde, yr oedd yma eglwys lewyrchus, a galw mawr am weithwyr. Treuliwyd yr hwyrddydd hwnnw yn ddigon difyr, a da fu i'r ymwelwyr, ar ôl marchogaeth, gael cerdded oddeutu a gweled y mynachdy a'r cyfleusterau crefyddol. Perswadiwyd Dofwy i ymoedi ac aros dros y Sul, er bod rhyw ddyhead ynddo am fod ar daith.

Trannoeth bu ymgynghoriad maith a manwl rhwng y tri, a chan fod i Aeddan fwy o brofiad nag o allu, bu ei awgrymiadau a'i gynghorion yn dra gwerthfawr. Yn y Manordy y treuliai bron y cwbl o'i amser yr ychydig ddyddiau hynny, gan i Sandde geisio hynny ganddo. A gwyddai ef yn dda werth y gŵr mawr i Eglwys Crist.

"A beth all fod eich dymuniadau a'ch rhagolygon ill dau?" ebr ef, tra'r tri oddeutu'r ford ar swper. "A ydych yn awyddus am ofal eglwys ac ymsefydlu mewn un lle, ai tramwy y wlad fel efengylwyr a garech? Mae gwir angen am hynny—fwy, mi gredaf, nag am ddynion sefydlog. Rhodder inni fedi cynhaeaf mawr i ddechrau, yna bydd mwy o angen am Fynachdai, athrofeydd a bugeiliaeth."

Ni allai dim fod yn fwy derbyniol gan Ddofwy na'r arawd hon, a chafodd amser i gael ei anadl a meddwl. Ni feddyliai Denys druan, er ffraethed ef, am ateb cyn i Ddofwy gael cyfleustra o'i flaen. Nid ystyriai ef ei hun hyd yma namyn "cludydd arfau." Cymerodd Dofwy i fyny ei barabl: Caiff Denys ateb trosto'i hun, er bod gennyf ddrych-feddwl o'r hyn a ddymuna. Amdanaf fy hun, credaf mai'r peth gorau i mi, a'r peth a gyfetyb i angen y wlad ar hyn o bryd fydd mynd oddi amgylch i gyhoeddi'r Efengyl yma a thraw. Gwyddost, fy nghyfaill, mor baganaidd yw'r wlad a'r alwad sydd am y "newyddion da," ac am arloesi'r tir, a pharatoi ffordd yr Arglwydd. Rhagorol, ac yn enwedig yn dy achos di, na raid iti ddibynnu ar adnoddau o'r tu allan. Ni ellir dywedyd hyn am bawb. Ac er y dywaid yr Apostol bendigedig St. Paul bod gennym hawl i fyw wrth yr Efengyl, eto, penderfynodd ef, er mwyn ei annibyniaeth beidio â gwneuthur hynny. Fel y mae gorau, nid oes galw am i tithau wneuthur hynny. Mwy na hyn: wrth rannu ei ddoniau, dawn Efengylydd yn arbennig a roddes y Meistr i ti, er y credaf fod arweiniaeth ac arolygiaeth i ddyfod yn y man. Ond beth am dy gydymaith siriol?"

"Ie, beth yw dy ddymuniad di, fy ffrind? Byddai dy gwmni ar daith yn ddiddan, ac mewn gwaith yn gynhorthwy. Ond sut y teimli di ar y mater? Y mae'n bosibl fod gan Aeddan rhyw gylch o wasanaeth yn barod os mai hynny fyddai orau gennyt." Edrych braidd yn ofnus a wnâi Denys i ddechrau, ac nid oedd dawn barod y Gwyddyl at ei wasanaeth ar y foment. Ond buan y torrwyd y rhew. "Nid yw'r Meistr wedi ymddiried i mi gyfoeth byd megis y gwnaeth i Ddofwy," ebr ef yn wylaidd. "Mae'n debyg y gwyddai yn well. Oherwydd hyn, rhaid i mi ddibynnu ar haelfrydedd yr eglwysi am fy nghynhaliaeth. Carwn allu mynd a gwneuthur fel fy nghyfaill, ac y mae'n garedig wedi cynnig dwyn y draul unrhyw adeg os y carwn hynny. Ond, ar hyn o bryd, credaf mai gwell fydd i mi weithio mewn maes cyfyngach o dan ofal un arall."

"O'r gorau," ebr Aeddan, "felly y caiff hi fod, ac ar hyn o bryd ni fydd achos iti symud oddiyma. Cei gartref yn y Mynachdy gyda hyn; ond i aros hynny, gwn y bydd i dy gyfaill drefnu lle iti yn y manordy hwn. Cei ddigon o waith yma; ac os bydd achos, gelli gymryd ambell daith oddicartref fel y gwnawn i gyd." Diolchodd Denys yn wresog am y cynnig hwn. "Y mae llwyth wedi ei symud oddi ar fy meddwl eisoes," ebr ef, a "chredaf mai'r Ysbryd Mawr a'm harweiniodd yma."

Llithrodd yr amser heibio, ac yn bur hwyr aeth y cymdeithion i hebrwng Aeddan i'w gartref. Aeth yr ychydig ddyddiau cyn y Sul heibio yn bleserus mewn rhodio yma a thraw yn yr ardal hyfryd, a chynllunio gwaith y dyfodol. Bu'r dyddiau hyn o fantais anhraethol i Ddenys, oblegid nid cwmni cyffredin yr eiddo Dofwy. Gosododd gerbron ei gyfaill ei blaniau o ymweled â lliaws mawr o leoedd, ac o gyhoeddi'r genadwri fawr ple bynnag yr ar- weinid ef. Hefyd, ei fwriad i ymweled à Chaer- lleon-ar-Wysg, cartref yr Arch-Esgobaeth. At hyn, bwriadai chwilio allan am leoedd cyfleus i adeiladu mynachdai, a sefydliadau daionus eraill, oblegid yr oedd wedi penderfynu mai dyma'r ffordd orau i wario cyfoeth ei etifeddiaeth. Yr oedd ei olwg ar Loegria yn ogystal â gwlad ei dadau, ond at Gymru yr oedd ei gariad cryfaf. Rhoddodd ar ddeall i Denys hefyd mai pedwar nod mawr ei fywyd oedd: Cariad, Heddwch, Santeiddrwydd a Diwydrwydd, ac ychwanegai mewn perthynas â'i wlad ei hun, Wladgarwch. Dyma'i ddelfrydau mawr. Cadwodd olwg ar y rhai hyn tra y bu fyw, a gadawodd hwynt ar ei ôl fel delfrydau i'r rhai a gofient amdano ac a garent ei enw. Ond, yn awr, rhaid rhoddi cipdrem ar waith y Sul, gwaith a adawodd ei ôl ar Wynfor am lawer o ddyddiau. Cerddasai y sôn am Ddofwy fab Sandde o'i flaen: sôn am oedfa ryfedd Mynyw, ac at hynny, un arall na soniasom amdani yn nhref Myrddin ar eu ffordd. Pan ddeellwyd ei fod yng Ngwynfor, ac fod gobaith ei glywed y Sul, yr oedd cryn gywreinrwydd yn y lle. Da fu cael adeilad o gryn faintioli yn y bore, oblegid daeth y lliaws ynghyd. Cymerodd Denys ran seml yn y gwasanaeth, a phregethwyd gan Ddofwy gydag arddeliad mawr. Barnwyd yma eto mai doeth cael oedfa'r prynhawn yn yr awyr agored, a hynny am dri o'r gloch. Rhwng yr oedfeuon gwnaed y gorau a ellid i gyfarfod ag angen a chyfleustra'r dorf. Golygfa hynod a welwyd y prynhawn hwnnw yng Ngwynfor. Gerllaw'r goedwig fawr y cymerodd y pregethwr ei safle, a chysgod coeden gaeadfrig yn torri peth ar wres yr haul ar ddiwrnod tesog. Dywed- ir weithiau y cafwyd " cynulliad parchus," ond prin y gellir dywedyd hynny am y dorf fawr yng nghwr y goedwig y diwrnod hwnnw. Hynny ydyw, yn ystyr arferol yr ymadrodd. Torf o baganiaid tywyll, hanner noethion, a digon anghenus oedd yno yn bennaf. Rheolwyd yr oedfa gan Aeddan, ond ni chymerodd ran amlwg. Cafodd Denys ei fedydd i'w waith, ac yr oedd ganddo ddawn felys a derbyniol. Nid edrychodd Dofwy ar lyfr o fath yn y byd, ond â'i lygaid mawr, meddylgar, yn tremio dros y gynulleidfa hyd at y pellaf oddiwrtho, adroddodd frawddeg gysylltiedig â gwyrth fawr porthi'r miloedd: "A phan welodd Efe y dyrfa, Efe a dosturiodd." . . . Disgrifiodd yn araf a dwys y sefyllfa mewn lle anial. Gallai y gwannaf ei amgyffredion ddilyn y stori. Ac yna traethodd ar "dosturi'r" Iesu mewn amgylchiadau cyffredin. Arweiniodd hyn at ddarpariadau rhad ras yn nhrefn y cadw. Tlodion ac anghenus oedd y rhai â'i gwrandawent gan mwyaf. Tlodion ysbrydol yn fwy hyd yn oed nag amgylchiadol. Ond gwelsant ddarpariaeth pren y Groes yn glir cyn i Ddofwy derfynu. Cyrhaeddai ei lais melodaidd ymhell, ac yr oedd rhyw swyn annisgrifiol ynddo a dynnai'r dorf yma eto i wasgu ato. Gwasgent fel rhai newynog am fara a dwfr y bywyd, a chawsant eu digoni. Yn sicr ni chlybu- wyd cynt, beth bynnag am wedi hynny, y fath gy- hoeddiad o Efengyl gras Duw. Cymerodd amser mawr ar ôl yr oedfa i drin y clwyfedigion, ac i ddangos iddynt ffordd Duw yn fanylach.

Nid hir yr arhosodd yn hen gartref ei dad ar ôl yr oedfa hon, gan fod y misoedd o'i flaen yn rhai da i deithio, ac fod Gair Duw yn llosgi yn ei esgyrn. Felly, gan adael ei gydymaith diddanus Denys ar ei ôl yng ngofal Aeddan trodd i ffwrdd, a theithiodd i leoedd eraill yng ngwlad ei dadau, a thros y ffîn i Loegria fawr baganaidd. Ond teg yw dywedyd iddo gynnau fflam yng Ngwynfor megis ym Mynyw a ddaliodd i losgi yn hir. Haws fu i'r mynach Aeddan fynd ymlaen â'i waith ar ôl hyn, a chafodd Denys y fantais o gychwyn ei yrfa yno yng ngwres math o ddiwygiad crefyddol. Yn wir, ple bynnag y pregethai anwylfab Nonita torrai allan ddiwygiad. Dyma'r peth y gweddïasai hi amdano, a chafodd ei gwobr. Dyma'r hyn a wnaeth i Ddofwy enw, a dyma sydd wedi cadw ei enw yn fyw. Cafodd ddyrchafiadau ar ôl hyn, ond ni hidiodd am y rhai hynny. Sant gloyw oedd ef, a gododd safon bywyd yr eglwys, ac a lanwodd y wlad â phersain Efengyl hedd. Gresyn na chofid hyn gan lawer a yfant eu llwnc-destunau iddo o dro i dro.

PENNOD XXII.
Castelli'r Ffydd.

BYDDAI ymdroi gydag oedfeuon grymus Dofwy yma a thraw yn ddiddorol, ond ai'r stori yn faith. Digon yw dywedyd iddo am ddeng mlynedd deithio o le i le gan bregethu efengyl y deyrnas ar bob achlysur posibl. Daliodd hefyd y fath safon uchel, o fywyd o flaen yr eglwysi nes creu math o arswyd yn enwedig ymhlith y saint diofal. Cododd Mynachlogydd yn ôl ei droed, a llifodd cyfoeth ei etifeddiaeth er helpu i dalu'r gost. Wedi gadael Gwynfor galwodd ar ei gefnder Teilo, yr hwn a lafuriai rhyw ugain milltir o hen dref Myrddin. Digwyddai ef fyw yn un o'r rhanbarthau prydferthaf yng Nghymru—gwlad fras, goediog, ac erys felly hyd heddiw er gwaethaf gwanc y dinistrydd ariangar. O dan gysgod derwen y pregethodd ef yn hwyr y dydd, lle, efallai, yr addolasai'r Derwydd ymhell yn ôl. Maith a difrifol fu'r ymddiddan rhwng y ddau gefnder y noson honno. "Beth yw dy gynlluniau a'th fwriadau?" gofynnai Teilo. "Llanw'r wlad ag Efengyl ac i'r perwyl hwnnw, codi sefydliadau fydd yn help i godi dynion. Dichon iti glywed fod fy nhad wedi bodloni i wario ei gyfoeth i gyd yn achos crefydd?" "Do, clywais hynny, ac y mae'n llawen gennyf. Wedi clywed hynny daeth rhyw ysbrydiaeth i minnau. Nid wyf dlawd, fel y gwyddost, ond caiff Crist a'i achos fy nimau olaf."

Llawenychodd Dofwy yn fawr pan welodd fod ei gefnder o'r un feddwl ag ef ei hun.

"A wyddost ti, Teilo, am rhyw ganolbwynt yn agos yma y clywais fy nhad yn sôn amdano—tu draw i'r Dywi yn rhywle?" Gwn, ac awn i'w weled yfory. Ond beth yw hyn a glywaf am y gwaith yng Nghaerlleon? Dywedir fod yr Archesgob yn brin o adnoddau i gyfarfod anghenion y gwaith mawr.'

