Pentre'r Plant/Ar y Rhiniog
| ← Cynnwys | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Gweithdy → |
Pentre'r Plant
Atgofion Bore Bywyd
PENNOD I.
AR Y RHINIOG.
"BORE da, Sadrac Jones. Y mae mistar yn gofyn a wnewch chwi drwsio'r sgidia yma erbyn nos Wener. Y mae arno eisiau mynd i'r farchnad ddydd Sadwrn i werthu'r perchyll."
"Hym! Trwsio o hyd! Ydi dy fistar yn meddwl bod pâr o sgidia i bara am byth? Dyma nhw, rwan, pâr campus yn eu dydd a'u tymor. Ond yr ydw i wedi eu clemio a'u gwadnu nes y mae nhw'n ddolur llygad i mi ac i bawb arall. Dywed wrth dy fistar, Tom, fod yn hen bryd iddo fo gael pâr newydd spon. Y mae'n ddisgrâs i ddyn fel y fo fynd i na ffair na marchnad efo sgidia y dylse fo fod wedi eu troi heibio ers llawer dydd."
"Ond mi wnewch eu trwsio y tro yma, Sadrac Jones ?" "Mi wnaf fy ngorau, er na fedra i na neb arall wneud job daclus ar bethau mor sâl."
Dyna ddull Sadrac Jones. Nid oedd ond crefftwr syml ym mhentre Llanaber, ond yr oedd yn hollol onest a di-dderbyn-wyneb. Gwyddai "fesur troed" ei gwsmeriaid mewn mwy nag un ystyr, a gwnai hynny wahaniaeth yn ei ymddygiad. Pe deuai rhyw gymydog tlawd â phâr o esgidiau gwael i'w trwsio, ni fuasai Sadrac Jones yn eu "beirniadu" o gwbl. Ond pan anfonai pobl mewn amgylchiadau cysurus bethau o'r fath i'w weithdy, nid oedd "blewyn ar ei dafod." Atgofiai hwynt, ambell dro, mai crydd oedd ef—nid cobler.
Gwnaeth esgidiau dan gamp i wladwyr y fro ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd sôn amdanynt ymhell ac yn agos. Gallai dyn fentro ar unrhyw dywydd ac i unrhyw daith, os byddai wedi ei ddiogelu ag esgidiau o weithdy Sadrac Jones.
Dyn bychan o gorff ydoedd: wyneb crwn, gwelw; llygaid duon, treiddgar—weithiau yn llym, a phryd arall yn pelydru gan hiwmor a natur da. Pan fyddai ar ei eistedd wrth ei waith gallesid tybio ei fod yn sionc a hoyw, ond wedi iddo godi gwelid ei fod, fel Jacob, yn "gloff o'i glun." Nid oedd yn fusgrell. Gallai ymlwybro yn weddol gyflym, er bod
y cloffni yn peri bod yn hawdd i'r cyfarwydd adnabod ei gerddediad. Nid arferai gerdded llawer nac ymhell. Dyn lled gartrefol oedd Sadrac Jones. Anfynych y gwelid ef yn unman ond yn ei weithdy, ac yn yr addoldy ar y Sul. Ond er nad ai lawer i "fysg pobl," fel y dywedir, deuai llawer ato ef. Deuai rhai ar fusnes, ac eraill i wybod sut yr ai pethau ymlaen yn y byd mawr, "yn gyffredinol." Deallai Sadrac Jones bethau o'r fath a medrai eu hegluro yn huawdl.
Y pryd hwnnw, gellid dweud mai ei weithdy ef oedd y "Neuadd Bentrefol " yn Llanaber.
Yr oedd safle'r gweithdy hwnnw ar lethr yr allt sydd yn arwain dros y mynydd i Dre Wen. Codasid capel ar y llecyn, ac yr oedd ryw adeg, nifer o dai wedi eu hadeiladu ar fin y ffordd. Nid oedd y "capel" wedi llanw disgwyliadau y rhai gychwynnodd yr "achos" yn y lle, ac ymhen rhai blynyddoedd caewyd ef. Wedi hynny gwerthwyd ef, a throwyd ef yn dŷ annedd. Yr oedd y tŷ hwnnw yn ddwy adran: dwy ystafell neu dair ar lawr, ac un ystafell gyffredinol uwchben. Yn ystafelloedd y llawr yr oedd preswylfod a gweithdy Sadrac Jones, ac yn yr ystafell uwchben y cartrefai Nansi Owen, gwraig weddw mewn cwrs o oedran, yr hon a adwaenid gan ei chydnabod fel " Nansi Owen y Llofft." Hi ofalai am gysuron beunyddiol Sadrac Jones, a goginiai ei ymborth, ac a lanhai'r tŷ.
Yr oedd y gweithdy ar lecyn amlwg, a golygfa lled eang i'w gweled oddi ar riniog y drws. Oddi tanodd yr oedd pentre Llanaber, a thros bennau'r tai gwelid y caeau gleision, a'r llwyni coed ar y llechweddau draw.
Ond er teced yr olygfa oddi allan oddi mewn yr oedd gogoniant y gweithdy, a hynny a bair iddo aros yn nyfnderau atgofion plant y pentre wedi eu gwasgar a'u chwalu i "bedwar ban y byd."