Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn
Mae Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn, yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)
Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn,
Pa dafod all osod i maes,
Mor felus, mor helaeth, mor llawn,
Mor gryfed ei gariad a'i ras?
Afonydd sy'n rhedeg mor gryf,
Na dichon i bechod na bai,
Wrthsefyll yn erbyn eu llif,
A'u llanw ardderchog didrai.
Fel fflamau angerddol o dân,
Yw cariad f'Anwylyd o hyd;
Fe losgodd bob rhwystrau o'i flaen,
Fe yfodd o'r afon i gyd:
Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un!
Y pellder oedd rhyngddynt oedd fawr,
Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun.
Fe gododd i fynu ei law,
Ymladdodd, ennillodd y dydd!
Ei holl waredigion a ddaw,
A'i gaethion a roddir yn rhydd!
Fe 'nillodd lath goncwest trwy waed,
Mae ganddo lywodraeth mor fawr!
Hyd eithaf trigfannau ei Dad,
Mae'n cyrhaedd o'r nefoedd i'r llawr.
Wrth gofio'i ruddfanau'n yr ardd,
A'i chwys fel defnynau o waed,
Aredig ar gefen mor hardd,
A'i daraw â chleddyf ei Dad;
Ei arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio wrth groesbren o'i fodd,
Fa dafod all dewi am hyn?
Pa galon mor galed na thodd?