"Yr wyf ar fy ffordd yno," ebe Dofwy, ac credu y gallaf fod o help a chalondid i Ddyfrig deilwng." Trannoeth, sylwai preswylwyr glannau'r Dywi ar ddau ŵr dieithr ar feirch yn dynesu. Safasant wrth eu gwaith i geisio dyfalu. Gwnaeth y teithwyr eu ffordd i'r man y saif arno heddiw weddillion hen Fynachlog. Ar y llecyn hwn dechreuodd y ddau ganu emyn, a thra y canent dechreuodd nifer o ddynion wasgu yn nes atynt. Byr iawn a fu'r gwasanaeth Gweddi fer gan Deilo, ac anerchiad gan Ddofwy ar "Wele Oen Duw." Ie, gwasanaeth byr, ond nodweddiadol, ac un a wnaeth argraff ar yr ychydig a glywsant, ac a adawodd ei ôl ar y lle hyd y dydd hwn, Ni fuasem yn sylwi ar ddigwyddiad o'r fath onibai ei fod yn enghraifft o filoedd o rai tebyg a gynhaliwyd gan Ddofwy, weithiau wrtho'i hun, bryd arall mewn cwmni, am y deng mlynedd y bu ar ei daith. Yng Nghymru ac mewn rhan fawr yn Lloegr, dyma fu ei hanes, "cannwyll yn llosgi," fel Efengylydd, a chodwr Castelli'r Ffydd fel trefnydd. Heddiw, nid yw Dofwy ond delfryd a ddeil y genedl ynghyd megis â swyn ei enw, ond y pryd hynny, ef oedd y bersonoliaeth ryfeddaf ym Mhrydain. Edrychid arno fel cennad oruwchddynol, ac er fod hynny yn fath o eithafion, eto, trwy gymeriad santaidd, gweinidogaeth ddygn, aml i wyrth ar gorff, a miloedd ar eneidiau dynion, nid rhyfedd y safai ac y saif byth ar ei ben ei hun.

Ffarweliodd ef â Theilo ar lan y Dywi, a bu'r cyfarfyddiad yn drobwynt ym mywyd yr olaf. Llafuriodd yn helaeth, a ffrwyth ei ymdrech a fu Mynachdy ar y llecyn dymunol lle y canwyd yr emyn. Trodd Dofwy tua Chaerlleon, ond nid heb ymdroi llawer ym mysg y paganiaid ar ei lwybr. Ni phrisiai pa mor blaen ei foddion cynhaliaeth, na pha mor anghysurus ei lety. Pregethu gair y Deyrnas oedd ei fwyd a'i ddiod. Wedi cyrraedd ohono i ddyffryn yr Wysg, teithiodd yn haws, ond trwy boblogaeth fwy. Ac nid esgeulusodd ei gyfleustra. Erbyn iddo gyrraedd Caerlleon, yr haf a aethai heibio, ac ni fwriadai adael y canolbwynt pwysig hwn nes i'r dydd ddechrau ymestyn drachefn. Yr oedd iddo swyn arbennig yn y gymdogaeth hon, lle y trigai megis o dan gysgod un o Gastelli Arthur. A da iawn oedd gan Ddyfrig ei gael, gan ei fod eisoes yn dechrau teimlo pwysau'r blynyddoedd, ac fod y gwaith yn trymhau ar ei ddwylo. Gwelodd ar unwaith yn Nofwy ddawn eithriadol, ac megis y bu Timotheus yn gysur i Paul wrth olygu'r dyfodol, felly y bu Dofwy i Ddyfrig. Byddai'r olaf lawer oddi cartref, gan mai arno ef yr edrychid fel prif arolygwr y gwaith. Felly, bu arhosiad Dofwy gydag ef am dymor o help dirfawr iddo, yr hwn yn wir a fu'n foddion i godi pen yr achos yno, ac yn y cylch. Pa le bynnag y pregethai, yno y tynnai'r dyrfa. Llifodd cyfoeth ei etifeddiaeth hefyd yno er mawr fudd i'r sefydliadau crefyddol. Mynych a difrifol fu ymgynghoriad y ddau ar faterion o bwys, er nad oedd Dofwy ond ieuanc mewn dyddiau. Ond yr oedd ganddo synnwyr hynafgwr. Pan ddechreuodd y dydd ymestyn, a Natur fywiocau, penderfynodd ar deithiau pellach, hyd yn oed i Loegria fawr a phaganaidd. Un noson, terfynodd ymgom hir rhyngddo ef a Dyfrig fel y canlyn: "Yr ydwyt am fy ngadael eto, fy nghyfaill, ar fy mhen fy hun mae'n debyg. Teimlaf yn fawr dy golli, ond gwn fod dy waith o dy flaen, a bod gan yr Arglwydd ei fwriadau mawr i'w cyflawni trwot ti. Y Meistr ei Hun a fyddo gyda thi, fy mab."

"Y mae gennyf hyder mai felly y bydd," ebr yntau. "Bydd yn chwith gennyf gefnu ar le y cefais gymaint o les a bendith, ac ar un y mae'r Meistr wedi gosod cymaint o ofalon y gwaith ar ei ysgwyddau mewn amddiffyn yr athrawiaeth, yn ogystal â chyfarwyddo'r meddwl ieuanc yn llwybrau'r Ffydd. Dos rhagot, barchedig dad, gyda'r gwaith mawr o adeiladu'r Coleg, ac fe wêl fy nhad a minnau na fydd yr adnoddau ar ôl. Gellir dibynnu hefyd ar Deilo fy nghefnder, yr hwn sydd mor hael ag ydyw o lafurus i roddi help."

Ofer iawn fyddai ceisio dilyn camau Dofwy wedi hyn am naw mlynedd a mwy. "Paratoi ffordd yr Arglwydd" oedd un nod mawr ei fywyd, ac yn bennaf mewn pregethu. Ond bu lluosogiad Corau, Bangorau, Mynachdai a Cholegau o dan gyfarwyddid Dyfrig ac eraill i'w briodoli i'w haelfrydedd ef uwchlaw neb. Os ceir mwy o'i ôl yn y De na'r Gogledd, y mae hynny am nad allai fod ym mhob- man, er mor lafurus y bu. Cyn i Fynachlogydd y canrifoedd 11 a 12 ymddangos, yr oedd to cynharach o sefydliadau wedi eu codi, ac i fesur wedi diflannu. Ac yn y blynyddoedd cynharach, nid oedd dim o sawr y Babaeth ar y cyfryw. Ar lan Gwy, yn ogystal a'r Dywi, gwelwyd ffrwyth y deffroad yn cymryd ffurf sylweddol rhyw sefydliad neu'i gilydd, yn ogystal ag ar lan y Daf a mannau eraill.

Yn fuan wedi ymweliad cyntaf Dofwy â Chaerlleon, trwy ei drefniant ef, ac ar ei gost, galwyd Uthr yno i fod yn gynhorthwy i Ddyfrig. Parhaodd Denys i lafurio yng Ngwynfor am flynyddoedd, a daeth i gael ei adnabod gan y lliaws fel y "mynach llawen," oblegid dygai ei wên sirioldeb i ba le bynnag yr elai. Cyfnod o brysurdeb eithriadol a fu hwn, ac nid gormod dywedyd i eiddgarwch Dofwy gyda'r gwaith gynhyrchu math o arswyd rhag llacrwydd heb sôn am segurdod. Tra efô ar ei deithiau hyn, daeth cyfnewidiad i fywyd ac amgylchiadau ei gefnder Teilo. Cafodd yr anrhydedd, wedi argyfwng o anhawster, o ddilyn Dyfrig Esgobaeth gyntaf Cymru, sef yr eiddo Llandaf. Nid hawdd dilyn Dyfrig fawr, a phan alwodd amgylchiadau bydol ac eglwysig arno ef i adael Llandaf am Gaerlleon, bu'r bwlch am ysbaid heb ei lanw. Yn Nheilo, fodd bynnag, cafwyd dilynydd teilwng a fu yno am gyfnod maith.

Ac yn awr at Ddofwy, wedi ei lafur a'i ludded. Un hwyrddydd haf, tra'r haul yn tynnu at ei fachludiad tuhwnt i Athrofa Peulin, gellid gweled gŵr mewn urddau santaidd yn tynnu'n hamddenol tua Charnedd-y-Derwydd. Dofwy oedd ef, yn troi adref o'i daith olaf fel Efengylydd rhydd, heb arno ofal arbennig fel bugail y praidd.

PENNOD XXIII.
Yr Ymgynghorfa.

BYDDAI'n gwbl amhosibl mesur gwerth y deffroad ysbrydol ym Mhrydain a gynhyrchwyd yn bennaf trwy weinidogaeth Dofwy. Mwy amhosibl mesur gradd ei ddylanwad ar Gymru fel yr ydoedd yn y blynyddoedd hynny. Daeth ei enw yn air teuluol, a phery felly, erbyn hyn, fel "Dofwy Sant" ers canrifoedd. Aeth allan megis hogyn: trodd yn ôl yn ddyn deg ar hugain oed, ac ôl llafur mawr arno. Ni ddychwelodd cyn pryd. Erbyn hyn yr oedd ei fam yn tynnu at ei thrigain, a'r tad gryn dipyn yn hŷn, a da oedd ganddynt ei weled yn troi'n ôl i aros, tra eu llygaid ill dau yn agored.

"Croeso yn ôl, fy mhlentyn," ebr ei fam, gan ei gofleidio megis y gwnaethai pan oedd faban. Ac er nad oedd ei dad yn amlwg mewn dangos ei deimladau, eto nid oedd lai llawen. Cawsant y noson honno iddynt eu hunain, a mawr fu'r siarad am a fu. Bron nad ofnai Nonita awgrymu dim am a ddaw. "Ti a arhosi gartref bellach, fy mab," ebe Sandde yn y man. "Gwnei yn sicr, Dofwy," ebe hithau, "er na fynnem er dim ymyrryd â'th gynlluniau." "Mae eich gofal amdanaf yn fawr, a'ch awydd am fy nghwmni a'm gwasanaeth yma yn werthfawr yn fy ngolwg. Credaf fod yma le nid yn unig i gadarnhau y gwaith ym Mynyw, ond i'w ehangu, ac wneuthur Eglwys Mynyw y Brifeglwys yng Nghymru. Cawn siarad ar y mater hwn eto.'

Trannoeth, yr oedd Carnedd-y-Derwydd yn gyrchfan y lliaws, ac yn fan ymgynghoriad pwysig. Tra heulwen haf uwchben y fan, diddorol sylwi ar y cwmni sydd ar y lawnt. Gwnaeth deng mlynedd wahaniaeth. Aethai'r gwaith rhagddo trwy haelfrydedd Sandde a llafur Pawl, Gwenhwyfar, Peulin ac eraill. Yr oedd rhieni Nonita yn y cwmni heddiw, ac Aeddan o Wynfor. Ond nid iddo ef y rhoddwyd y lle o anrhydedd ar yr achlysur hwn ond i Bawl deilwng. Y mae ef bellach y tu hwnt i'r "addewid" fel y dywedir. Eisteddai yn ymyl Dofwy, ei hen athro cyntaf, a gŵr y cyfrinachau boreol. Ar yr ochr arall Peulin, ei brif athro; diwinydd ei ddydd. Os oedd gan hwn fai, arwraddoliaeth o'r Apostol Paul oedd hwnnw. Y mae yntau'n cyfnewid, er fod iddo ddyddiau lawer eto. Y mae Uthr am dro o Gaerlleon, yn ddyn cryf erbyn hyn ymhob ystyr. A Gwenhwyfar, bid sicr, cyfeilles fawr Nonita. Beth bynnag oedd Elisabeth a Mair i'w gilydd, nid mwy na'r ddwy yma. Yr oedd Stephan ac Andreas yno o'r Ynys, a Seli, ar gais ei feistr, yno gyda'i fab. Ac y mae yno un arall y dylid ei enwi, sef Llegyr, erbyn hyn yn tynnu ymlaen. Gŵr ysgeler iawn fuasai ef, ond gwnaethai gras lawer iddo, megis i Enid, gweddw ei elyn Bwy, a Garth ei hen was—y ddau yn bresennol. Dyma rai o flaenffrwyth yr eglwys ym Mynyw yn nyddiau Pawl a Gwenhwyfar.

Nid oedd dim yn swyddogol yn y cyfarfod, er fod y rhai hyn yn wahoddedigion i gyfarfod Dofwy ar ei ddychweliad. Pawl a agorodd yr ymddiddan gafwyd ar waith Dofwy yn y gorffennol, ac ar y rhagolygon. "Llawenydd mawr i ni ydyw gweled ein cyfaill annwyl a gweithgar wedi cyrraedd adref am ychydig seibiant," ebr ef. Edrychwn ymlaen i gyd am iddo aros bellach yn ein plith, a chymryd, ar ôl tipyn o orffwys, faich y cyfrifoldeb mawr sydd yma arno ei hun.' Mynegid gan bob wyneb fod y geiriau yn cyfarfod â dymuniad y cwmni. Pe byddai eithriad, nid y rheswm oedd na charesid ei weled yn aros ym Mynyw, ond amheuaeth a fyddai hynny y gorau i'r gwaith mawr yn gyffredinol.

Y tebycaf o'r cwmni i gymryd yr olwg hon fyddai Aeddan, oblegid yn un peth nid o Fynyw yr oedd ef. "Yr ydym i gyd yn falch o'i weled yma, ebr ef," gwedi llafur mawr ac eithriadol, ac yn sicr ni fyddai dim yn well i Fynyw na'i ymsefydliad yma. Ond, y mae ochr arall iddi. Heb weniaith, rhaid cydnabod fod Dofwy yn ddyn gwlad, ac, os arbedir ef, daw yn ddyn yr Eglwys Gyffredinol. Mae llawer o bethau yn bosibl iddo ef cyn y daw i oedran ei athro hybarch cyntaf. Wedi hyn, aeth y siarad yn fwy o sibrwd, ond hawdd oedd gweled fod llygad y fam ar ei bachgen, ac y carai ei glywed yng ngŵydd y cwmni yn dweud rhywbeth am ei fwriadau.

