Pentre'r Plant/Dull o Gerdded
| ← Y Gweithdy | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Hanes y Sgrin → |
PENNOD III.
DULL O GERDDED.
DYWEDIR bod tuedd mewn dynion i farnu eraill o gyferiad eu galwedigaeth eu hunain. Barna'r dyn fo yn gwerthu hetiau ei gwsmer yn ol maintioli ei ben. Y mae pen mawr, yn ei olwg ef, yn arwydd o ddyn mawr. Yr un modd gyda'r teiliwr. Un o'i wirebau yntau ydyw,—"y dillad yw'r dyn." Dibynna safle gymdeithasol, i gryn raddau, ar y dillad. Rhaid gwisgo yn drwsiadus neu fodloni eistedd yn y "seddau cefn." Gwelsoch bobl y "seddau blaen—yn dod i mewn i'r cyngerdd mawreddog," onid do? Onid oedd eu gwisgoedd yn orwych?
Cwestiwn pwysig ym mywyd y dosbarth etholedig hwnnw ydyw, "A pha beth yr ymddilladwn?" Y mae bod allan o'r ffasiwn iddynt hwy yn drychineb na ellir ei mynegi.
Ac y mae'n briodol i ni addef y gogwyddai Sadrac Jones at y gred hon, ar rai adegau, ac y barnai ei gyd-ddynion o safle ei alwedigaeth ei hun. Y peth cyntaf a welai ef pan ai heibio i ddyn dieithr ar y ffordd fyddai ei esgidiau.
Os credai Carlyle, ac os dysgai yr hyn a alwai ef yn "athroniaeth dillad"—the philosophy of clothes—credai Sadrac Jones yn ddiysgog, yn ei ffordd ei hun, fod y fath beth ag "athroniaeth esgidiau." Ac yn y peth hwn, o leiaf, safai'n deg ar ei diriogaeth ei hun. Oni ddywed dihareb hynafol y dylai'r crydd "lynu wrth ei esgid"? Os ydyw yn grydd da y mae yn awdurdod ar honno, a dylai gadw at ei randir. Gŵr y traed ydyw ef, nid gŵr y fraich, na'r pen.
Ond torrai "athroniaeth" Sadrac Jones dros y terfynau gosodedig, a chynhwysai awgrymiadau am y sawl fyddai'n arfer gwisgo 'r esgidiau. Trinid hynny yn y gweithdy, ryw ddydd, pan anfonwyd pâr o esgidiau i'w trwsio a'u gwadnu, fel y dywedir yn iaith y grefft.
"Ddaru chwi sylwi ar y gwahaniaeth yn null pobl o gerdded? Dyma bâr o esgidiau a ddengys fod ei berchen yn arfer pwyso'n drwm ar y sawdl. Hwnnw sy'n gwisgo allan gyntaf. Dyma un arall yn dangos bod y gwisgwr yn cerdded ar flaen ei droed."
Beth sydd yn cyfri am hynny, Sadrac Jones?" "Anodd ydyw esbonio'r peth. Ond y mae'n sicr o fod yn ffaith, ac yn perthyn i hanes teuluoedd yn yr ardal yma. Gellid eu rhannu yn ddau ddosbarth—teulu'r sawdl, a theulu blaen y troed. Dyna eu hanes ar hyd y blynyddoedd."
"Oes yna rywbeth yn wahanol yn eu nodweddion—eu dull o feddwl a gweithredu?"
"Mi fyddaf yn meddwl felly, wedi sylwi am gryn amser ar y peth."
"Beth ydyw'r gwahaniaeth?"
"O, y mae mwy o fynd yn nheulu blaen y troed, a mwy o sefydlogrwydd yn nheulu'r sawdl. Ond y mae yna beth arall sydd wedi fy nharo, lawer adeg, pan yn trwsio esgid."
"Beth ydyw hwnnw?"
"Dim ond peth eithaf syml—ffrwyth fy mhrofiad fel crydd. Dyna ydyw mewn gair,—ychydig iawn o bobl sydd yn arfer cerdded yn wastad. Try'r rhan fwyaf i un ochr—y sawdl neu flaen y troed."
Wel, a chaniatau hynny, try'r peth yn fantais i chwi fel crydd. Onid ar gyfrif y diffygion yna—os dyna'r gair priodol—y cewch chwi gymaint o waith trwsio esgidiau?"
"Eithaf gwir. Ac erbyn meddwl, y mae'r un peth yn bod ym mhob cylch. Ni fuasai angen am blisman nac ustus heddwch pe cerddai pawb yn wastad."
"A ydych yn awgrymu y dylid cosbi pobl am beidio â gwisgo esgidiau yn wastad, Sadrac Jones?"
"Dim o'r fath. Rhyw duedd naturiol ydyw hynny. Ond mi fuasai'n dda gennyf pe gellid cael rhyw foddion i gosbi'r sawl a ddaw i'r addoldy ar y Sul, yn ddiweddar, fel rheol,—a'u hesgidiau'n gwichian, nes tynnu sylw pawb."
"Dichon mai dyna sydd mewn golwg ganddynt—tynnu sylw, fel y dywedwch. Ond, fyddwch chwi ddim yn arfer gwneud esgidiau'n gwichian. ?"
"Na fyddaf, byth. Ond pryn y lodesi hwy yn y dre, a meddyliant y byd ohonynt eu hunain os bydd yr esgid yn gwichian ar lawr y capel. Dyna ferch y Weirglodd Lydan wedi bod am dymor yn Lerpwl, ac yn cerdded i'r 'moddion' fel tase consertina wrth ei thraed."
"Ie, ond cafodd y ferch fach yna bâr arall o esgidiau, mae'n amlwg. Cerddai i'w sêt yn hollol suful a distaw y Sul diwedda."
"Beth a barodd hynny, tybed? Gafodd hi gerydd gan rai o'r blaenoriaid?"
"Naddo, hyd y gwyddom. Daeth y cyngor o le arall. Mae'r peth i raddau yn gyfrinach. Un o feirdd yr ardal—gellwch ddyfalu pwy ydyw—a anfonodd englyn iddi drwy'r post."
Englyn?" A ydych yn ei wybod?"
"Mi glywais yr awdur yn ei adrodd. Yr oedd yn debyg i hyn:—
Lodes y Weirglodd Lydan—rhag angof,
Cymer gyngor bychan:
Ar y Sul bydd suful, Siân,—
Gochel esgidiau'n gwichian.
"Campus. Dyna englyn wedi gwneud gwaith rhagorol, ac y mae hynny yn fwy nag ennill gwobr. Rhaid i chwi ei ysgrifennu, ac yna gosodir ef ar y 'sgrin.'"