Pam, O! pam, bechadur cyndyn
Gwedd
| ← Ceir dihangfa rhag marwolaeth | Pam, O! pam, bechadur cyndyn gan Charles Wesley wedi'i gyfieithu gan Anhysbys |
Deuwch, bechaduriaid tlodion → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
303[1] "Paham y byddwch feirw?"
87. 87.
1 PAM, O! pam, bechadur cyndyn,
Pam y colli d'enaid drud?
Mae dy Grewr heddiw'n gofyn
Pam yr ymgyndynni cyd?
2 Pam yr ail-groeshoeli'r Iesu?
Pam na fynni droi, a byw?
Darfu iddo drosot waedu;
Dychwel, dychwel at dy Dduw.
3 Prysur ddarfod mae dy ddyddiau,
Dyfod y mae angau du;
Er i ti yn ysgafn chwarae,
Dirwyn mae dy oriau di.
4 Ym mha le y bydd dy drigfan
Wedi'r êl y byd ar dân ?
O! fy enaid, meddwl weithian
Am y siwrnai sydd o'th flaen.
5 Cyn i Dduw dy roi i fyny,
Cyn it orwedd yn y bedd,
Cyn i angau dy ddychrynu,
Myn adnabod Duw a'i hedd.
Charles Wesley
Cyf: Anhysbys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 303, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930