"Mae'n llawenydd mawr i mi weled fod croeso imi yn hen ardal fy ngenedigaeth, fy magwraeth a'm haddysgiant," ebr yntau yn y man. "Eisteddaf heddiw rhwng dau ddyn ag y mae fy nyled iddynt y tuhwnt i'w thalu. Os wyf rywbeth, ac os byddaf rywbeth, bydd y ddau hyn, at fy rhieni annwyl, a Gwenhwyfar o dan Dduw, yn cyfrif am y gorau sydd ynnof. Ond pa angen am neb i Fynyw tra y rhai hyn yn aros? Ac am yr Ynys, ni all bod angen yno tra Stephan ac Andreas ar y tir. Ond, er hynny, Mynyw yw Mynyw, ac ymddengys i mi er y cwbl a wnaed nad ydym ond dechrau yma. Beth bynnag am y dyfodol agos, yma y carwn ddyfod i fyw a gweithio, ac efallai i farw. Ond y nef sydd i benderfynu hynny."

Er nad oedd Sandde yn ŵr ymadroddus, ni allodd gadw yn hollol ddistaw, yn enwedig pan glywodd ei fab yn sôn am "y dyfodol agos, a thu hwnt i hynny ei awydd i ymsefydlu ym Mynyw. "Diau," ebr ef, "nad ydym ond megis yn dechrau, er maint y gwaith a wnaed. Ac y mae rhai ohonom (gan daflu cipolwg ar Nonita) yn credu, mewn canlyniad i fath o weledigaethau, mai Mynyw yn y man fydd prif ogoniant crefydd ym Mhrydain. Er mor neilltuedig y lle, y mae llawer o gyniwair rhyngom â'r Ynys Werdd, ac y mae'r saint yn lluosogi eisoes. Os byth y gelwir fy mab i gydweithio â'i hen athrawon yn yr ardal hon, diau y carai weld y byd ar raddfa dipyn yn fwy eang, ac edrych i mewn i arferion eglwysig mewn gwledydd eraill, megis Rhufain a Phalesteina.

Yr oedd hon yn arawd, i fath Sandde, a thrawodd yr hoel ar ei phen. Mae'n debyg i'r ymddiddan cyfrinachol ar yr aelwyd ei arwain i'r cyfeiriad a gymerodd.

"Ni fyddai dim yn well iddo ef ac i'r Eglwys yng Nghymru na hyn," ebr Aeddan. "Nid pawb fedr fforddio yr hyn sydd yn ei gyrraedd ef. Byddai taith o'r fath a awgrymwyd yn help i'n bachu wrth Eglwysi'r Gorllewin a'r Dwyrain. Tra'r ymddiddan hwn yn mynd ymlaen, hawdd gweled fod Peulin yn cael ei gynhyrfu. Yr oedd ei lygaid megis sêr gloywon, a symudai yn anesmwyth ar ei sedd. A phan y cafodd fwlch, torrodd i mewn gyda'i bybyrwch arferol: "Syniad rhagorol! Llawer a feddyliais fy hun pan oeddwn yn ieuengach am wneuthur pererindod o'r fath. Dychmygwn y dydd, a breuddwydiwn y nos. Daeth Palesteina i mi bron yn fwy adnabyddus na'm gwlad fy hun. Lleolwn ei mynyddoedd, ei dyffrynnoedd, ei dinasoedd a'i phentrefi, ac yn wir, gwnaf hynny eto. Ond wele fi yn heneiddio heb sylweddoli fy ngobeithion."

Edrychodd Dofwy gyda thiriondeb i wyneb ei hen athro hybarch, ac ebr ef: "Y mae rhai dynion na heneiddiant o gwbl, ac un o'r rheiny ydyw Peulin. Y mae'r hyn a awgrymwyd wedi cael lle mawr yn fy meddwl, fel y gŵyr fy nhad. Cyn y gallaf ymsefydlu yma, am amser, ac efallai am oes, tueddir fi yn gryf i wneud pererindodau. A chan na charwn fynd fy hun, y mae'n taro i fy meddwl y byddai cystal i Beulin gael sylweddoli ei obeithion â dim y gallaf feddwl amdano. Y mae'n sicr y gellir gwneud hebddo am dro, ar ôl ei lafur mawr a diball. Fe ofynnwn i Bawl hefyd am wneud trindod ohoni, onibai yr ofnaf na theimlai ar ei galon yn ei oedran ef ymgymryd â'r anturiaeth." Ysgydwodd Pawl ei ben, ac edrychai braidd yn drist.

"Na," ebr ef, " y mae'n rhy ddiweddar ar fywyd i mi, er i minnau hefyd freuddwydio llawer am hyn. Ond fe garwn yn fawr weled ein cyfaill Peulin yn cael y fraint." "A ddeuwch chwi yn gwmni i mi, Peulin?" gofynnai Dofwy. "Gyda'r hyfrydwch mwyaf, os gellir hyrwyddo fy ffordd." Parhaodd y cwmni ynghyd nes iddi hwyrhau, ac i bawb gael prawf o letygarwch a haelfrydedd Nonita a Sandde. A chyn torri i fyny yr oedd ffordd Peulin wedi ei "hyrwyddo" mor bell ag y gellid y noson honno.

PENNOD XXIV.
Y Tir Santaidd.

HEDDIW, nid yw taith i'r dwyrain ond peth bychan hyd yn oed y ffordd hwyaf. Ar adenydd y gwynt, gellir gyda lwc, hedeg yno mewn cwpl o ddyddiau. Ond peth arall oedd gwneuthur pererindod yn y chweched ganrif. Ac er mai ofer fyddai ceisio dilyn camau Dofwy a Pheulin, hwyrach y dylid dywedyd hyn, na roddai'r naill na'r llall ddiolch am gael eu rhuthro i'w taith megis y gwneir heddiw, ond yn hytrach, y dewisent gael hamdden i sylwi ac i siarad. Yr oedd i Sandde fuddiant ar y môr a'i galluogodd i hwyluso'r daith. A chan fod Peulin yn awyddus i gyfarfod Garmon, ar fater Pelagiaeth, penderfynwyd teithio trwy Ffrainc, rhannau o ba wlad oedd yn flodeuog grefyddol. Wedi llawer o ffawd a chryn dipyn o anffawd cawsant eu hunain yn y man ym mhorthladd Alexandria, a'r mater bellach oedd ymweled ag olion hen hanes, ac hyd y gallent ddilyn ôl traed yr Israeliaid o'r Aifft i Ganaan. Nid oedd amser yn cyfyngu arnynt, ac yn sicr, nid oedd arian yn brin, oblegid yr oedd i Ddofwy ddigon wrth ei gefn i dalu costau'r daith o ben i ben. "Rhaid i ni amcanu at ddilyn camau yr hen genedl hyd y gellir," ebe Dofwy, ar ôl cael gafael ar ar-einydd a'u dygai trwy'r Aifft ac i gyrrion Sinai enwog. "Mae'r tywod wedi cuddio ôl eu traed ers llawer canrif," ebr ei gyfaill, "ond gallwn fod yn sicr o ambell i lecyn ar y daith, ac y mae hynny yn beth na ddisgwyliais ond ym mreuddwydion y bore." Yr oedd yn llawer o fantais i Ddofwy gael cydymaith o'r fath: un mor hysbys o'r ddaearyddiaeth, ac un cyfarwydd â'r Syriaeg a'r Arabaeg, heb sôn am rai mwy cyffredin.

Arhosasant wrth droed Sinai, ac er mawr lawenydd i Beulin cawsant dderbyniad croesawgar i Fynachdy ar un o'r copäau. Nid yn unig hynny, ond dangoswyd iddynt amryw rannau o'r Ysgrythur ar femrwn, a'r modd o gopio gan rai o'r mynachod. Anrhegwyd Peulin â darn o Efengyl yn y Syriaeg, yr hyn a'i llonnodd yn fawr. Ni fu'r mynachod ar eu colled o ddangos y caredigrwydd hwn.

Y ddau le nesaf mewn golwg oedd Beer-seba a Hebron. Tybed a allwn ni adwaen Beer-seba hyd sicrwydd?" oedd cwestiwn Peulin. "Beth am y ffynnon?" ebr y llall. "Wel, ie, gall honno fod yn aros ar hyd y canrifoedd maith." Un hwyrddydd, a'r haul yn tynnu yn brysur at y gorwel, a hwythau o dan gyfarwyddyd yn gwneud am y llecyn cysegredig, gwelent nifer o bebyll bugeiliaid gerllaw, a nifer o ferched a'u costrelau ar eu hysgwyddau yn cyrchu tua'r unman. " Yn sicr," ebe Peulin, cyrchu dwfr y maent, ac y mae'r arferiad heb newid er dyddiau y patriarchiaid." Da fod iddynt ei harweinydd o Sinai ymlaen, a hwnnw'n alluog i ddeall i fesur yr iaith. Wedi iddynt osod i fyny eu pebyll, gyda'r gwyll wele gwpl o ddynion yn galw. Cawsant beth ofn, ond nid oedd raid. Wedi ychydig eiriau gyda'r arweinydd a'r cyfieithydd euthant ymaith, ond i ddyfod yn ôl gyda nifer o deisennau a darn o gig gafr. Er nad allai'r ddau bererin siarad, gwnaethant bob arwydd posibl o werthfawrogiad, a chawsant gan Ddofwy fwy na gwerth yr anrheg. A chawsant hwythau fodlon rwydd i'w meddyliau eu bod yn sangu tir a sangwyd gynt gan Abram, Isaac a Iacob. Yn y bore, euthant at y ffynnon, a pha un bynnag ai hon oedd "Ffynnon y llw ai nad e, aethant i ffwrdd am Hebron gyda sicrwydd yn eu meddyliau eu hunain mai hon oedd hi. Yn Hebron, gwelsant fan tybiedig beddrod Abram a Sara, Isaac a Rebecca, Jacob a Leah, ac eraill. Ym Methlehem gwelsant le geni'r Gwaredwr, ac yr oedd y ddau megis o'r naill berlewyg i'r llall. Oddi ar drum lled uchel cawsant olwg werth teithio i Ganaan er ei mwyn. Ym mlaenaf y Ddinas Santaidd: dinas dinasoedd y byd. Gwelir hi o'r trum hwnnw, er fod dyffryn a bryn yn cyfryngu. Pan welsant hi, safasant yn bennoeth am ysbaid heb ddywedyd gair. Peulin oedd y cyntaf i siarad. "Fy nghyfaill caredig," ebr ef, a'i lais yn crynnu, "Wele Ddinas y Brenin Mawr, ac wele finnau, trwy eich caredigrwydd wedi sylweddoli mewn rhan un o freuddwydion gwylltaf y boreddydd." "Diolchwn i Dad y trugareddau," ebr ei gydymaith ieuanc, gan syrthio ar ei liniau. Safai nifer o fugeiliaid gerllaw: bugeiliaid meysydd Bethlehem, dilynwyr Dafydd, a'r rhai wedi hynny a glywsant angylion yn canu. Wrth weled y ddau bererin mewn agwedd mor ddefosiynol, plygasant hwythau eu pennau yn isel. Ond yr olygfa! O droi tua'r dwyrain, gwelent oddiyma wastadedd yr hen ddinasoedd, a'r Môr Marw, a orwedd mewn rhan lle y safent hwy. Tu draw i hynny gwelent ucheldir Moab, fel math o fur hirfaith yn rhedeg o dde i ogledd am filltiroedd lawer. Dyma linell y gorwel, a chododd llawer o feddyliau yn eu calon am yr hyn a ddigwyddasai, o weledigaeth Moses ar Biscah ymlaen. Ofer fyddai ceisio ymdroi. Ond gydag amser ac arian at eu gwasanaeth ychydig o leoedd cysegredig oedd nas gwelsant, gan iddynt yn ddilynol i hyn wneuthur y Ddinas Santaidd yn ganolbwynt, a theithio yn ddyddiol am rai misoedd. Deuthant i gysylltiad buan â'r Eglwys Gristionogol oedd yn y ddinas ar y pryd. Nid oedd hyd hynny y gystadleuaeth a ddaeth wedi hynny am feddiannu'r lleoedd santaidd. Seml iawn oedd y gwasanaeth mewn eglwys a safai ar lethr yr Olewydd, ar y llecyn, yn ôl Peulin, lle y rhaid fod y Gwaredwr wedi treulio oriau'r ing. Bu'r patriarch yn garedig iawn, a gwnaeth argraff ar eu meddwl y gwyddai fwy am eu dyfodiad nag y cymerai arno. Gwnaeth iddynt addo presenoli eu hunain mewn gwasanaeth ar ddydd ac awr benodol heb roddi ei reswm tros hynny. Wrth gwrs, addawsant yn barod. Ond yn y cyfamser, chwiliasant yn fanwl dan bob cyfarwyddyd posibl am Golgotha, lle'r bedd a lleoedd cysegredig o'r fath. Un noson ymddangosai Peulin yn llawn myfyrdod. Yr oeddynt erbyn hyn wedi tramwy trwy rannau helaeth o'r wlad: Galilea, Samaria, Judea, a chyda'i wybodaeth helaeth o'r blaen, cawsai Peulin foddhad digymysg. Bu raid morio ar fôr Galilea, a mynnai y gallai nodi'r fan lle y llefarwyd Dameg yr Hauwr. Bu raid galw yn Cana, lle y cyflawnwyd y wyrth gyntaf, ac yn Nasareth, "lle y magesid Ef." Yn wir, nid oedd le o bwys na osodwyd llygaid arno. "Mae'r mynyddoedd a'r bryniau yn aros, Dofwy; y moroedd bychain, a'r hen Iorddonen. A Libanus fawr, a Hermon; am y rhai hyn yr ydym yn sicr, ac am lawer i fan cysegredig yn nesaf peth i sicr." Dyna ddyfarniad Peulin. Ond, fel y nodwyd, un noson, ar ôl llawer o dramwy a mesur o flinder, ymddangosai mewn myfyrdod dwfn, ac o'r diwedd torrodd allan: "Yr wyf yn fwy na bodlon ar a welais, ac yn dra diolchgar i chwi, fy nghyfaill haelfrydig, am sicrhau i mi sylweddoliad o fy mreuddwydion. Ond y mae un peth a garwn eto, ac y mae gennym bythefnos cyn yr amser penodedig i gyfarfod yr eglwys leol yma. Credaf, ond imi gael siawns y gallwn bron roddi fy nhroed ar y llecyn cysegredig, lle y cafodd Saul o Tarsus ei droedigaeth, pe bai modd cael yn agos i'r lle rywfodd." Yr oeddwn wedi meddwl fy hun y dylem gael golwg ar hen ddinas enwog Damascus," ebr y llall, un o'r rhai hynaf yn y byd, mae'n debyg." Wel, ardderchog," ebe Peulin, a'i ddau lygad yn pefrio. Ardderchog! Caf weled un o'r lleoedd cysegredicaf i mi, ar wahân i Gethsemane a Chalfaria." Ac felly y bu. Gwnaed taith dipyn yn frysiog ar hyd y ffordd gyffredin a oedd y pryd hynny yn adnabyddus, ac a erys felly byth. Pan oeddynt o fewn llai na milltir i'r ddinas, yr oedd cynnwrf meddyliol Peulin mor fawr fel mai prin y gallai eistedd ar ei anifail. Ac yn y man, mor sydyn â mellten, gwaeddodd, " Safwn, yn sicr dyma'r fan!" Safwyd, disgynwyd, a dinoethwyd y pen. Ni all fod gan yr hen bererin ddim i'w arwain, ond ei synnwyr cyffredin, os na chaniataodd Rhagluniaeth iddo rhyw fesur eithriadol o ysbrydoliaeth. Modd bynnag, aeth i'w ffordd yn llawen, ac wedi cael golwg ar yr hen ddinas, trowyd yn ôl yn fwy hamddenol. Di- noethasai ei ben o'r blaen mewn man ar fynydd Sinai, lle y credai y bu Moses, Elias a Phaul yn sefyll arno. O ddyn mawr a dysgedig, rhaid dywedyd amdano fod ei ddychymyg byw yn ei gario weithiau i eithafion.

