Pentre'r Plant/Dyddiau Prysur
| ← Y Torrwr Cerrig | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Ar Drothwy'r Haf → |
PENNOD XVI.
DYDDIAU PRYSUR.
LLED farwaidd fyddai pentre Llanaber ym misoedd y gaeaf, ond ar drothwy Ebrill gwelid arwyddion o ddeffroad. Adeg brysur ar bob crefftwr yno fyddai'r Groglith a'r Pasg. Byddai eisiau cael rhywbeth newydd ar gyfer dyfodiad gwyliau'r gwanwyn. Gellid gwneud yn weddol gyda'r hên bethau yn ystod y dyddiau byrion a'r nosweithiau tywyll. Ni sylwai neb rhyw lawer ar y dillad na'r esgidiau y pryd hynny. Ond yr oedd yn rhaid cymryd pethau o'r fath i ystyriaeth pan fyddai'r dydd yn ymestyn, a'r haul yn dangos pethau yn eu lliw a'u llun priodol. Onid oedd y coed a'r gerddi yn gweddnewid bob dydd, a phopeth yn gwisgo newydd-deb a harddwch? Nid dilyn y ffasiwn" yr oedd pobl Llanaber yn y dyddiau gynt, ond dilyn Natur, ac ni ellid gwneud hynny yn weddus heb gael dillad newydd ac esgidiau newydd. Dywed Glasynys yn un o'i ganeuon fod Anian yn Ebrill yn gwisgo "esgid feillion am ei throed." Ond ni thalai'r esgid ysgafn honno i gerdded llwybrau'r wlad. Oherwydd paham byddai cyrchu mawr i weithdy Sadrac Jones cyn dyfod gŵyliau'r Pasg.
Dyna'r siars bendant ar yr aelwyd, "Cofia di fynd at Sadrac Jones yfory i gael mesur dy droed."
"Ond mi fesurodd y nhroed i'r llynedd."
"Eitha' gwir, ond y mae'n siwr fod dy droed di wedi tyfu er hynny. Y mae blaenau dy fysedd bron â thorri drwy'r esgidiau. Cofia di ddeud wrtho fo am eu gwneud nhw yn ddigon o faint y tro nesaf."
Ond i ni oedd yn adnabod Sadrac Jones nid oedd angen dim yn rhagor na "mesur y troed." Deallai ef ei waith, a deallai ei gwsmeriaid. Ac ymddiriedai pawb yn yr ardal yn ei onestrwydd a'i farn. A phan ddeuai rhywun anghyfarwydd i'r ardal, â thipyn o fursendod yn ei eiriau, ni byddai'n hir heb ddod i ddeall nad cydnaws ag annibyniaeth Sadrac Jones oedd goddef i neb ei "batroneisio " ynglŷn â'i alwedigaeth. Credai mewn prynu'r defnyddiau gorau, a rhoddai yntau'r gwaith gorau. Golyga hynny amser dyladwy i orffen y gwaith. Nid oedd Sadrac Jones yn berchen y ddawn i greu esgidiau, ac ni fynnai addaw ond yr hyn y gallai yn rhesymol ddisgwyl ei gyflawni. Ac am hynny gwrthodai gymhellion taer i wneud esgidiau ar yr "unfed awr ar ddeg."
"Os oes arnoch eu heisiau erbyn y Pasg ni allaf gymryd yr ordor. Y mae gennyf gymaint ag a allaf ddod i ben â nhw."
"'D oes dim i'w wneud ond mynd i'r dref am bâr ready made," dywedai'r cwsmer.
"Fel y mynnoch am hynny," dywedai Sadrac Jones; "ond cofiwch mai gwerthu am arian parod y mae siopau'r dre."
Newidiai hynny'r rhagolygon. Ychydig fyddai'n arfer talu "ar law" i Sadrac Jones. Dyna arfer gwlad y pryd hynny,—y gwas fferm yn addo talu wedi derbyn ei gyflog am yr hanner blwyddyn, a'r ffermwr ei hun yn addo setlo'r bil wedi gwerthu'r bustych yn ffair Wyl Ifan, neu ryw landmark o'r fath yn ystod blwyddyn. Ond ni roesai Sadrac Jones na gwas na morwyn erioed yn llys y mân—ddyledion. phan fyddai gweithiwr ynghanol trafferthion byw, a'i
"Dylwyth yn wyth neu naw,"
ni soniai Sadrac Jones ddim am ei ddyled.
