Ol Nodyn (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Y Garreg Wen Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards


NODIADAU.

I

Tybed fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro dros fynyddodd annwyl ein gwlad? A yw daear gwlad ein tadau ychydig yn fwy cysegredig i rywun ar ôl darllen y peth ysgrifennais?

Ein gwlad ni ydyw. Y mae wedi ei chysegru a hanes ein cenedl. Ynddi hi y gorwedd ein tadau; mae eu beddau'n sancteiddio'i daear, o fedd Owen Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg bryniau hyfryd Gwent. Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant ynddynt, llawn o fywyd a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt; onid gwaith da yw dangos i'r plant gyfeiriad camau y rhai gychwynnodd o'r cartrefi hynny o'u blaen?

II

Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser. Y mae hunanaberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio ynddo,?? llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa'r hen lid teuluol sy'n chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw. Yng ngrym ei wladgarwch y mae nerth pethau gorau cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y mae'r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,?? awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn, rhagfarn. Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch? Os felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson erioed? Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw? Os felly condemnier Dante, y gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau'r Canol Oesoedd fyw byth.

III.

Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni. Dinod, - anadnabyddus yn aml,?? yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi llawer o gofgolofnau i'w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch. Ond y mae'r cartrefi'n aros. Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom ba le y buont yn chware pan yn blant.

Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru'n gyflawn heb amgueddfa genedlaethol. Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.

IV.

"I'r Oriel Wen daw tyrfa lan,
O oes i oes, i wenu'n gu
A'r delwau gwyn y dewrion hyn,—
Y tad a'i fab, y fam a'i merch,
Y llanc a'i rian wylaidd rudd,
A'r gwron hen yn fyr ei gam,
A'i ben yn wyn gan flodau hedd,
A'r byd o'i ôl a'r nef o'i flaen,
A'i ŵyr bach gwrol yn ei law
A'r byd a'i droeon fyrdd i'w gwrdd,—
'Gwêl yma, blentyn, dyrfa gain,
Gwroniaid dewr anfonodd Duw.
I fyw a marw er ein mwyn.


CARADOG hwn, yn hawlio'n hyf
Ei serch i'w fwthyn tlawd a'i wlad
O flaen gorseddfainc teyrn y byd.
A llyma LLYWARCH HEN y bardd,
Yn gwyro'n drwm ar faglau pren,
Ag enaid arwr yn ei wedd
Yn gwylio'r rhyd ar fedd ei fab.


Ac wele drindod fu yn dwyn
Yr enw Owen, mwyn ei sain,—
Y cyntaf yn canu 'i hirlas gorn;
Y llall a llain yn medi'n ddwys
Ym maes Coed Eulo; 'r olaf un,
Gwr hir y glyn, 'a gwaew o dan,
Dyred, dangos dy darian.'
Ab Einion draw yn gwylio'r aig
A thelyn Harlech yn ei law.


Saif yma ddau, O enwau per,—
Llywelyn Fawr wnaeth Gymru'n un;
A'i ŵyr ef, olaf llyw ein gwlad,
Ei fywyd drosti 'n aberth roes,
A chwyn yr awel fyth ei frad
Ar fryniau Buallt—lleddfus don."


—R. BRYAN.

VII

Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys,—Lowri Llwyd wrth ei henw. Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan allor eglwys Llanfair. Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a than honno y claddwyd "Bardd Cwsg.” Ond, erbyn heddyw, y mae allor yr eglwys newydd wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.

VIII

Gresyn fod “Ieuan Gwynedd, ei fywyd a'i lafur, gan Robert Oliver Rees, Dolgellau” mor brin. · Llyfr i bobl ieuainc" ydyw, ac y mae'n un o'r llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen byth. Y sawl a'i meddo, rhodded fawr bris arno.

IX

Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant. Nid wyf yn barod i ddweyd ei fod yn fwy na hod hanner dychmygol, fel Arthur.

X

Cyflwynir llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y cartref yn lân a sanctaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi anwyl byth.


Gwrecsam:ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.