Daeth yr awr i gyfarfod ag Eglwys Jerusalem, ac ni chafodd Dofwy fwy o syndod yn ei oes. Trefnasid Cyfarfod Ordeinio, ac yr oedd yn ddydd o Uchel ŵyl. Prin y credent dystiolaeth eu clustiau pan glywsant oddi ar wefusau'r Patriarch y geiriau hyn: " Cyn y trowch yn ôl at eich gwaith yn Eglwys y Gorllewin, teimlwn yn rhwymedig i roddi arnoch arwydd neilltuol o barch ac ymddiriedaeth. Rhywbeth hefyd a fydd yn ddolen gydiol rhwng y fam-eglwys â chwithau. Yn enwedig gwnawn hyn â chwi, cynrychiolwyr o'r Hen Eglwys Brydeinig, ac hyd yma, y sydd yn annibynnol ar Rufain a'i hawdurdod." Aed ymlaen i ordeinio Dofwy yn Esgob o'r Eglwys Ddwyreiniol, a dyma'r "ddolen" y cyfeiriwyd ati. Seml iawn fu'r gwasanaeth o gymharu â'r hyn ddaeth i fri yn ddiweddarach yn nwyrain a gorllewin. Clywsent yn ddiau am Ddofwy, ei orffennol a'i ragolygon, a gwnaethpwyd hyn iddo. Cofiwyd am Beulin hefyd mewn modd derbyniol iawn iddo ef ei hun. Cyflwynwyd iddo gopi o Ffurfwasanaeth yr Eglwys yn y Syriaeg. Nid oedd ganddynt i'w hebgor Efengyl nac Epistol, ond cyflwynwyd iddo gopïau o Homilïau, Emynau a Gweddïau a ddefnyddid yno, a bu'r rhai hyn o wasanaeth ym Mynyw am genedlaethau. Tra'n penlinio wrth allor y Cymun Santaidd, neu wrth godi, sylwasai Dofwy fod darn bychan o'r bwrdd carreg yn rhydd. Deisyfodd ei gael i'w gadw er cof, a chafodd ei ddymuniad. Darn pedair onglog oedd, llai na throedfedd bob ffordd. Ond y mae iddo hanes. Cariodd ef adref, a dywedir y cymerai ef i'w deithiau ar ôl hyn, ac y gosodai ef ar bob allor gwasanaeth lle'r elai fel arwydd o undeb eglwysig. Os felly y bu, sicr yw na fu hynny o niwed iddo ef gan ei fod yn rhy ysbrydol ei feddwl. Gellir gweled y darn hwn yn Llanddofwy heddiw, ond nid yw bellach namyn crair.

Ar y ffordd yn ôl ymwelwyd â Rhufain, a gwelsant lawer o bethau a wnaeth iddynt synnu. Ond gwelsant hefyd bethau a gododd yn eu hysbryd wrthwynebiad pendant. Galwasant eto yn Ffrainc, gan fod perthynas agos rhwng yr eglwys yno a'r eiddo Mynyw. Pan gyrhaeddasant yn ôl, yr oedd y bobl ynghanol prysurdeb cynhaeaf. Bu'r bererindaith o dan fendith Duw yn llwyddiant o ben i ben, ac yn destun siarad am amser hir.

PENNOD XXV.
Yr Esgob Dofwy.

CERDDODD y blynyddoedd, ac yn eu cwrs, wedi llafur a llwydd, daeth Mynyw yn eisteddle Esgobaeth, a phrin y mae angen dywedyd mai ei enw ef a saif ar ben rhestr hirfaith a geir yn Eglwys Gadeiriol Llanddofwy heddiw. Da, pe gellid dileu rhai o'r enwau, ond yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd. Gan i Ddofwy ddychwelyd o'r dwyrain yn Esgob ordeiniedig, ac na freuddwydiai neb am amau dilysrwydd y penodiad, mater o ffurf fu ei ordeiniad ym Mynyw. Tyfasai ei ddylanwad yn raddol yn ei ardal a'i wlad, fel cyn ei fod yn bymtheg ar hugain oed edrychid arno fel arweinydd, ond mwy na hynny fel sant eithriadol o loyw ei fuchedd a dwfn ei ddylanwad. Y mae un peth teilwng o sylw yn y stori hon am ei fod yn awgrymiadol o gymeriad a thueddfryd ardderchog y dyn. Fel yr heneiddiai Pawl, ai serch Dofwy ato yn ddyfnach ddyfnach, ac un noson yng Ngharnedd-y-Derwydd rai blynyddoedd wedi dychwelyd o'r dwyrain, cymerodd ymddiddan pwysig le rhyngddo ef a'i dad a Pheulin.

"Nid yw'r ffaith fy mod i yn Esgob ordeiniedig gan Batriarch Jerusalem yn rheswm dros beidio penodi un arall ar yr un pryd yn Esgob y lle hwn, a'r Esgobaeth i gydredeg â'r eiddof fi. Wedi'r cwbl, beth yw Esgob namyn Presbyter neu arolygydd y gwaith?"

"Gwir iawn," ebe Peulin, "felly y mae, er mai pell wyf fi o fychanu'r swydd." "Wel, ynteu, rhaid i Pawl fod yn Esgob am weddill ei oes." "Drych-feddwl hapus," ebe Sandde, yr hwn a wrandawai yn astud ar y ddau. "Nid yw Pawl yn chwennych swyddau, ond yr wyf yn sicr y byddai gwneuthur hyn yn godiad pen dyn teilwng." Cyn terfynu trefnwyd fod Dyfrig i gael gwybod eu teimladau, ac i drefnu, os cydwelai, fod dydd cadarnhad ordeiniad Dofwy i fod hefyd yn ddydd ordeiniad Pawl. Pan dorrwyd y newydd iddo ef, druan, bu agos iddo golli ei anadl. "Yr ydych wedi fy llethu gyda'ch awgrym caredig," oedd y cwbl a allodd ddweud. Diwrnod cofiadwy fu dydd yr ordeiniad. Eisteddai Gwenhwyfar a Nonita ynghyd fel arfer, ac yr oedd disgleirdeb eu hwynebau yn tystio i'w pleser. Erbyn hyn heneiddiai Gwenhwyfar yn amlwg wedi ei llafur mawr. Yr oedd Llegyr yno yn hen ŵr, a digon tebyg i'r olwg ar Bawl barchedig y dydd hwn ei atgofio am y pensyfrdandod a roddasai i Fwy flynyddoedd lawer yn ôl. Arweiniwyd Pawl i'w sedd gan Ddofwy ac Aeddan, a gweinyddwyd gan yr Archesgob Dyfrig. Bu'r arwydd hon o barch yn llawenydd i gylch mawr, ac yn y Mynachdy'r noson honno rhoddes yr Esgob Pawl ollyngdod i'w deimladau. "Anodd gennyf feddwl am ffarwelio â'r lle hwn, wedi cymaint o amser, ond yn awr, wedi ichwi osod anrhydedd newydd arnaf, mae'n amlwg na allaf fod yn abad mwy?" "Paham lai?" ebe Dofwy. "Tra y bydd fyw yr Esgob Pawl, a bydded hynny yn hir, ni allwn feddwl am ben arall i'r sefydliad hwn. Wele eich hen ddisgybl at eich gwasanaeth, a gwnewch y defnydd a fynnoch ohono." Parhaodd Pawl yn abad hyd ei fedd.

Bu'r Esgobaeth ddwbl yn fantais o boptu. Ni chaethiwyd Dofwy yn ormodol i'r ardal, ac ni orfuwyd ar Bawl fynd i deithiau pell. Cafodd y cyntaf hefyd fwy o seibiant i'w efrydiau, a mwy o hamdden i edrych i mewn i ystad yr eglwysi. Buan y taenwyd y sôn am ei ddoethineb, megis yr eiddo Solomon gynt, ac nid oedd achos o anhawster na ddeuai drosto. Profwyd hyn ar Ynys Ninian mewn achos tipyn o anghydfod rhwng Stephan ac Andreas. Daeth gair i ddechrau i glustiau Pawl, ond gan y teimlai'n ddiduedd i groesi'r sianel, a bod ganddo ffydd ddiderfyn yn noethineb Dofwy, gofynnodd iddo edrych i mewn i'r achos. A dyma'r hanes. Tybiai Stephan nad oedd Andreas mor barod ag y dylai fod i dderbyn ei orchymyn a'i gyfarwyddyd. Tybiai'r llall fod tuedd yn Stephan i'w fychanu ac i daflu pen trymaf y baich ar ei ysgwyddau. Wedi croesi, galwodd Dofwy yn y Mynachdy, a chafodd Stephan i mewn, ond Andreas allan ymhlith y praidd. "Deuthum yma," ebr ef, "am dipyn o newid, ac hefyd am dipyn o adgyfnerthiad fy ffydd, os oes modd. Ofnaf yn fawr fod mân wallau, megis diffyg llywodraeth hollol tros fy nhymerau, ac efallai syniadau, heb fod y rhai mwyaf cariadlon am eraill yn atal gwaith gras yn fy nghalon. Cymer y gelyn fantais ar unwaith, a phan gythryblir fy meddwl gan y pethau hyn neu eraill, caf gryn dipyn o drafferth i adennill tangnefedd fy ysbryd."

Edrychai Stephan fel un wedi ei syfrdanu, oblegid, fel pawb arall, ni allai feddwl am y mefl lleiaf ym mywyd yr Esgob Dofwy. "Anodd i mi ydyw credu y blinir yr Esgob gan bethau ydynt ysywaeth yn rhy barod i'm hamgylchu i a'm bath."

"O, fy mrawd, y lleiaf o'r holl saint wyf fi, ac nid oes wendid a'ch blina ar nad wyf finnau o dro i dro yn brofiadol ohono. Meddyliais y gallai ymweliad â'r Ynys, lle'r erys ysbryd yr anfarwol Iwstyn fod mor debyg â dim i adfer imi y tangnefedd a ddyry Crist i ni. Meddyliais hefyd y carwn olwg arnoch chwi ac Andreas, ac anadlu'r awyr anadlwyd unwaith gan eich hen feistr. Y mae ei ysbryd ef yma o hyd. A ddeuwch chwi am dro?"

"Efallai y deuwn ar draws Andreas ymhlith y praidd?" "Deuaf a chroeso, a da gennyf gael cyfle i siarad gair cyfrinachol, a hynny yn fy erbyn fy hun. Nid yw pethau'n dda rhyngof fi ac Andreas ers tro, ac ofnaf i eraill dderbyn niwed trwy hyn. Cydnabyddaf yn awr mai tipyn o falchter o'm tu i ydyw'r achos o'r cwbl." Adroddodd yr hanes mor bell ag yr oedd achos, gan ddiweddu: "Fy Arweinydd a'm Harolygwr, oblegid felly yr ydych, bu eich gwaith yn cyhuddo eich hun o fân bethau yn achos i gyffroi fy nghydwybod. Andreas sydd yn iawn, myfi oeddwn falch, a rhaid iddo ef a phawb arall gael gwybod hynny." Ardderchog, fy mrawd, mae'n dda gennyf fy mod wedi fy arwain yma. Ond dewch gyda mi: yr wyf am sefyll ar dri llecyn o barch i goffa Iwstyn, ac am weddio yn un ohonynt am adferiad llwyr o fy heddwch personol. Ym mlaenaf, safwn wrth y ffynnon, lle y syrthiodd. Yna wrth fwthyn Seli, lle yr iachawyd Uthr. Posibl y cyfarfyddwn â'r brawd Andreas ar y daith. Yna, ymwelwn â'r ogof lle'r arferai'r sant ymdrechu gyda Duw." Pan gyfarfyddwn ag Andreas," ebr y llall," rhaid i mi syrthio dan fy mai yn eich gwyddfod chwi. Y mae Andreas yn ddifai, a bydd yn iechyd i fy ysbryd wneuthur cyffes." "Dyna rywbeth tebyg i ysbryd Cristionogol, a gresyn na ffynnai hwn trwy'r holl eglwysi."

