Pam y caiff bwystfilod rheibus
Gwedd
| ← O! Na bai fy mhen yn ddyfroedd | Pam y caiff bwystfilod rheibus gan William Williams, Pantycelyn |
Arglwydd, gad im dawel orffwys → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
339[1] Gweddi am bresenoldeb Duw.
87. 87. D.
1 PAM y caiff bwystfilod rheibus
Dorri'r egin mân i lawr?
Pam caiff blodau peraidd ieuainc
Fethu gan y sychder mawr?
Tyred â'r cawodydd hyfryd
Sy'n cynyddu'r egin grawn,
Cawod hyfryd yn y bore,
Ac un arall y prynhawn.
2 Gosod babell yng ngwlad Gosen,
Tyred, Arglwydd, yno d'Hun;
Gostwng o'r uchelder golau,
Gwna dy drigfan gyda dyn:
Trig yn Seion, aros yno,
Lle mae'r llwythau'n dod ynghyd;
Byth na 'mad oddi wrth dy bobol
Nes yn ulw'r elo'r byd.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 339, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930