"Mi gei dalu fel y medri di, John, ond pan fydd ar rai o'r plant acw eisiau pâr o esgidiau, tyrd yma fel arfer. Mi gei dy gefn atat yn y man, a daw'r plant i'th helpu dithau."
Ond trethai dyfodiad gwyliau'r Pasg amser ac amynedd Sadrac Jones. Câs beth oedd ganddo wrthod cais, ond yr oedd yn ormod o foneddwr i "dorri ei air." Gweithiai yn galed o fore i hwyr, a Nansi Owen yn "tendio" arno yn ddyfal, rhag iddo syrthio i wendid. Ond wedi iddo orffen y pâr olaf o esgidiau ar gyfer y Groglith byddai fel dyn wedi dod allan o'r caethiwed, llawenychai yn ei ollyngdod am ennyd o afaelion caledwaith hir.
"A glywodd rhai ohonoch y gog eleni?"
"Naddo, Sadrac Jones, ond dywedai Gruffudd Ffridd Wen iddo ei chlywed wrth fynd i nol y gwartheg bore ddoe."
Felly wir. A ddowch chwi am dro bore fory i edrych ydi'r peth yn wir? Mi awn i gyfeiriad y mynydd. Canodd un o'r beirdd yn glws iawn am y gog,—
'Pwy feddyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.'
"Ond mewn lle felly y mae hi'n arfer canu, ac yno y clywir hi gynta' yn y rhannau hyn o'r wlad."
Ac felly yr aem yng nghwmni Sadrac Jones i'r ffriddoedd pell i glywed y gog. Arferai ofalu am geiniog i bob un ohonom i'w rhoddi yn ein llogell cyn cychwyn. A oedd Sadrac Jones yn ofergoelus? Mae'n debyg ei fod ar rai pethau. Onid ydyw pawb felly i raddau, os addef y gwir? Onid gwell gennych weld dwy frân nag un ar y ffordd yn y bore? Ai diystyr gennych pa ran o'r oen bach cyntaf a welwch yn y gwanwyn fydd nesaf atoch? A oes rhywbeth yn y traddodiad fod bod â cheiniog yn y llogell pan glywir deunod y gwcw—y gwcw gynta—ar fore o wanwyn mwyn yn ernes o ddedwyddwch? Barned y doeth a'r deallus. Ond er dyddiau Sadrac Jones hyd heddiw gwell gennym ei chlywed â'r geiniog yn ein llogell.
Ac os digwyddai na byddai'r gog wedi cyrraedd at ei chyhoeddiad mewn "mawnog yn y mynydd," ond odid na fyddem wedi darganfod nyth aderyn yn rhywle ar ein ffordd adref.
Ac os deuem ar draws nyth yn y drain, gwisgai Sadrac Jones ei spectol er mwyn cael golwg ar yr ŵyau.
Pwy a ddysgodd i'r aderyn wneud ei nyth, a'i wneud yr un fath drwy gydol y blynyddoedd? Y mae gwaith dyn yn newid.
"Crydd oedd y nhaid," ebr Sadrac Jones, "ond 'd ydw i ddim yn gwneud esgid heddiw fel y byddai ef. Ond gwna'r deryn du ei nyth eleni fel yr oedd yng ngardd Eden."
"Sut y gwyddoch chi fod yno aderyn du, Sadrac Jones?"
"Fuase'r ardd honno ddim yn Eden heb nyth aderyn. Ac mi welais ddarn o farddoniaeth rywdro yn deud bod rhai o'r adar bach wedi gofyn am ganiatad i fynd efo Adda ac Efa wedi eu gyrru o Baradwys, ac wedi mynd yn gwmni iddynt yn yr anialwch. Hwyrach mai ffansi ydi peth fel yna, ond y mae yn glws iawn. Ac yn rhyfedd iawn, mi gewch nyth aderyn mewn lleoedd digon diffaith a llwm.
Erbyn heddiw gwelir Easter eggs o waith celfyddyd yn ffenestri'r siopau. Ond yn nyddiau Sadrac Jones gwelid "wyau'r Pasg" yn daclus mewn nyth aderyn, ac yno y gadewid hwy mewn gobaith y deuent yn gywion bach" cyn hir. O! hên weledigaethau mwyn:
"Daeth aderyn bychan arall
A'r lâs gangen yn y coed."