Daethant ar draws Andreas wrth y bwthyn lle y trigai Seli gynt, ac ebr yr Esgob: "Da gennyf eich cyfarfod, fy mrawd, ar lecyn mor gysegredig â hwn. Dyma le y wyrth fawr! Eiddigeddaf weithiau wrthych chwi sydd ar yr Ynys oherwydd y treuliwch eich dyddiau yn awyr cymdeithas y dyn rhyfedd hwnnw. Ond dyna: addewais wrth y brawd Stephan y cai gyfle yn fy mhresenoldeb i wneuthur rhywbeth sydd yn ei galon, ac yn angenrheidiol i adfer iddo ei heddwch a'i gysur." Ar hyn dynesodd Stephan at Andreas, gan estyn allan ei law a dywedyd, "Fy mrawd Andreas, yng ngwydd yr Esgob Dofwy, yr wyf yn syrthio dan fy mai ac yn gofyn pardwn. Balch oeddwn, a rhy barod i ddisgwyl gormod o arwyddion parch gennyt ti. Heb feddwl, euthum yn ddrwgdybus, ac y mae'n ofid i'm calon. Maddau i mi, fy niffyg yn y gostyngeiddrwydd a weddai i ddisgybl Crist." Edrychai Andreas mewn syndod ar y llaw estynedig, ond pan feddiannodd ei hun, gafaelodd ynddi, gan ddywedyd, "Fy mrawd Stephan, ni ddisgwyliais dy weled mewn agwedd fel hon. Beth a ddaeth trosot i gymryd yr holl fai am y tipyn anghydwelediad? Gwir i mi deimlo nad oeddwn yn haeddu yn gyfangwbl dy waith yn ymbellhau. Ond paid a meddwl y goddefaf iti gymryd yr holl fai. Bu'r hen aflwydd o genfigen yn ymosod arnaf, a phorthais beth arno. Ond ar y llecyn hwn, lle y mae ysbryd Iwstyn annwyl yn ymdroi, tyngaf yng ngwydd yr Esgob na chaiff ond cariad a pharch atat le yn fy nghalon mwy."

Siglwyd llaw, ac wylwyd ar y llecyn hwnnw, ac edrychai'r Esgob fel pe ar ben mynydd y Gweddnewidiad. Edrychodd tua'r Nef, a gweddïodd: "Yr ydwyf yn diolch iti, O Dad, am yr arwydd brydferth hon o frawdgarwch. Gwyddost ein gwendidau. Cnawd ydym. Estyn inni dy nerth, a ni a orchfygwn bob gelyn. Cysegrwn ein hunain ar y llecyn hwn i'th wasanaeth byth."

Wedi hyn aed i'r ogof, lle y gweddïodd y tri. Yna yn ôl at y ffynnon, ac wedi ymddiddan hyfryd uwchben lluniaeth seml a phlaen ymadawodd Dofwy yn ddiolchgar am allu gwneud diwrnod da o waith. Wedi iddo ymadael, troes Stephan at ei frawd Andreas, gan ddywedyd, "Andreas, fu erioed ei fath ar y ddaear er dyddiau'r Arglwydd Iesu, os nad oedd ein hen feistr Iwstyn." Parhaodd yr heddwch, a llwyddodd y gwaith fwy-fwy.

Tra'r Esgob Pawl yn ceisio dyfalu sut y bu, wele guro wrth ei ddrws, a Dofwy yn croesi'r trothwy. Wel, sut y bu? A lwyddasoch i heddychu'r brodyr?" "Heddychu! Nid oedd gweryl. Heb i mi wneuthur dim ond sylwi a dywedyd tipyn o'm profiad, syrthiasant ar yddfau ei gilydd, gan daeru y naill a'r llall mai arno ef yr oedd y bai, os oedd un." Y mae'n werth adrodd hanes fel hwn, am y teifl oleuni ar ddylanwad dyn a aeth rhagddo mewn nerth ysbrydol ac awdurdod, nes dyfod o fodd pawb yn brif oracl gwlad. Llefara'r digwyddiad gyfrolau.

PENNOD XXVI.
Amddiffynnwr y Ffydd.

GAN mai dilyn camau Dofwy yw amcan pennaf y stori hon, rhaid gwrthsefyll y demtasiwn i groniclo cynnydd enfawr y gwaith, ac yn enwedig weithrediadau mwy nag un canolfan pwysig, megis Bangor-is-y-coed, Bangor-yn-Arfon, a lleoedd eraill. Yn y rhai hyn trigai miloedd o fynachod o dan reolaeth fanwl. Ond nid oedd yr Eglwys heb ei helbulon, ac yn y chweched ganrif ailgyfododd Ariaeth a Phelagiaeth eu pennau, ac yn enwedig yr olaf. Er i Morgan (neu Belagius) gael ei ymlid o'r wlad, a marw mewn dinodedd yn y dwyrain, hauasai had gwenwynig, a blinwyd llawer ar feddwl Dyfrig, Garmon ac eraill gan ymddangosiad yr "efrau ymhlith y gwenith. Heneiddiai Dyfrig, ac awyddai yn fawr gael pen yr heresi i lawr cyn ymneilltuo o'r gwaith, a phenderfynodd alw Senedd ynghyd i le o'r enw Brefi, i'r hon y gwysiodd esgobion a swyddogion Eglwysig, liaws mawr. Dywedir fod yno 118 yn bresennol. Yr oedd cymaint o sôn am Ddofwy erbyn hyn fel y teimlid fod ei bresenoldeb yn hanfodol, ond, ar y cyntaf, ni fynnai ef fyned. Teithiodd Dyfrig, er yn hen, o Gaerlleon i Fynyw er mwyn ei berswadio, a chyda help ei dad a Pheulin llwyddodd. Cychwynnodd y tri ynghyd, ac yn hen dref Myrddin digwyddodd peth rhyfedd, ond peth a gymerwyd fel arwydd mai dyn y dyfodol oedd Dofwy. Cyrhaeddasai Aeddan yno ar ei ffordd i'r Senedd, a chymerwyd ef yn glaf hyd farw. Daeth hyn i glustiau'r tri, a chyn cyrraedd y tŷ, anadlasai Aeddan ei anadl olaf. Ai onid cysgu y mae?" gofynnai Dofwy. "Yn sicr, nid yw'r Meistr wedi galw adref ei was ar achlysur o'r pwys hwn." Pen- liniodd ger y corff, gan gymryd gafael â'i ddwy law yn nwylo Aeddan. Gweddïodd yn ddistaw, a sylwyd gan y rhai oedd yno fod rhyw olau rhyfedd wedi chwarae ar ei wynepryd tra'n gweddïo. "Aeddan," ebr ef yn ddwys, " Aeddan, y mae'r Arglwydd Iesu yn dy fywhau cyfod, tyrd gyda ni." Agorodd y mynach ei lygaid; edrychodd yn synllyd o'i ddeutu am eiliad neu ddwy, ac yna eisteddodd i fyny. Rhyfedd iawn," ebr ef, "llethwyd fi gan gwsg, ac ni allwn ymatal." Prin y rhaid dywedyd i'r wyrth ryfedd hon greu cyffro, ac at hynny hyder ymhlith y frawdoliaeth ym Mrefi. Cyrhaeddasai'r newydd yno cyn i'r pedwar hyn gefnu'r daith, a chododd disgwyliad y Senedd i bwynt uchel.

Fel y nodwyd, Pelagiaeth a barai y blinder mwyaf i'r Eglwys ar y pryd. Yr oedd rhywbeth mor deg mewn athrawiaeth a wnai yn ysgafn o bechod, ac o ganlyniad o'r Groes, a phob moddion adferiad. Yn yr awyr agored y cynhaliwyd y Senedd, a than lywyddiaeth Dyfrig yr Archesgob. Ni allesid gwell, oddieithr bod yn anodd iddo ef fod yn ddiduedd, oblegid yr oedd ei gasineb at y gau yn ddwfn a chwerw. Adroddwyd Credo Nicea i agor y gweithrediadau, a hawdd gweld arwyddion nad oedd pawb yn unfarn, ac yn enwedig ŵr o'r enw Caradog o Fangor-is-y-coed. Yr oedd hyfdra a beiddgarwch a gwrthryfel yn ei wedd. Wedi'r Credo, gweddïwyd gan Ddofwy, a dyma beth mawr y Senedd. A oedd a fynno'r wyrth ar y ffordd a'r holl sôn amdano cynt â'r peth, y mae'n anodd gwybod. Ond tra'n gweddïo ei weddi fawr dros y wlad, ac yn enwedig dros athrawiaeth a bywyd pur, y mae'n ymddangos i'r tir dan ei draed godi yn fryncyn bychan, a mwy na hynny, disgynnodd colomen ar ei ysgwydd, ac arhosodd yno. Gosododd Dyfrig yr achos gerbron mewn anerchiad galluog, o gryn feithder, ac ni ellir ei gofnodi, ond dengys brawddeg neu ddwy rediad ei feddwl: "Nid heb lawer o betruster a pheth oediad y gelwais ynghyd y Senedd hon. Yr oedd rhai o honom o leiaf yn lled obeithio ein bod wedi clywed yr olaf am heresi wenwynig Morgan. Ond ymddengys fod nifer o frodyr yn ei dysgu yn ddifloesgni, ac heb drafferth, yn tynnu nifer ar eu holau. Nid wyf yn synnu at hynny, oblegid athrawiaeth yw hon sydd yn gydweddol â dymuniadau'r natur ddynol, falch, ac yn gwneuthur i ffwrdd " â thramgwydd y Groes." Gwnaf un apêl. Oni charai y rhai sydd wedi eu harwain i'r amryfusedd hwn dynnu'n ôl, ac yn enwedig pan mae'r Eglwys yn cael ei hamgylchynu gan gymaint o baganiaeth noeth ar bob llaw? Mae galwad ar i ni fod yn un os am fod yn effeithiol."

Cyn ei fod wedi gorffen, wele Caradog ar ei draed, a beiddgarwch ar ei wedd. "Barchedig Lywydd," ebr ef, onid ydych wedi begio yr holl gwestiwn trwy alw yr hyn a ddysg rhai ohonom yn athrawiaeth gau. Paham y cymerwch yn ganiataol fod yr hyn a elwir yn Belagiaeth yn gyfeiliornus, ac mai'r hyn a gredwch chwi sydd yn gywir?" "Ai onid dyma'r hyn sydd gennym i'w benderfynu?" ebe Dyfrig yn gyffrous, a'i holl gorff yn crynu, "ie, ac a benderfynir unwaith am byth cyn yr ymwahanwn." "Ceir gweled," ebr y llall yn sarug. Cododd y llywydd ar ei draed unwaith eto, ond hawdd ydoedd gweled ei fod bron ar ddiffygio. "Os oes gan y brawd Caradog ragor i'w ddywedyd, yn awr ydyw'r adeg. Gwneuthum apêl, ond yn ofer. Fe gymer arall fy lle, gan fy mod yn hen, ac yn diffygio yn y gwaith." Amneidiodd ar Ddofwy, ac aeth yntau'n nes tra pob llygad yn craffu arno. Gan na chododd Caradog ar unwaith, cododd Dofwy ei law, megis y gwnelid gan Baul yr apostol wrth annerch y dorf: Frodyr a thadau," ebr ef, carwn yn well fod yn ddistaw, ond cymhellir fi wrth weled gwendid corfforol yr Archesgob Dyfrig i ddywedyd gair ar ran yr "Athrawiaeth iachus" (a wyddai ef fod y golomen fyth ar ei ysgwydd tybed?) Gŵyr rhai ohonoch rywbeth am fy haniad i, a'm dygiad i fyny. Os bu mam ddibechod, Nonita, fy mam i oedd honno, ac ymsyniaf am fy nhad fel un o ragorolion y ddaear. Hwyrach nad priodol dwyn y dystiolaeth hon yn ei ŵydd. Ond y gwir a saif. Pe bai modd hawlio genedigaeth heb gyffyrddiad y pla, y mae gennyf gystal lle i hawlio hynny â llawer un. Sonnir am ddylanwad esiampl. Nid wyf yn cofio imi glywed gair yn fy nghartref nac yn y cylchoedd y troais ynddynt wrth dderbyn fy addysg a allai gario dylanwad anffafriol arnaf. Ac ni welais weithred o'r eiddo fy mam a fy nhad a'm hathrawon na ddylaswn ei hedmygu. Ganwyd fi megis i baradwys, a magwyd fi ynddi, ac eto beth yw'r ffaith? Fy mod i, fel pob un arall, wedi gorfod teimlo fod rhyw ddeddf yn fy aelodau' yn peri fod ynof duedd bron anesboniadwy at y drwg. Teimlais, pan oeddwn yn ieuanc, fod rhyw anhwylder meddwl arnaf na allai neb, na dim ond Crist a'i Groes ei feddyginiaethu. Frodyr: Beth ydyw hanes y byd hyd y gwyddom ni ei hanes? Beth ydyw hanes dynion hyd nes y daw'r cyhoeddiad o'r Efengyl i'w cyrraedd a'i dylanwad i'w calon? Ymddengys i mi y dylai darllen rhan olaf y bennod gyntaf at y Rhufeiniaid fod yn ddigon i argyhoeddi pob dyn o'r hyn a ddichon y natur ddynol ohoni ei hun. Ac y mae baich yr Epistol yn ei ran gyntaf yn ddangosiad o drefn Duw o achub," etc.

Ofer fyddai ceisio ei ddilyn. Aeth yn ei flaen gyda huodledd ysbrydol a wefreiddiai'r dorf, ac fel yr elai'r rhagddo, daeth y peth rhyfedd hwnnw i'w olwg, "y wyneb angel." Pan eisteddodd ef, cododd Caradog, ond eisteddodd ar unwaith. Ac ymhen eiliad neu ddwy tynnodd ymaith o'r dorf. Cododd Peulin, ond nid i ymhelaethu. "Mae'r heresi hon," ebr ef," yn mynd o dan wraidd y drefn brynedigol, ac yn amcanu at ddymchwel Epistol gorchestol y bendigedig Paul at y Rhufeiniaid. Oni wêl Caradog a phawb o'r un gredo ag ef, fod yr heresi yn gwneud i ffwrdd a'r angen am Grist a'i Groes?" Mewn ychydig eiriau galwodd Dyfrig Senedd i gondemnio Pelagiaeth mewn modd di-gamsyniol. A gwnaeth hynny. Gellid meddwl fod pawb yn unfryd, a bu Gweddi Dofwy a'i anerchiad y dylanwadau cryfaf i'r perwyl. O hyn allan aeth ei enw yn ben yn yr holl eglwysi.

PENNOD XXVII.
Yr Archesgob.

NID hir y parhaodd Dyfrig yn ei swydd ar ôl Senedd Brefi, ac ymneilltuodd i ddiweddu ei oes yn Enlli, lle'r oedd Mynachdy. Yma, yn y man y bu farw, y claddwyd ef, ac fel y cerddai'r blynyddoedd, filoedd o seintiau eraill. Daeth Ynys Enlli yn Ynys y Saint. Nid oedd ond un enw posibl fel dilynydd i Ddyfrig, er i Deilo gael ei awgrymu. Ac am rhyw reswm, cynnydd Mynyw mae'n fwy na thebyg, a mesur o wywiant yng Nghaerlleon symudwyd yr Archesgobaeth i Fynyw. Bu ordeiniad Dofwy i'r swydd aruchel hon yn achlysur mor hynod ar lawer ystyr fel y rhaid nodi rhai o'r digwyddiadau.

Parhaodd yr hybarch Bawl yn Esgob Mynyw, tra, wrth gwrs, yr oedd Archesgobaeth Dofwy yn gorchuddio Cymru gyfan, a daliodd y swydd am lawer iawn o flynyddoedd gan iddo fyw i oedran digyffelyb. Gwelodd genedlaethau yn codi ac yn marw.

Nid rhwysg allanol a hynododd ddydd yr ordeiniad, ond rhyw ddylanwad ysbrydol cyfareddol. Daeth ynghyd dyrfaoedd o bob parth: Esgobion, abadiaid, mynachod, lleianod, etc., bron heb rif, a bu pregeth yr Archesgob newydd ar yr achlysur y fath fel y gwasgarwyd math o dân Pentecost drwy'r wlad. Ni fuwyd esgeulus o ddefodau a seremonïau, mor bell ag y galwai gweddeidd-dra. Ond nid dyma'r pethau mawr. Codwyd pen yr Esgob Pawl y dwthwn hwnnw, a hynny megis am y tro olaf, oblegid ef oedd y prif weithredydd ar yr achlysur. Ychydig cyn i'r dydd pwysig wawrio cymerodd ymddiddan le yn y Mynachdy rhwng y ddau gyfaill Pawl a Pheulin a ddengys stad meddwl y cyntaf.

"Y mae fy meddwl bron yn boenus o weithgar, fy nghyfaill," ebr ef, gan roddi ei law ar ysgwydd Peulin. Edrychaf ymlaen at y diwrnod mawr sydd yn ymyl, a bron nad wyf yn ofni diffygio wrth gyflawni'r rhan a ddisgwylir imi ei chymryd ar yr achlysur. Y mae'r prif swyddogion wedi barnu'n ddoeth i osod arnaf ben trymaf y baich." "A phwy yn fwy cymwys a theilwng. Onid eich disgybl chwi yw y gŵr sydd erbyn hyn wedi codi i'r fath amlygrwydd, fel y mae ei enw yn adnabyddus a thra pharchedig trwy'r holl eglwysi?" "Yn araf, fy ffrind. Fy nisgybl i, yn wir! Rhaid yw Peulin, wrth gwrs, gornelu ei hun a dibrisio ei waith digymar. Gwir i mi ddysgu iddo'r gwyddorion, ond nid i mi y perthyn yr anrhydedd o osod i lawr sylfeini tŵr ei ddysgeidiaeth, ond i un a saif ar ei ben ei hun yn hanes yr Eglwys. Ni raid i mi enwi hwnnw." "Wel, wel," ebr yntau, "gwnaethom ein rhan ill dau, ac y mae wedi tyfu allan o'n dwylo ers llawer dydd. Er hyn, bu bendith Duw ar ein gwaith." Do," ebe Pawl, gan ostwng ei ben. "Yr wyf fi erbyn hyn yn mynd yn hen ŵr, ac y mae dyddiau fy ngwasanaeth yn tynnu tua'r terfyn. Gallaf fynd yn ôl dros hanner can mlynedd, cyn i Ddofwy gael ei eni, cyn i'w fam ffoi yma am noddfa. Gwelais yma bethau anhygoel ynglŷn â Bwy, Iwstyn ac eraill. Ac yn awr, wele wyrth bennaf y lle ar gael meitr Archesgob ar ei ben, a myfi, greadur gwan, yn cael ei ofyn i arwain y gwasanaeth. Yn sicr, fy ffrind, yr awr ddiweddaf yw i mi." "Nac ofna, Pawl, canys yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth.' Y mae Ysbryd Duw nid yn unig yn Arweinydd, ond hefyd yn 'Ddiddanydd,' a bydd ef yn ddigon pan ddaw'r awr."

Daeth y dydd a'r awr, a daeth urddasolion lawer ynghyd o lawer parth. Gorlanwyd yr Eglwys. Ond, i lygaid y preswylwyr, beth bynnag am eraill, cwmni bychan wedi ei osod mewn lle cyfleus a dynnodd fwyaf o sylw. Yn y canol yr oedd Nonita ac yn ei hymyl Wenhwyfar. Yr ochr arall i Nonita eisteddai Sandde, ac yn nesaf at Wenhwyfar, Beulin. Tu ôl eisteddai Enid, Garth, Seli a Llegyr, "pentewynion" wedi eu hachub "o'r tân." Crynedig iawn oedd Pawl tra'n arwain yr Archesgob i'w sedd, wedi ei wisgo gyda symledd addas i'w swydd, heb ddim o'r arddangosiadau di-alw-am-danynt a geir heddiw. Sonnir am orsedd Awstin." Pob parch iddi, ond yr oedd i Ddofwy, ym Mynyw, ei chyfartal, er, efallai, heb ei haddurniadau. I Bawl y rhoddwyd pob prif anrhydedd y diwrnod hwn, a golwg batriarchaidd oedd arno yng nghyflawniad pob dim. Am Ddofwy, ni raid mynegi fod urddas a hunanfeddiant wedi ei nodweddu o'r dechrau i'r diwedd. Pan safodd i fyny i annerch y dorf yr "Wele oedd y distawrwydd megis yn glywadwy. ddydd ac awr ac amgylchiad yn fy hanes," ebr ef, yn araf a phwysleisiol, na freuddwydiais amdanynt ym mreuddwydion gwylltaf fy mywyd, os cefais rai felly. Gwn i ac eraill sydd yma, ac yn enwedig yr Esgob Pawl, fy mod yn gysegredig o'r groth i waith yr Arglwydd yng ngweinidogaeth fawr y Cymod. Ond y mae fy Meistr ei Hun yn dyst na ddisgwyl- iais ac na ddeisyfais ddim ond cyfle i'w bregethu Ef ac i wneuthur fy rhan fel ei gennad i ddwyn i mewn deyrnas nefoedd. Ni thybiais yn ddoeth wrthwynebu pan ddisgynnwyd arnaf fel dilynydd i Ddyfrig alluog, doeth a da. Y mae gennyf yr anrhydedd fawr o fod yn fath o ddolen gydiol rhwng Dwyrain a Gorllewin, gan yr ordeiniwyd fi yn Esgob yng Nghaersalem, hynny hefyd heb fod gennyf un math o ddisgwyliad ymlaen llaw. Pe y tueddid fi i ymfalchio yn fy nyrchafiad hwn, gwnawn hynny am y digwydd hyn ym Mynyw, lle fy ngenedigaeth, a fy ngenedigaeth drachefn. Yma y breuddwydiais am fy ngalwedigaeth fawr. Yma y teimlaf fy mod ymhlith fy mhobl. Ar achlysur fel hwn, rhoddaf bwys ar un peth-y peth fydd yn nod fy mywyd, boed fyr, boed hir. Yn ein gweinidogaeth, frodyr, cadwn Groes Grist yn amlwg fel unig foddion Cymod. Gwareded y Nef fy ngwlad rhag byth roddi pwyslais ar ffurfiau a seremonïau, oblegid rhwystr i'r deyrnas a fyddant. Ym mywyd personol y bobl, bydded ein nod: Santeiddrwydd i'r Arglwydd.' Ym mherthynas dynion â'i gilydd, bydded ein harwyddair yn wastad yn Heddwch. Y tri hyn y Groes, buchedd santaidd, Heddwch." Byddai ymhelaethu ar yr anerchiad yn anymarferol ond y mae'r uchod yn dalfyriad amherffaith. Er hynny, byddai peidio croniclo rhywbeth am y dylanwad cyfareddol yn gam ar amgylchiad. Ymhell cyn iddo orffen, teimlai pawb mai nid Dofwy oedd yn siarad, ond ei Feistr yn siarad ynddo a thrwyddo. Ac wedi iddo orffen ni theimlai neb awydd symud o'r lle. Daeth tros bawb y peth hwnnw a nod- weddai ei weinidogaeth, rhyw deimlad o ofnadwy- aeth. Cyhoeddasai y Fendith ar derfyn ei Anerch- iad, ond ni symudai neb. O'r diwedd, wele Bawl yn symud yn grynedig o'i sedd, ac yn penlinio o flaen yr Archesgob. Edrychodd i fyny i'w wyneb, tra dwy ffrwd loyw yn llifo dros ei ruddiau hen: "O, fy meistr," ebr ef, " yr wyf yn hen ŵr, ond y mae rhywbeth eto'n ôl, nad wyf wedi ei dderbyn. Wedi oes o lafur ymhlith y bobl hyn, teimlaf eto fod arnaf eisiau fy medyddio gennyt ti." Oni osodwch eich llaw ar ben un a fu unwaith yn fath o athro i chwi, a throsglwyddo iddo fendith a wna ddiwedd oes yn olau a dedwydd?" Yr oedd hyn yn beth hynod, ac yn sicr yn beth nad oedd yn y gwasanaeth a'r ddefod. Ond nid oedd defod yn ddim yn y dyddiau hynny—dyddiau apostolaidd i bob amcan a phwrpas. Edrychodd Dofwy am funud neu ddwy ar ei hen athro yn ei ddagrau, ac ysgydwyd ef trwyddo gan deimladau dwfn. Ond yna, gosododd ei law ar ei ben, a chyda dagrau yn ei lais dywedodd yn araf, "Fy hen gyfaill annwyl, hyfforddydd bore fy oes, nid diffyg mewn bywyd a gwaith sydd yn cyfrif am beth fel hyn, ond tipyn o wendid y cnawd. A chydwybod o'r fath dyneraf. Os myn Crist yr Arglwydd i mi allu trosglwyddo rhyw ddawn ysbrydol bydded felly." Yna sibrydodd yn wylaidd, "Derbyn yr Ysbryd Glân." Ai dychymyg torf wedi ei chyffroi ydoedd? Ond haerid gan y rhai oedd yno i gylch bychan, golau, ymddangos ar ben Pawl wedi i'r Archesgob dynnu ymaith ei law. Beth bynnag am hynny, daeth tangnefedd mawr i'w galon a disgleirdeb i'w wyneb. Yna aeth Aeddan ymlaen yn ddistaw, gan benlinio, a gosododd Dofwy ei law yn ddistaw ar ei ben. Bellach, dyna a fu. Aeth ugeiniau o brif swydd- ogion ymlaen, ac yn eu plith Beulin deilwng.

Ond yr oedd golygfa arall i ddyfod. Cododd Gwenhwyfar o'i lle a Nonita gyda hi, a chan syrthio ill dwy ar eu cluniau, a thorrodd y fam allan: "O fab fy nghroth, am yr hwn y gweddïais, ac y'm gwrandawyd, onid oes fendith i minnau?" Bu agos Ddofwy fethu â dal. Ond tynnodd ei hun at ei gilydd, a chan osod un llaw ar ben ei fam a'r llall ar yr eiddo Gwenhwyfar, dywedodd, "Derbyniwch yr Ysbryd Glân." Ymddengys peth fel hyn yn anhygoel heddiw. Ac yn enwedig yn hen ardal Dofwy Sant.

PENNOD XXVIII.
Symudiad yr Arch.

TREULIWYD noson ddedwydd yng Ngharnedd-y-Derwydd wedi gwaith y dydd. A beth amdanat, fy mab, ar ôl y dyrchafiad hwn; a gollwn ni dy gwmni yma? Yr wyf fi yn heneiddio, ac nid yw dy fam yn aros yn ei hunman. Y mae Pawl hefyd yn torri yn gyflym." "Na, fy nhad, yma y mae fy lle, ac nid af oddiyma ond a fydd raid." "Bydd hyn yn gysur annisgrifiol i dy fam." Ac ar hyn daeth y fam a Gwenhwyfar i mewn, ac yr oedd y lle fel congl fechan o'r nefoedd. Hyfryd hefyd fu hamdden y ddau hen gyfaill yn y mynachdy. "Cyn cau ein llygaid ni Pawl, cawn weled pethau hynod ym Mynyw." "Posibl y cewch chwi, fy ffrind, ond prin y gallaf fi ddisgwyl llawer eto. Yr wyf yn heneiddio yn gyflym. "Wedi'r bedydd heddiw,' ebr y llall," cewch ail ddechrau, a byw fel Ioan gynt, i fod yn hen, hen ŵr. A phwy a ŵyr na welir ni yn eich cario i'r deml newydd megis y dywedir y cariwyd ef i gynulleidfa'r saint, pe dim ond i ddywedyd wrthym: Fy mhlant bychain, cerwch eich gilydd.' Chwarddodd Pawl yn galonnog, ac ar hyn galwyd hwynt at eu hwyrbryd cyn ymwahanu. Mawr a chyson a fu llwyddiant y gwaith, ac un- waith eto, cawn yr hyfrydwch o dreulio ychydig amser yng nghwmni hen gydnabyddion yng Nghar- nedd-y-Derwydd. Y mater gerbron yn awr ydyw symudiad yr Arch o Fynyw i'r hyn a ddaeth fel y cerddai amser yn fwy lle a lluosocach ei drigolion, sef Llanddofwy. Dyna'r enw heddiw. Sandde, yr hynafgwr, a lywyddai'r gweithrediadau ar yr achlysur hwn, a hawdd gweled fod y blynyddoedd yn dweud, nid yn unig arno ef, ond ar brif aelodau'r cwmni. Mor brydferth yr heneiddiai Gwenhwyfar a Nonita fel yr oedd yn haws cysylltu anfarwoldeb â hwynt nag amser.

"Mae'r gwaith yn cynhyddu," ebe Sandde, "a rhaid estyn cortynnau y babell." Gan ein bod ni, fel teulu, am gysegru nid yn unig ein bywyd, ond hefyd ein meddiannau i achos Crist, efallai y goddefir imi awgrymu symud yr Arch ar ôl y bobl, ac adeiladu teml newydd. "I ba le y carech symud yr Arch?" gofynnai Pawl. Atebwyd gan Ddofwy: "Y mae fy nhad wedi prynnu'r holl dir o bobtu i'r afon Alan, ac yr ydym wedi meddwl am lecyn cysgodol, a'r codiad tir o'r afon yn gysgod rhag gwynt y dwyrain." Gwyddai pawb am y llecyn, rhyw filltir i'r dwyrain o Fynyw, a chytunwyd na ellid gwell. Edrychai Peulin dipyn yn bryderus, ac yn y man gofynnodd: "Ond beth am yr hen sefydliadau? A dynnir i lawr y rhai hyn, ai eu helaethu a'u gwella a wneir?" "Yr olaf ar bob cyfrif," ebe Sandde. Bydd mwy o achos am y rhai hyn nag erioed, oblegid y mae gennyf sicrwydd yn fy meddwl y gwêl yr ardal hon gyfnod digyffelyb o flodeuog am ganrifoedd i ddyfod. Dyna paham yr wyf mor awyddus am baratoi cyfleusterau, 'cyn fy myned ac na byddwyf mwy.' Ychydig, os dim, a feddyliai neb, os nad oedd gan Ddofwy ei weledigaeth, y ceid ar y llecyn Eglwys Gadeiriol ardderchog bedair-canrif ar ddeg ar ôl hynny! Eglwys, fel lle i'r bobl i addoli oedd syniad Dofwy, a helaethu'r sefydliadau eraill i'w pwrpas mwy cyffredin.

Gan fod bron y cwbl o'r defnyddiau angenrheidiol ar ystad Sandde, a digon o weithwyr wrth law, ni chafwyd trafferth gyda'r adeiladu. Cludwyd digonedd o feini ardderchog o Gaerdeon a mannau eraill, ac yr oedd coed y pryd hynny mewn ardal sydd heddiw yn rhy lom. Yr oedd y diddordeb yn y gweithrediadau yn gyffredinol, ac ni allasai adeiladiad teml Solomon fod wedi cynhyrchu mwy o sêl ac awydd gweithio nag a gaed ym Mynyw. Mewn pedair blynedd codwyd eglwys braf: yn y dyddiau hynny hollol anghyffredin. Eglwys Dofwy y golygid iddi fod, a siarad yn ddynol. Mae'r sylfeini yn parhau, a'r adeilad sydd arnynt heddiw yn tra rhagori ar y gyntaf i lawer cyfeiriad. Ond dyma'r bedwaredd ar yr un tir. Llosgwyd ei rhag-flaenyddion â thân, neu difethwyd hwynt gan ddynion drygionus. Er hynny, llosgi'r berth a wnaed ac nid ei difa.

Hyfryd ydyw gallu croniclo, er i'r blynyddoedd dreiglo yn gyflym, na chollwyd cymaint ag un o'r hen aelodau amlwg, cyn agor y deml newydd. A diwrnod i'w gofio fu diwrnod symud yr Arch o Fynyw i'r cartref newydd. Er maint y llawenydd, teimlai rhai ar eu calon i wylo, oblegid anodd ffarwelio â'r hen. Gwnaethai'r Archesgob benderfyniad yn ei galon ei hun, gan fod yr Esgob Pawl yn fyw, mai ef gaffai eto'r prif le ar ddydd yr agoriad. Ni chollai ef ddim trwy hynny, a byddai'n foddhad i'w feddwl am ei oes ddarfod iddo anrhydeddu henaint a theilyngdod. Galwodd ar Bawl un diwrnod, ond ni ddychmygodd yr Esgob beth oedd ei neges. "Ymhen tua mis eto," ebr ef, "gallwn ddisgwyl bod yn barod i agor yr Eglwys newydd." "Yr wyf yn gweddïo am gael byw i weled hynny, medd y llall, "ac wedi hynny, credaf y gallaf ddywedyd fel Simeon gynt, ' Yr awr hon, Arglwydd y gollyngi dy was.'"

Yr wyf finnau yn gweddïo am yr un peth, ac yn credu y caf fy ngwrando,"e br y llall. "Ond y mae gennyf neges, fy hen ffrind. Yng nghwrs naturiol pethau, y mae'n debyg y caf fi weithio wedi i chwi fynd i gadw noswyl. Ac yr wyf yn benderfynol mai chwi sydd i ddweud y gair cyntaf yn yr Eglwys newydd: Eglwys Trefadrig fel y gelwir hi bellach, gan fod Mynyw, yn yr ystyr hon yn dyfod i ben. Bydd raid i mi ac eraill gymryd ein lle, ond Pawl sydd i bregethu gyntaf." Bu agos iddo syrthio o'i gadair pan glywodd hyn. Ond felly y bu er hynny. Gwawriodd y dydd, a chasglodd y torfeydd. Cymerodd Dofwy yr arweiniad, ac eraill uchel ran. Ond Pawl, yn lled ofnus, a chrynedig, a esgynnodd y pulpud gyntaf, a daeth "nerth yn ôl y dydd." Bu sôn am yr oedfa am amser maith i ddyfod. Cafodd eraill eu cyfle am fis o oedfaon bron ddi-dor.

Bellach rhaid brysio ymlaen, a bodloni ar ddywedyd i Drefadrig (Llanddofwy wedi hynny) ddyfod yn ben Eglwysi Cymru, ac yn lle dylifiad y miloedd. Y mae hyn yn fath o ragflaenu yr hanes, ond fel hyn y bu: A pha ryfedd i hyn ddigwydd? Pan gofiwn am Bawl a Gwenhwyfar, Peulin, Sandde a Nonita. Ie, Nonita, ail i Fair Forwyn! Ac yn enwedig am Ddofwy, yr hwn y rhaid ei adael megis i fyd dychymyg am flynyddoedd dirif i ddyfod. Pa ryfedd i'r gwaith lwyddo? Galwyd Uthr o Gaerlleon, a Denys o Wynfor am fod dydd Pawl ar ben, a bod galw ar yr Archesgob i ymweled â'r Eglwysi. Ac nid llawenydd bychan i Bawl a Pheulin fu gweled yn eu dydd ddychweliad y ddau hyn i'r hen ardal. Yn rhagweled dylifiad pobloedd, paratôdd Sandde yn ei ddydd ddarn helaeth o dir rhad rhyw hanner milltir i'r dwyrain o'r Eglwys. Yno, gallai'r pererinion babellu heb neb i warafun. A gallent heddiw pe byddai achos.

Erbyn hyn, edrychid ar yr Archesgob Dofwy bron fel bod goruwchddynol, ac yr oedd ei ddylanwad trwy'r wlad fel cyfaredd. Gallai bellach fynd oddeutu yn rhwyddach, gyda chymdeithion bore oes, fel Uthr a Denys yn gofalu am y gwaith. Wylo ac ochain fu o'u colli hwy o gylchoedd lle y gwnaethant les mawr ac enw iddynt eu hunain. Un peth a barai anesmwythter i feddwl Dofwy sef heneiddiad ei rieni, ei athrawon a Gwenhwyfar. Yr oedd yn ddynol iawn ynghanol ei fawredd a'i werth. Bron na ddymunai ar brydiau gael ei alw o'u blaenau, ond ataliai rediad ei feddwl i'r cyfeiriad hwn trwy rym ewyllys gref. Ond rhaid oedd meddwl am yr anocheladwy weithiau, ac yr oedd ganddo ei feddyliau dirgel beth i'w wneud os gwelai ben Pawl a Pheulin yn mynd i lawr.

Oferedd fyddai ceisio "traethu ei oes " yn llawer pellach. Amhosibl cyfrif am y ffaith iddo gael byw "ddwyoes dda," ond yng ngolau'r ffaith ei d fod yn llestr etholedig, ac wedi ei godi a'i gadw i'r amserau hynny. Bu'n wyrthiol megis yn ei holl hanes; daliodd ar ucheldir ei weinidogaeth rymus a'i fywyd santaidd ar hyd gydol ei oes hirfaith, ac er wedi marw, y mae'n llefaru eto.

PENNOD XXIX.
Ymadawiadau.

AR ôl cryn dipyn o gwmni'r saint yn eu bywyd, byddai'n resyn terfynu heb wylio tipyn ar y cysgodion yn syrthio, a hwythau yn cael eu galw oddi wrth eu gwaith.

Bu Sandde fyw i "henaint teg," ac ni welodd gystudd. Ciliai yn raddol, ond heb na phoen na phryder. Un noson, neu hwyrddydd, tra y rhieni a'r mab ynghyd, edrychodd Nonita i wyneb ei phriod, gan ddweud, Sandde, mi a gefais freuddwyd tra hynod neithiwr, ac ni allaf ei gael oddi ar fy meddwl. Ni allaf ddweud ei fod yn peri poen imi, oblegid y mae rhywbeth yn brydferth iawn ynddo." A ydyw yn iawn gofyn beth ydoedd, fy anwylyd?" "O, ydyw; sefyll yr oeddwn wrth erchwyn ein gorweddle, yn edrych arnoch chwi yn cysgu. Yr oedd rhyw dangnefedd dieithriol yn eich gwedd, a rhyw ddisgleirdeb odiaethol ar eich gruddiau. Tybiwn ei bod yn hen bryd codi, ond ni allwn feddwl am eich deffro. A phwy a ddaeth i mewn ond Dofwy. Heb ddeffro y mae fy nhad?' gofynnai. 'Ie, ac nid wyf yn hoffi torri ar gwsg mor hyfryd.' Ond bydd yn siom ganddo gysgu cyhyd,' ebr yntau, ac ar hyn dechreuodd ysgwy tipyn arnoch yn dyner ac ysgafn. Ond i ddim pwrpas. Yna'n drymach, ond yn ofer eto. Edrychasom ein dau ar ein gilydd yn gyffrous, ond nid oedd deffro arnoch. Ar hyn mi a ddeffroais fy hun."

Gwenu'n swynol a wnaeth Sandde, ond edrychai Dofwy dipyn yn anesmwyth. "Daw rhan o Salm i fy meddwl, "ebe Sandde, "Felly y rhydd efe hûn i'w anwylyd,' ac oni fyddai yn ffordd esmwyth iawn i lithro o fyd o amser i'r tragwyddol?" "Nid oes arnoch bryder, a oes fy nhad, wrth feddwl am y cyfnewidiad?" "Pryder, fy mab annwyl! Y mae'r Arglwydd wedi rhoddi imi bopeth allai calon ddymuno. Dy fam a thithau, a phob daioni dichonadwy. Na, nid oes arnaf bryder. Byddai'n chwith gadael ar fy ôl dy fam a thithau, ond ni fyddai dy fam yn hir iawn cyn dilyn, beth bynnag amdanat ti. Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Dyna fu'r siarad pellach y noson honno—ymadawiad, ail- gyfarfyddiad, etc. Ac aeth y llen mor denau nes yr oedd daear a nefoedd megis yn un.

Bore trannoeth, pan agorodd Nonita ddrws ystafell ei phriod, ac y dynesodd at ei orweddle, sylwodd fod golwg dipyn yn ddieithr arno. Rhoes ei llaw ar ei dalcen, a chafodd ei fod yn oer, a braidd yn llaith. Gwrandawodd yn astud am anadliad, ond yn ofer. "Felly, yn wir, y rhoddodd yr Arglwydd hûn i'w anwylyd." Euthai Sandde adre yn ei gwsg. Ni chyffrodd Nonita, oblegid gwyddai fod ei phriod ffyddlon gyda Christ." Aeth i chwilio am Ddofwy, a chafodd ef yn brysur gyda'i waith. "Fy mab," ebe hi, "nid yw dy dad, oblegid yr Arglwydd â'i cymerodd." Plygodd Dofwy ei ben, a rhoes ochenaid ddofn. Fy annwyl fam," ebr ef, "onid oedd y nefoedd yn agos iawn neithiwr. Yn sicr i chwi, ni ddaeth fy nhad oddiyno. Ymdrodd yn y wlad dda, ac yno y mae. Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith "."

Bu cyffro yn yr ardal pan daenwyd y newydd. Gan na roddasai orchymyn ynglŷn â man ei fedd, claddwyd ef yn yr Eglwys newydd y cyntaf o lu mawr iawn. Golygfa brudd-ddiddorol oedd gweled yn oedi gylch ei fedd Nonita, yn cael ei chynnal gan ei mab a Gwenhwyfar. Hefyd, yn grynedig iawn, Bawl, yn pwyso yn drwm ar Beulin. Ni welir ei fath eto," sibrydai wrth ei gyfaill. "A'r cyntaf i'w ddilyn, mi gredaf, fydd eich hen gydymaith.' Mewn congl gerllaw gellid gweled Uthr yn ceisio diddanu ei dad a'i fam,—y ddau yn wylo yn hidl. A dyma hanes yr Eglwys am rai blynyddoedd: "blaenffrwyth" a fuasai Sandde.

Un noson, tra Dofwy a Pheulin ar ymweliad â Phawl, yr hwn oedd yn torri i fyny yn gyflym, dywedodd wrth ffarwelio, "Nid wyf yn meddwl y cawn lawer o nosweithiau fel hon yn yr hen Fynachdy annwyl eto. Dywaid rhywbeth wrthyf fod y Meistr gerllaw, ac yn galw amdanaf. Bydd arnaf hiraeth yn y nefoedd, mi gredaf, nes y cyrhaeddwch chwi yno ill dau. Efallai na fyddwch chwi, Peulin, yn rhyw hir iawn; yr Arglwydd a ŵyr orau.

Gwir a ddywedasai. Pan alwodd Dofwy yno ymhen ychydig ddyddiau cafodd ef yn ei wely, a bron yn anymwybodol. Ond sibrydai yn floesg, "Dofwy" a "Peulin," megis bob yn ail. Anfonwyd am Peulin, yr hwn a gyrhaeddodd mewn pryd i weld Pawl yn croesi. Gwenodd, gan edrych fyny, a cheisio codi ei law. Gafaelodd Dofwy yn un llaw a Pheulin yn y llall, ac felly, heb boen, nac ond un dirdyniad bychan, ymadawodd un o'r cymeriadau glanaf ac un o'r gweithwyr gorau a welodd Eglwys Dduw.

Bu Nonita fyw am rai blynyddoedd yn gysur ac yn ofal ei mab enwog. Euthai ei meddwl bron yn hollol ar fyd a ddaw, ac yr oedd awyrgylch ei bywyd megis cwr o'r nef ei hun. Yr oedd Gwehwyfar flynyddoedd yn hŷn, a bellach yn fregus ac analluog i symud fawr oddeutu. Bodlonodd ar gais taer Nonita, i adael y Lleiandy, a gwneuthur Carnedd-y-Derwydd yn gartref am weddill ei hoes. Ond hyn sydd yn rhyfedd, ac eto yn wir! Bu'r ddwy gyfeilles yn gweddio am i'r Arglwydd beidio eu gwahanu yn angau, ond am gyfnod byr, os o gwbl. Yn y man, aeth Gwenhwyfar yn rhy lesg i adael ei gorweddle, ac er na allai Nonita wneud llawer iddi, yn ei hystafell y treuliai'r rhan fwyaf o'i hamser.

Un noson arhosasai yn hwyr iawn, ac wedi iddynt gusanu am y nos gofynnodd Gwenhwyfar: "A synnech chwi, fy merch, pe deuai ein Harglwydd i'm cyrchu adref heno?" Edrychodd y llall arni yn ddwys, ac wrth graffu, bron na wnâi lw y gwelai wyneb arall yn ymyl ei hwyneb hi. Ac, O! 'r fath brydwedd hardd, a thyner! "Yn yr awr ni thybiwch," ebe hi'n ddistaw. "A garech chwi imi gadw cwmni ichwi am y nos?" "Oni fyddai'n ormod o dreth, fy merch?" "Na fyddai, fy meistres annwyl. Os tybiwch y gall y priodfab ddyfod yn fuan, er, efallai, na chaf ddyfod gyda chwi i'r briodas, eto, carwn fod gyda chwi i weled." "Arhoswch ynteu, fy merch."

Arhosodd, ac yn oriau mân y bore, tra Nonita yn eistedd yn ymyl y gwely, ac yn teimlo braidd yn drymaidd, tybiodd iddi glywed Gwenhwyfar yn anadlu dipyn yn drymach. Cododd ar ei thraed, ac O! olygfa. Tra'r nefoedd yn goleuo wynepryd Gwenhwyfar, cododd ar ei heistedd, er maint ei llescedd, ac mewn llais cryf dywedodd, "Wele y priodfab yn dyfod." Syrthiodd yn ôl ar y gobennydd, ac ehedodd ei hysbryd adref. Syrthiodd Nonita ar ei gwddf gan ei chusannu. Daeth Dofwy i'r ystafell cyn hir, a chan dybio fod ei fam braidd yn hir yn symud, aeth i'w chynorthwyo'n dyner. Ond, er ei fraw, am foment, gwelodd fod ei annwyl fam hefyd wedi myned i'r briodas yng nghwmni'r hon a garasai mor fawr, ac am amser mor hir. Wele ergyd trwm i Ddofwy yn dilyn eraill cymharol ddiweddar. Ond ymwrolodd gan ddiolch i Dduw am yr hyn oeddynt ac a wnaethant.

Claddwyd Nonita ym medd ei phriod, a Gwenhwyfar, yr un dydd, yn ymyl Pawl o dan yr allor.

Er claddu'r ffyddloniaid, ymlaen yr aeth y gwaith am genedlaethau a chanrifoedd. Ond o un i un symudwyd eraill yn hen a chyflawn o ddyddiau: Enid, gweddw Bwy, am dduwioldeb yr hon yr oedd llawer o sôn; Garth, un o gredebau gorau crefydd Crist. Bu Seli a'i briod fyw i fynd yn hen iawn, a dymunasant gael eu claddu nid yn unig ar yr Ynys, ond yn yr ogof. Gwelodd Dofwy fod hyn yn cael ei wneuthur. Claddwyd Llegyr hefyd gyda llawer o arwyddion o barch. Bellach y mae'r beddau yn y fynwent yn amlhau, a'r bylchau yn yr Eglwys yn lluosogi. Beth am Beulin? Teimlodd golli Pawl yn fawr, a daeth anesmwythter i'w galon am weled unwaith eto yr Iwerddon a Ffrainc. Caniatawyd rhyddid i Uthr deithio gydag ef er mwyn ychydig seibiant iddo yntau hefyd. Wedi hyn, rhoddes Peulin flynyddoedd o wasanaeth i'r Eglwys. Aeth adref â gwên ar ei wyneb, yn cael ei wylio gan Uthr a Denys. Y geiriau olaf a ddeallwyd oedd, "Yn awr, am weled y Gwaredwr fel y mae; ïe, a Phaul, yr apostol mawr." Claddwyd yn yr un bedd â'i gyfaill Pawl, a mawr a fu'r galar am un o ddysgawdwyr pennaf yr oes honno.

Ond beth am Ddofwy? Wel, ni bu yntau fyw byth, er y tybiwyd amdano fel am Ioan, "na byddai farw." Er i Uthr a Denys fyw yn hir, goroesoedd hwynt, a chenedlaeth arall ar eu holau. Gwelodd heneiddio plant a aned pan symudwyd cymdeithion dyddiau'r Athrofa at eu gwobr. Daliodd am ei oes hirfaith yn wyrth o santeiddrwydd ac o ddylanwad da.

Eglwys nad adnabu ei gymdeithion a alwodd ynghyd un hwyrddydd gwaith. Gosodasai bopeth mewn trefn yn yr Eglwys gartref, a thrwy'r Archesgobaeth. Cafodd un weledigaeth yn rhagor, ac ef wedi cyrraedd oed patriarchaidd. Gwelodd yn glir ei rieni, a'i hen gyfeillion gynt yn amneidio arno o'r ochr arall i afon fawr. Ac O! 'r olwg ardderchog oedd arnynt! Cododd yn y bore heb un arwydd o lesgedd, a'r peth cyntaf a wnaeth oedd trefnu ei dŷ a throsglwyddo pob meddiant at wasanaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Yna, fel y crybwyllwyd, galwodd yr Eglwys ynghyd yn hwyr y dydd, a chyda dwyster mawr y llefarodd a ganlyn: Bore yfory, cychwynnaf i daith, ac y mae'n bosibl na ddychwelaf. Yr wyf yn llaw fy Meistr; ac wedi eich cyflwyno chwithau oll i'r un llaw. Parhewch i fyw yn dduwiol a heddychol, ïe, a gweithgar. Cofiwch am les uchaf eich gwlad, a theyrnas Dduw. Os na welaf chwi eto yma, disgwyliaf eich gweled i gyda acw," gan gyfeirio tua'r Nef. Yna gweddïodd gyda hwynt nes tynnu'r nefoedd i lawr. Yn blygeiniol iawn trannoeth, gwelwyd ef yn cefnu ar Drefadrig ar ei farch. Dywedir i rywrai ei weled ymhen diwrnod neu ddau gerllaw Caerlleon, ond nid oedd sicrwydd am hynny. Hyn sydd wir: daeth y march yn ôl ymhen ychydig ddyddiau heb farchogwr, a byth er hynny ni all dynion ond dyfalu am ddiwedd Dofwy fawr a da. Ymhen canrifoedd gwelodd un o Babau Rhufain yn dda ei seintio, a Dofwy Sant yw'r enwocaf yn hanes y wlad. Yn y man daeth yr Eglwys i gael ei hadnabod fel Eglwys Dofwy, a throdd Trefadrig yn Llanddofwy. Amdano ef, y dybiaeth fwyaf cyffredin ydyw iddo fynd adref, fel Moses gynt, ac i'r Arglwydd ei gladdu mewn lle anhysbys.

PENNOD XXX.
Wedi llawer oes.

DIFLANNODD Dofwy yn gynnar yn y seithfed ganrif, wedi croesi'r chweched megis yn ei anterth. Aeth felly heibio dair canrif ar ddeg, ac y mae ei Eglwys yma eto, ac yn allanol ragorach na dim a welodd ef. Bu mil o droeon yn ei hanes. Cadwodd Rufain draw yn hir, ond nid yn gwbl. Na, wedi cyfnod hir o fywyd teilwng o Ddofwy, daeth y gelyn i mewn. Codwyd adeiladau gwych, a gwelodd amser eu malurio drachefn. Cododd balchder Balas Esgobol hardd, a dinistriodd trachwant a llygredd ef. Diweddwyd megis yn y cnawd, wedi dechrau mor dda yn yr ysbryd.


Cododd yr hen adeilad o bob tân yn well, ac ni cheir harddach Eglwys Gadeiriol na'r eiddo Llanddofwy heddiw. Ond y mae gogoniant dydd Dofwy wedi mynd, y mae lle i ofni, am amser hir, os nad am byth! Aeth y lle yn nodedig o Babyddol, ac ni wnaeth y Diwygiad Protestanaidd ond ychydig o effaith arno.

Ysywaeth, y mae gormod o ddelw Rhufain ar y lle yn awr; ceisir gwneud i fyny am ddiffyg crefydd ysbrydol trwy wag arddangosiadau. Daeth rhyw falltod o lygredd ac anfoesoldeb i mewn yn y Canol Oesoedd, ac ni ellir ei wared.

Un prynhawnddydd haf yn ddiweddar, safai dau ŵr bucheddol ar fryncyn bychan, lle yr arferai fod un o Byrth y Ddinas. O'u blaen safai'r Eglwys henafol, a heibio iddi hi gellid gweled lleoedd addoli y pedwar enwad, a rhan helaeth o'r ddinas hefyd. Wynebai'r ddinas haul y machlud, a lled hyfryd yr olwg arni, gyda llawer i bren gwyrddlas yn gymysg â'r tai.

"Onid yw'r olygfa yn brydferth i ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn?" ebr un wrth y llall. " Yn sicr, ni chrëodd Duw lawer o fannau trech na Dinas Dofwy." Naddo, mae'n debyg," ebr y llall. "Y mae gwaith Duw yn berffaith lle bynnag y gwelir ef, ond, a wyddoch chwi, fy nghyfaill, y mae'r olwg, yn lle ennyn llawenydd yn fy nghalon, yn fy llanw a phrudd-der." "Sut felly?" Wel, daw geiriau emyn Saesneg i fy meddwl: "Lle y rhydd pob golygfa bleser, ac y mae dyn yn unig yn ffiaidd?" "Ond yn sicr, nid yw Llanddofwy cynddrwg â hynny?" "Bernwch chwi ynteu. Wele'r Eglwys henafol, yr hon a gedwir i fyny â chost fawr er mwyn dyrnaid, ar wahân i dymor yr ymwelwyr. Wele bedwar o gapeli Ymneilltuol, gyda'u gweinidogion, a'u swyddogion. Wele ddwy ysgol i hynny o blant sydd yma, ac Ysgol y Sir at hynny. A beth amdani? A ellwch chwi wadu nad paganiaeth sydd yn teyrnasu yma? Gwrandewch ar iaith y plant wrth chwarae. Edrychwch ar ymddygiad hogenod ar eu twf, a hogiau ysgol. Gwelwch berthynas agos yr Eglwysi a'r tafarnau! A hyn i gyd yn ninas y Sant Dofwy! Y gwir yw, nid oes broffwyd heddiw trwy'r holl wlad, ond pawb yn osgoi'r sefyllfa, ac yn ofni dweud y gwir. Ni chyfyd neb ei lais fel Y gwnai Dofwy gynt i "bartoi ffordd yr Arglwydd." Beth a ddaw o'r lle yn y diwedd?" Edrychodd llall dipyn yn fyfyriol, ac yna cododd ei ben: "Yn y diwedd a ddywedasoch chwi? Wel, nid yw y diwedd eto' yn ddigon siwr. Dylem gymryd golwg fwy gobeithiol arni, a cheisio dangos yn eglurach yn ein bywyd, fywyd y Crist sydd ynom. Pan aned Dofwy cymharol wan oedd yr Eglwys yn yr ardal, ac yng nghanol paganiaeth y planwyd hi. Gadawodd ef y lle yn Baradwys Gristionogol. Ac y mae rhywbeth yn dweud wrthyf nad yw Dofwy wedi marw, mwy na Luther, Cromwel, Wesley, Harris a Rowlands. Cysgu y mae, ac fe ddeffry rhyw ddydd. Dywedir fod esgyrn ei dad a'i fam yn gorffwys yn rhywle tu mewn i furiau'r eglwys. Am ei esgyrn ei hun, Duw a ŵyr ple mae'r rheini. Ond nid yw hynny o bwys: nid ei esgyrn sydd yn eisiau, ond ei ysbryd. Ac yn sicr i chwi, fe ddeffry Dofwy eto, a daw'r hen amseroedd bendigedig yn ôl." "Wel," ebr ei gyfaill, "gobeithiwn hynny. Gweddiwn am i hynny ddigwydd."






Printed in Great Britain
at the Press of
Hugh Evans & Sons Ltd.
356/58/60 Stanley Road
Liverpool.



Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.